Yr Hwyr

Oddi ar Wicidestun

Awdur: William Ambrose (Emrys) 1813-1873

Wele'r hwyr a'r haul a'i rin
Yn lliwio y gorllewin,
Y nen mewn gwrid ennynawl
A'r môr yn darnguddio'r gwawl;
Y don lariaidd dan loywrid,
Awel leddf heb chwa o lid
Yn hebrwng teyrn yr wybren
I wely'r lli islaw'r llen.

Y lloer a'i mantell eirian,
A'i gemwisg ddisgleirwisg lân,
Di-wres frenhines y nef
Arweiniai gôr y wiwnef;
A'r sêr yn rhesi arian
I gyd yn disgleirio'n gàn:
Holl len y ffurfafen faith
Oedd lawen hardd oleuwaith.