Yr Internationale

Oddi ar Wicidestun

Yr Internationale

Deffrowch, orthrymedigion daear,
Cyfodi mae'r newynog lu!
Daw gwirioneddau'r bywyd newydd
I chwalu niwl yr oesoedd fu
Wele gaethion y cystudd hirfaith
Yn ymuno'r fyddin fawr,
I gyhoeddi rhyddid i'r cenhedloedd
Ac i'r ddynolryw doriad gwawr.
Henffych, weithwyr y gwledydd
Dyma'r frwydr olaf i gyd,
Mae'r Undeb Rhyngwladol
Yn newid seiliau'r byd.