Yr Wylan

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Yr wylan deg ar lanw, dioer,
Unlliw ag eiry neu wenlloer,
Dilwch yw dy degwch di,
Darn fal haul, dyrnfol heli.
Ysgafn ar don eigion wyd,
Esgudfalch edn bysgodfwyd.
Yngo'r aud wrth yr angor
Lawlaw â mi, lili môr.
Llythr unwaith lle'th ariannwyd,
Lleian ym mrig llanw môr wyd.

Cyweirglod bun, cai'r glod bell,
Cyrch ystum caer a chastell.
Edrych a welych, wylan,
Eigr o liw ar y gaer lân.
Dywaid fy ngeiriau dyun,
Dewised fi, dos hyd fun.
Byddai'i hun, beiddia'i hannerch,
Bydd fedrus wrth fwythus ferch
Er budd; dywaid na byddaf,
Fwynwas coeth, fyw onis caf.
Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd,
Och wŷr, erioed ni charawdd
Na Merddin wenithfin iach,
Na Thaliesin ei thlysach.
Siprys dyn giprys dan gopr,
Rhagorbryd rhy gyweirbropr.

Och wylan, o chai weled
Grudd y ddyn lanaf o Gred,
Oni chaf fwynaf annerch,
Fy nihenydd fydd y ferch.

Tarddiadau[golygu]