Cerddi a Baledi/Tanau
Gwedd
← Hen Fynwent | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson Caneuon |
Y Gannwyll |
TANAU
TANIWYD y grug a'r eithin
Yng ngwyliadwriaeth nos;
Â'r fflam a gerddai'r moelydd
Mewn gwisg o aur a rhos.
Llosgwyd aneddau dinod,
Maesdrefi'r morgrug mân;
Yswyd eu da a'u tiroedd
Gan fflamau'r gwibiog dân.
Clywais o frig yr onnen
Ganig yn lleddfu'r gwynt;
Cofiais am Nero Grythor
Pan losgai Rhufain gynt.
Llygaid digyffro'r nefoedd
Syllai ar hynt y tân;
Echnos—gwych ddinas Rhufain,
Heno—tre'r morgrug mân.