Marwnad Meibion Cedifor

Oddi ar Wicidestun

gan Peryf ap Cedifor

Tra fuam yn saith, trisaith — ni'n beiddiai,
Ni'n ciliai cyn ein llaith,
Nid oes, ysywaeth, o'r saith
Namyn tri trin ddiolaith.


Seithwyr y buam, dinam, — digythrudd,
Digyfludd eu cyflam,
Seithwyr ffyrf ffo ddiadlam,
Saith gynt ni gymerynt gam.


Can eddyw Hywel, hwyl ddi-oddef — cad
(Cydfuam gyd ag ef),
Handym oll goll gyfaddef,
Handid tegach teulu nef.


Meibion Cedifor, cyd ehelaeth — blant,
Yn y pant uch Pentraeth,
Buant brwysgion, braisg arfaeth,
Buant briw ger eu brawd-faeth.


Yn y berwid brad Brython — anghristiawn
O Gristin a’i meibion,
Ni bo dyn ym myw ym Môn
O’r Brochfaeliaid brychfoelion.
Er a ddêl o dda o ddala tir — present
Preswylfod anghywir,
 gwayw, gwae Ddafydd enwir!
Gwân gwalch rhyfel, Hywel hir.