Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr (tud-4)

Oddi ar Wicidestun
Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr (tud-3) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr (tud-5)

wedi eu cyfansoddi ganddo. Yr oedd yn nodedig am ei dduwiolfrydedd, ac am hynawsedd ei yspryd. Tra y methai John Wesley gyd-ddwyn a gormes a haerllugrwydd Zinzendorf, penaeth y Morafiaid, bu Gambold yn llafurio yn y cyfundeb hwnw am y rhan olaf o'i oes mewn pob brawdgarwch. Ac yr un pryd nid oedd yn amddifad o asgwrn cefn; gallai aberthu pob peth er mwyn egwyddor. Pan y gadawodd yr Eglwys Sefydledig, i bob ymddangosiad wynebai ar dlodi; oblegyd nid oedd ond triugain a deuddeg o Forafiaid y pryd hwnw yn holl Lundain. Teimlodd yn ddwys oblegyd y cyfeiriad a gymerodd y ddau Wesley, a darfyddodd ei gyfeillgarwch a hwy yn hollol; yn wir, dywedodd wrth John fod arno gywilydd bod yn ei gymdeithas. Er hyn oll, parchai John Wesley ef yn ddirfawr, ac ychydig amser cyn ei farw, dywedai mai efe oedd un o'r dynion callaf a mwyaf pwyllog yn Lloegr. Gall Cymru ymfalchïo yn yr Esgob Gambold.

Rhaid i'n sylwadau ar y gweddill o aelodau y "Clwb Sanctaidd" fod yn fyr. Disgynai Benjamin Ingham oddiwrth un o weinidogion Eglwys Loegr a drowyd allan yn 1662 am wrthod cydffurfìo. Pan yn ddwy-ar- hugain oed, bwriodd ei goelbren gyda'r Methodistiaid yn Rhydychain. Ymunodd yntau a'r eglwys Forafaidd, ac ni adawodd ei chymundeb pan y trodd y ddau Wesley eu cefnau. Llafuriodd yn benaf yn swydd Gaerefrog (Yorkshire). Pregethai gyda nerth; dylifai y bobl wrth y miloedd i'w wrando, achubwyd llawer trwy ei weinidogaeth, a sefydlodd eglwysi Morafaidd trwy y wlad. Cyn diwedd ei oes, cefnodd ar y Morafiaid, a sefydlodd gyfundeb o'i eiddo ei hun. o herwydd ymrysonau tumewnol, yr oedd wedi dyfod i'r dim agos cyn i Ingham farw; ac yn y diwedd ymunodd yr ychydig eglwysi a'i cyfansoddent a'r Annibynwyr Ysgotaidd. Arosodd James Hervey, un arall o enwogion y "Clwb Sanctaidd," yn yr Eglwys sefydledig. Yr oedd yn ddyn o diwylliant uchel, ac yn llenor coeth, a thrwy ei ysgrifeniadau gwnaeth lawer er dyfnhau gafael crefydd efengylaidd ar y dosparthiadau uchaf. Am John Clayton, arosodd yntau hefyd yn Eglwys Loegr, ac yn Ucheleglwyswr defodol y parhaodd hyd ddiwedd ei oes.

Yr ydym wedi nodi ddarfod i Fethodistiaeth Rhydychain gychwyn yn nghynulliad nifer o ddynion ieuainc yn darllen y Testament Groeg. Ond yn bur fuan daeth yn gyfeillach grefyddol. Dechreuasant gyd-weddïo, a chyd-gynllunio pa fodd i lesoli eu cyd-ddynion. Penderfynasant ymrthod a danteithion bywyd, gan fwyta yn unig yr hyn oedd yn angenrheidiol i gynal natur. Ymwrthodent a thê, a chwrw, ac i raddau mawr a chigfwyd, fel y byddai ganddynt beth i'w gyfranu mewn elusen i'r tlodion. Nid gorchwyl hawdd oedd hyn i rai, oblegyd cawn un o honynt ychydig yn flaenorol, mewn llythyr at John Wesley, yn darlunio gydag asbri rhyfeddol fel yr oedd wedi mwynhau dysglaid o gig llô a bacwn, gyda baril o seidir newydd ei thapio. Tynasant allan reolau manwl pa fodd i ymddwyn yn ddyddiol ac yn wythnosol Yn ol y rhai hyn yr oeddynt i dreulio dwy awr bob dydd mewn gweddi, i weddïo wrth fyned i'r eglwys a dyfod o honi, ac i weddïo ar wahan am awr dri diwrnod o'r wythnos ar yr un adeg, fel y byddai cyd-gymundeb rhyngddynt. Yr oeddynt yn mhellach i godi yn foreu, i dreulio awr bob dydd mewn siarad a dynion yn uniongyrchol am bethau crefydd, i wneyd eu goreu i rwystro drwg, ac hyd ag oedd ynddynt i berswadio pawb i bresenoli eu hunain yn yr addoliad cyhoeddus. Amlwg fod y dynion ieuainc a'u heneidiau yn llosgi o'u mewn gan awydd gwneyd daioni. Yr oeddynt wedi eu llenwi a difrifwch ofnadwy. Rhybuddient eu cyd-efrydwyr annuwiol a llygredig eu moesau am fater eu henaid; ymwelent a theuluoedd isel y ddinas, gan daranu yn erbyn anwiredd; cyfranent yr oll a feddent mewn elusenau, ac ymwelent a'r tlottai a'r carchardai, gan gynghori pawb i ymdrechu am fywyd tragywyddol. Dywed John Gambold yr arferent gyfarfod bob hwyr, yn gyffredin yn ystafell John Wesley, er adolygu gweithrediadau pob un yn ystod y dydd, a gwneyd trefniadau ar gyfer y dydd dilynol. Cynwysai y trefniant ymddiddan difrifol ag efrydwyr y Brifysgol, ymweliadau a'r carcharau, addysgiant teuluoedd tlodion, ymweled a'r tlotty, a gofal am yr ysgol a osodasid i fynu ganddynt. Gyda golwg ar yr ysgol, cawsai ei sefydlu gan John Wesley; efe a dalai y feistres, a chan mwyaf a ddilladai y plant. Fel engrhaifft o'u helusengarwch gellir nodi y ffaith ganlynol Un diwrnod oer yn y gauaf, galwodd crotes dlawd ar John Wesley. Yr oedd ei gŵn yn deneu, a hithau yn mron sythu gan anwyd, Gofynodd iddi, "Ai nid oes genych gynhesach gŵn na'r un sydd am danoch? " Atebai yr eneth, "Syr, dyma yr oll sydd genyf." Rhoddodd Wesley ei law yn ei logell er ei chynorth wyo, ond yr oedd agos a bod yn wag. Ond yr



Nodiadau[golygu]