Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr (tud-5)

Oddi ar Wicidestun
Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr (tud-4) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr (tud-6)

oedd muriau ei ystafell yn orchuddiedig gan ddarluniau, a throdd y rhai hyn yn gyhuddwyr iddo. Gwaeddodd yn uchel, "O Gyfiawnder! O Drugaredd! Ai nid yw y rhai yma yn werth gwaed yr eneth dlawd hon? "Gwerthodd hwy oll, a dilladodd y ferch. Nid yn fynych y cair engrhaifît o'r fath gydwybodolrwydd. Yn ychwanegol, cyfranogent o'r cymun bendigaid yn wythnosol, ac aent yn orymdaith i Eglwys Crist i'r pwrpas. Pan gofiom pa mor llygredig oedd Rhydychain yr adeg hon, y modd yr oedd drwg yn cael ei ystyried yn ffasiynol, ac anffyddiaeth ronc yn cael ei phroffesu gan lawer yn gyhoeddus, hawdd deall ddarfod i Wesley a'i gwmni ar unwaith ddyfod yn wrthrychau sylw. Cyfeirid atynt yn gyhoeddus. Gwaradwyddid hwy yn mhob modd. Dihysbyddwyd ystorfeydd yr iaith Saesneg er cael enwau digon dirmygus i'w gwarthruddo. Gelwid hwy y "Clwb Sanctaidd," y " Clwb Duwiol," ac yn ddiweddaf yn "Fethodistiaid," gyda chyfeiriad at ddosparth o feddygon, nodedig o drefnus eu harferion, a fuasai yn bodoli gynt. Glynodd yr enw diweddaf wrthynt. Ond nid oedd y frawdoliaeth fechan yn gofalu am ddirmyg y Brifysgol; aethant yn mlaen yn ol argyhoeddiadau eu cydwybod; mabwysiadasant yr enw a roddasid arnynt mewn cellwair, ac yn raddol daeth yn enw o anrhydedd.

Ar yr un pryd rhaid addef fod y Methodistiaid yr adeg hon yn mron yn hollol anwybodus am rai o athrawiaethau mwyaf hanfodol crefydd efengylaidd. Ni wyddent ddim am gyfiawnhad trwy ffydd, a gwaith yr Ysbryd Glân. Y gwir yw fod y symudiad ar y cyntaf yn un hollol ddefodol a sacramentaraidd, lawn cymaint felly a'r symuidiad Tractaraidd a gychwynwyd yn yr un lle gan Pusey a Newman ryw haner can' mlynedd yn ol. Ni fu Pharisead erioed yn fwy manwl a gofalus am ei phylacterau a defodau ei grefydd, nag yr oedd Methodistiaid Rhydychain am y gwisgoedd offeiriadol, a ffurfiau a defodau Eglwys Loegr. Dalient yr athrawiaeth am bresenoldeb gwirioneddol Crist yn y sacrament, ac edrychent ar y cymun bendigaid fel aberth. Cadwent yn ofalus holl ddyddiau y saint. Sancteiddient y Sadwrn a'r Sul; y cyntaf fel y Sabboth, a'r olaf fel Dydd yr Arglwydd. Ymprydient yn fynych; trwy holl amser y Garawys ni phrofent gig oddigerth ar y Sadwrn a'r Sul; a chadwent bob dydd Mercher a dydd Gwener fel dydd o ympryd, gan ymgadw rhag archwaethu unrhyw fwyd hyd ar ol tri yn y prydnhawn. Credent mewn penydiau, ac hefyd yn y gyffesgell. Llithrasant i'r cyfeilorniad Pabyddol, y Dylid cymysgu dwfr gyda'r gwin sacramentaidd, am i ddwfr yn gystal a gwaed ddyfod allan o gorff ein Harglwydd pan drywanwyd ef a'r bicell gan y milwr; a chawn John Clayton yn ysgrifenu at Wesley mewn gradd o betrusder, gyda golwg ar y priodoldeb o gymuno pan na chymysgid dwfr gyda'r gwin. Yr oeddynt yn llawn o athrawiaeth yr olyniaeth apostolaidd. Y fath oedd gwrthnaws John Wesley at bob peth y tu allan i gylch Eglwys Loegr, a'i ddirmyg o Ymneillduaeth, fel y gwarafunodd i John Martin Bolzius, un o ddynion duwiolaf ei oes, gyfranogi o'r sacrament am nad oedd wedi cael ei fedyddio gan glerigwr perthynol i'r Eglwys Sefydledig. Nid rhyfedd ei fod yn cywilyddio oblegyd ei gulni mewn blynyddoedd diweddarach. Pan yn Savannah edrychid arno fel Pabydd; a dywed ei fywgraffydd ei fod yn Buseyad gan' mlynedd cyn i Pusey gael ei eni. Bwriadodd yn ddifrifol sefydlu cymdeithas uchel-eglwysig a sacramentaraidd, yn mha un y cedwid yn fanwl yr holl ddefodau haner Pabyddol y ceir unrhyw sail iddynt yn y rubric, ac y gofelid am sancteiddio dyddiau y saint, a'r gwyliau, ynghyd a phob peth a berthyn i ddefodaeth eithafol Ond yr oedd gan yr Arglwydd fwriadau gwahanol gyda golwg ar y Methodistiaid. Gan eu bod yn hollol ddifrifol, ac yn gweithredu yn gydwybodol yn ol y goleuni oedd ganddynt, arweiniodd Duw hwy oddi amgylch i beri iddynt ddeall, ac yn y diwedd dygwyd hwy i oleuni chr yr efengyl Cymerodd hyn le mewn cysylltiad a John Wesley ei hun trwy offerynoliaeth un Peter Bohler, gweinidog perthynol i'r Morafiaid, tua dechreu y flwyddyn 1738. Barnai ef ei hunan ei fod yn flaenorol i hyny yn ddyn annuwiol. Eglurodd Peter Bohler iddo natur ffydd yn Nghrist, ynghyd a'r effeithiau a'i dilynant. "Rhaid i chwi daflu eich athroniaeth dros y bwrdd," meddai y Morafiad wrtho; gwrandawodd yntau, a thros y bwrdd y cafodd fyned. O hyny allan yr oedd yn gredadyn, yn pwyso ar iawn y Gwaredwr am gymeradwyaeth, gan waeddu fel Paul: "Ac a'm cair ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o'r gyfraith." Heb fod yn hir dygwyd y rhan fwyaf o'i gyfeillion gynt i



Nodiadau[golygu]