Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr (tud-6)

Oddi ar Wicidestun
Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr (tud-5) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr (tud-7)

ryddid yr efengyl fel yntau. Yn wir y mae yn amheus a fu Whitefield yn ddefodwr eithafol o gwbl.

Gellir edrych ar Fethodistiaeth Rhydychain fel yn parhau o 1729 hyd 1735. Yn y flwyddyn a nodwyd ddiweddaf ymwahanodd y frawdoliaeth, ac ni ail-unwyd hi yn hollol byth. Croesodd John Wesley i drefedigaeth Georgia yn yr 'America, yn y bwriad o efengyleiddio yr Indiaid, lle yr arosodd tua dwy flynedd, ac aeth ei frawd, Charles, a Benjamin Ingham allan gydag ef. Gadawsai Whitefield Rydychain yn flaenorol oblegyd fod ei iechyd wedi tori i lawr. Yr oedd John Clayton wedi ymsefydlu yn Manchester, a John Gambold yn Stanton-Harcourt. Nid oedd yr ychydig a weddillasid ond gweiniaid a dinerth. Felly dychwelodd y Brifysgol at ei hen lygredigaethau heb fod neb i aflonyddu ar ei heddwch, a phan aeth Howell Harris yno, Tachwedd, 1735, ni chlywodd sôn am y "Clwb Sanctaidd," ac ni welodd dim ond drygioni wedi cael y fath raff nes yr oedd ei yspryd yn merwino o'i fewn. Pan ddychwelai John Wesley o Georgia, yr oedd Whitefield ar yr un adeg yn myned allan i'r un drefedigaeth. Yn y flwyddyn 1740, cyhoeddodd John Wesley bregeth dan y teitl "Rhad ras," seiliedig ar Rhuf. viii. 32, yn yr hon yr ymosodai ar yr athrawiaeth Galfinaidd am etholedigaeth gras. Ynglyn a'r bregeth yr oedd emyn o gyfansoddiad ei frawd, Charles, yn dysgu prynedigaeth gyffredinol. Clywodd Whitefield am y bregeth cyn ei chyhoeddi, ac ysgrifenodd yn ddioed at ei hen gyfaill i wrthdystio, gan grefu arno am beidio ei hargraffu, onide yr arweiniai i ymraniad. "Y fath lawenydd gan elynion ein Harglwydd," meddai, "fyddai ein gweled wedi ymranu." Trachefn dywed, "Anwyl ac anrhydeddus Syr, os oes genych unrhyw ofal am heddwch yr eglwys, cadwch yn ol eich pregeth ar ragarfaethiad. Y mae fy nghalon yn toddi fel cwyr o fewn fy nghorff. Golchwn eich traed yn ewyllysgar. O gweddïwch na byddo unrhyw ymddyeithriad mewn serch rhyngoch chwi, anrhydeddus Syr, a mi, eich mab a'ch gwas annheilwng yn Nghrist."Mewn llythyr arall, awgryma i Wesley ar iddynt barhau i gynyg iachawdwriaeth trwy waed yr Arglwydd Iesu i bawb, a pheidio sôn yn gyhoeddus am y materion ynghylch pa rai yr anghytunent. Yr oedd enaid Whitefield yn gythryblus o'i fewn yn y rhagolwg ar ymraniad. Tua dechreu Mehefin yr un flwyddyn, ysgrifena at James Hutton, "Er mwyn Crist, dymunwch ar y brawd anwyl Wesley i beidio ymddadleu a mi. Yr wyf yn meddwl y byddai yn well genyf farw na gweled ymwahaniad yn ein plith; ac eto pa fodd y gallwn rodio ynghyd os byddwn yn gwrthwynebu ein gilydd? "Teimlai Howell Harris yn Nghymru yr un mor angerddol, ac ysgrifenodd yntau lythyr cryf at Wesley. Meddai, "Hysbysir fi i chwi droi dyn allan o'r seiat, gan rhybuddio pawb i wylio rhagddo, am ei fod yn credu mewn etholedigaeth. Fy anwyl frawd, peidiwch ymddwyn yn ol yr yspryd ystiff angharedig, a gondemniwch mewn eraill. Os ydych yn ei droi ef allan oddiwrth y Methodistiaid am y fath achos, rhaid i chwi hefyd droi allan y brawd Whitefield, y brawd Seward, a minau. Gobeithiaf y caf ddal hyd fy anadliad olaf a'r diferyn diweddaf o'm gwaed, mai o herwydd gras arbenig, wahaniaethol, ac anorchfygol, y cedwir y rhai a gedwir. O na wnaech adael y mater yn llonydd hyd nes y byddo Duw yn goleuo eich meddwl. Pa fwyaf wyf yn ysgrifenu mwyaf oll yr wyf yn eich caru." Gwelir fod Harris, fel Whitefield, yn ysgrifenu yn gyffrous, ond fod anwyldeb personol cryf at Wesley yn treiddio trwy bob brawddeg, ac mai gorfodaeth, oblegyd cydwybod i'r hyn a ystyrient yn wirionedd Duw, a barai iddynt lefaru fel y gwnaent. Ond ofer fu eu hymgais. Yr oedd Wesley wedi gwneyd ei feddwl i fynu, ac nid oedd dylanwad gelyn na chyfaill yn ddigon i blygu ei ewyllys. Cyhoeddodd ei bregeth, a dywedai yn ei gyfarchiad at y darllenydd mai dim ond yr argyhoeddiad cryfaf, nid yn unig fod yr hyn y dadleuai drosto yn wirionedd, ond hefyd fod angenrheidrwydd wedi ei osod arno ef i bregethu y gwirionedd hwnw, a'i cymhellai i wrthwynebu yn gyhoeddus syniadau y rhai y teimlai y fath barch iddynt oblegyd eu gwaith. Nid oes neb a amheua fod John Wesley yn gydwybodol yn ei ymddygiad. Ai nid doethineb ynddo fuasai gwrando ar lais ei frodyr, a pheidio son yn gyhoeddus am y pynciau y wahaniaethai ef a hwythau gyda golwg arnynt, sydd gwestiwn arall. Dadleua yn ei bregeth "fod etholedigaeth gras o angenrheidrwydd yn golygu ddarfod y Dduw ordeinio y nifer mwyaf o ddynolryw i golledigaeth, ac mai cellwair yw cynyg yr efengyl iddynt. Y rhai hyn y mae Duw yn gasau; a chan hyny arfaethodd cyn iddynt gael eu geni eu bod i gael eu taflu



Nodiadau[golygu]