Ymddiddan Myrddin a Taliesin

Oddi ar Wicidestun
Yn nesaf: Meigant


Mor truan genhyf mor truan.
Aderyv. am keduyv a chaduan.
Oed llachar kyulawr kyulauan.
Oed yscuid o tryuruyd o tryuan.
Talyessin:
Oed maelgun a uelun inimnan
Y teulu rac toryuulu ny thauant.
Myrtin:
Rac deuur ineutur ytirran.
Rac errith. a gurrith y ar welugan.
Mein winev in diheu a dygan.
Moch guelher y niuer gan elgan.
Och oe leith maur a teith y deuthan.
Talyessin:
Rys undant oet rychvant y tarian.
Hid attad y daeht rad kyulaun.
Llas kyndur tra messur y kuynan.
Llas helon o dinon tra uuan.
Tryuir. nod maur eu clod. gan. elgan.
Myrtin:
Truy athrui. ruy. a ruy. y doethan.
Trav athrau imdoeth bran amelgan.
Llat dinel oe dinet. kyulauan
Ab erbin ae uerin a wnaethan.
Talyessin:
Llu maelgun bu yscun y doethan.
Aer wir kad trybelidiad. guaedlan.
Neu gueith arywderit pan
Vit y deunit. o hid y wuchit y darperan.
Myrtin:
Llyavs peleidrad guaedlad guadlan.
Llyaus aerwir bryv breuaul vidan.
Llyaus ban brivher. llyaus ban foher.
Llyaus ev hymchuel in eu hymvan.
Talyessin:
Seith meib eliffer. Seith guir ban brouher.
Seith guaew ny ochel in eu seithran.
Myrtin:
Seith tan. vuelin. Seith kad kyuerbin.
Seithued kinvelin y pop kinhuan.
Talyessin:
Seith guaew gowanon. Seith loneid awon.
O guaed kinreinon y dylanuan.
Myrtin:
Seith ugein haelon. a aethan ygwllon.
Yg coed keliton. y. daruuan.
Can ys mi myrtin guydi. taliessin.
Bithaud. kyffredin. vy darogan.