Awdl I

Oddi ar Wicidestun

gan Hywel ab Owain Gwynedd

Karafy amsser haf amassthyr gorwt;
gorawenus gly rac glew arglwyt.
Gorewynawc tonn tynhegyl ebrwyt;
gorwisgwys auall arall arwyt.
Gorwenn uy ysgwyd ar uy ysgwyt; y dries
kereis ny gefeis gefei awyt.
Keciden hirwenn hwyrwan ogwyt,
kyfeiliw gwenn wawr yn awr echwyt,
klaer wanllun wenlletyf wynlliw kywyt.
Wrth gamu brwynen breit na dygwyt
bechanigen wenn wann y gogwyt.
Bychan y mae hyn no dyn degmlwyt,
mabineit lunyeit lawn gweteitrwyt.
Mabdysc oet idi roti yn rwyt;
mabwreic mwy yd feic fenedicrwyt ar wenn
no pharabyl or phen agymhenrwyt.
Petestric iolyt am byt y eilwyt?
Pa hyd yth yolaf? Saf rac dy sswit.
Adwyfy yn aneudret o ynuydrwyt caru;
nym keryt Iessu y kyfarwyt.