Awdl i Ifor Hael
Gwedd
gan Dafydd ap Gwilym
- Da y rhed ar waered, arw oror, - olwyn,
- neu wylan ar ryd fôr;
- deuwell y rhed, buddged bôr,
- Diwydd wyf, dy wawd Ifor.
- Da fydd plethiad mad y môr - a'i hirwlych
- i herwlong raff angor;
- gwell y plethaf, ddewraf ddôr,
- gwawd y tafawd yt, Ifor.
- Cyfyd yt hawdd fyd, fadiain bôr, - gennyf,
- ac annwyl hawddamor;
- cad drachyfarf, ddurarf ddôr,
- cedyrn ofn, cadarn Ifor.
- Ni thyf caen llen maen llanw môr - rhyferthwy,
- rhwyf Arthur neu Ector,
- mygr ateb, ddihaereb ddôr,
- mal y tyf mawl yt, Ifor.
- Nŵr bryd byd wryd bedeiror - giwdawd,
- a Naf o logawd nef oleugor,
- neirthiad fo Efô ar fôr - a llawrlen,
- nen y ffurfafen, i ffyrf Ifor.
- Newidiwr, trwsiwr trysor - a moliant,
- normant glud goddiant, glod egwyddor;
- naddiad arf aergad ar faergor - Einglgawdd,
- nawdd, mµr a rwyfawdd, Mair ar Ifor.
- Nawd braisg Ercwlff waisg wisg borffor - lathrsiamp
- a Nudd oreugamp neddair agor.
- neud berth a chyngerth wrth angor - deifrblas,
- nid bas rhygafas rhywiog Ifor.
- Ni byddai lle bai bell hepgor - arnaw,
- ni bwyf fi hebddaw, barawdlaw bôr.
- ni bydd anrhegydd un rhagor - nac uwch,
- ni bu ogyfuwch neb ag Ifor.
- Hardd eisyllydd rhydd rhodd ddidor - meddlyn
- helmwyn Lywelyn, wawl gychwior.
- heddiw nid ydyw didwyll iôr - gwyndal
- hafal, hawl ddyfal, hylwydd Ifor.
- Hawdd ddydd ym y rhydd gyngor - ddangos,
- hawdd nos hedd agos hoyw eiddigor.
- hawdd ymwrdd ym mwrdd, hawddamor - beunydd,
- hawdd fyd bryn brawdffydd ufudd Ifor.
- Hawdd mawl mal uchdawl Echdor - yn nherfysg,
- hawdd ffysg Deifr unddysg, â 'r dew fronddor.
- hwyliais a chefais â chyfor - durfyng
- hail diogyfyng haeldeg Ifor.
- Heirdd digeirdd, i feirdd fawrddor - dariangrwydr,
- hoyw frynarwr brwydr Hafren oror.
- hir oesog fu Noe, haer aesor - facwy,
- hwy, huawdl ofwy, fo hoedl Ifor.