Branwen Ferch Llŷr (Tegla)/Brodyr Branwen

Oddi ar Wicidestun
O ble y daeth Branwen Branwen Ferch Llŷr (Tegla)

gan Edward Tegla Davies

Matholwch yn dyfod i Gymru

Brodyr Branwen.

Y MAE a wnelo Bendigaid Fran ac Efnisien lawer iawn â'r stori, a hwyrach mai ceisio esbonio pwy oeddynt hwy yw'r peth goreu yn awr. Bydd hynny'n help i ddeall y stori. Dywedir mai brenin oedd Bran, tad Caradog, hen dywysog Cymru, ac mai ef a ddaeth â Christionogaeth i'n gwlad ni. Ond os Bran oedd enw tad Caradog, nid yr un un oedd â Bendigaid Fran. Hwyrach ei fod wedi ei enwi ar ei ôl, fel yr enwyd rhai ohonoch chwi ar ôl dynion mawr, ond wedi i mi adrodd stori Branwen i chwi, gwelwch ei bod yn amhosibl i Fran fod yn ddyn, oherwydd ni bu dyn erioed o'i faint nac yn medru gwneuthur y fath wrhydri. Y mae'n debycach mai duw a'i gymeriad fel ei enw ydoedd, yn debyg i fran neu gigfran, yn ymhyfrydu mewn tywallt gwaed. Dengys rhai pethau yn ei hanes mai dyna ydoedd,—duw gwlad y tywyllwch. Dengys pethau eraill mai duw beirdd a chantorion ydoedd, ac mai ato ef yr âi'r beirdd a'r cantorion pan fyddai arnynt eisiau help i wneuthur eu gwaith. Bu ymdrech yn ddiweddarach i'w wneuthur yn dduw anwylach a'i alw'n fendigaid, ond ofnaf mai ofer fu'r ymdrech honno.

Am Manawyddan, yr oedd ef yn dynerach duw. Ni synnwn pe gwelech mai'r duw a lywodraethai nefoedd yr hen Gymry oedd ef. O dan y môr yr oedd eu nefoedd. Ac fel duw eu nefoedd yr oedd Manawyddan yn feistr ar y crefftau gwerthfawr.

Ond y casaf o blant y duwiau oedd Efnisien. Nid oes ond ef yn gas a chreulon yn yr holl stori. Sut y daeth ef i mewn? Nid oedd llawer o greulondeb a thywallt gwaed yn hanes yr hen dduwiau Cymreig. A gellwch fod yn dawel pan ddeloch ar draws un mai wedi dyfod i mewn i'r stori o rywle arall y mae. Os duw dieithr a ddaeth i mewn i'r stori'n ddiweddarach yw Efnisien, o ble y daeth? Y lle tebycaf yw cyfandir Ewrob dan ddylanwad y Daniaid. A ddarllenasoch mewn llyfrau hanes ddarfod i'r Daniaid ddyfod i'n gwlad ni unwaith? Pan ddaethant yr oeddynt yn sicr o fod wedi dyfod â hanes eu duwiau gyda hwy. Buont yn gyfeillion â'r Cymry un adeg, yn cyd-ymladd yn erbyn y Saeson, a hwyrach bod yr hen Gymry wedi hoffi rhai o'u duwiau yr adeg honno, ac yn eu mysg Efnisien. A fedrwch chwi ddyfod o hyd i esboniad gwell? Gwelwch felly nad stori am un teulu ac un digwyddiad yw stori Branwen, ond gwahanol storïau wedi treiglo i lawr yr oesoedd, yna eu huno â'i gilydd a'u plethu i'w gilydd yn araf deg, nes o'r diwedd ddyfod i'r ffurf y mae gennym ni heddyw, â'r cymeriadau ynddi yn hanner dynion a hanner duwiau. Y mae stori'n tyfu fel y tyfwch chwithau. Daw peth o'ch bwyd o'r ardal yma. a pheth o ardal arall, ond â'r cwbl yn rhan ohonoch chwi. Ac er mai darnau ar wahan yw'r bwyd, un ydych chwi sydd wedi tyfu trwy ei fwyta. Felly y mae stori, daw darn ohoni o'r ardal yma, a darn o'r ardal arall, a darn o'r naill wlad a darn o'r wlad arall, nes o'r diwedd gael ohonoch stori gyflawn, ddiddorol dros ben, wedi tyfu trwy uno'r gwahanol ddarnau ynghyd, a gwneuthur un bywyd ohonynt.

Yn y ffurf sydd i stori Branwen gennym ni heddyw, brenhinoedd a thywysogion a welir yn delio â'i gilydd, ond rhaid yw i chwi gofio er hynny mai â duwiau a duwiesau y deliwch, ond bod y stori wedi newid o dipyn i beth o oes i oes.

Nodiadau[golygu]