Branwen Ferch Llŷr (Tegla)/Y Dinistr Mawr

Oddi ar Wicidestun
Dial cam Branwen Branwen Ferch Llŷr (Tegla)

gan Edward Tegla Davies

Dychwelyd i Gymru

Y Dinistr Mawr.

HEB wybod dim am waith Efnisien daeth gwŷr Iwerddon a gwŷr Ynys y Cedyrn i'r tŷ,—gwŷr Iwerddon drwy'r naill borth, a'r lleill trwy'r porth arall, a gwŷr Matholwch yn meddwl am lwyddiant eu cynllun cyfrwys i ddifa gwŷr Bendigaid Fran. Wedi eistedd aed drwy'r seremoni o roddi'r frenhiniaeth i Wern fab Matholwch a Branwen. Galwodd Bendigaid Fran y mab ato, a dug ef at Fanawyddan ei frawd. A phob un a'i gwelai carai ef. Yna galwodd. Nisien fab Euroswydd, y gŵr caruaidd y soniwyd amdano ar y dechreu, ar Wern i ddyfod ato, ac aeth yntau'n dirion.

Yr oedd Efnisien hefyd yno.

"Paham," eb ef, "na ddaw fy nai fab fy chwaer ataf i? Hyd yn oed pe na byddai'n frenin ar Iwerddon da fyddai gennyf fod yn gyfeillgar ag ef."

"Aed yn llawen," ebe Bendigaid Fran. Ac aeth Gwern ato'n llawen.

"I Dduw y dygaf fy nghyffes," eb yntau yn ei feddwl, "annhebyg gan y teulu y gyflafan a wnaf i yr awron."

A chyn i neb yn y tŷ fedru gafael ynddo, cymerodd Wern gerfydd ei draed a lluchiodd ef wysg ei ben i'r tân. Gwelwch o hyd fel y mae duw casineb a duwies cariad—Efnisien a Branwen—mewn brwydr â'i gilydd. Daw hyn i'r golwg drwy holl droeon rhyfedd y stori.

Pan welodd Branwen hyn ceisiodd fwrw naid i'r tân o'r lle yr oedd, rhwng ei dau frawd, ond cydiodd Bendigaid Fran ynddi yn y naill law, ac yn ei darian â'r llaw arall. Ac yna cyfododd pawb yn y tŷ, ac i'w harfau, a dyma'r cynnwrf mwyaf a fu mewn un tŷ erioed. Ac fel yr oedd pawb yn defnyddio eu harfau daliai Bendigaid Fran Franwen rhwng ei darian a'i ysgwydd.

Cofiodd y Gwyddyl am y pair a roddodd Bendigaid Fran yn anrheg i Fatholwch, y pair os teflid gŵr marw iddo y deuai'n fyw drachefn, ond na byddai lleferydd iddo. Cyneuasant dân o dano, a bwriwyd cyrff y milwyr marw iddo onid oedd yn llawn, a thrannoeth cyfodent yn fyw yn gystal milwyr â chynt, ond na allent ddywedyd dim.

Wrth weld hyn, ac yn enwedig wrth weld gwŷr Ynys y Cedyrn yn aros yn farw, ymddengys fod Efnisien wedi rhyw lun o edifarhau am ei weithred. Ac eb ef yn ei feddwl,-" gwae fi fy mod yn achos y dinistr hwn ar wŷr Ynys y Cedyrn, a gwarth fydd arnaf oni cheisiaf ymwared rhag hyn." Gorweddodd fel gŵr marw ymhlith cyrff y Gwyddyl, a daeth dau Wyddel ato a'i fwrw i'r pair gan dybio mai Gwyddel ydoedd. Ymestynnodd yntau yn y pair hyd nes torri o'r pair yn bedwar darn. Yna torrodd yntau ei galon. Ac oherwydd hynny yr arbedwyd hynny a arbedwyd o wŷr Ynys y Cedyrn. Ni ddihangodd dim ond saith, canys brathwyd Bendigaid Fran ei hun yn ei droed â gwaywffon wenwyn. Y gwŷr a ddihangodd oedd Pryderi, Manawyddan, Glifieri, Eil Taran, Taliesin, Ynawg Gruddieu fab Muriel, a Heilyn fab Gwyn Hen.

Nodiadau[golygu]