Breuddwydion Myfanwy/Pennod II

Oddi ar Wicidestun
Pennod I Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod III


II

Pob ystŵr, pawb a'i stori—
'Doedd neb mor ddedwydd â ni.
—SYR JOHN MORRIS JONES
(Cywydd Priodas).

Bu Llew a Myfanwy yn brysur iawn y Sadwrn hwnnw yn helpu eu mam i baratoi ar gyfer dyfodiad y dieithriaid. Gwnaeth Llew bopeth o'r tu allan i'r tŷ, y clôs, a thai'r anifeiliaid yn lân a threfnus. Bu Myfanwy yn ysgubo a golchi a thrwsio pethau o'r tu mewn. Aethai'r tad oddicartref i roddi dydd o waith ar ryw ffarm. Paratoi bwyd, yn bennaf, a wnai y fam. Yr oedd eisiau cael popeth yn barod erbyn y Sul. Ni fyddent byth yn gweithio na choginio ond cyn lleied ag a allent ar y dydd hwnnw.

"Gwrandewch ar y breuddwyd a gefais i neithiwr," ebe Myfanwy wrth ei mam a'i brawd pan oeddynt ar ginio. Yr oedd Myfanwy yn hoff o adrodd eu breuddwydion. Deuai rhai ohonynt i ben, meddai hi. Yr oedd llawer mwy heb ddyfod, felly ni roddai neb lawer o sylw iddynt ond Myfanwy ei hun.

"Gwelwn di, Llew, a Gareth a minnau yn byw mewn ogof. Yr oeddem heb esgidiau na hosanau, ac yr oedd ein hwynebau a'n breichiau a'n traed yn felyn, felyn. Yr oedd bord yn yr ogof a llyfrau arni, a channwyll. Daeth pwff o wynt a diffoddodd y gannwyll. Yr oeddem yno yn y tywyllwch, a'r môr yn rhuo tuallan fel pe bai yn arw iawn. Nid wyf yn cofio dim rhagor, ond dyna freuddwyd eglur oedd! Yr wyf fel pe bawn yn clywed sŵn y môr yn awr."

"Pa le'r oedd Gwen?" ebe Llew.

"Nid oedd Gwen yno. Dim ond ni ein tri oedd yn yr ogof," ebe Myfanwy.

"Paid â darllen cymaint cyn mynd i'r gwely. Y mae'r pethau a ddarlleni yn troi yn dy ben, a dyna yw dy freuddwydion," ebe'r fam.

"O, mam! History of England Llew a fum i'n ei ddarllen neithiwr. Nid oes dim am ogof yn hwnnw," ebe Myfanwy.

Ychydig cyn amser te aeth y ddau am dro hyd ben y lôn ac i lawr hyd y pentref i edrych a welent y car poni yn dyfod o draw. Dacw ef ar waelod y rhiw! Chwyfiodd y ddau eu breichiau, a gweiddi. Atebwyd hwy o'r cerbyd. Neidiodd Gareth a Gwen i lawr, a rhedodd y ddeubar yn llawen nes cyfarfod â'i gilydd. Aethai dwy flynedd heibio er pan gyfarfuasent o'r blaen. Wedi ysgwyd dwylaw, prin y gwyddai neb o'r pedwar am ba beth i ddechreu siarad.

Arhosodd y car poni pan ddaeth i'w hymyl. Plygodd yr ewythr a'r fodryb i ysgwyd llaw â Llew a Myfanwy a'u cusanu. Llaeswyd y tafodau. Yn fuan iawn, siaradent bob un ar draws ei gilydd.

"Nawr Gareth a Gwen," ebe eu tad, "peidiwch ag anghofio! Dim gair nes daw'r amser!"

"O'r goreu," ebe Gareth a Gwen, ac edrych a gwenu ar y ddau arall. Ond ni wyddai Llew a Myfanwy am ba beth y siaradent.

Ffarmwyr oedd Mr. a Mrs. Ifan Rhys. Y Neuadd oedd enw eu ffarm. Dim ond un mab ac un ferch oedd ganddynt hwythau. Efeilliaid oedd Gareth a Gwen. Yr oeddynt tua'r un oed â Llew. Y saer a ddysgodd ei frawd-ynghyfraith i ysgrifennu ei enw'n Gymraeg. Sâra oedd enw Mrs. Rhys ac Anna oedd enw Mrs. Llwyd—dau enw persain heb eisiau eu newid.

Dyna debig i'w gilydd oedd Gareth a Gwen! Gwallt a llygaid du oedd ganddynt, a'r un edrychiad byw, direidus. Gwallt byr oedd gan Gwen hefyd, ond ei fod dipyn yn dewach nag un Gareth. Gellid dywedyd ar unwaith bod Llew a hwythau'n berthnasau. Tebig i'w mam oedd Gareth a Gwen a thebig i'w fam oedd Llew. Merch ei thad oedd Myfanwy. Llygaid glâs oedd ganddi a gwallt goleu. Byddai yn debig o ddyfod cyn dáled â'i chyfnither. Yr oedd y ddau fachgen eisoes yn dál iawn.

Yr oedd y ddwy chwaer yn falch iawn o weld ei gilydd ar ôl cymaint o amser. Daeth dagrau o lygaid y ddwy am funud.

"O Anna fach!" ebe Mrs. Rhys. "Yr oeddwn yn dyheu am dy weld a chael siarad â thi. Gwnaethom y cwbl mor sydyn, ac yr oedd yn well gennyf dy weld nag ysgrifennu am y peth.

"Nawr mam, cofiwch!" ebe Gwen.

"O ie'n wir," ebe Mrs. Rhys, a chwerthin. "Rhaid i mi beidio ag anghofio."

"Beth sydd yn bod, ynteu?" ebe Mrs. Llwyd. "Ni welais i ti, Sâra, yn edrych erioed mor gyffrous. Beth sydd wedi digwydd?"

"Yr wyf yn siwr bod ganddynt ryw syndod mawr i'w roi i ni, mam," ebe Myfanwy.

"Byddwch yn synnu digon," ebe Mrs. Rhys. "Yr wyf heb orffen synnu fy hunan. Ond dyna ddigon. Cewch glywed y cwbl yn awr yn fuan."

"Wel, wel! Cawn de yng nghyntaf a holi wedyn, ynteu," ebe Mrs. Llwyd. "Tynnwch eich pethau, a dewch at y tân. Y mae'r cwbl yn barod ond rhoi te yn y tebot."

Erbyn hyn yr oedd y saer wedi dyfod adref. Daeth y ddau dad a'r ddau fab i mewn i'r tŷ. Dyna gegin lawn oedd ym Mrynteg y prynhawn hwnnw! Eisteddai wyth wrth y ford yn lle pedwar, ond yr oedd yno le i bawb a digon o fwyd ar eu cyfer. Gwyddai Mrs. Llwyd y ffordd i wneud pryd o fwyd blasus, a'i osod ar y ford mewn modd trefnus a deniadol. Nid oedd dim yn ormod ganddi ei wneud er mwyn dangos croesaw i'w chwaer a'i theulu.

"Y mae'r ham yma'n rhagorol," ebe Mr. Rhys. "Sut gwyddech chwi, Anna, mai te a ham yw'r pryd goreu gen i bob amser?"

"Gwyddwn y byddai eisiau rhywbeth sylweddol arnoch ar ôl taith mor bell," ebe Mrs. Llwyd, "Y mae tarten riwbob i ddilyn, cofiwch," ebe Myfanwy.

"A theisen gwrens," ebe Llew.

"O, modryb, dyna dda ydych!" ebe Gwen.

"Y mae rhyw gyfrinach ganddynt, Meredydd,— rhywbeth i beri syndod i ni i gyd," ebe Mrs. Llwyd. "A ddywedaist ti rywbeth, Sâra?" ebe Mr. Rhys.

"Buaswn wedi dweyd, 'rwy'n meddwl, onibai i Gwen fy atgofio," ebe Mrs. Rhys.

"Gwell i ni orffen y pryd yma mwy cyn dweyd, waith 'rwy'n siwr na fydd dim bwyta ar ôl ei glywed," ebe Mr. Rhys.

"Wel,—yn wir, yr ydych yn treio ein hamynedd yn ofnadwy," ebe Mrs. Llwyd.

"Y mae Gwen yn rhy ieuanc, neu buaswn yn dweyd mai hi sydd yn mynd i briodi, ebe Mr. Llwyd.

"O, Nwncwl!" ebe Gwen.

"Rhywbeth yn dechreu ag A ydyw," ebe Llew, wedi bod yn treio ei oreu i gael rhyw wybodaeth am y peth gan Gareth.

"America!" ebe Myfanwy. "Rhywun o America sydd wedi gadael arian i chwi."

"O, merch annwyl i!" ebe Mrs. Rhys.

"Wel," ebe Mr. Rhys, wedi dechreu ar ei drydydd cwpanaid o de, a'r lleill ar orffen eu pryd, "dyma'r dechreu. Yr ydym yn mynd i adael Y Neuadd."

"Gadael Y Neuadd!" ebe Mr. a Mrs. Llwyd gyda'i gilydd.

Ac yn mynd i Awstralia i fyw," ebe Gwen.

Dyna beth oedd syndod. "Bobol annwyl!" ebe Mr. Llwyd.

"O!" ebe Myfanwy, a chodi ar ei thraed, "Mi hoffwn ddod gyda chwi."

"A finnau!" ebe Llew. "Nhad a mam! Dewch!"

"O Sâra! A wyt ti am fynd mor bell oddiwrth dy unig chwaer?" ebe Mrs. Llwyd.

"Yr wyf am i chwi bob un ddod yno gyda ni," ebe Mrs. Rhys.

Nodiadau[golygu]