Breuddwydion Myfanwy/Pennod XV

Oddi ar Wicidestun
Pennod XIV Breuddwydion Myfanwy

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XVI


XV

Mae'r gwyntoedd bellach yn rhuthro trwy y glyn,
A'r goedwig fawr yn plygu o'i blaen, a'r neint
Yn rhuo dan ei fflangell.
—ISLWYN (Ystorom Fellt).

UN prynhawn Sul eisteddai Llew a Gareth a Myfanwy o dan gysgod y Pren Bara yn ymyl eu cartref. Yr oedd yn brynhawn hynod o drymaidd. Dyna ddistaw oedd popeth ar yr ynys! Ni chlywid ond lap, lap, ysgafn y lagŵn ar y traeth a rhu pell yr eigion tudraw. Yr oedd sŵn bygythiol yn y rhu hwnnw, a phopeth arall fel pe wedi distewi mewn ofn wrth wrando arno.

Yn union ar ôl gwasanaeth y bore aethai Mr. Luxton am dro i ben y bryn. Yr oedd Madame yn y tŷ yn cysgu. Edrych trwy almanac Llew yr oedd y tri phlentyn, os gellid bellach eu galw'n blant. Yr oedd pob un ohonynt wedi tyfu o leiaf fodfedd wedi eu dyfodiad i'r ynys. Yr oedd haul a môr wedi lliwio'u crwyn hefyd. Dawnsiai iechyd ar eu gruddiau. Rhaid bod hinsawdd a bwyd y rhan honno o'r byd yn cytuno â hwy. Nid oedd cystal graen ar eu dillad. eu golchi'n fynych, mwy dilewych yr aent bob dydd. Yr oedd deg o farciau ar yr almanac erbyn hyn yn dangos bod deg o ddyddiau'r flwyddyn newydd wedi mynd. Tynnodd Llew â'i bensil linell drwy yr unfed dydd ar ddeg o Ionawr.

"Ni ddylaset wneud hynyna cyn heno. Ni wyddom pa beth a ddigwydd cyn diwedd y dydd," ebe Myfanwy.

Gwir a ddywedodd. Cofiasant y dydd hwnnw yn hir. Bu'n ddechreu cyfnod newydd yn eu hanes.

"Yr ydym wedi byw deufis ar yr ynys yma," ebe Llew. "Beth wnawn ni ar ôl gorffen yr almanac yma?" ebe Gareth.

"Fechgyn," ebe Myfanwy, "mi welais i'r lleill'i gyd neithiwr, ond Gwen."

'Pwy welaist ti?" ebe Llew.

"Nhad a mam, a thad a mam Gareth."

"O, breuddwydio'r oeddit ti," ebe Llew, a sŵn dirmyg yn ei lais.

"Twt! Yr wyfi'n breuddwydio rhywbeth bob nos, ond nid wyf byth yn cofio fy mreuddwydion," ebe Gareth.

"Ti yw hwnnw," ebe Myfanwy.

"Ai unwaith bob tri mis yr wyt ti'n breuddwydio, ynteu?"

Edrychodd Myfanwy ar ei chefnder heb ateb ei gwestiwn.

"Cofia di, Gareth, fod breuddwydion Myfanwy yn rhai pwysig ofnadwy, mor bwysig â rhai Ioseff gynt," ebe Llew. "Adrodd dy freuddwyd, Myfanwy."

"Na wnaf. Yr ydych eich dau'n chwerthin am fy mhen," ebe Myfanwy.

Cododd a cherddodd ymaith oddiwrth y ddau fachgen, a dechreu bwyta'r afal coch oedd yn ei llaw, Trodd yn ôl yn sydyn, a dywedyd:—

"Chwerddwch neu beidio, y mae'n rhaid i mi ddweyd wrthych beth a welais."

"Nid oes chwerthin yn agos ataf i," ebe Gareth. "Na finnau," ebe Llew, "Rwy'n cofio dy freuddwyd di am yr ogof."

"Prin y gallaf alw hwn yn freuddwyd," ebe Myfanwy. "Yr oedd yn debycach i ddarlun. Yn sydyn, heb i neb siarad â mi am ddim, daeth o flaen fy llygaid ystafell. Ni wn i ddim ym mha le yr oedd. Nid wyf yn cofio dim o'r pethau oedd ynddi ond bod yno ffenestr a'r môr yn y golwg drwyddi. Yn un pen i'r ystafell yr oedd nhad a mam a tithau Llew a finnau. Yr oedd gwallt nhad yn wýn fel gwlan a finnau'n tynnu fy mysedd drwyddo. Yn y pen arall gwelwn di, Gareth, a dy fam a'i breichiau am dy wddf, a dy dad yn edrych arnoch a dagrau ar ei ruddiau, ac yn dweyd, 'Ble mae Gwen?' Dyna beth wnaeth i mi ddihuno. Dim ond am eiliad fel fflach y daeth y cwbl o'm blaen, ond mi gofiaf y darlun am byth, ac fe ddaw i ben."

"Beth yw dy feddwl?" ebe Llew.

"Meddwl wyf bod ein rhieni ni'n fyw, ac y cawn eu gweld eto, a bod Gwen wedi boddi." "O, hisht, Myfanwy!" ebe Gareth.

"Dacw Mr. Luxton yn dod yn ôl," ebe Llew.

Aeth y tri i gyfarfod ag ef. Ni chawsant amser y dydd hwnnw i feddwl rhagor am y breuddwyd. Anghofiodd y bechgyn ef gyda llawer o freuddwydion eraill a adroddasai Myfanwy wrthynt. Ni soniodd Myfanwy, chwaith, am dano drachefn. Cadwodd ef yn ei chalon yn belydryn bychan o oleu ar y dyddiau tywyllaf.

Er holl anfanteision y lle teimlai'r plant fod bywyd ar yr ynys yn hyfryd iawn. Yr oeddynt wedi llwyr fwynhau'r ddeufis a aethai heibio. Dygai pob dydd ei fenter a'i wefr iddynt. Yr oedd rhywbeth newydd i'w weld o hyd. Nid oedd un dydd yn hollol fel y llall. Ni wyddid pa ddydd y digwyddai rhywbeth rhyfedd. Yr oedd swyn hyd yn oed mewn ansicrwydd ac ofn. Yr oedd eu dull o fyw fel rhyw bicnic parhaus.

Erbyn hyn caent fwy o amrywiaeth yn eu bwydydd. Heblaw pysgod, bara, tatws, yam, cnau, afalau, orennau, lemonau, bananau a ffrwythau ereill, cawsant un diwrnod wledd o wyau crwban. Hefyd, yr oedd Mr. Luxton a'r bechgyn wedi llwyddo i wneud bwa a saeth a dysgu saethu ag ef. Yr oedd ar yr ynys ryw aderyn tebig i ysguthan. Wedi ei brofi unwaith a'i gael yn flasus iawn aent allan yn fynych i hela, a chawsant lawer swper flasus o gig ysguthan a digon o datws. Helbulus, er hynny, oedd y gwaith o'i goginio am nad oedd llestri ganddynt at y pwrpas. Medrent rostio pysgod yn ddigon rhwydd ac nid oedd prinder pysgod bwytadwy yn y lagŵn.

Un diwrnod, cofiodd Mr. Luxton yn sydyn am ddull brodorion Ynysoedd Môr y De o goginio moch a phethau eraill. Gwnaent dwll yn y ddaear a chyneuent dân mawr ynddo. Pan fyddai'r tân ar ei eithaf, taflent gerrig iddo,—ychydig neu lawer yn ôl maint y tân a maint y peth y mynnent ei goginio. Ar ôl i'r cerrig boethi, tynnid hwy allan. Yna dodid y cig, wedi ei lapio'n barod mewn dail bananau, i mewn yn y twll, a'r cerrig poeth ar ei ben. Cyneuent dân wedyn ar ben y cerrig.

Wedi methu â'u bodloni eu hunain â'u dull arferol o goginio, a bwyta eu cig lawer tro yn hanner llosg neu yn hanner amrwd, rhoisant braw ar ddull y brodorion. Dyna welliant! Yr oedd y cig wedi ei bobi drwyddo'n hyfryd. Cadwasant at y cynllun hwnnw o hynny allan. Weithiau, coginient fara, tatws, a yam yn yr un tân, ond wedi eu lapio ar wahân, wrth gwrs. Yr oedd y lle tân yno'n barod bob amser, a digon o danwydd wrth law.

Os nad oedd llestri ganddynt at goginio yr oedd ganddynt ar silff o graig yn yr ogof restr hir o lestri bwyta. O ba le y daethent? Ffiolau bychain oedd llawer ohonynt wedi eu gwneud o'r cnau coco. Torrid y gneuen aeddfed yn eu hanner, ac â'r gyllell tynnid allan y bywyn gwýn caled. Yr oedd y ffiolau hyn yn ddefnyddiol iawn i ddal llaeth a lemonêd. Rhai tebig ond mwy eu maint oedd ffrwyth y pren calabash. Defnyddient y rhai hynny yn lle dail i ddál eu bwyd. Gwnaeth y bechgyn ryw fath o lwyau o'r un ffrwyth. Dan gyfarwyddid Mr. Luxton y gwnaed y cwbl. Yr oedd yn dda iddynt i gyd ei fod ef yno gyda hwynt, a'i fod wedi darllen a dysgu cymaint ar hyd ei fywyd.

Dysgodd Llew a Gareth a Myfanwy lawer o bethau eraill gan Mr. Luxton a chan Madame d'Erville hefyd. Ni flinai Mr. Luxton egluro iddynt ryfeddodau natur a hanes y byd. Ni feddent lyfrau, ond yr oedd meddwl a chof Mr. Luxton fel llyfrgell gyfan. A dyna ddiddorol oedd hanesion Madame am ei chartref ac am ddull y Ffrangwyr o fyw. Efallai bod cwmni'r plant yn fendith hefyd i'r rhai hynach. Yr oeddynt mor barod i ddysgu ac mor hawdd eu trin. Anghofient ofidiau'r gorffennol a phryderon y dyfodol yn hyfrydwch eu bywyd ar y pryd.

Yr oedd eu Saesneg eisoes yn llawer mwy graenus a choeth, a dysgai Myfanwy y Ffrangeg yn gyflym.

Yr oedd enwau erbyn hyn ar wahanol rannau'r ynys. Y plant a gafodd y fraint o ddewis yr enwau. "Y Neuadd" oedd eu cartref. Galwasant y rhan o'r traeth o flaen yr ogof a'r Neuadd yn "Bordeaux." Gwyddent mai "Glandwr" yw ystyr yr enw hwnnw, a disgleiriodd llygaid Madame D'Erville pan glywodd eu dewisiad. Un afon oedd yno, felly yr oedd "Yr Afon" yn ddigon o enw iddi. "Stratford-on-Avon" oedd y lle tlws ger y ffynnon,—enw tref enedigol Mr. Luxton. "Brynteg" oedd y bryn hir. "Pen y Bryn" oedd y pigyn. "Glyn y Groes" oedd y llannerch ar ochr y Gogledd lle'r oedd olion y deml.

"Yr Ynys" oedd yr ynys iddynt am amser hir wedi enwi ei gwahanol rannau. Pump oeddynt yn byw arni. Ynglŷn â'r ffaith honno daeth i feddwl Gareth o rywle yr enw "Llanpumsaint." Ar warr hwnnw daeth syniad arall. Awgrymodd alw'r ynys yn "Ynys Pumsaint." Derbyniwyd yr enw gyda brwdfrydedd a chwerthin.

"Ofnaf fod storm yn dyfod," ebe Mr. Luxton pan ddaethant ato. "Rhaid i ni baratoi ar ei chyfer."

Cawsent genllif o law ac ychydig fellt a tharanau ddwywaith yn ystod y ddeufis, Amlwg oedd y disgwyliai Mr. Luxton storm fwy y tro hwn. Clywsai ef ddigon o sôn am stormydd mawr y Trofannau. Ofnai weld hon yn torri.

"Rhaid i ni roddi digon o fwyd a llond ein llestri o ddŵr yn yr ogof. Bydd yn well i ni beidio â gadael dim o'n heiddo yn y tŷ. Pa le mae Madame? Dywedasant wrtho mai cysgu yr ydoedd.

"Ewch i'w galw, Myfanwy, ond peidiwch â'i dychrynu. Nid oes amser i'w golli."

Newidiodd gwedd y ffurfafen yn sydyn. Aeth hyd yn oed y lagŵn yn llwyd a chynhyrfus. Deuai tonnau mawr dros y rhibyn. Hedai miloedd o adar o rywle, yn wyllt yn yr awyr. Crynai'r coed. Yr oedd golwg ofnus ar anian i gyd.

Yr oedd yn dda iddynt fod ganddynt ogof i ymguddio ynddi yn ystod y ddeuddydd dilynol. O'r de-ddwyrain y chwythai'r storm. Nid oedd yn hollol gyferbyn â genau'r ogof neu buasai'n waeth fyth arnynt. Yr oedd rhu'r môr a'r gwynt yn fyddarol. Gwelent hyrddio dail a changau a cherrig ac adar, a hyd yn oed goed cyfain heibio genau'r ogof. Ofnent y syrthiai'r graig arnynt. Ofnent weld y môr gwyllt yn rhuthro dros y rhibyn tuag atynt.

Tua hwyr yr ail ddydd llonyddodd y gwynt. Cliriodd yr awyr a daeth y sêr i'r golwg. Parhai'r môr yn arw iawn o hyd. Mentrasant allan am ychydig yn y tywyllwch. Dychwelasant yn fuan i dywyllwch mwy yr ogof. Cysgasant yn drwm y noson honno. Pan aethant allan yn y bore, gwenai'r haul a gwenai'r môr fel pe na bai dim wedi bod.

Nodiadau[golygu]