Bugeilio'r gwenith gwyn

Oddi ar Wicidestun
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Bugeilio'r Gwenith Gwyn
ar Wicipedia

gan Wil Hopcyn

Mi sydd fachgen ieuanc ffôl
Yn byw yn ôl fy ffansi,
Myfi’n bugeilio’r gwenith gwyn,
Ac arall yn ei fedi.
Pam na ddeui ar fy ôl,
Ryw ddydd ar ôl ei gilydd?
Gwaith ’rwy’n dy weld, y feinir fach,
Yn lanach, lanach beunydd.

Glanach, glanach wyt bob dydd,
Neu fi yn wir sy’n ffolach;
Er mwyn y Gŵr a wnaeth dy wedd
Dod im’ drugaredd bellach.
Cwnn dy ben, gwel acw draw,
Rho im’ dy law wen dirion;
Gwaith yn dy fynwes bert ei thro
Mae allwedd clo fy nghalon.

Tra fo dŵr y môr yn hallt,
A thra bo ’ngwallt yn tyfu,
A thra fo calon dan fy mron
Mi fydda’n ffyddlon iti;
Dywed imi’r gwir heb gêl,
A rho dan sêl d’atebion,
P’un ai myfi ai arall, Ann
Sydd orau gan dy galon.