Bugeilio'r gwenith gwyn
Oddi ar Wicitestun
gan Wil Hopcyn
- Mi sydd fachgen ieuanc ffôl
- Yn byw yn ôl fy ffansi,
- Myfi'n bugeilio'r gwenith gwyn,
- Ac arall yn ei fedi.
- Pam na ddeui ar fy ôl,
- Ryw ddydd ar ôl ei gilydd?
- Gwaith 'rwy'n dy weld, y feinir fach,
- Yn lannach, lannach beunydd.
- Glannach, glannach wyt bob dydd,
- Neu fi yn wir sy'n ffolach;
- Er mwyn y Gŵr a wnaeth dy wedd
- Dod im' drugaredd bellach.
- Cwnn dy ben, gwel acw draw,
- Rho im' dy law wen dirion;
- Gwaith yn dy fynwes bert ei thro
- Mae allwedd clo fy nghalon.
- Tra fo dŵr y môr yn hallt,
- A thra bo gallt yn tyfu,
- A thra fo calon dan fy mron
- Mi fydda'n ffyddlon iti;
- Dywed imi'r gwir heb gêl,
- A rho dan sêl d'atebion,
- P'un ai myfi ai arall, Ann
- Sydd orau gan dy galon.