Cân y Cadeirio

Oddi ar Wicidestun
Robin Llwyd ab Owen yn cael ei gadeirio ym 1991

Henffych i'n prifardd ar fuddugol hynt,
Seiniwch ei enw i'r pedwar gwynt.
Hwn ydyw brenin beirdd yr Ŵyl i gyd,[1]
Cenwch yr utgorn i bedwar ban y byd.
Henffych Brifardd! Gweiniwyd llafn y cledd,
Bloeddiodd yr Eisteddfod yn unfryd, Hedd.

Cenwch, gyd-wladwyr, heddiw'n ddiwahardd;
Cenwch wrogaeth i Gadair y Bardd.
Gorsedd dehonglwr ein breuddwydion mud
Gorsedd y Gwir yn erbyn y Byd.
Henffych Brifardd! Gweiniwyd llafn y cledd,
Bloeddiodd yr Eisteddfod yn unfryd, Hedd.

Ninnau, gymrodyr, eiliwn ein boddhad;
Calon wrth galon yw cri'r Corn Gwlad.
Llygad goleuni beunydd ar ei lwydd,
Duw a phob daioni iddo'n rhwydd.
Henffych Brifardd! Gweiniwyd llafn y cledd,
Bloeddiodd yr Eisteddfod yn unfryd, Hedd.


Nodiadau[golygu]

  1. Ti ydyw seren beirdd yr Ŵyl i gyd ers 2007