Cerddais, addolais i ddail

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Cerddais, addolais i ddail,
Tref eurddyn, tra fu irddail.
Digrif fu, fun, un ennyd
Dwyn dan un bedwlwyn ein byd.
Cydlwynach, difyrrach fu,
Coed olochwyd, cydlechu,
Cydfyhwman marian môr,
Cydaros mewn cowed oror,
Cydblannu bedw, gwaith dedwydd,
Cydblethu gweddeiddblu gwydd.*
Cydadrodd serch â'r ferch fain,
Cydedrych caeau didrain.
Crefft ddigerydd fydd i ferch -
Cydgerdded coed â gordderch,
Cadw wyneb, cydowenu,
Cydchwerthin finfin a fu,
Cyd-ddigwyddaw garllaw'r llwyn,
Cydochel pobl, cydachwyn,
Cydfod mwyn, cydyfed medd,
Cydarwain serch, cydorwedd,
Cyd-ddaly cariad ceadwy
Cywir, ni menegir mwy.