Neidio i'r cynnwys

Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth/Argraffiadau Crefyddol

Oddi ar Wicidestun
Tymor Diwylliant Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth

gan John Evans, Abermeurig

Dyfod yn Aelod

PENOD III.

Argraffiadau Crefyddol.

MYNED I'R SEIAT GYDA'I FAM—TEMTASIYNAU YN DECHREU—DAL YN DDIRWESTWR—ODFA HYNOD—OFN GWEDDIO YN GYHOEDDUS—GWELED DERBYN UN I'R SEIAT—BLYNYDDOEDD O WRTHGILIAD.

PAN oeddwn tuag 16eg oed, teimlais ryw ddwysder crefyddol yn fy meddwl. Yr oedd fy rhieni yn gwneyd mwy o ymdrech i fyned a mi i'r seiat, na neb arall yn y gymydogaeth. Byddai fy mam yn myned a mi i'r seiat dan ei chlogyn, pan nad oeddwn ond ieuanc iawn, ac yn dweyd rhywbeth wrthyf am Iesu Grist yn aml. Ond fel yr oeddwn yn tyfu i fyny, yr oedd arnaf braidd gywilydd myned, gan na chawn gwmni neb o'm cyfoedion yn y fath gyfarfod. Yn fynych iawn gwnawn ryw esgusodion dros beidio myned, ac os gallwn gael cyfleusdra, absenolwn fy hun ar yr amser i fyned yno. Ac ar y pryd, teimlwn fod cymdeithas fy nghyfeillion yn dechreu fy ngwaethygu yn fawr, ac felly finau yn eu gwaethygu hwythau. Ond mewn un peth, ïe, yn wir, mewn dau beth, ni allent, er treio o ddifrif, fy nghael i gydymffurfio â hwy, sef tori yr ardystiad dirwestol ac ymarfer â tobacco. Ac yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar hyd heddyw am y nerth a gefais i orchfygu, nes gwneyd eu holl ymdrechion yn ofer. Yr wyf wedi cael nerth i fod yn ddirwestwr trwyadl bellach er's 48 mlynedd, ac hefyd wedi ymgadw dros fy holl oes oddiwrth yr arferiad afraid arall.

Pan oeddwn tuag 16eg oed, yr oedd yma adfywiad dymunol ar grefydd, a llawer yn gofyn y ffordd i Seion. A ryw nos Sabbath, pan oedd y brawd talentog, Mr. David Davies, Nantcwta, wedi bod yn holi yr ysgol ar "Gwymp Dyn," disgynodd rhyw ddylanwad rhyfedd ar ddiwedd yr odfa, nes yr oedd llawer yn molianu, eraill yn wylo yn hidl, a llawer o'r ieuenctyd gwylltaf yn ymddangos dan argyhoeddiad dwys. Ond yr hyn oedd yn ofid i mi ar y pryd oedd fy mod yn credu mai fi oedd y caletaf yn y lle. Modd bynag, gwasgodd hyny yn ddwys ar fy meddwl drwy y nos, a thranoeth hefyd; ac erbyn cyfarfod a'm cyfeillion nos dranoeth, deallais eu bod hwy wedi iachau, ac nad oedd y dylanwad hwnw iddynt ond fel gwlaw ar gareg. Ond ni allwn i deimlo y gallwn fod yn llawen a digrif gyda hwy megis cynt, er y gwnawn ymdrech orchestol i fod felly. Ac er myned gyda'm cyfeillion yn yr hwyr hwnt ac yma, dyfnhau yr oedd y peth yn fy meddwl; a byddwn yn ei deimlo yn ddisymwth weithiau mor ddwys, nes gorfod ffurfio rhyw esgus i ymadael oddiwrthynt. A phan elai yn nos, awn i ganol y cae i gysgod y stack llafur i weddio. Deallodd fy rhieni fod rhyw bryder arnaf, a thorwyd ataf am fy mater mawr. Nid oeddwn wedi llwyr adael y seiat, ond arhoswn yn ol weithiau rhag ofn fy rhieni. Ac aethum yno eto gyda hwynt ar yr amod na byddai iddynt adael i neb ymddiddan â mi. Yr oedd arnaf ofn nad oedd yn beth i bara; ac ofnwn hefyd os awn ymlaen, y byddai yn rhaid i mi weddio yn gyhoeddus. Yr oedd y meddwl am hyny bron a fy llethu. Nid oedd yr hen dadau y pryd hwnw yn caniatau i neb fyned i gymundeb heb ei fod yn cadw dyledswydd deuluaidd, pa mor ieuanc bynag fyddai. Ond y noson grybwylledig, yr oedd yno fachgen ieuanc yr un oed a minau, yn dyfod i ymofyn am le yn yr eglwys. Yr oedd wedi bod yn fachgen gwyllt iawn. Pan alwyd ef ymlaen i gael gwybod beth oedd wedi dal ar ei feddwl, methai a dweyd dim ar y cyntaf gan wylo. Ond ymhen enyd, pan oedd rhai o'r hen frodyr a chwiorydd yn trydar fel colomenod, a rhai fel ceiliogod y dydd yn canu, dywedodd mai darllen Dameg y Gwr Goludog a Lazarus oedd wedi dal ar ei feddwl. Yr oedd yn dweyd pethau mor ryfedd am ei brofiad, nes gwneyd yr holl eglwys yn foddfa o ddagrau.

Tra yr oedd ef a hwythau yn ymddiddan, ac wrth weled y teimlad oedd yn meddianu hwnw, yr oedd rhyw ysbryd yn dweyd wrthyf fi, "Dyna, ti weli nad oes dim byd teilwng o sylw arnat ti." Pa ysbryd ydoedd, gadawaf i'r darllenydd farnu; ond gwn iddo gael ei gredu yn ormod genyf fi, gan i mi mewn canlyniad wneyd pob ymdrech i ddiffodd y pryder oedd yn fy meddwl, ond yn methu cael llwyr waredigaeth er pob ymdrech. Yn un o'r wythnosau canlynol, yr oedd ffair yn y gymydogaeth gerllaw, i'r hon yr oedd yn hen arferiad i holl ieuenctyd yr ardal fyned. Arferai yr hen dadau crefyddol roddi anogaethau taer y Sabbath blaenorol, ar i'r bobl ieuainc beidio myned i'r fath leoedd niweidiol. Tra yr oeddynt yn cynghori, yr oedd ymrysonfa flin yn myned ymlaen yn fy meddwl ynghylch beth a wnawn. Ond pan ddaeth y dydd, a'r cyfeillion yn galw heibio, gan fy nghymell mor daer i fyned gyda hwy, a minau a'm tuedd i fyned gyda hwy mor gref, ildio a wnaethum i'r demtasiwn. Ond Ow! gallaf ddweyd, a gweddai i mi ddweyd mewn dagrau, i'r argraffiadau crefyddol bron gael eu llwyr ddileu y diwrnod hwnw, fel y teimlwn fy hun yr wythnosau canlynol yn ymryddhau oddiwrth bob iau grefyddol, ac wedi cael y ffrwyn yn rhydd ar fy ngwar. Yr wyf yn dywedyd hyn fel rhybudd i'r neb fyddo dan argraffiadau crefyddol, i wylio rhag myned i leoedd sydd a thuedd ynddynt i ddiffodd y cyfryw. Bum i am dair blynedd ar ol hyn heb deimlo nemawr o'r cyfryw argraffiadau. Ac yn nifyrwch a gwylltineb y blynyddoedd hyny, darfu i mi gyflawni rhyw bethau sydd yn peri i fy nghydwybod waedu wrth eu cofio. Buasai yn dda genyf allu croesi y blynyddoedd hyny allan o fodolaeth. Y mae eu cofio nid yn unig yn flin genyf, ac yn gwaedu fy nghydwybod, ond y maent hefyd wedi bod yn effeithiol i grebychu fy nefnyddiolddeb gyda'r gwaith gogoneddus ag y mae fy nghalon ynddo am y gweddill o'm hoes.

Nodiadau[golygu]