Neidio i'r cynnwys

Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth/Tymor Mebyd

Oddi ar Wicidestun
Cynwysiad Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth

gan John Evans, Abermeurig

Tymor Diwylliant

YR HUNANGOFIANT.

PENOD I.

Tymor Mebyd.

NANTGWINEU—EI RIENI—Y TEULU—Y SIOP—GORBRYDER EI RIENI YN EI GYLCH—HANESION DIGRIF AM DANO—OFERGOELEDD YR OES.

FE'M ganwyd mewn lle a elwir Nantgwineu, Cwmystwyth, yr hwn a saif ar derfyn dwyreiniol ystad yr Hafoduchryd. Mab oeddwn i James a Sarah Edwards. Masnachwr oedd fy nhad; ac adwaenid fy rhieni fynychaf trwy eu galw yn James a Saly y Shop. Dyddiad fy ngenedigaeth oedd Mehefin y 30ain, neu Gorphenaf 1af, 1824. Ganwyd i fy rhieni naw o blant, chwech o ferched a thri o feibion. Bu fy nau frawd farw cyn fy ngeni; ac felly myfi oedd eu hunig fachgen oedd yn fyw. Achlysurodd hyn i'w serchiadau redeg arnaf yn rymus iawn, a gwneyd i'w gofal am fy niogelwch a'm cysur fod yn orofal a gorbryder. A gallaf ddweyd i hyny achosi iddynt brofedigaethau mawrion ar rai adegau. Yr oedd y cynlluniau a gymerent i fy nghadw rhag myned ymaith oddiwrth y tŷ, gyda chyfoedion i mi a ddeuent yn fynych i'r siop, yn ymylu ar fod yn annoeth, a gwnaeth ofid iddynt fwy nag unwaith. Yn yr adeg hono, yr oedd prif ffordd Aberystwyth a Rhaiadr yn rhedeg trwy Cwmystwyth, ac heibio ein tŷ ninau. A mynych iawn y byddai pob math o grwydriaid, ysgubwyr simneiau, a'r cyffelyb, yn dyfod heibio. Ac er mwyn fy rhoddi ar fy ngwyliadwriaeth i beidio myned oddiwrth y ty, dywedai fy rhieni, fy chwiorydd, ac eraill, y byddai rhai felly yn sicr o ddyfod a'm cymeryd ymaith, a'u bod yn tori penau plant bach, a chwedlau eraill tebyg, nes yr oeddynt wedi gyru eu harswyd trwy fy nghalon. A chostiodd yr ymddygiad beius iddynt rai profedigaethau chwerwon.

Dyma un esiamp! i ddangos hyny. Pan oeddwn ryw ddiwrnod yn difyru fy hunan gerllaw y ty, gwelwn sweep yn myned at y drws, ac felly yn tori y cymundeb rhyngof â'r teulu. Yr wyf yn meddwl nad oedd ond fy nwy chwaer gartref ar y pryd. Ac yn hytrach na myned i'r ty, gan faint fy ofn, aethum i chwilio am ddiogelwch yn y beudy neu yr ysgubor. A'r hyn a wneuthum oedd ymrythu tucefn i ddrws yr ysgubor, a dringo i fyny i ben un o farau y drws. Deallodd fy chwiorydd yn y fan fod perygl am danaf, a gwaeddasant nerth eu penau lawer gwaith. Yr oeddwn yn clywed y waedd gyntaf, ond yr oedd gormod o ddychryn arnaf i ateb. Yn y man, daeth un o'r teulu i'r ysgubor, gan waeddi "Thomas, Thomas," ond nid oedd llais na neb yn ateb. Ymdrechwn atal fy anadl, gan gymaint fy ofn, fel y gallaf ddweyd gyda phriodoldeb, "Tra bwy'f fyw mi gofia'r lle." Erbyn hyn, yr oedd llawer o bobl wedi dyfod yno, rhai wrth fyned heibio, ac eraill wedi dyfod ar ol clywed y newydd am fy absenoldeb. Gwaeddent yn gyntaf ar y rhai cyfagos, os oeddynt wedi fy ngweled, a "Naddo" oedd ateb pawb. Yna ymwasgarwyd i bob cyfeiriad, i chwilio at lynau yr afon a llochesau y mynyddoedd, yn gystal a'r ffyrdd. Aeth rhai filldiroedd o ffordd ar yr hynt bryderus. Ond ymhen rhyw awr neu ragor, dyma un i'r ysgubor eilwaith, gan waeddi yn ddolefus, "Thomas, Thomas." Atebais inau yn ddistaw bach, trwy ofyn "A aeth ef i ffwrdd?" gan feddwl y sweep, am mai gyda hwnw yr oedd fy meddwl o hyd. Yna udganwyd i alw yr ymchwilwyr adref, a mawr oedd y teimladau cymysg a'u meddianent wedi clywed pa fodd y bu. Yr wyf yn adrodd hyn fel gwers i rieni, i beidio defnyddio moddion anmhriodol tuag at ddiogelu eu plant.

Gallaf adrodd un ffaith ddigrif arall bron o'r un natur. Ar ryw ddiwrnod teg iawn yn yr haf, yr oeddwn yn digwydd bod yn y siop, pan oedd fy mam yn gwerthu i'r cwsmeriaid. Yr oeddwn y pryd hwnw oddeutu pedair neu bump oed. Erbyn i fy mam ddyfod i'r siop o'r tŷ, gwelodd nad oeddwn i yno. Dechreuodd holi fel arfer, "Pa le mae y bachgen bach?" Ond nid oedd neb wedi fy ngweled er's tro. Dechreuwyd holi os oedd rhai o'm cyfoedion wedi bod yno; ond wedi dyfod o hyd iddynt, nid oedd yr un wedi fy ngweled, a dyna oedd ateb yr holl gymydogion. Felly nid oedd un dychymyg gan neb ymha le yr oeddwn. Aeth yn hynt ymchwiliadol unwaith eto trwy y gymydogaeth. Ar y pryd yr oedd y miners yn dyfod allan o'r gwaith, ac aeth y rhai hyny i chwilio y pyllau a'r coedydd, ond y cwbl yn ofer. Yr oedd gwedd ddiflas ar bob wyneb, a llawer o wylo ymhob cyfeiriad. O'r diwedd cafwyd gafael yn y colledig y tro hwn eto. Ymhlith y nwyddau yr arferai fy rhieni fasnachu ynddynt, arferent fasnachu mewn lledr. Yr oedd yno groen crwn ar y pryd yn rhol fawr. Yr oeddwn o chwilfrydedd plentynaidd wedi myned i fewn i'r rhol ledr hono, a gorwedd nes i drwmgwsg fy ngoddiweddyd, ac felly fyned yn anymwybodol o bob peth o'm cwmpas. Ymhen llawer o oriau, digwyddodd i rywun ymaflyd yn y rhol, a'i theimlo yn hynod o drwm, ac wedi chwilio gwelwyd mai fi oedd yno wedi hen gysgu. Mawr fu y llawenydd; ond nid ychydig fu y drafferth i alw yn ol y torfeydd oedd allan yn chwilio am danaf. Ac nid ychydig ar ol hyny fu y digrifwch am y rhol ledr a'i lletywr.

Yr oedd pryder fy nhad am danaf wedi myned yn ddiareb trwy y gymydogaeth. Yr oedd yn arfer myned i'r farchnad i Aberystwyth bob dydd Llun, ac yn cychwyn tua phump o'r gloch y boreu, haf a gauaf. A byddai yn arferol bob amser, wedi myned rhyw 60 llathen oddiwrth y tŷ, o waeddi rywbeth oedd wedi ei anghofio; ond diwedd y story bob amser fyddai, "Meindiwch at y bachgen bach." Byddai nodi pob peth o'r cyffelyb bethau yn ddigon lenwi cyfrol. Ac O! mae cofio am bryder a serch fy rhieni yn peri i mi deimlo loesion y fynyd hon, oblegid i mi achosi cymaint o ofid iddynt.

Nis gallaf roddi heibio heb goffhau un peth oedd yn rhoddi argraff ryfedd ar fy meddwl i a'm cyfoedion y pryd hwnw, yr hwn y mae y plant presenol wedi cael ymwared oddiwrtho. Gan fod ein ty, oherwydd y fasnach, yn fath o gyrchfa pobloedd, byddai Ilawer o hen bobl yn troi i fewn i'r tŷ i eistedd, a siarad am oriau am helyntion y wlad a'r oes. Ond digwyddai weithiau y byddai y bwganod a'r canhwyllau cyrff, a phethau eraill cyffelyb, yn cael rhan o'r ymddiddan. Yr oedd pethau mor ryfedd yn cael eu hadrodd a'u sicrhau gan y bobl hyn, nes yr oeddwn bron a rhedeg yn fynych rhag fy nghysgod fy hun. Ond yr oedd y rhai hyny yn eu credu yn gadarn, fel yr oedd eu gwedd ofnus yn dangos pan yn eu hadrodd. Gan fod y dynion hyny mewn oedran, ac ar yr un pryd yn ymddangos mor bryderus, yr oedd yn myned ymhell i fagu yr un ysbryd ofergoelus yn y plant. Pan ddaethum i addfedrwydd oedran, ac i ddeall pethau yn well, penderfynais ddial ar athrawiaeth y gethern, y rheibio, a phob peth cyffelyb. A da genyf gael gweled y dyddiau pan y mae pethau felly wedi myned yn wawd.

Nodiadau[golygu]