Cowydd i'r Seren
Gwedd
gan Robin Ddu
- Y seren y sy arwydd
- ydd â sais heddyw oi swydd
- Stella Cometa o'r gwin
- gwawr lliwys o'r gorllewin
- pa waeth y byd post oi Ben
- sy waith siriol saith seren?
- Byd enbyd uwch ben dinbych
- llun draig wrth orllewin drych
- llun Ell o'r lluniau allan
- llun cleddau fal Tonnau tan
- Sierion am y seren oedd
- yn treuthy tair o Ieithoedd
- mae noddfa lle mae'n addfed
- oed Crist er pan brynwyd Cred
- M:V.c meddant mowddwy
- XV a chwe X a dwy
- Rhyfedd ar gyfnod gwir
- hoen alaeth hyn a welir.
- ar ol hyn araul hynod
- agos ini geisio nôd,
- fo a 'r marchog ir ogof
- a dyfod a'n cyfnod cof
- lle nid el llew nau dau
- draw i ogof y dreigiau
- yno trig meddig im iaith
- deirnos mewn duffos diffaith
- ef yw'r llew ofwy yw'r lles
- o daw allan oi dylles
- llew du anwyl llu danoch
- y ceiliog hardd ar clog coch
- yr hwn y medd yr henwaed
- a ynill grym i holl gred
- ai arwydd yw herwydd iaith
- y seren gymesurwaith.
- am un pwynt y mae'n y pen
- yma heuriad y maharen
- y pymthegfed o fedi
- y try'r haul oi nattur hi
- Rhyfelau fal dagrau dur
- a gwriadau rhwng brodur,
- er da, mab a ladd ei dad
- brwydr ddull bryd ar ddillad
- y gwyllied hwy a gollir
- blin yw'r gwaith o blaenia'r gwir.
- Preladiaid o sgotiaid gant
- am y gair a ymgurant
- Lwmbardiaid Twrkiaid mewn taith
- a oresgyn rawysgwaith,
- a'r Pegwns rhag aliwns gwir
- (gofidiaith) a gyfodir.
- Gwyr y wlad mae'n gad gall
- a diria o du arall
- Eryr du a gair ar don
- gwae filoedd o'r gofalon
- o Galais y daw'r gelyn
- gwan yw'n iaith a gwenwyn ynn
- o dduw pam na weddiwn!
- rhag y byd anhyfryd hwn,
- Hir yw'r oes a Herwr wyf,
- os Rhyhir nas arhôwyf.
- Blwyddyn hir i ble 'ddâ 'n hedd
- yw un awr o anwiredd
- Gwyn-fŷd gwae ni y gwanfeirdd
- gweddill y byd, gwae ddull beirdd
- Gwyn fyd trin ganfod trwch
- gwn trwyddo gan tor heddwch
- gofun mab ag ofni mon
- ir nordd o ran y werddon
- e ddaw chware a ddechreuwyd
- draw'n llys aderyn llwyd
- Torri bargod tir Byrgwyn
- mae yn waeth i maeth am hyn
- mae'r wreichionen hen yn hwyr
- yn mygu 'n ei magwyr.
- nid a'n hwyr ni ad henau
- oni weler yn olau
- ni wyl Inglond 'n ol anglais
- wedi'r sant benadur sais
- o daw r 'llyg hyd y llan
- ai glog aur i gil Garan
- o daw ef wedi y daith
- dialedd, nid a eilwaith
- fo ddaw drwy ffydd llawenydd lle
- yr un neidr a roen dre
- Eryr draw a ddaw yn dda
- od a eilwaith nid wyla