Cywydd i Ddafydd ab Tomas o Is Aeron, i ddiolch am Baun

Oddi ar Wicidestun

gan Deio ab Ieuan Du

Hirhoedl a fo y'm Heryr,
ar y lan, goruwch Llann Llyr;
down beunydd dann ei Hennwn,
Dafydd hael pand ef oedd hwn.
Digon Is Aëron o Serch,
dyn a'i Wreiddyn o Rydderch;
o'r Cwrd yn wastad wrda,
y cad hwn caid da,
sylfaen ffraeth Selyf un ffriw,
sel a nôd Sulien ydyw;
y Gwr a roes dan gwrr Onn,
Immi Baun y mab Einion:
ei rodd ris rhoddwn et Aur,
aa phlu rhodd fal fflwr Rhuddaur,
yr ail Edn a'r ol ydyw,,
a'i odran llaes o dri lliw:
dulas ydyw'r dail Sidan,
du wyrdd a Meillionwyrdd mân
Llonaid yw y llwyn y dêl,
Llongwr yw dwyn lliw Angel.
Cyw garwdroed cauog Eurdrefn,
cwrlyd a gyfyd o'i gefn;
llafar y cau Llef o'er cau,
llun lleidr yn llawn Llandadau;
blaen Neidr o'i blu yn edrych,
bliant yn dwyn trychant drych.
Tebyg yw mal y tybiem,
i'r Bwa glaw a'i big lem;
un ffunud er hyd fo'r Haf,
golwg Gwr yn gwialaf;
cyhyd hefyd a Hwyfwell,
carddediad Gwilliad o gell.
Gwisgo wneir gwisg wineurudd,
gwalch y ffair gwiliwch a phen
gwyr Llanbedr ag Iarll unben;
gwyrthfawr yw'r Gwr mawr i mi,
gwyrthiau Alarch Gwrthaeli.
Nid uurhodd a dwy anrheg.
a gawn o'i Dai a gwên deg;
clared wedi cael Arian,
camrig, ao'r ol C'lennig lân;
aur yn rhad er anrhydedd,
adar a meirch wedi'e Medd.


Gwisg, Gwraig falch gwasgarog fydd,
gwisg a lluosgo fel hyn,
gwisg brawd ag ysgub Redyn,
gwisg werdd heb un gwresgys gwasg.
Ystunog fegys Damasg;
a ffaling wrddling weddlas,
a phinagl Aur a phen glas
a chôb gled i achub glaw,
a Chlog fawr werthiog wrthaw,
chwannog wyf i echwyna,
o drysor dyn dros Aur da,
dwyn clod dann ammond a wnâf,
a dwyn Pan y dyn pennaf
Gann Bann ni a gawn beunydd,
o'r dail i ddifyrru'r dydd;
ag a gawn liw gwawn gwynaul
blodeu'r Haf ar belydr Haul.
Gad Fis ym' gwedi fy Son,
gael, ei felenfael anfou;
mi archaf adael Dafydd,
fab tomas fy urddas fydd,
Mmwn ef Dai mwy na ddwyses,
mor deg yr'r anrheg a soes