Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol)(Cymru) 2020

Oddi ar Wicidestun
Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol)(Cymru) 2020

gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020

2020 dccc 3

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddiddymu amddiffyniad cosb resymol yn y gyfraith gyffredin mewn perthynas â rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig. [20 Mawrth 2020]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

1Diddymu amddiffyniad cosb resymol yn y gyfraith gyffredin

(1) Mae amddiffyniad cosb resymol yn y gyfraith gyffredin wedi ei ddiddymu mewn perthynas â rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru.

(2) Yn unol â hynny, ni chaniateir cyfiawnhau rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru mewn unrhyw achos sifil neu droseddol ar y sail ei bod yn gyfystyr â chosb resymol.

(3) Ni chaniateir ychwaith gyfiawnhau rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru mewn unrhyw achos sifil neu droseddol ar y sail ei bod yn gyfystyr ag ymddygiad derbyniol at ddibenion unrhyw reol arall yn y gyfraith gyffredin.

(4) At ddibenion yr adran hon, ystyr "cosb gorfforol" yw unrhyw guro (yn yr ystyr sydd i "battery" yn y gyfraith gyffredin) a wneir fel cosb.

(5) Yn adran 58 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31) (cosb resymol)—

(a) yn is-adran (1), ar ôl "battery of a child" mewnosoder "taking place in England

(b) yn is-adran (3), ar ôl "Battery of a child" mewnosoder "taking place in England", ac

(c) mae’r pennawd yn newid i "Reasonable punishment: England".

2Hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd bod adran 1 yn dod i rym

Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau cyn i adran 1 ddod i rym er mwyn hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r newidiadau i’r gyfraith sydd i’w gwneud gan yr adran honno.

3'Gofynion adrodd

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio dau adroddiad ar effaith y newidiadau i’r gyfraith a wneir gan adran 1.

(2) Rhaid llunio’r adroddiad cyntaf cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r cyfnod o 3 blynedd, sy’n dechrau pan ddaw adran 1 i rym, ddod i ben.

(3) Rhaid llunio'r ail adroddiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r cyfnod o 5 mlynedd, sy’n dechrau pan ddaw adran 1 i rym, ddod i ben.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl llunio adroddiad o dan yr adran hon—

(a) gosod yr adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b) cyhoeddi’r adroddiad.

4Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc. drwy reoliadau

(1) Caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod ag adran 1 i rym.

(2) Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

5Dod i rym

(1) Daw’r adran hon ac adran 2, adran 3, adran 4 ac adran 6 i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2) Daw adran 1 i rym pan ddaw’r cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod arh ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol i ben.


6Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.

Nodiadau[golygu]

Trwyddedir y ffeil hon yn ôl termau'r Drwydded Llywodraeth Agored y Deyrnas Unedig v3.0.