Er maint yw chwerw boen y byd

Oddi ar Wicidestun
Ffoed negeseuau gwag y dydd Er maint yw chwerw boen y byd

gan Ieuan Gwynedd

Pan hoeliwyd Iesu ar y pren

120[1] Byw i Garu Iesu.
M. S.

1 ER maint yw chwerw boen y byd
Mi rof fy mryd ar Iesu;
Ac er pob cystudd trwm a loes.
Mi dreulia' f'oes i'w garu.

2 Ni welais gyfaill dan y sêr
Mor dyner ag yw Iesu;
'R wy'n penderfynu treulio f'oes.
I ddwyn ei groes dan ganu.

3 Ni theimlais ddim gofidiau dwys
Wrth roi fy mhwys ar Iesu;
Am hyn dymuna f'enaid fod
Yn barod i'w wasnaethu.


4 Ym mhob rhyw gyfyngderau blin
Caf laeth a gwin gan Iesu;
Mae'n ennill serch fy enaid gwan
O bob rhyw fan i'w garu.

—Evan Jones (Ieuan Gwynedd).

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 120, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930