Neidio i'r cynnwys

Gwarchan Maelderw

Oddi ar Wicidestun

Canu vn caniawc a dal pob awdyl or Gododin herwyd breint yng kerd amrysson. Tri chanu a thrigueint a thrychant adal pob vn or gwarchaneu. Sef a chaws yn am goffan ene gorchaneu riuedi e gwyr a aethant e catraeth. Noc a dele gwr mynet y emnid heb arveu. Ny dlel bard mynet e amrysson heb e gerd vonn. Eman weithyon edechreu Gwarchan Maelderw. Talyessin ae cant ac awdel breint idaw. Keiment ac eodleu e gododin oll ei dri gawrchan yng kerd amrysson.

Doleu deu ebyr am gaer.
Ymduhun am galch am glaer.
Clodryd keissidyd kysgut.
Brithwe arwe arwrunt.
Ruthyr anorthwe a uebir.
Adwy adodet ny debit.
Odef ynyas dof y wryt.
Dygwgei en aryf en esgut.
Hu tei en wlyd elwit.
Gwr a ret pan dychelwit.
Kywely krymdy krymdwyn.
Kyueiliw nac eiliw etvrwyn
nac emniel dy dywal a therwyn.
Tervyn torret tech teithyawl
nyg aruedauc e uolawt.
Diffryderas y vrascawt.
Molawt rin rymidhin rymenon.
Dyssyllei trech tra manon.
Disgleiryawr ac archawr tal achon
ar rud dhreic fud pharaon.
Kyueillyawr en awel adawaon.
Trengsyd a gwydei neb ae eneu
y ar orthur teith teth a thedyt.
Menit a osgord mavr mur onwyd.
Ar vor ni dheli.
Na chyngwyd gil na chyngor
gordibleu eneit talachor
nyt mwy ry uudyt y esgor.
Esgor eidin rac dor.
Kenan kein mur e ragor.
Gossodes ef gledyf ar glawd meiwyr.
Budic e ren eny
annavd weldic.
Y gynnwithic
kynlas kynweis
dwnyn dyvynveis.
Kychuech ny chwyd kychwerw
kychvenyches
kychwenychwy enlli weles.
A lenwis miran mir edles.
Ar ystre gan vore godemles.
Hu tei idware yngorvynt
gwyr gorugynnaf ry annet.
En llwrw rwydheu ry gollet.
Collwyd. medwyd menwyt.
Gogled run ren ry dynnit.
Gorthew am dychuel dychuelit.
Gorwyd mwy galwant no melwit.
Am rwyd am ry ystoflit.
Ystofflit llib llain.
Blin blaen blen blenwyd.
Trybedavt y wledic e rwng drem dremrud
dremryt ny welet y odeu dhogyn ryd.
ny welet y odeu dhogyn fyd
Mor eredic dar digeryd.
kentaf digonir canwelw
kynnwythic lleithic llwyrdelw
kyn y olo gouudelw
Taf gwr mavr y wael maelderw.
Delwat dieirydaf y erry par ar delw
rwysc rwyf bre
rymun gwlat rymun rymdyre.
Ysgavl dhisgynnyawd wlawd gynire
nasc ysgawt y redec ry gre.
Godiweud godiwes gwlat vre.
Ny odiweud o vevyl veint gwre.
Nodyn: Priodolir y gerdd hon i Daliesin yn Llyfr Aneirin, ond nid oes sicrwydd am ei hawduraeth.