Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Ebenezer, Pontypool

Oddi ar Wicidestun
Heolyfelin, Casnewydd Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
New Inn
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Pont-y-pŵl
ar Wicipedia




EBENEZER, PONTYPOOL.

Mae yr addoldy hwn yn sefyll ar lechwedd, ychydig uwchlaw Pontnewynydd, yn mhlwyf Trefddyn, neu Trefethin—y plwyf yn mha un y mae tref Pontypool. Mae hanes dechreuad yr achos hwn yn anhysbys, ond y mae genym seiliau cryfion i farnu ei fod wedi ei ddechreu rai degau o flynyddau cyn i Mr. Edmund Jones ddyfod i gyfaneddu i'r ardal. Mae yn wir fod ysgrifenydd hanes bywyd Mr. Jones, yn yr Evangelical Magazine, am Mai 1794, yn dyweyd mai efe ddarfu ddechreu yr achos yn y lle, ond yr ydym yn anmheu cywirdeb yr hyn a ddywed, nid yn unig o herwydd ein bod yn cael yr un ysgrifenydd yn camddyweyd am bethau llawer diweddarach yn hanes Mr. Jones, nag amser ei ddyfodiad i fyw i ardal Pontypool, ond hefyd am fod genym grybwyllion am fodolaeth achos Annibynol yn yr ardal flynyddau cyn ei fynediad ef yno. Yn Ionawr 1718, anfonwyd cyfrif o nifer eglwysi Ymneillduol Mynwy, i Dr. John Evans, Llundain, ac yn eu plith enwir eglwys Annibynol yn y Trosnant, Pontypool, ac un Mr. Jeremiah Edmunds yn weinidog iddi. Yr oedd y gynnulleidfa yn 90 o rif, ac yn cynnwys chwech o dirfeddianwyr, deg o fasnachwyr, a deunaw o weithwyr. Mae yn eithaf anhebygol fod cynnulleifa o'r grym hwnw wedi diflanu mewn dwy flynedd ar hugain, sef erbyn 1740, pryd y daeth Mr. Edmund Jones i fyw i'r gymydogaeth. Hefyd mae y difyniad canlynol of hen lyfr eglwys Capel Isaac, sir Gaerfyrddin, yn deilwng o sylw yn ei berthynas ar achos hwn: "Mehefin 24ain, 1742. Casglwyd heddyw yn y Mynyddbach, y swm o dri swllt ar ddeg a saith ceiniog, tuag at gynnorthwyo adeiladiad ty cyfarfod yn agos i Bontypool, sir Fynwy, ar gais y Parchedig Edmund Jones, y gweinidog presenol yno." Y casgliad mwyaf naturiol a ellir dynu oddiwrth yr ymadrodd "y gweinidog presenol yno" ydyw fod gweinidog neu weinidogion wedi bod yno o'i flaen ef.

Dywed Mr. Joshua Thomas, yn Hanes y Bedyddwyr, fod gweinidogion yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr wedi bod yn pregethu yn fynych yn Mhontypool, a'r cylchoedd, am ugeiniau o flynyddau cyn 1729, pryd y corpholwyd yr eglwys gyntaf o Fedyddwyr yno. Gallasai fod pregethwyr perthynol i'r ddau enwad, yn ymweled yn achlysurol a'r lle, trwy holl dymor yr erlidigaeth; ond nid oes genym un cofnodiad fod yno addoliad cyson yn cael ei gynal yn 1669, pryd yr anfonwyd ystadegau yr Ymneillduwyr i Archesgob Canterbury; nac yn 1672, pryd y cymerodd y rhan fwyaf o'r Ymneillduwyr drwyddedau i bregethu. Mae yn debygol mai ryw bryd rhwng 1688, a diwedd yr ail ganrif ar bymtheg y corpholwyd yr eglwys Annibynol yn Nhrosnant, ac mai Mr. Thomas Quarrell, Mr. Hugh Pugh, ac o bosibl, Mr. John Harries, Penmain, fu yn llafurio yn benaf i'w chasglu a'i chorpholi. Nis gwyddom pa bryd yr ymsefydlodd Mr. Jeremiah Edmunds yno, na pha bryd y bu farw, neu yr ymadawodd oddi yno. Y cwbl a wyddom am dano ef, yw ei fod yn weinidog yno yn 1718. Yn mhen chwe' blynedd ar ol hyn y dechreuodd Mr. Edmund Jones bregethu yn Mhenmaiu, a daeth yn fuan i fod yn bregethwr diwyd a chyhoeddus iawn. Byddai yn ymweled yn fynych yn mlynyddoedd cyntaf ei fywyd cyhoeddus, a Blaengwrach, yn Nghwmnedd, Cwmllynfell, ac hyd yn oed Gwynfe, yn sir Gaerfyrddin. Gallwn gan hyny farnu yn naturiol, nad oedd yr achos yn Mhontypool yn ei ymyl yn cael ei esgeuluso ganddo. Mewn anedd-dai, wedi eu trwyddedu at bregethu, yr ymgynnullai yr eglwys hyd nes i Ebenezer gael ei adeiladu.

Dechreuodd Mr. Edmund Jones bregethu yn 1724, ac urddwyd ef yn weinidog cynnorthwyol yn Mhenmain, yn 1734. Mae yn debygol ei fod ef yn llafurio yn benaf yn mysg y gangen hono o eglwys Penmain, a gyfar- fyddai mewn anedd-dai yn Aberystruth, ei blwyf enedigol. Pan urddwyd Mr. Phillip Dafydd yn gynnorthwywr yn Mhenmain, mae yn ymddangos i Mr. Jones a'i gyfeillion edrych ar hyny fel gwrthodiad o'i wasanaeth ef, ac felly symudodd i fyw i'r Transh, gerllaw Pontypool, yn Gorphenaf 1740, a chyfyngodd ei lafur gweinidogaethol i'r ardal hono, ond darfu i amryw o'i gyfeillion yn mhlwyf Aberystruth, ymuno a'i eglwys ef yn Mhontypool, a chan fod eu ffordd i ddyfod yno yn dra phell, byddai ef yn myned yn fynych i gynal moddion iddynt hwy yn Aberystruth, ac ystyrid hwy fel cangen o eglwys Ebenezer. Gan nad oedd ty cyfarfod gan yr eglwys yn Mhontypool, ymroddodd Mr. Jones, yn fuan wedi iddo ymsefydlu yno, at y gwaith o ddarparu er adeiladu addoldy. Yr oedd y draul lawer yn fwy na gallu y bobl i'w dwyn, ac felly rhoddodd ef ddeg punt ar hugain ei hun at ddwyn y gwaith yn mlaen, pryd nad oedd ganddo yn y byd ond deugain punt. Gorfu iddo drachefn werthu gwerth pymtheg punt o'i lyfrau er cael arian i fyned a'r gwaith yn mlaen. Cyfeiria Whitefield at hyn yn effeithiol, mewn llythyr a ysgrifenwyd ganddo yn Abergavenny, Mai 27ain, 1749: "Dydd Iau. Gwelais Mr. E. J; y gweinidog Ymneillduol y sonias am dano o'r blaen, a chefais ef wedi ei ddilladu yn wael iawn. Mae yn ddyn gwir deilwng, ac oddiar ei sel dros Dduw, darfu iddo amser yn ol, werthu gwerth pymtheg punt o'i lyfrau er cael modd i orphen y ty cyfarfod bychan, yn yr hwn y mae yn pregethu."[1] Mewn llythyr a ysgrifenodd Mr. Jones at Mr. Howell Harries, yr hwn oedd y pryd hwnw yn Llundain, dyddiedig Awst 7fed, 1741, cawn yr hyn a ganlyn: "Yr wyf yn awr yn dechreu casglu ychydig gymorth at adeiladu y ty cyfarfod, ac mi a af oddiamgylch y tai cyfarfod a'r cymdeithasau (tai cyfarfod yr Ymneillduwyr, a chymdeithasau y Methodistiaid, mae yn debygol) lle y mae genyf ryw fesur o adnabyddiaeth, ac y byddaf yn debygol o gael fy nerbyn. Os ydych yn adnabyddus a rhai gweinidogion Ymneillduol caredig, ac a'u pobl, yr wyf yn dymuno arnoch ofyn iddynt am ychydig o gymorth at adeiladu ein ty cyfarfod; ychydig o'r hyn a allont hebgor yn rhwydd. Peidiwch a gofyn i neb, ond i'r rhai y barnoch fod ganddynt ffydd i gredu y gwobrwyir hwynt am eu caredigrwydd. Os gwnewch ychydig wasanaeth i mi yn y ffordd hon, bydd yn garedigrwydd mawr yn wir, a dichon, mewn amser, y byddaf yn alluog i'ch ad-dalu, ond os na wna fi, fe wna Duw."

Mae yn ymddangos nas gallodd ddechreu ar y gwaith o adeiladu cyn gwanwyn y flwyddyn 1742, ac y mae yn dra thebygol nad agorwyd y capel cyn 1743. Ar ol cael cartref i'r arch, trwy lawer o lafur, a hunan-ymwadiad diail o du y gweinidog gweithgar, beth bynag am ei bobl, parhaodd y gwas ffyddlon hwn i weinidogaethu yn ei hoff Dy Cyfarfod, Ebenezer, hyd derfyn ei oes, yr hon a estynwyd allan yn hwy na'r eiddo nemawr o'i gydoeswyr. Nid ymddengys fod gan Mr. Jones gynnulleidfa luosog iawn yn Ebenezer, ar unrhyw dymor o'i oes weinidogaethol yno. Yr oedd ganddo, fel y nodasom, gangen o'i eglwys yn addoli mewn anedd-dai yn mhlwyf Aberystruth, y rhai ni ddeuent ond anfynych i Ebenezer, o herwydd pellder y ffordd. Yn ol yr ystadegau a gasglwyd yn 1773, gan Mr. Josiah Thompson, o Lundain, dau cant oedd rhif cynnulleidfa Mr. Jones, yn Ebenezer a'r Blaenau, neu Aberystruth, yn y flwyddyn hono, ac nid ymddengys iddi luosogi nemawr o'r pryd hwnw hyd amser ei farwolaeth ef yn 1793. Ond os nad oedd y gynnulleidfa hon ond bechan mewn cyferbyniad i rai cynnulleidfaoedd eraill yn y sir, yr oedd rhai o'r teuluoedd parchusaf yn yr ardal yn perthyn iddi, ac yr oedd trwy enwogrwydd ei gweinidog rhagorol, fe ddichon, yn fwy adnabyddus nag un gynnulleidfa arall yn y wlad i Ymneillduwyr Cymru a Lloegr. Darfu i enw Edmund Jones anfarwoli enw Ebenezer, Pontypool.

Wedi marwolaeth Mr. Jones, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Ebenezer Jones, myfyriwr yn yr athrofa a gedwid y pryd hwnw yn Abertawy, ond sydd yn awr yn Nghaerfyrddin. Urddwyd Mr. Jones yn y flwyddyn 1795, a chan ei fod yn un a feddai gymhwysderau gweinidog enwog yn y radd uwchaf, tynodd sylw yr holl ardal yn ddioed, fel y lluosogodd y gynnulleidfa a'r eglwys yn fawr mewn ychydig o amser. Cafodd y tŷ cyfarfod ei adgyweirio a'i helaethu yn gynar yn nhymor gweinidogaeth Mr. Ebenezer Jones, a chafodd Ysgol Sabbothol ei sefydlu yno yn y flwyddyn 1816.[2] Yr oedd yr achos yn flodeuog iawn yr amser hwnw, a'r eglwys yn lluosog. Yn y flwyddyn 1820, darfu i'r aelodau a breswylient yn nghymydogaeth Blaenafon gael eu ffurfio yn eglwys Annibynol, ac yn fuan wedi hyny dewisasant weinidog iddynt eu hunain, gan nas gallasai Mr. Jones eu gwasanaethu, yn gymaint a bod ganddo i ofalu am y fam-eglwys yn Ebenezer, a'r eglwys Saisonig yn Brynbiga. Yn 1827, aeth cangen arall allan o Ebenezer i ddechreu achos ar y Farteg. Yr oedd ymadawiad y canghenau hyn yn effeithio i raddau ar luosogrwydd y fam-eglwys, ond etto parhaodd yr eglwys yn gref a dylanwadol. Bu Mr. Jones farw Ionawr 31ain, 1829.

Yr haf, ar ol marwolaeth Mr. Jones, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Rowlands. Cynaliwyd cyfarfod ei sefydliad Gorphenaf 15fed a'r 16eg, 1829, pryd y cymerodd Mr. D. Lewis, Aber; Mr. D. Davies, Penywaun; Mr. D. Davies, New Inn; Mr. D. Stephenson, Nantyglo, ac eraill, ran yn y gwasanaeth. Bu gweinidogaeth Mr. Rowlands yn dderbyniol, llwyddianus, a phoblogaidd iawn yn Ebenezer am lawer o flynyddoedd. Mae yn debygol mai yn y deng mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth ef y bu yr eglwys luosocaf ei haelodau o un cyfnod yn ei hanes. Bu y cymunwyr rhwng dau athri chanto rif am rai blynyddau. Ond effeithiodd corpholiad eglwysi Annibynol yn Abersychan a Throsant, yn y flwyddyn 1837, a Cefnycrib yn 1841, i beri cryn lawer o leihad yn nifer aelodau a gwrandawyr Ebenezer. Erbyn 1842, yr oedd rhif yr aelodau wedi dyfod i lawr i 160, ac yn 1861 eu rhif oedd 132. Heblaw corpholiad eglwysi eraill yn yr ardal y mae sefyllfa ddilewyrch y gweithiau glo a haiarn yn y gymydogaeth er's blynyddau bellach, wedi lleihau rhif pob cynnulleidfa yn yr holl fro. Gellid ychwanegu hefyd, fod pob cynnulleidfa Gymreig, o bob enwad, o Flaenafon i'r Casnewydd, wedi gweled eu dyddiau goreu, gan fod y plant a'r ieuengetyd yn dewis yr iaith Saesonig, ac os na chynygir yr efengyl iddynt yn yr iaith hono, bydd miloedd o honynt fyw a marw hebddi.

Gwnaed amryw welliadau yma yn nhymor gweinidogaeth Mr. Rowlands. Adeiladwyd tŷ cyfleus i'r gweinidog, yr hwn sydd yn feddiant i'r eglwys; prynwyd darn helaeth o dir at helaethu y fynwent, ac yn y flwyddyn 1844. gwnaed y capel oll o newydd. Y mae yn bresenol yn gapel hardd a chyfleus, yn cynnwys oddeutu 500 o eisteddleoedd, a thalwyd am y cwbl heb fyned nemawr allan o'r ardal i ofyn cymorth. Bu Mr. Rowlands farw yn Ebrill, 1861, wedi bod yn gweinidogaethu yn Ebenezer ychydig dros 31 o flynyddau. Ar ol ei farwolaeth ef bu yr eglwys yn ymddibynu ar wasanaeth gweinidogion a phregethwyr cymydogaethol hyd Hydref, 1864, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Richard Richards, yr hwn oedd newydd ddychwelyd o America. Un genedigol o ardal Treforis yw Mr. Richards, ond ymfudodd i America yn 1848, yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu. Bu am tua blwyddyn yn athrofa Wyne dan addysg. Urddwyd ef yn mis Awst, 1852, yn St. Clair, Pensylfania. Bu wedi hyny yn Newburgh, Ohio. Wedi derbyn yr alwad o Ebenezer, aeth drosodd i'r America i hol ei wraig. Pan gyrhaeddodd yno, cafodd hi yn gorwedd yn glaf mewn twymyn, a bu farw yn mhen ychydig ddyddiau. Ar ol ei chladdu, dychwelodd ef i Gymru, a dechreuodd ei weinidogaeth yn Ebenezer yn Mawrth, 1865. Cynaliwyd ei gyfarfod sefydliad ar y 7fed a'r 8fed o Fai, yn yr un flwyddyn. Ar ol llafurio yn dderbyniol a llwyddianus am tua dwy flynedd, gwaelodd ei iechyd i'r fath raddau, fel y bu raid iddo roddi ei ofal i fyny yn Medi, 1867.

Bu yr eglwys drachefn am ddwy flynedd heb weinidog. Yn niwedd 1869, rhoddwyd galwad i Mr. R. Hughes, yr hwn oedd wedi ei urddo yn Adulam, Tredegar, Rhagfyr 25ain, y flwyddyn flaenorol, ac y mae wedi dechreu ei weinidogaeth yno er's rhai misoedd. Hyderwn y bydd yn llwyddianus.

Mae amryw bregethwyr, o bryd i bryd, wedi cael eu cyfodi yn yr eglwys hon. Wele yn canlyn enwau cynifer o honynt ag y gwyddom ni am danynt:—

John Powell; am yr hwn y bydd genym ryw grybwyllion i'w gwneyd ynglyn a hanes eglwys Henllan, swydd Gaerfyrddin.

Thomas Saunders; gweler hanes eglwys Heol-y-felin, Casnewydd.

William Jayne. Derbyniwyd ef i Athrofa Abergavenny yn Mawrth 1771. Yn ei adroddiad blynyddol o sefyllfa yr Athrofa, dyddiedig Rhagfyr 16eg, 1774, dywed Dr. Davies fod W. Jayne wedi myned rhagddo yn lled dda yn ei wybodaeth o'r ieithoedd, a'i fod yn debygol o droi allan yn bregethwr derbyniol, ond ei fod y flwyddyn hono wedi colli llawer o'i amser o herwydd cystudd. Yr oedd ei dymor i fyny yn yr Athrofa yn Mawrth, 1775, ac yr ydym yn tybied iddo farw yn fuan ar ol hyny.

Rees Lloyd. Yr oedd yn byw yn ardal Cwmbran. Cyhoeddodd farwnad i Edmund Jones. Ymfudodd i'r America tua dechreu y ganrif bresenol. Hyn yw y cwbl a wyddom ni am dano.

Herbert Daniel, Cefnerib; yr hwn a ddaw dan ein sylw gydag hanes Tabor, y Trosnant, a Chefnerib.

Thomas Morgan. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa y Drefnewydd; urddwyd ef yn y Trallwm, yn 1832, ac y mae yn bresenol yn Hinckley, sir Leicester.

James Lewis. Y mae y dyn da hwn wedi bod er's mwy na deugain mlynedd yn bregethwr cynnorthwyol parchus yn yr eglwys hon. Mae yn ddiweddar wedi ymadael o Ebenezer i New Inn.

William Jenkins. Dechreuodd yntau bregethu tua yr un amser a Morgan, Daniel, a Lewis. Tua blwyddyn yn ol urddwyd ef yn Salem, Bedwellty, cyn ei ymfudiad i America. Y mae efe yn dad i Mr. D. M. Jenkins, Drefnewydd, Maldwyn.

William Bowen. Dechreuodd bregethu yn 1865. Mae yn awr yn fyfyriwr yn Athrofa y Bala.

COFNODION BYWGRYPHYDDOL.

JEREMIAH EDMUNDS. Y cwbl a wyddom am dano ef yw ei fod yn weinidog yn Nhrosnant, yn 1717, a dechreu y flwyddyn ganlynol.

EDMUND JONES. Ganwyd ef yn Penyllwyn, yn mhlwyf Aberystruth, Mynwy, Ebrill 1af, 1702. Yr oedd ei rieni yn ddynion crefyddol iawn, ac yn aelodau yn Mhenmain. Derbyniwyd yntau yn aelod yno ya ieuange iawn, a phan oedd yn ddwy-ar-hugain oed, dechreuodd bregethu. Nid ymddengys iddo gael unrhyw fanteision addysgol, ond yr hyn a gafodd mewn ysgol a gedwid gan gurad y plwyf lle y magwyd ef, ond gwnaeth ddefnydd da o'r ychydig fanteision a gafodd. Yr oedd yn deall y Gymraeg a'r Saesoneg yn dda, ac yn medru ysgrifenu a phregethu yn y naill iaith yn gystal a'r llall. Wedi iddo fod yn pregethu am ddeng mlynedd, cafodd ei urddo yn weinidog cynnorthwyol yn Mhenmain, yn 1734. Yn 1740, ymgymerodd a gofal yr eglwys yn ardal Pontypool, ac adeiladodd y ty cyfarfod cyntaf fu gan yr eglwys hono. Parhaodd i fugeilio yr eglwys yn Ebenezer hyd derfyn ei oes, ond ymwelai yn fynych a'r eglwysi trwy bob parth o'r Dywysogaeth. Gallesid dyweyd am dano ef, fel am Paul, fod gofal dros yr holl eglwysi arno. Priododd yn ieuangc, ond ni bu iddo blant. Cafodd gydymaith o'r un anian ag ef ei hun; ei holl hyfrydwch oedd gwasanaethu Duw a dedwyddu dynion. Er eu bod ill dau yn isel eu hamgylchiadau trwy eu hoes, ni fu gwr a gwraig erioed yn fwy dedwydd. Ysgrifenai Whitefield am danynt, ar ol iddo fod yn lletya noswaith yn eu ty: "Y mae yn byw yn isel iawn, ond y mae yn mwynhau llawer o Dduw. Y mae efe yn Zecharias a'i wraig yn Elizabeth." Dywedir mai golwg ar ddedwyddwch teuluaidd Edmund Jones a'i wraig, ddarfu ogwyddo meddwl Whitefield i edrych am wraig ei hun, ac nad aeth yn mhellach nag Abergavenny, cyn gwneyd ei feddwl i fyny i gymeryd un Mrs. James o'r dref hono yn briod; ond cafodd allan er ei ofid, pan yn rhy ddiweddar, mai nid Mrs. Jones oedd Mrs. James. Er mawr golled a gofid i Edmund Jones, bu farw ei wraig werthfawr Awst 1af, 1770, a chafodd yntau deithio y gweddill o'i daith heb ei chymdeithas. Bu ef fyw i'r oedran teg o 92, o fewn ychydig fisoedd. Dyoddefodd boenau dirdynol yn ei gorff am yr wythnos ddiweddaf o'i fywyd, ond yr oedd ei feddwl, nid yn unig yn dawel, ond yn orlawn o fwynhad. Pan ofynodd Mr. Jayne, un o'i ddiaconiaid, iddo ychydig oriau cyn ei farw, "A oes ofn marw arnoch chwi, Mr. Jones bach?" agorodd ei lygaid, ac er ei fod er's oriau cyn hyny heb allu llefaru dim, dywedodd gyda phwyslais nodedig, "Ofn marw arnaf fi! nac oes, yr wyf yn adnabod Iesu Grist yn rhy dda i fod ag ofn marw. Mae marw ynddo ei hun yn chwerw i'r cnawd, ond nid wyf fi yn ei ofni." Pan ofynodd un arall iddo pa fodd y teimlai, atebodd, "Mae y wlad nefol i'w gweled yn eglur; nid oes un cwmwl na braw rhyngof fi a'r gogoniant nefol." Yn y modd hwn y gorphenodd y patriarch anrhydeddus yma ei yrfa ddaearol, Tachwedd 26ain, 1793. Claddwyd ef wrth gapel Ebenezer, a phregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr. John Griffiths, Abergavenny, i dorf wylofus, oddiwrth 2 Tim. iv. 7, 8—testyn a ddewisid gan y marw. Yr oedd Edmund Jones yn un o'r cymmeriadau hynottaf yn ei oes. Gwnaeth iddo ei hun enw anfarwol. Nid trwy rym ei alluoedd meddyliol, ei hyawdledd fel pregethwr, na'i ddysg; ond trwy ei lafur dibaid, ei ymlyniad gafaelgar with athrawiaethau neillduol yr efengyl, a'i dduwioldeb seraphaidd. Nid oedd heb ei wendidau, a'r rhai hyny yn amlwg iawn yn ei hanes. Ymddengys ei fod lawer yn rhy anffaeledig, byrbwyll, ac unbenaethol yn ei ymwneyd ag achosion ei eglwys, ac oni buasai ei fod yn ddyn anghyffredin o ragorol mewn pethau eraill, ni oddefasid hyn ynddo. Yr oedd hefyd yn nodedig am ei hygoeledd, fel y dengys ei lyfr ar ymddangosiadau ysbrydion, a llawer rhan o hanes plwyf Aberystruth. Credai y chwedlau mwyaf anhygoel am ddrychiolaethau, canwyllau cyrff, bwciod, a'r Tylwyth Teg, mor ddiysgog ag y credai yr efengyl; ie, yr oedd mor wan a chredu fod cythreuliaid yn ymrithio yn ffurfiau cwn a chathod, fel nas gallasai oddef un ci na chath yn agos ato. Credai fod pob hen wraig annuwiol, os digwyddai fod ei hwynebpryd yn lled hagr, ac ychydig farf yn tyfu ar ei gen, yn ddewines, (witch), a chadwai yn mhell oddiwrth bob un o'r fath. Clywsom Mr. Thomas, Penmain, yn adrodd yr hanesyn canlynol yn ei ddull difyr: Ychydig amser cyn ei farwolaeth daeth Mr. Jones i dalu ei ymweliad olaf ag ardal Penmain. Treuliodd yno amryw ddiwrnodau, gan bregethu bob nos mewn gwahanol anedd-dai. Elai Mr. Thomas gydag ef o fan i fan trwy y gymydogaeth. Un prydnhawn, wrth eu bod yn myned trwy bentref Crumlin, galwodd dynes ar eu hol, a deisyfodd arnynt droi i dy yno, lle yr oedd hen wraig yn glaf iawn, i ddarllen a gweddio. Gofynodd Mr. Jones, yr hwn a adwaenai bawb yn y pentref, pwy ydoedd. Pan ddywedwyd ei henw wrtho, "Gweddio gyda honyna," ebe fe, "na weddiaf fi, y mae yr hen greadures yna yn witch." Ceisiai Mr. Thomas ei berswadio i fyned i'r ty, ond ni wnai. Pan welodd fod Mr. Thomas yn awyddu am fyned, dywedodd wrtho, "Wel, os wyt ti yn ymglywed a gweddio gyda hi, dos i mewn, a minau a safaf wrth y drws." Felly y bu. Yr oedd gwely yr hen wraig glaf mewn ystafell fechan ar y llawr, a'r ddaear oddiallan o fewn troedfedd at waelod y ffenestr, yr hon oedd yn agored, i'r glaf gael awyr. Safai Mr. Jones wrth ddrws yr ystafell, ac aeth Mr. Thomas ar ei liniau rhwng gwely yr hen wraig a'r ffenestr agored, a dechreuodd weddio. Pan oedd ar ganol ei weddi daeth bytheuad mawr at y ffenestr o'r tu allan, gan osod ei ddwy droed flaen ar gareg y ffenestr, a'i ben i mewn, ac udo mewn seiniau oernadus.

"Dyna," ebe Mr. Jones, gan ymaflyd yn mraich Mr. Thomas, "Gad hi yn awr, mae ei pherchen yn dyfod i'w nhol hi." Felly aethant i ffwrdd, ac nid oedd dim a dynai o ben yr hen ŵr nad cythraul yn ffurf ci oedd wedi dyfod yno i gymeryd meddiant o'r hen wraig. Na thybied neb mai gwendid hen Gymro yn unig oedd yr hygoeledd hyn. Yr oedd Luther, Baxter, a John Wesley, yn llawn mor hygoelus ag Edmund Jones.

Yn awr, trown oddiwrth wendidau yr hen Gristion da, i daflu cipolwg ar ei ragoriaethau. Yr oedd yn weithiwr difefl. Pe buasai ei ddydd-lyfrau wedi cael eu cadw heb eu difrodi, gan ddynion na wyddent eu gwerth, buasai genym bethau rhyfedd i'w cofnodi. Mae yn debygol nad oes dim ond naw o'i ddyddlyfrau wedi diane rhag y difrod fu ar ei ysgrifeniadau. Dengys y naw hyn i raddau y fath lafur yr elai trwyddo. Yn 1731, pregethodd 104 o weithiau; yn 1732, bu am rai misoedd yn glaf iawn, ond pregethodd er hyny 76 gwaith; yn 1739, 240; yn 1768, 300; yn 1770, 337; yn 1773, 511; yn 1778, 260; yn 1780, 340; ac yn 1789, yn yr wythfed flwyddyn a phedwar ugain o'i oed, pregethodd 405 o weithiau. Dylid cofio hefyd mai rhan o'i waith ef oedd pregethu. Teithiai ganoedd o filldiroedd bob blwyddyn, ac yn wastad ar ei draed a'i ffon yn ei law. Nid elai i un tŷ heb ddarllen a gweddio, a chymerai tua haner awr at y darllen, yr esponio a'r gweddio. Gwnelai hyny fynychaf trwy y flwyddyn amryw weithiau bob dydd. Nid elai i un ardal na theulu heb adael rhyw argraph ddaionus ar ei ol. Cofnoda ysgrifenydd cyntaf hanes ei fywyd engraifft darawiadol o'i ymdrech i wneyd lles i bawb. Yr oeddynt ill dau mewn tŷ, yn eistedd gyda eu gilydd. Daeth geneth fechan, nodedig o dlos, i mewn i'r ystafell atynt. Ymaflodd Mr. Jones yn ei llaw, a thynodd ei law dros ei phen amryw weithiau, a dywedai wrth wneyd hyny, "O, fy anwyl blentyn, y fath weithiwr ardderchog yw Duw; mor brydferth yw y corff dynol; 0, y fath gorff hardd roddodd ef i chwi; mor hollol y dylai gael ei ddefnyddio yn ei wasanaeth ef, i'w ogoneddu! O'r fath golled fyddai i'r corph tlws hwn fyned i uffern! O, fel y byddai cythreuliaid yn gorfoleddu am hyny!" Yna torodd allan i wylo yn hidl. Byddai yn arfer siarad yn y modd hwn a phlant pa le bynag yr elai. Crybwyllasom ei enw tua deng mlynedd yn ol wrth hen wraig bedwar ugain oed. Bywiocâodd ei hwynebpryd gyda y son am ei enw, "Cofio Mr. Jones, o'r Transh," ebe hi, Ydwyf, ac nid anghofiaf ef byth. Bu ei ddwylaw ar fy mhen i, a dywedodd bethau rhyfedd wrthyf." Dydd y farn yn unig a ddengys pa faint o ddaioni a wnaeth yn mhob lle, ac i bob gradd ac oed.

Yr oedd ei sel a'i hunanymwadiad gyda yr achos goreu yn ddiail. Pwy ond dyn yn berwi gan sel a chariad at Dduw a'i dŷ fuasai yn rhoddi deg punt ar hugain o'r unig ddeugain punt oedd ar ei helw at adeiladu y ty cyfarfod, ac a werthasai werth pymtheg punt o'i lyfrau i orphen talu am dano? Nid enw nac elw, ond gogoniant Duw a lles eneidiau, a barai iddo gerdded ugeiniau o filldiroedd i wasanaethu cynnulleidfaoedd am dri neu bedwar swllt. Cofnoda yn ei ddyddlyfrau ei fod yn myned o Gwm Ebbwy, yn sir Fynwy, i Gwmllynfell a Gwynfe i dreulio Sabbothau, heb dderbyn mwy na thri swllt a chwe' cheiniog am ei lafur. Ie, cawn iddo fyned cyn belled a Llanbrynmair i wasanaethu am ddau Sabboth yn 1732, lle y derbyniodd bum swllt a chwe' cheiniog am ei wasanaeth, ac ni rydd yr awgrym lleiaf fod y tâl yn anfoddhaol ganddo.

Yr oedd ei ffydd yn Nuw, a'i ymddiried yn ei Ragluniaeth yn ddisigl. "Jehofah Jireh—yr Arglwydd a ddarpara"—oedd ei arwyddair gwastadol. Treuliodd ei holl fywyd yn yr hyn a eilw dynion y byd yn sefyllfa o dlodi mawr, ond ni bu arno erioed eisiau dim. Chwe' phunt yn y flwyddyn oedd ei gyflog sicr, fel y dywedir, am rai blynyddau, sef tair punt oddiwrth ei eglwys, a thair o'r Drysorfa Gynnulleidfaol o Lundain. Ymddibynai am y gweddill o dreuliau ei gynaliaeth ar ragluniaeth noeth. Byddai rai prydiau ar fin newyn a noethni, ond nid ymddengys i bryder yn nghylch ei amgylchiadau erioed derfysgu dim ar ei fynwes. Anfonai cyfeillion o bell ac agos anrhegion iddo, ac yr oedd yr anrhegion hyny yn dyfod fynychaf i law, pan fuasai y dyrnaid diweddaf o'r blawd wedi ei gymeryd o'r celwrn, a'r diferyn olaf o'r olew wedi ei dywallt o'r ysten. Cedwid ef felly mewn ymddibyniad gwastadol a disgwyliad beunyddiol wrth yr Arglwydd. Gallasai brofiadol trwy ei oes ganu,

"Ti wnei wyrthiau os bydd achos
Cyn yr elo'r gwan i lawr,
Mae dy enw er y cynfyd
Wedi swnio'n enw mawr."


Yr oedd ei haelioni yn ddifesur. Os gwelsai ryw un mewn angen, estynasai iddo y geiniog ddiweddaf ar ei elw. Ie, mae genym hanes iddo unwaith dynu ei grys oddiam dano a'i wisgo am ddyn haner noeth, a gyfarfuasai ar y mynydd, ar ddiwrnod oer. Pan ddaeth adref, dywedodd wrth ei wraig yr hyn a wnaeth. Canmolodd hithau ef, gan ddywedyd, "Da y gwnaethoch i dosturio wrth y tlawd. Mae yr Arglwydd wedi talu yr echwyn yn dda eisoes. Gynneu daeth gwas Mrs.——— yma a gwlanen chwech o grysau yn anrheg i chwi."

Ond y peth a goronai ei holl ragoriaethau, oedd ei dduwioldeb seraphaidd a'r cymundeb cyson a ddaliai a'r Arglwydd. Treuliai ei holl amser i siarad a Duw dros ddynion, neu a dynion dros Dduw. Byddai am oriau bob dydd yn ei ystafell yn gweddio. Gwlychai y cadeiriau a'r llawr a'i ddagrau, wrth ymdrechu a'r Arglwydd mewn ymbiliau a gweddiau, ac anrhydeddwyd ef ag atebion anghyffredin a hynod i lawer o'i weddiau. Rhagfynegodd lawer o bethau rhyfedd am bersonau, lleoedd, a phethau, y rhai a ddaethant i ben yn ol ei air, ac o herwydd hyny edrychid arno fel un yn meddu ysbryd prophwydoliaeth. "Yr hen brophwyd" oedd yr enw wrth ba un yr adwaenid ef yn gyffredin. Mae yn amlwg fod "dirgelwch yr Arglwydd gydag ef" fel dyn a ofnai Dduw, ac a rodiai yn wastadol gydag ef, pa un bynag a ddatguddid pethau yn oruwchnaturiol iddo a'i peidio.

Gan fod ynddo gydgyfarfyddiad o'r holl ragoriaethau rhagrybwylledig, nid yw yn rhyfedd ei fod yn cael ei barchu, ac edrych i fynu ato gan ddynion da o bob sefyllfa. Yr oedd yn un o gyfeillion mwyaf mynwesol Iarlles Huntingdon. Ymwelai yn fynych a'i Hathrofa hi yn Nhrefecca, a derbyniodd lawer o anrhegion o'i llaw hi, a phendefigesau eraill, ac yn eu plith fantell nodedig, yr hon a wisgai bob amser yn mlynyddau diweddaf ei oes, ac a wnelai ei ymddangosiad yn hynod ac urddasol iawn. Ysgrifenai ei Harglwyddiaeth un tro, pan yr oedd Mr. Jones newydd ymadael o Drefecca: "Mae yr Hen broffwyd anwyl newydd ein gadael. O y fath Sant bendigedig ydyw; mor ymroddgar; mor fywiog; mor weithgar. Mae yn wastad yn sychedu am gymundeb cyflawn a Thad y goleuni. Bydd ei anerchiadau cyffrous i'r myfyrwyr, a'i weddiau taerion ac effeithiol am eu llwyddiant, yn sicr o gael eu dilyn gan fendith." Cyhoeddodd Mr. Jones amryw lyfrau; megys pregeth angladdol i Mr. Evan Williams, yn nghyda hanes helaeth o'i fywyd; pregethau ar y creaduriaid yn myned i'r arch, ac ar wallt Samson; Goleuni yr Efengyl; Hanes plwyf Aberystruth; Y llyfr ar ymddangosiadau ysbrydion, a rhai mân draethodau eraill. Gorphwysa ei lwch yn mynwent Ebenezer, hyd foreu yr "adgyfodiad gwell."

EBENEZER JONES. Ganwyd ef yn y Wernfelen, yn mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, yn sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1769. Derbyniwyd ef yn ieuangc iawn yn aelod eglwysig yn Mhentre-tŷ-gwyn. Nis gwyddom pa bryd y dechreuodd bregethu. Mae yn debygol iddo ddechreu cyn ei fod yn ugain oed. Yn haf y flwyddyn 1790, anfonodd gyffes o'i ffydd a chais am dderbyniad i athrofa Croesoswallt, at y Bwrdd Cynnulleidfaol. Cymeradwyid ei achos gan Thomas Thomas, Pentre-tŷ-gwyn, Jonathan Jones, Rhydybont, Howell Powell, Esgairdawe, a Thomas Bowen, Maesyronen. Mae y papurau hyn yn awr ger ein bron. Cymeradwywyd yr achos gan y Bwrdd, a derbyniwyd ef i'r athrofa Hydref 4ydd, 1790; ond nid ymddengys iddo fod yno yn hir. Symudodd i athrofa Caerfyrddin, yr hon a gedwid y pryd hwnw yn Abertawy. Mae yn debygol mai y rheswm o'i symudiad ydoedd i'w frawd, John Jones, LL.D., gael ei benodi yn un o'r athrawon i'r athrofa yn Abertawy. Yn y flwyddyn 1795, dewiswyd ef gan eglwys Ebenezer yn ganlyniedydd i'r enwog Edmund Jones. Nid oes genym unrhyw fanylion o berthynas i'w urddiad. Dywedir mai Mr. E. Skeel, Abergavenny, ddarfu weddio yr urddweddi. Yr oedd y rhan fwyaf o'r eglwys wedi bwriadu rhoddi galwad i Mr. Thomas Phillips, wedi hyny o'r Neuaddlwyd, ond pan glywsant Mr. Jones, trodd y lluaws o'i dy ef; oblegid meddir, i'r "Hen brophwyd" ragfynegu mai "Ebenezer" fuasai enw ei ganlyniedydd ef. Yn fuan wedi ei sefydliad yn Ebenezer, cymerodd ofal yr eglwys Annibynol yn Brynbiga, a gwasanaethodd y ddwy eglwys hyd derfyn ei

Yn Rhagfyr, 1820, cafodd ergyd trwm yn marwolaeth ei wraig ragorol, ar ol dros naw wythnos o gystudd trwm. Gadawodd ei phriod a saith o blant ieuaingc mewn adfyd a galar mawr. Yr oedd Mrs. Jones yn wyres i'r enwog Abraham Williams, gweinidog y New Inn, a Brynbiga, a chladdwyd hi yn medd ei thaid yn nghapel Brynbiga. Bu Mr. Jones farw Ionawr 31ain, 1829, a chladdwyd ef wrth gapel Ebenezer.

Yr oedd Ebenezer Jones yn un o'r dynion harddaf o gorff a mwyaf boneddigaidd ei ymddangosiad yn yr holl wlad. Yr oedd yn siaradwr hyawdl heb ei ail. Nis gallasai neb feddwl wrth ei glywed yn parablu y Gymraeg y gwyddai air o'r Saesoneg, ac wrth ei wrandaw yn llefaru yn Saesoneg, ni allesid deall y medrai air o Gymraeg. Yr oedd yn bregethwr melus odiaeth, a dywedai Mr. Hughes o'r Groeswen, y buasai y pregethwr mwyaf yn yr holl fyd, oni buasai i anghenion ei deulu lluosog ei orfodi i roddi llawer o'i amser at drafod pethau tymorol. Cyfrifid ef yn un o'r amaethwyr goreu yn sir Fynwy, ac edrychid i fyny ato gan foneddigion yr holl wlad, yn gystal a'r bobl gyffredin. Bu am fwy nag ugain mlynedd yn gyfieithydd yn y brawdlysoedd yn Nhrefynwy a Brynbiga. Dywedir i un o'r barnwyr yn Nhrefynwy unwaith gael ei daro a'r fath syndod at brydferthwch ei ymddangosiad, ei foneddigeiddrwydd, a'r hyawdledd fel siaradwr, nes y dywedodd wrth y boneddigion oedd o'i amgylch, "Gresyn fod y gwr yna yn Ymneillduwr, efe a wnelsai Esgob campus." Yr oedd ef yn esgob, a chyflawnodd waith esgob yn fwy effeithiol na chanoedd o rai a dderbynient filoedd yn y flwyddyn am eu gwaith.

EVAN ROWLANDS. Ganwyd ef yn ngwanwyn y flwyddyn 1792, yn Nghwm Tafolog, yn sir Drefaldwyn, tua dwy filldir o bentref Mallwyd. Nid oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac felly ni chafodd y fantais o gael ei feithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Ni chafodd hefyd yn moreu ei oes ond y peth nesaf i ddim o fanteision i ddyfod yn ysgolhaig. Dysgodd rywfodd ddarllen Cymraeg cyn ei fod yn ddwy-ar-bymtheg oed, a phrynodd Feibl Cymraeg y pryd hwnw. Cafodd ei enill at grefydd trwy weinidogaeth yr efengylwr duwiol a llafurus Mr. William Hughes, Dinas Mawddwy. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y flwyddyn 1814, pan yr oedd yn ddwy-ar-hugain oed. Yn mhen rhyw gymaint o amser wedi hyny dechreuodd bregethu. Ar ol dechreu pregethu aeth i ysgol a gedwid yn y Dinas gan Mr. O. Owens, wedi hyny o Resycae. Aeth oddiyno i ysgol y Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Nis gwyddom pa cyhyd y bu yno, ond trwy ymroad diorphwys tra yn yr ysgol, ac ar ol hyny, daeth yn ysgolhaig rhagorach na chanoedd o bregethwyr a gawsant lawer gwell manteision. Yr oedd yn deall y Gymraeg a'r Saesoneg yn dda, ac yn medru ysgrifenu y naill a'r llall o honynt yn ramadegol. Medrai hefyd wneyd llawer a r Hebraeg a'r Groeg, trwy gynnorthwy Geiriaduron. Derbyniodd alwad oddi—wrth yr eglwysi yn Nghapel Helyg a Rhosylan, sir Gaernarfon, yn 1824, ac urddwyd ef yno ar y 7fed a'r 8fed, o Ebrill, y flwyddyn hono. Yn nghyfarfod yr urddiad gweddiwyd ar y dechreu gan Mr. LI. Samuel, Bethesda; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. D. Griffiths, Talysarn; gofynwyd y gofyniadau arferol gan Mr. T. Lewis, Pwllheli; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. W. Hughes, Dinas; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Dr. T. Phillips; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Ar ol bod yn llafurio yn y cylch hwnw am bum' mlynedd, symudodd Mr. Rowlands i Bontypool, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu farw Ebrill 23ain, 1861, yn 69 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Ebenezer, yn ymyl ei ragflaenafiaid enwog Edmund ac Ebenezer Jones.

Yr oedd Mr. Rowlands yn ddyn pur iawn yn ei fuchedd; ni chyhuddwyd ef erioed gan un dyn o unrhyw gamymddygiad. Yr oedd yn gyfaill mor ddidwyll ag a rodiodd y ddaear erioed, ac yn ddyn diysgog a chydwybodol iawn. Yr oedd dipyn yn arw ac yn sarug tuag at rai y buasai yn tybied nad oeddynt yn ddynion hollol ddidwyll, a dichon i hyny fod yn anfantais iddo mewn rhai amgylchiadau. Yn y flwyddyn 1855, darfu i ni ar gais cyfaill, ysgrifenu darluniad byr o Mr. Rowlands fel dyn a phregethwr, a chan na chawsom achos i newid ein barn am dano o'r pryd hwnw hyd yn awr, caiff y darluniad hwnw wasanaethu fel diweddglo i'n bywgraffiad byr o'r gwr da: "Mae Mr. Rowlands oddeutu 63 oed. Yn ddyn o gorph mawr, nodedig o luniaidd, tua phump troedfedd a deg modfedd o daldra—ei wyneb yn arw iawn gan ol y frech wen; ond y mae ei dalcen mawr, llawn, a'i ddau lygaid bywiog a siriol, yn fwy na digon o iawn am eirwindeb ei wyneb. Y darluniad goreu a allwn roddi o'i feddwl, yw dyweyd ei fod yn debyg i'w gorph, yn un mawr, garw, lluniaidd, a nerthol. Dichon nad oes nemawr o weinidogion, os oes un, yn Neheudir Cymru, wedi darllen mwy o weithiau duwinyddion hen a diweddar na Mr. Rowlands. Mae ei lyfrgell yn cynnwys amryw ganoedd o gyfrolan, yn yr argraffiadau goreu, o weithiau y prif dduwinyddion, o'r oes Buritanaidd i lawr hyd yr oes hon; a thybiwn nad oes un ddalen o'r cyfrolau hyn heb ei throi ganddo a'i darllen yn ofalus. Yn gymaint a'i fod yn ddarllenwr mor fawr, gellir casglu yn naturiol fod ei bregethau yn gyfoethog o ddrychfeddyliau, ac mai nid cruglwyth o bennau llymion ydynt. Rhana ei bregethau yn drefnus i bennau a changhenau; ond nid gyda rhyw dlysni benywaidd. Nid mewn pertrwydd y mae rhagoriaeth ei bregethau yn gynnwysedig; ond mewn cydgasgliad o feddyliau grymus, nodedig am eu newydd-deb (freshness), er nad ydynt ond anfynych wedi eu caboli yn ofalus. Mae yn nghwrs cyffredin ei weinidogaeth gydgyfarfyddiad dedwydd iawn o'r athrawiaethol a'r ymarferol. Anfynych y clywir ef yn traddodi pregeth athrawiaethol, heb un ergyd ymarferol ynddi; nac ychwaith bregeth ymarferol, heb un nodiad athrawiaethol. Yn ei ieithwedd hefyd, ceidw ar lwybr canolog, rhwng y rhai a draddodant eu meddyliau mewn iaith sych a diaddurn, a'r rhai a'u claddant dan haenau o eiriau chwyddedig a brawddegau blodeuog. Mae Mr. Rowlands yn draddodwr hapus iawn—parabla yn eglur—nid yw un amser yn ddiffygiol o ddigon o eiriau cryfion a phwrpasol; ac y mae ganddo lais cryf a pherseiniol, a'r fath lywodraeth ar agwedd ei wyneb—pryd, fel y llefara ei olwg yn llawn mor effeithiol a'i eiriau. Ei drefn gyffredin yw siarad yn weddol araf, ond nid yn farwaidd, am yr haner awr gyntaf, gan bwysleisio yn gryf yn awr a phryd arall; ac yna, am yr ugain munud diweddaf (canys ychydig gyda thri chwarter awr yw hyd ei bregethau), cyfyd ei lais yn uchel, a thônia ef yn anarferol o beraidd, dair neu bedair o weithiau yn ystod yr amser hwnw; a bydd ei wrandawyr gyda phob toniad a rydd i'w lais, mewn tymer i waeddi allan, 'melus, moes etto.' Medrai ganu ei bregethau mor effeithiol a neb pwy bynag; ond ni chlywsom ef erioed yn gwneyd hyny, canys pregethwr ac nid fiddler ydyw. Saith mlynedd ar hugain i'r haf hwn y clywsom ef yn pregethu gyntaf. Gwrandawsom ef y pryd hwnw chwech neu saith o weithiau; a phe na buasem wedi ei weled na'i glywed byth wedi hyny, yr ydym yn sicr nas gallasem ei anghofio. Er ei fod yn awr mewn gwth o oedran, nid ydym yn gallu deall fod ei feddwl, na'i beirianau llafar wedi anmharu yn y mesur lleiaf. Dichon ei fod yn ei ddull cyffredin o draddodi, yn ystod y deg neu y pymtheg mlynedd diweddaf, wedi myned ryw faint yn fwy gwasgarog (diffusive), a thrwy hyny i raddau, a'r amserau yn llai effeithiol; ond rhodder ef i bregethu yn olaf o dri ar ddiwedd cymanfa, neu gyfarfod chwarterol, pryd na byddo ganddo o'r eithaf dros o haner awr i ddeugain munud o amser, a mil i un na bydd ef yn sicr o'i ergyd. Clywsom ef yn ddiweddar ar ddau o amgylchiadau felly, yn bwrw allan ddrychfeddyliau fel peleni o dân, nes cynhyrfu cynnulleidfaoedd mawrion fuasent wedi lluddedu wrth wrandaw deg neu ddeuddeg o bregethau, yn ystod y diwrnod hwnw, mewn capel gorlawn, nes y buasent oll yn sefyll ar eu traed, wedi llwyr anghofio eu lludded; ac ar ei waith yn diweddu, teimlai pawb yn siomedig, am na buasai yn parhau am awr yn ychwaneg. Dyna ddarlun—iad byr ac anmherffaith, ond cywir, feddyliwn, cyn belled ag yr a, o Mr. Rowlands fel dyn ac fel pregethwr. Mae ei enw a'i nodweddiad, fel gwein—idog da i Iesu Grist, yn deilwng o'u trosglwyddo i lawr i'r oesoedd a ddel."

Mae Mr. Hughes, Penmain, wedi ysgrifenu cofiant rhagorol o Mr. Rowlands, ac wedi ei gyhoeddi yn llyfryn.

Am y ddau weinidog a ddilynodd Mr. Rowlands, gan eu bod etto yn fyw, ni ddywedwn ragor nag a ddywedasom eisoes; ond yn unig y dymunem iddynt gael oes hir i fod yn ddefnyddiol, a gweled dyddiau da eu blaenafiaid.

NEW INN.

Mae cryn lawer o gamgymeriad yn bod gyda golwg ar ddechreuad yr achos yn y New Inn, Mynyddislwyn, a'r Groeswen. Dywedir mai aelodau o'r eglwysi plwyfol ddarfu ddechreu yr achos yn y tri lle, ond yr ydym ar seiliau cedyrn yn amheu cywirdeb y fath ddywediad, a gallwn gyfrif yn hawdd am ddechreuad y traddodiad sydd yn yr eglwysi hyn, mai o'r Eglwys Sefydledig y daeth eu sylfaenwyr allan.

Yr oedd ardaloedd y New Inn, Mynyddislwyn, a'r Groeswen, yn llawn o Ymneillduwyr er's mwy na phedwar ugain mlynedd cyn cyfodiad Methodistiaeth. Pan ddechreuodd y son am bregethu rhyfeddol a phoblogaidd Howell Harries, yn sir Frycheiniog, ymdaenu ar hyd y wlad, darfu i amryw o weinidogion enwocaf yr Ymneillduwyr yn Morganwg a Mynwy, megys Henry Davies, Blaengwrach; James Davies, Merthyr; David Williams, Watford; ac Edmund Jones, wedi hyny o Bont-y-pool, ei gymhell yn y modd taeraf i ddyfod i'w hardaloedd hwy i bregethu. Cydsyniodd a'u cais, a'r canlyniad fu i ddiwygiad crefyddol grymus ddechreu yn mhob un o'r ardaloedd hyn. Darfu i lawer iawn o aelodau yr eglwysi Ymneillduol deimlo nerth yr adfywiad, a myned lawer yn wresocach yn eu crefydd nag yr oeddent yn flaenorol, a chafodd niferi mawr o'r gwrandawyr yn y capeli Ymneillduol eu dwyn i wneyd proffes gyhoeddus o grefydd. Sefydlodd Mr. Harries yn fuan gymdeithasau (societies) mewn amryw ardaloedd, ac yn yr ardaloedd dan sylw yn mhlith eraill. Nid ar y cyntaf, fel yr ymddengys, gydag unrhyw fwriad i osod i fyny gyfundeb crefyddol newydd, ond yn unig er mwyn maethu y dychweledigion

Nodiadau[golygu]

  1. Rees's History of Nonconformity in Wales, pp. 431.
  2. Beirniad, Cyf. vi. tudalen 114.