Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Rhydywernen

Oddi ar Wicidestun
Aberllefeni Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Bethel
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Y Maerdy, Conwy
ar Wicipedia




RHYDYWERNEN

Mae y lle yma wedi derbyn ei enw oddiwrth amaethdy o'r enw Rhydywernen, yn mhlwyf Llanfawr. Saif ar gwr uchaf cwm cul, ond prydferth, sydd i'r Gogledd-orllewin o'r ffordd sydd yn arwain o'r Bala i Gorwen. Ymddengys fod pregethu achlysurol yma er o gylch y flwyddyn 1740.[1] Ond yn nhymor gweinidogaeth Mr Benjamin Evans, yn Llanuwchllyn, y dechreuwyd pregethu yma yn rheolaidd. Tua'r flwyddyn 1770, yr oedd gwr o'r enw Hugh Jones yn byw yn Rhydywernen, ac efe oedd perchenog y lle. Nid oedd fel yr ymddengys yn proffesu crefydd ei hun, ond ei fod yn ewyllysiwr da i'r achos, a gwahoddai bregethwyr yr Annibynwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd yn ddiwahaniaeth i'w dy i bregethu. Yn y flwyddyn 1775, adgyweiriodd Hugh Jones hen dy oedd ganddo at gadw mawn, a throdd of yn lle addoli. Ystafell isel, hirgul, a tho brwyn, tlodaidd iawn yr olwg arni ydoedd, ond buwyd yn addoli yma am fwy na haner can, mlynedd, a chafodd llawer o saint y dyddiau hyny wleddoedd blasus i'w heneidiau yn hen gapel Rhydywernen. Gwnaed meinciau a phulpud yn yr hen dy, ac yr oedd y llythyrenau H J., a'r ffugyrau 1775, ar y talcen uwchben y pulpud. Bu y lle o'r dechreuad dan ofal gweinidogion Llanuwchllyn, ac wedi symudiad Mr Benjamin Evans, i'r Drewen, yn 1777, daeth Meistri T. Davies, A. Tibbot, G. Lewis, ac M. Jones, yma yn olynol. Nis gwyddom pa flwyddyn y rhoddodd y Methodistiaid i fyny bregethu yma'i na pha bryd y ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Mae yn sicr yr arferai rhai oddiyma fyned i Lanuwchllyn i gymundeb yn nyddiau Mr B. Evans, ac y mae yn debyg mai wedi ei ymadawiad ef yn 1777, a marwolaeth Hugh Jones yn 1778, y rhoddodd y Methodistiaid i fyny ymweled a'r lle, ac y ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Dywedir mai Mr Abraham Tibbot a ffurfiodd yr eglwys yma, os felly, nis gallasai hyny fod cyn y flwyddyn 1784, canys dyna y flwyddyn y daeth ef i Lanuwchllyn. Nid oedd yn y cyfnod hwnw yr un capel yr holl ffordd o'r Bala i Wrecsam, ond Rhydywernen. Arferai yr hen gristion Sion Edward, a'i wraig, ddyfod yma o Gynwyd yn rheolaidd, a deuai Edward Jones yn ffyddlon yr holl ffordd o Langollen—pellder o ugain milldir yma bob mis i gymundeb. Yr oedd pregethwyr cymeradwy yn Llanuwchllyn, megis Robert Roberts, Robert Lloyd, a John Evans, y rhai a gynorthwyent eu gweinidogion, ac a ddeuent yma yn rheolaidd. Yn Mai, 1826, daeth Mr Hugh Pugh, o Dowyn, gadw ysgol i Bethel, ac i gynorthwyo Mr Michael Jones, yn yr eglwysi bychain newydd-ffurfiedig yn Edeyrnion. Urddwyd of yn Llandrillo, Gorphenaf 3ydd, 1827. Gan mai Rhydywernen oedd yr eglwys hynaf yn nghylch ei weinidogaeth, rhoddwn hanes ei urddiad yma. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr C. Jones, Dolgellau ; gofynwyd y cwestiynau arferol gan Mr M. Jones, Llanuwchllyn; gweddiodd Mr D. Roberts, Dinbych, am fendith ar yr undeb; pregethodd Mr H. Lloyd, Towyn, i'r gweinidog, a Mr E. Davies, Trawsfynydd, i'r eglwys; a Mr W. Williams, Wern, i'r gwrandawyr yn gyffredinol.[2] Mae yn debyg i'r urddiad gymeryd lle yn Llandrillo, oblegid fod y lle yn fwy canolog i'r holl aelodau yn nghylch y weinidogaeth. Cafodd Rhydywernen fantais fawr i fwynhau cymdeithas fuddiol ac addysg bur Mr Pugh, oblegid fod yn llettya yn nheulu yr haelionus a'r caredig William Jones, Coedybedo, ac yn cael edrych arno fel un o'r teulu, a mawr yr hiraeth a deimlid ar ei ol wedi ei symudiad i Fostyn.[3] Yn y flwyddyn 1828, adeiladwyd capel newydd cryf a hardd, a chyn pen ychydig flynyddau yr oedd ei holl ddyled wedi ei dalu trwy lafur yr ardalwyr yn benaf. Yn nhymor gweinidogaeth Mr Pugh, codwyd yma ddyn ieuangc o'r enw John Griffith i bregethu, yr hwn ar ol hyny a fu yn weinidog i'r eglwys hon. Yn Mai, 1837, symudodd Mr Pugh oddiyma i Mostyn, ar ol llafurio yma gydag ymroddiad mawr am unmlynedd-ar-ddeg. Ni bu yma yr un gweinidog sefydlog ar ol hyny dros rai blynyddoedd. Er i Mr Pugh gael ei ordeinio i fod yn gydweinidog a Mr Michael Jones, yn yr eglwysi hyn, etto, yr oedd Mr Jones wedi gadael y gofal yn hollol arno, fel y teimlai yr eglwysi eu bod heb fugail ar ol colli Mr Pugh. Ymwelid a'r lle yma fynychaf ar ol hyny gan Meistri M. Jones, Llanuwchllyn, a T. Ellis, Llangwm , ond yn 1841, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr John Griffith, yr hwn oedd eisioes wedi ymsefydlu yn yr ardal, ac yn byw yn Cablyd. Urddwyd ef Mai 21ain, 1841. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr C. Jones, Dolgellau; holwyd y gweinidog a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr T. Ellis, Llangwm; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr M. Jones, Llanuwchllyn, ac i'r eglwys gan Mr E. Davies, Trawsfynydd. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfod gan Meistri J. Parry, Wern; R. Ellis, Rhoslan; T. Ellis, Llangwm; W. Roberts, Pen ybont; T. Davies, Llandrillo; R. Evans, Derwen; J. Edwards, Croesoswallt, ac R. Thomas, Bala.[4] Bu Mr Griffith yn ymdrechgar a ffyddlon tra y parhaodd ei dymor. Profodd yr ardal hon awelon grymus y diwygiad yn 1840, fel yr oedd agos yr holl wrandawyr ar un adeg yn proffesu crefydd. Yr oedd Mr Griffith yma yn aelod a phregethwr gweithgar yn ystod y diwygiad hwnw, ac urddwyd ef yn agos i'w ddiwedd, pan oedd teimladau yn dechreu oeri, ac er nad oedd y tymor y bu yn y weinidogaeth yn dymor bywiog ar grefydd, etto, ni bu ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd. Bu farw Hydref 6ed, 1849. Dilynwyd ef yn y weinidogaeth yma gan Mr Humphrey Ellis, yr hwn wedi cael help gan Dduw sydd yn aros hyd yr awr hon i fugeilio yr hen eglwys barchus yn Rhydywernen, ac y mae golwg gysurus ar yr achos. Yn y flwyddyn 1862, prynwyd prydles y capel, fel y mae yn awr yn rhyddfeddiant; a phrynwyd hefyd ddarn o dir i wneyd mynwent, fel y mae y cwbl yn eiddo i'r eglwys yn y lle, ac y mae y rhan fwyaf o'r treuliau hyn wedi eu talu gan yr eglwys a'r ardalwyr, a llwyrfwriedir talu y gweddill yn fuan.[5]

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN GRIFFITH. Ganwyd ef yn yr ardal hon, yn y flwyddyn 1805. Gogwyddwyd feddwl yn foreu at grefydd, a phan yn ugain oed, derbyniwyd ef yn aelod yn hen gapel Rhydywernen, gan Mr Michael Jones. Ymaflodd o ddifrif yn ngwaith crefydd. Yr oedd yn athraw diwyd a ffyddlon yn yr Ysgol Sabbothol, a gwelodd yr eglwys gymhwysder ynddo, fel y dewiswyd ef pan yn ieuangc yn ddiacon. Anogwyd ef i ddechreu pregethu yn y flwyddyn 1832, ac er ei gymhwyso yn fwy i'r gwaith pwysig, aeth am dymor i'r ysgol at Mr M. Jones, i Lanuwchllyn, ac er cael cyfleustra ychwanegol i ddysgu yr iaith Saesonaeg, aeth at Mr. J. Jones, i Marton. Dychwelodd adref a phriododd, ac ymroddodd i fywyd amaethyddol, a phregethu yn achlysurol, ac yr oedd yn dra derbyniol yn mhob man lle yr elai. Rhoddwyd galwad iddo gan ei fam eglwys yn Rhydywernen i fod yn weinidog iddi, ac urddwyd ef Mai 21ain, 1841, a llafuriodd yn ffyddlawn am wyth mlynedd, nes y rhoddodd angau derfyn ar ei fywyd, Hydref 6ed, 1849, yn 44 oed. Claddwyd of oddifewn i furiau y capel, ac y mae maen coffadwriaeth iddo ar y mur ynddo. Yr oedd Mr. Griffith yn " wr da " - yn synwyrol a deallgar yn mhob peth, ac wedi casglu cryn lawer o wybodaeth yn gyffredinol. Nid amheuai neb nad ydoedd yn gristion cywir a defosiynol, ac fel pregethwr yr oedd yn Ysgrythyrol ac ymarferol, a'i ddifrifwch bob amser y fath fel y teimlau ei wrandawyr fod eu hachos tragwyddol hwy yn agos at ei feddwl. Bu fugail ffyddlon a gofalus dros y praidd ar yr rhai y gosodwyd ef yn olygwr a cherid ef yn fawr gan ei holl gydnabod, ac yr oedd y cynnulliad lluosog o honynt a ddaeth yn nghyd i'w angladd, yn gystal ac o'i frodyr yn y weinidogaeth, yn dangos mor barchus y safai yn eu meddyliau,

Nodiadau[golygu]

  1. Dysgedydd, 1830. Tu dal, 34. Cofiant Evan Dafydd, gan H. P.
  2. Cofiant y Parch. Hugh Pugh, gan y Parch. W. Rees, D.D. Tu dal. 13.
  3. Llythyr Mr H. Ellis.
  4. Dysgedydd, 1841. Tu dal. 290.
  5. Llythyr Mr. H. Ellis.