Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Towyn

Oddi ar Wicidestun
Fourcrosses Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Bryncrug
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Tywyn, Meirionnydd
ar Wicipedia




TOWYN.

Bu y rhan yma o'r wlad, rhwng y ddwy afon, Mawddach a Dyfi, yn hwy heb ei darostwng dan ddylanwad yr efengyl na'r rhan fwyaf o sir Feirionydd. Mae yn wir fod Bronyclydwr o fewn llai na phedair milldir i'r Towyn, ac nid oes dim yn fwy sicr na bod yr efengylwr llafurus, Hugh Owen, wedi pregethu llawer trwy yr holl ardaloedd hyn, ond nid oes yma er hyny, gymaint ag un eglwys ag y gellir ei holrhain hyd ei ddyddiau ef. Nis gall yr eglwysi Annibynol yma ddilyn eu hanes yn ddim pellach na dechreuad y ganrif bresenol, ac ni chafodd y Methodistiaid Calfinaidd ond ychydig o flaen arnynt. Pregethwyd ar y maes yn agos i'r Towyn gan Mr. William Jones, Machynlleth, fel y crybwyllasom yn ein cofnodiad of hono yn nglyn a'r eglwys yno, (tu dal. 296,) a therfysgwyd yr addoliad, a dychrynwyd y pregethwr, trwy ddyfodiad gweision Mr. Corbet, Ynysmaengwyn, gyda haid o fytheuaid i aflonyddu. Yr oedd hyn o gylch y flwyddyn 1789, ond nid oes genym hanes am yr Annibynwyr yn cynyg pregethu yma ar ol hyny, hyd ddechreu y ganrif bresenol. Mae yn ymddangos mai Meistri Hugh Pugh, Brithdir, a J. Roberts, Llanbrynmair, oedd a'r llaw flaenaf yn sefydliad yr achos yma. Yr oedd gan Mr. Pugh berthynasau yn byw yn y gymydogaeth hon, a hyny, fel yr ymddengys, a fu yr achlysur i'w arwain yma. Fel hyn yr ysgrifena y diweddar Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, yn nghofiant Mr. Pugh, o'r Brithdir.—" Yn ffurfiad yr eglwys Ymneillduedig yn Nhowyn, yr oedd Mr. Pugh, ac ysgrifenydd y cofiant hwn, yn bresenol, a chanddynt hwy y gweinyddwyd Swper yr Arglwydd y tro cyntaf yn y dref, yn ol trefn yr Anymddibynwyr. Yr wyf yn meddwl fod hyn yn y flwyddyn 1803. Y rhai fu yn benaf yn offerynol i ddechreu yr achos yn Nhowyn oeddynt, Hugh Edwards, o Lanyrafon, a Miss Mary Jones, chwaer Hugh Jones, o Dowyn, y rhai a rodiasant yn deilwng o efengyl Crist hyd derfyn eu hoes."[1] Yr oedd David Jones, tad Mr. Daniel C. Jones, Abergwyli, hefyd yn un o'r aelodau cyntaf yn y lle, a pharhaodd yn ffyddlon am ei oes faith, a chyn hir, daeth John Davies, Glasbwll, wedi hyny, i'r gymydogaeth i wasanaethu, ac fel canwr cryf, a gweddiwr doniol, bu o help mawr i'r achos. Cyfarfyddent mewn tŷ yn Lion-street, yr hwn a gymerasid dan ardreth. Heblaw y gweinidogion a enwyd, ymwelai Mr. Azariah Shadrach a'r lle ar ol ei sefydliad yn Nhalybont. Yn nechreu y flwyddyn 1807, urddwyd Mr. James Griffith, yn weinidog yn Machynlleth, a chymerodd ef ofal yr achos bychan yn Nhowyn, a'r achosion oedd erbyn hyn wedi eu cychwyn yn Llanegryn a Llwyngwril. Bu Mr. Griffith yn hynod o lafurus i ymweled a'r lle, ond oblegid eangder maes ei lafur, nis gallasai ddyfod ond yn anfynych. Yn fuan ar ol hyn, dechreuodd Mr. David Morgan, Talybont, ei ymweliadau misol a'r lleoedd hyn, a pharhaodd felly am bedair blynedd. Yn Ꭹ flwyddyn 1811, barnodd Mr. Griffith yn angenrheidiol, oblegid eangder y maes, i roddi y Towyn a'r lleoedd cysylltiedig i fyny, ac anogwyd Mr. David Morgan, o'r hwn yr oeddynt eisioes wedi cael blynyddoedd o brawf, i gymeryd eu gofal. Cydsyniodd Mr. Morgan a'r cymhelliad, ac urddwyd ef mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar wyneb yr heol yn y Towyn, yn mis Mawrth, 1813. Deuai yma ar ol hyn ddwy waith y mis, ond ni symudodd i fyw o Cerigcaranau, (neu Cerigtaranau, fel yr ysgrifena rhai ef,) sir Aberteifi. Ymdrechodd Mr. Morgan yma a'i holl egni er gwaned oedd yr achos, hyd ddiwedd 1814, pryd y symudodd i Fachynlleth, fel olynydd i Mr. Griffith, ar ei ymadawiad i Dyddewi. Wedi ymadawiad Mr. Morgan, bu Mr. Titus Jones yn aros am ychydig yma. Symudodd i sir Fon, ac aeth at y Methodistiaid, a bu yn pregethu gyda hwy am dymor hir. Yr oedd yn adnabyddus iawn yn Morganwg, lle treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, fel hen gymeriad gwreiddiol, ac y mae llawer o'i ffraeth-ddywediadau yn aros ar gof a chadw. Yn y flwyddyn 1816, cafodd Mr. Hugh Lloyd, alwad gan yr eglwys yma, a'r eglwysi yn Llanegryn a Llwyngwril, ac urddwyd ef yn Llanegryn Hydref 3ydd, 1817, ac ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; M. Jones, Llanuwchllyn; D. Morgan, Machynlleth; A. Shadrach, Talybont; W. Hughes, Dinas; J. Lewis, Bala; James Davies, Aberhafesp, a C. Jones, Dolgellau.[2] Gan fod yr achos yn wan, ychwanegodd Mr. Lloyd, fel y gwnai y rhan fwyaf o weinidogion y cyfnod hwnw, y swydd o ysgolfeistr at y weinidogaeth, ac yn y naill a'r llall, gwnaeth fwy o les i eraill nag a wnaeth o elw iddo ei hun. Yr oeddynt dan anfantais fawr o eisiau lle mwy cyfleus i addoli. Yr oedd anhawsder mawr i gael tir, ac yr oedd yr eglwys yn ychydig mewn nifer, ac yn dlodion agos oll, fel nad oedd calon ynddynt at y gwaith, ac nid oedd ond ychydig o ysbryd anturio yn Mr. Lloyd ei hun. Cafodd dir ar werth, a phrynodd ef am 74p., a phenderfynodd y mynai gael 200p. i law cyn dechreu adeiladu, a llwyddodd yn hyny. Codwyd capel prydferth a chyfleus. Galwyd ef Bethesda, ac agorwyd ef Mehefin 21ain, 1820, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri E. Davies, Cutiau; R. Jones, Llanfyllin; R. Roberts, Brithdir; W. Jones, Caernarfon; D. Griffith, Bethel; E. Davies, Rhoslan; J. Davies, Llanfair; J. Lewis, Bala; O. Thomas, o sir Fon; W. Hughes, Dinas, a C. Jones, Dolgellau.[3] Teithiodd Mr. Lloyd trwy Yorkshire, a pharthau eraill o Loegr i gasglu ato, a chyn diwedd y flwyddyn 1820, yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu, ac yn nglyn a hanes yr agoriad yn yr Evangelical Magazine, y mae Mr. Lloyd yn cymeryd y cyfle i ddiolch i'r cyfeillion caredig yn Lloegr, y rhai yn haelfrydig a roisant iddo Ꭹ fath gynorthwy amserol. Bu Mr. Lloyd yn gyson a dyfal yn ei lafur yma, ac ennillodd yr achos dir yn raddol, ac yr oedd cymeriad uchel a difrycheulyd y gweinidog a'r eglwys, yn rhoddi iddo safiad parchus yn ngolwg trigolion y lle. Yn nechreu y flwyddyn 1849, barnodd Mr. Lloyd yn ddoeth i gael gwr ieuange i gydlafurio ag ef, a chydsyniodd ef a'r eglwys i roddi galwad unfrydol i Mr. Isaac Thomas, aelod o Carmel, Cendl, ac urddwyd ef Medi 27ain, 1849. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gofyniadau gan Mr. H. Lloyd, Towyn; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. E. Davies, o Drawsfynydd; pregethodd Mr. C. Jones, i'r gweinidog, a Mr. E. Evans, Maentwrog, i'r eglwys. Yr oedd yn bresenol hefyd Meistri R. Ellis, Brithdir; W. Davies, (gynt o Rymni), J. Jones, Abermaw; S. Edwards, Machynlleth; O. Thomas, Talybont; R. Roberts, Clarach; J. Williams, Aberhosan; G. Evans, Pennal; J. Owen, Nefin, ac E. Williams, Dinas.[4] Llafuriodd Mr. Thomas fel plentyn gyda thad hyd farwolaeth Mr. Lloyd yn mis Medi, 1861, ac er hyny y mae y gofal yn gwbl arno ef, a'r achos yn myned rhagddo yn siriol iawn. Yn 1866, helaethwyd y capel, fel y mae yn dŷ eang a chyfleus, y fath ag y sydd yn cyfateb i'r lle prydferth a chynyddol y mae ynddo.

Mae yma lawer o bobl dda wedi bod o bryd i bryd yn nglyn a'r achos, heblaw y rhai a enwyd yn nglyn a'i gychwyniad. Nid ydym wedi cael rhestr o'u henwau, gan hyny, ymataliwn rhag crybwyll enwau yr ychydig a adwaenem, rhag i ni adael allan eraill llawn mor deilwng, ond gwyddom na bydd yn dramgwydd i neb i ni grybwyll am enw Mrs. Lloyd, gwraig y gweinidog, yr hon oedd nid yn unig "yn rhodd gan yr Arglwydd" i Mr. Lloyd, ond hefyd i'r achos yn Nhowyn. Mae yr engraifft a ddyru Dr. W. Rees, Liverpool, o'i chraffder a'i thynerwch, yn nghofiant Mr. Pugh, Mostyn, yn dangos mai un yn mysg mil ydoedd, ac nid heb achos y gofyna, "A oes yn mysg merched Seïon yn awr lawer o'r ddelw hon o Gristionogion?"

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :—

Hugh Pugh. Urddwyd ef yn Llandrillo, a symudodd i Mostyn, lle y daw ei hanes dan ein sylw.

John Humphrey. Bu am ysbaid yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys hon. Ymfudodd i'r America, lle y daliodd ei ffordd yn anrhydeddus, a bu farw mewn oedran teg.

David S. Thomas. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Glandwr, Penfro, lle y mae etto.

John E. Thomas. Brawd i'r uchod. Mae yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin.

Yn yr eglwys hon y magwyd D. C. Jones, Abergwyli, ond fel y crybwyllasom yn nglyn a'r Graig, Machynlleth, yno y dechreuodd bregethu. Mae Thomas Davies, a Hugh P. Jones, yn awr yn bregethwyr cynorthwyol yn yr eglwys.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

.

HUGH LLOYD. Ganwyd ef Medi 11eg, 1790, mewn amaethdy bychan o'r enw Bryngoleu, o fewn dwy filldir i'r Bala. Yr oedd ei dad, William Llwyd, yn ddiacon yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhalybont, gerllaw y Bala. Bu farw ei dad pan nad oedd ef ond wyth oed, ac ar ol bod am dymor yn yr ysgol yn y Bala, rhwymwyd ef yn egwyddorwas i ddysgu y gelfyddyd o ddilledydd. Ar ol dyfod yn rhydd, aeth i Swinton, yn agos i Manchester, ac yno fel y tybir y daeth i gysylltiad a'r Annibynwyr.[5] Dychwelodd yn ol i'w wlad oblegid sefyllfa ei iechyd, a bu yn cadw ysgol mewn amryw fanau, a phan yn cadw ysgol yn Mhenystryd anogwyd ef i ddechreu pregethu. Symudodd oddiyno i'r Groeslon, Mon, i gadw ysgol ac i bregethu, ond yn y flwyddyn 1816, cafodd alwad gan yr eglwysi yn y Towyn, Llanegryn, a Llwyngwril, y rhai oeddynt er's yn agos i ddwy flynedd heb fugail, oblegid symudiad Mr. Morgan, i Fachynlleth. Urddwyd Mr. Lloyd yn Llanegryn, Hydref 3ydd, 1817. Ymroddodd a'i holl egni i wneyd ei waith, ac ni bu ei ymdrechion yn ofer. Cododd yn ei oes gryn nifer o gapeli, ond nid oedd mewn un modd am ddal ei afael ynddynt, ond cyn gynted ag y gwelai eu bod yn alluog i gynal gweinidog eu hunain, anogai hwy i wneyd hyny. Yn y flwyddyn 1836, rhoddodd yr eglwysi yn Llanegryn, Llwyngwril, a Llanfihangel i fyny, ond parhâi i ymweled a hwy tra y gallodd. Yn y flwyddyn 1824, priododd a Miss Thomas, merch ieuangc rinweddol o Abergwaun, yr hon a fu iddo yn "ymgeledd gymhwys." Ymgymerodd a masnach oblegid fod yr eglwysi dan ei ofal yn rhy wan i'w gynal, a pha faint bynag o anfantais a fu hyny iddo fel pregethwr, etto bu o fantais fawr i'w ddylanwad fel dyn cyhoeddus yn y dref, a rhoddodd gyfle iddo i gymeryd ei ran yn amlwg gyda phob peth, a chyfranu at bob achos, yr hyn nis gallasai pe gorfodasid ef i fyw ar yr hyn a allasai ei eglwysi gyfranu at ei gynhaliaeth. Gyda Bwrdd Iechyd y lle, a'r Ysgol Frutanaidd, a Chymdeithas y Biblau, nid oedd neb yn fwy blaenllaw nag ef, ac yr oedd ei wybodaeth gyffredinol, a'i synwyr cyffredin cryf yn rhoddi iddo ddylanwad mawr gyda'r fath bethau. Yr oedd yn ofnus a gochelgar yn mhob peth, ac yn wastad am gadw ar yr ochr ddiogelaf, a chadwodd hyny ef rhag rhuthro i bethau y tu allan i'w derfynau. Yr oedd yn gyfaill cywir a didwyll, ac yn cael ei garu fwyaf gan ei bobl ei hun, a'r rhai a'i hadwaenent oreu. Nid ymgododd yn uchel fel pregethwr, ac nis gallasai ychwaith, gan nad oedd ei alluoedd yn gryfion na'i ddoniau yn helaeth, ond yr oedd yn bregethwr sylweddol, a chanddo yn wastad genadwri i'w thraddodi a "fyddai da i adeiladu yn fuddiol." Profodd ei fod yn fugail ffyddlon a gofalus. Er nad ymddibynai ar bobl ei ofal am ei gynhaliaeth, ac er ei fod yn eu gwasanaethu yn rhad trwy ei oes, etto, nid oedd hyny yn peri ei fod yn ddiofal yn eu cylch, ond teimlai mai goruchwyliwr cyfrifol i'w feistr ydoedd, ac fel y cyfryw, gofalai am fod yn ffyddlon. Yr oedd wedi cael ergyd o'r parlys rai blynyddau cyn ei farw, yr hyn a'i hanalluogai i siarad yn gyhoeddus, ond yr oedd mor llawn o ysbryd ei waith fel y mynai gael pregethu er nad oedd ei wrandawyr yn deall fawr ddim o'r hyn a lefarai. Yn ei gystudd diweddaf teimlai fod ei angor yn dal yn ddiysgog. Y Sabboth cyn ei farw, gofynwyd iddo gan un o'i gyfeillion, a oedd yn gallu mentro ei hun ar Grist? "Mentro," ebe yntau, "nid mentro, ond ymddiried fy hun yn gwbl i'w ofal." Bu farw Medi 25ain, 1861, yn 71 oed, ac yn mhen tri diwrnod rhoddwyd ei weddillion marwol i orwedd yn y llanerch oedd yn gysegredig yn ei olwg yn ei flynyddoedd olaf, oblegid mai yno yr oedd lle beddrod ei anwyliaid.

Nodiadau[golygu]

  1. Dysgedydd, 1824. Tu dal. 355.
  2. Evangelical Magazine, 1817. Tu dal. 535.
  3. Evangelical Magazine, 1820. Tu dal. 390.
  4. Dysgedydd, 1849. Tu dal. 346
  5. Cofiant y Parch. Hugh Lloyd, Towyn.—Annibynwr, 1862. Tu dal. 146.