Lleidr Serch

Oddi ar Wicidestun

gan Gruffudd ab Adda

Ethum wythwaith glwyfiaith glan,
i’r wig hwnt, orwag hyntiau;
bûm fal gwr angall allan
yn gwlio tŷ heb gael tân.
Hawdd gennyf, hoywdda gynnydd,
myn gwir Dduw, cyn no gwawr ddydd,
er mwyn Gwen yn ddiennig
encil i wegil y wig.
Gwawr y wig sy i’m digiaw,
Gŵr ar draed i garu draw;
Diobaith wyf, ‘rwyf rewin
o haul y wig, heilai win.
O dai o’m gŵyl rhai yn rhedeg
Yn ardal boen dâl bun deg,
Wyf yno, rhyfelglo rhwyd,
Carnlleidr, medd mab aillt cernllwyd.
Nid wyf leidr ar daflawdrwydd
yn gochlyd tywyn-bryd dydd:
lleidr wyf, mae clwyf i’m clymu,
lleidr merch deg, nid lleidr march du;
nid lleidr myharen heno,
lleidr meinwen drwy ddien dro;
nid lleidr buarth gwartheg,
lleidr hon, wedd tonm dan wŷdd teg;
lleidr eres hudoles hy,
lleidr poendaith, nid lleidr pandy;
lleidr dirwyn morwyn nid mau,
lleidr pursech, nid lleidr pyrsau;
nid wyf leidr un llwdn carnawl,
arnaf ni b hwyaf hawl:
lledrad gariad a’m gorwyf;
lleidryn, boen efyn, bun wyf.