Mae enw Crist i bawb o'r saint
← | Mae enw Crist i bawb o'r saint gan James Hughes (Iago Trichrug) |
123[1] Enw Grasol Iesu.
M. S.
1 MAE enw Crist i bawb o'r saint
Fel ennaint tywalltedig,
Ac yn adfywiol iawn ei rin
I'r enaid blin lluddedig.
2 Pan fyddo f'enaid yn y llwch,
A thwllwch fel y fagddu,
Mae dawn a nerth i'm dwyn yn ôl
Yn enw grasol Iesu.
3 Gobeithiwch ynddo, bawb o'r saint,
Er cymaint yw eich gofid,
Gan wybod bod eich Priod gwiw
Yn ffyddlon i'w addewid.
- —James Hughes (Iago Trichrug)
Ffynhonnell[golygu]
- ↑ Emyn rhif 123, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930