Marwnad Cynddylan

Oddi ar Wicidestun
Dyhedd deon diechir by[g]eledd
Rhiau a Rhirid a Rhiasedd
a Rhygywarch lary lyw eirassedd
ef cuiniw ini uuif im derwin fedd:
o leas Cynddylan yn ei faured
Maured gymined a feddyliais
myned y fenai cyn nim bai fais
carafi am eneirch o dir kemeis
gwerling dogfeiling Cadelling trais
Ef cuiniw ini uuyf im derw llednais
o leas cynddylan colled annofais
Maured gymined ei feddyliaw
myned i fenai cyn nim bai naw
carafi am eneirch o Aberffraw
gwerling dogfeiling Cadelling ffrew
Ef cuinif ini uuyf im derwin taw
o leas Cynddylan a'i luyddaw
Maured gymined gwin waretawg
wyf coddedig wen hen hiraethawg
collais pan amuith alaf penawg
gwr dewr diachor diarbedawg
cyrchai drais tra Thren tir trahawg
ef cuinif ini uuyf yn ddaear fodawg
o leas Cynddylan clod Garadawg
Maured gymined mor fu da fawd
a gafas Cynddylan cynrhan cyffrawd
saith gant rhiallu in y speidiawd
pan fynnwys mab pyd mor fu parawd
ny darfu yn neithawr ni bu priawd
gan dduw py amgen plwyf py du daearawd
ef cuinif ini uuyf in erv vetrawd
o leas Cynddylan clod addwyndawd
Maured gymined mor wyf gnodaw
pob pysg a milyn yd fydd teccaw
i drais a gollais gwir echassaw
Rhiau Rhirid a Rhiadaw
a rhygyfarch lary lu pob eithaw
Dyrrynt eu preiddau a doleu taw
caith cwynynt brefynt grydynt alaw
ef cuinif ini uuyf i erv penylaw
o leas Cynddylan clod pob eithaw
Maured gymined a weli di hyn
yd lysg fynghalon fal ettewyn
hoffais mewredd eu gwyr ai gwragedd
ni ellynt fyn nwyn brodir am buiad gwell ban vythin
canawon artir wras dinas degyn
rhag Caer Luitcoed neus digonsyn
crau y dan frain a chrai gychwyn
briwynt calch ar gwyn feibion Cyndrwynyn
ef cuinif ini uuyf yn nhir gwelyddyn
o leas Cynddylan clodlawn vnbyn
Maured gymined mawr ysgafael
y rhag Caer Luitcoed neus dug moriael
Pymtheccant muhyn a phum gwriael
pedwar vgeinmeirch a seirch cychafael
pen esgob hunob ym mhedeirael
nis noddes myneich llyfr afael
a gwyddws yn eu creulan o gynrhan claer
nid engis or ffossawd brawd ar y chwaer
Diengynt ai herchyll ffrewyll yn taer
ef cuinif ini uuyf in erv tra gwael
o leas Cynddylan clodrydd pob hael.
Maured gymined mor oedd eitun
gan fy mryd pan athreiddwn pwll ac Alun
ir uruin y dan fy nrhaed hyd bryd cyntun
plwde y danaf hyd ymhen fynghlun
a chyn eithuiue yno im bro fy hun
nid oes vn car neud adar iu warafun
a chynim dyccer i dduw ir digfryn
ni ddigones neb o bechawd cyhawal i mi hun