Mi af ymlaen yn nerth y nef

Oddi ar Wicidestun
D A'i 'mofyn haeddiant byth, na nerth Mi af ymlaen yn nerth y nef

gan William Williams, Pantycelyn

Mor beraidd i'r credadun gwan
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

113[1] Nerth a Hyfrydwch yng Nghrist.
M. C.

1.MI af ymlaen yn nerth y nef
Tua'r paradwysaidd dir;
Ac ni orffwysaf nes cael gweld
Fy etifeddiaeth bur.

2.Mae llais yn galw i maes o'r byd
A'i bleser o bob rhyw;
Minnau wrandawa'r hyfryd sŵn—
Llais fy Anwylyd yw.

3.'D wy'n gweld ar aswy nac ar dde,
'Mhlith holl wrthrychau'r byd,
Ddim dâl ymddiried yn ei nerth,
Na rhoddi arno 'mryd.

4.Iesu yw tegwch mawr y byd,
A thegwch penna'r nef;
Ac y mae'r cwbwl sydd o werth
Yn trigo ynddo Ef.

5.A boed fy mhleser bellach byth
O dan ei adain wiw;
Na foed difyrrwch gennyf mwy
Mewn dim ond yn fy Nuw.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 113, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930