Minnau, fardd rhian feinir

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Minnau, fardd rhiain feinir,
yn llawen iawn mewn llwyn ir,
a'r galon fradw yn cadw cof,
a'r enaid yn ir ynof.
Addwyned gweled y gwydd,
gwaisg nwyf, yn dwyn gwisg newydd,
ac egin gwin a gwenith
ar ol glaw araul a gwlith,
a dail glas ar dal y glyn,
a'r draenwydd yn ir drwynwyn.