Mwyalchen
Gwedd
- Y ceiliog mwyalch balchbwyll,
- Dawn i'th dal, a dyn ni'th dwyll.
- Cyfion mewn glyn d'emyn di
- Cyson o union ynni.
- Crefyddwr wyd anwydawl,
- Credi fi, croyw yw dy fawl.
- Gwisgaist, enynnaist annerch,
- Gwisg ddu, nid er selu serch.
- Gwisg a ddanfones Iesu
- Is y dail it osai du,
- A dwbwl gwell na deuban
- Mawr ei glod, o'r mwrai glan.
- Sidan gapan am gopa
- Yn ddu roed yn ddiau'r ha',
- Dwbled harddgled mewn rhedyn
- Blac y lir uwch glandir glyn.
- Muchudd dy ddeurudd eirian,
- Pig cwrel gloyw angel glan.
- Prydydd wyd, medd proffwydi
- Cywyddol maenol i mi,
- Awdur cerdd adar y coed,
- Esgud, cyw mwyndrud meindroed.
- Os gwyddost yn osgeiddig,
- Annerch gwen dan bren a brig;
- Os gwn innau o newydd
- Sgwir gwawd, ysgwier y gwydd,
- Ganu moliant a'i wrantu
- I ti, y ceiliog, wyt du.