O! am gael ffydd i edrych
Oddi ar Wicitestun
- gan Categori:Ann Griffiths
- O! am gael ffydd i edrych
- Gyda'r angylion fry
- I drefn yr iechydwriaeth,
- Dirgelwch ynddi sy;
- Dwy natur mewn un Person
- Yn anwahanol mwy,
- Mewn purdeb heb gymysgu,
- Yn berffaith hollol trwy.
- O! f'enaid, gwêl addasrwydd
- Y Person dwyfol hwn,
- Mentra arno'th fywyd
- A bwrw arno'th bwn;
- Mae'n ddyn i gydymdeimlo
- Â'th holl wendidau i gyd,
- Mae'n Dduw i gario'r orsedd
- Ar ddiafol, cnawd, a byd.
- Rhyw hiraeth sy am ymadael
- Bob dydd â'r gwaedlyd faes,
- Nid â'r arch, nac Israel,
- Ond hunanymchwydd cas;
- Cael dod at fwrdd y Brenin,
- A'm gwadd i eiste'n uwch,
- A minnau, wan ac eiddil,
- Am garu yn y llwch.
- Er cryfed ydyw'r stormydd
- Ac ymchwydd tonnau'r môr,
- Doethineb ydyw'r peilat,
- A'i enw'n gadarn Iôr;
- Er gwaethaf dilyw pechod
- A llygredd o bob rhyw,
- Dihangol yn y diwedd
- Am fod yr arch yn Dduw.