Oriau yn y Wlad (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Oriau yn y Wlad (testun cyfansawdd)

gan Robert David Rowland (Anthropos)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Oriau yn y Wlad
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Robert David Rowland (Anthropos)
ar Wicipedia




𝑶𝒓𝒊𝒂𝒖 𝒚𝒏 𝒚 𝑾𝒍𝒂𝒅

NEU

GYDYMAITH GWYLIAU HAF.






GAN

ANTHROPOS.






CAERNARFON:
ARGRAFFWYD GAN GWMNI'R WASG GENEDLAETHOL GYMREIG [CYF.].
1898.

Y GWAHODDIAD.

Awn yn nwyfus, i'r mynyddau,
Dringwn lethrau'r gwyrddlas fryn;
Yfwn awel bur y moelydd,
Lle y crwydra'r cwmwl gwyn;
Awn, lle dawnsia y cornentydd,—
Awn, lle gwena blodau'r maes,—
Awn, lle can y gog a'r hedydd,
Fawl yr haf mewn awyr las!

ANTHROPOS.


YR HEN GYMYDOGAETH.

I.

WEDI blynyddau o absenoldeb, cefais y dwfn bleser o dreulio wythnos yn hen ardal fy mebyd. Yr oedd yr adeg yn un hyfryd; delw haf yn argraphedig ar bob peth. Treuliwyd y dydd cyntaf yn yr "Eisteddfod Gadeiriol," cyfle manteisiol i weled llawer o gyfeillion y dyddiau gynt. Gan fod gweithrediadau y gylchwyl wedi ymddangos yn gryno ar ddalenau y newyddiaduron nid oes angen ychwanegu dim yn y cyfeiriad hwnw. Da oedd genyf weled y boneddwr o Rûg mor aiddgar a phybyr dros y sefydliad. Gall wneyd llawer o les yn y ffordd hon, a bydd yn enillydd ei hunan yr un pryd. Y mae efe eisoes yn "Anrhydeddus" o ran teitl, ond ychwanegir at ei anrhydedd os pery yn gefnogydd llenyddiaeth a chân. Llawenydd oedd genyf weled amryw o feirdd a llenorion Edeyrnion a'r cyffiniau. Yno yr oedd Rhuddfryn yn ymddangos yn wir barchedig, a'r llygaid treiddlym hyny yn edrych drwy bethau; Hywel Cernyw, yntau, yn dechreu britho, ond yn fywyd i gyd. Gyda'r brawd caredig W. R. yr oedd fy head-quarters tra yn ymdroi yma ac acw yn yr hen gym'dogaeth. Rhyfedd oedd genyf feddwl fod saith mlynedd lawn er pan fuom yn cerdded heolydd Corwen yn flaenorol! Y mae llawer cyfaill wedi ymado, ac aml i wyneb wedi newid er 187—. "Sut mae Hwn-a-hwn?" Ond nid oeddynt i'w cael; eto y mae llawer i'w canfod hyd y dydd hwn. Awn am dro ar hyd y brif heol oddiwrth orsaf y rheilffordd i waelod y dref.

Ar y chwith, dyma gapel haiarn wedi ei droi yn warehouse dodrefn, ac ymddengys yn hardd. Tebyg iawn yw yr Ysgol Frutanaidd i'r hyn ydoedd pan oedd Mr. Clarke yn ysgolfeistr. Y mae yr yard bron fel cynt, ond beth am y bechgyn a'r genethod oedd mewn afiaeth yn chwareu yma yr adeg hono? Nid ydyw ond megis doe; er hyny—

Nid oes un gloch a ddichon
Eu galw heddyw'n nghyd.

Lle mae Ivy House? Llawer gwaith y bum yno pan oedd y Parch. W—— yn weinidog yn Nghorwen. Yr ydwyf yn ddyledwr iddo am lawer o hyfforddiant a charedigrwydd. Ganddo ef y cefais waith Henry Kirke White yn anrheg. Dyma un o'r llyfrau goreu genyf hyd heddyw, oblegid efe a agorodd fy meddwl i weled rhyw gymaint o degwch barddoniaeth. Ond y mae "Ivy House" wedi peidio a bod, a'i le nid edwyn ddim. o hono mwy. Yr un pryd, rhaid addef fod yr addoldy yn edrych yn well o dan yr oruchwyliaeth bresenol. Chwith oedd genyf weled y cyfnewidiad yn siop "Robert Evans y Barbwr." Lle enwog am "sgwrs fu y siop hon. Byddai ambell un yn tynu dadl â "Bob," a gwae y neb fyddai dan yr ellyn y pryd hwnw! Collwyd llawer o waed yn y dadleuon hyn!

II.

BELLACH, ddarllenydd, ni a esgynwn i Ben-y-pigyn. Awn yn hamddenol, rhag ofn i ti gael "pigyn" yn dy ochr wrth ddringo. Bum yn ysgafn droedio y ffordd hon ganwaith er's talwm, ond yr wyf braidd yn meddwl fod y llwybr yn fwy serth nag ydoedd y pryd hwnw. "Pan ddaethum i Fangor yn llanc," ebai gwr wrthyf yn ddiweddar, "ni wyddwn fod un allt yn y lle. Erbyn heddyw y mae yn elltydd i gyd!" Y gwir yw, nid yw ieuengctyd yn meddwl am y peth, ac un o arwyddion henaint ydyw fod y gelltydd yn myned yn fwy serth. Ond dyma ni ar y top. "Sedd Glyndwr" oedd hen enw y llecyn. Gosodwyd y garnedd bresenol, yr hon sydd ar ffurf "buddai gnoc," er coffadwriaeth am briodas Tywysog Cymru yn 1863. Onid oes yma olygfa ardderchog? Ar y dde, dacw ddyffryn hudolus Llangollen, a phelydrau haul y gorllewin yn goreuro creigiau Eglwyseg. O'n blaen y mae Moel y Gaer, a godreu Dyffryn Clwyd. Ar y chwith, ymestyna dyffryn cyfoethog Edeyrnion. Mor brydferth yr ymddengys y brif-ffordd sydd yn ymestyn fel llinyn gwyn am filldiroedd! Mor fawreddog y mae yr hen Ddyfrdwy yn dolenu dros y dolydd! Odditanom y mae tref Corwen fel—ïe, fel beth? Wel, tebyg ydyw oddiyma i sarph hir-braff newydd lyncu an fail, ond heb gael amser i'w ddadansoddi! Ond eisteddwn i lawr i edrych o gwmpas, ac i ymgomio ychydig am rai a adwaenwn gynt. Yn y coed tewfrig acw, ar y dde, y mae palas y Rhaggatt, hen breswylfod y Llwydiaid. Yn nes atom y mae y Pentref, a bu un Mr. —— yno am lawer blwyddyn. Yr oedd yn wr hynod yn ei ffordd, ac yn byw, symud, a bod, fel "gwr boneddig." Elai i ambell gyfarfod misol perthynol i'r Methodistiaid yn yr ardaloedd. Wedi dod yn ol, gofynid iddo, "Sut gyfarfod oedd yno, Mr. ——?" Cyfarfod da iawn," fyddai yr ateb, ond odid; "yr oedd yno gystal darn o beef ag a fuasech yn hoffi ei wel'd ar fwrdd!" Pawb at y peth y bo, onide? Ar ein cyfer y mae Trewyn Fawr, cartref y diweddar John Davies am lawer blwyddyn. Gwr cadarn, tawel, oedd ef, a gwr o gyngor doeth. Ni siaradai lawer, ond yr oedd delw synwyr a barn ar ei ymadroddion. Ei hoff eiriau yn y gymdeithas eglwysig ydoedd," Gwylia na ddyco neb dy goron.—Yr hwn a barhao hyd y diwedd.—Bydd ffyddlawn hyd angeu." Cymeriad arall adnabyddus oedd "Jack Pencraig." Yn yr Ysgol Sul, un tro, gofynid i'r dosbarth esbonio yr ymadrodd, "yr ethnig a'r publican." Deffiniwyd yr olaf yn lled rwydd fel casglwr trethi, ond nid oeddynt mor sicr am yr ethnig. Wedi peth ystyriaeth, dywedai Jack ei fod o'r farn nad oedd yr ethnig yn ddim amgen na Relieving Officer! A dyna Jack Owen, cydymaith ffyddlawn i John Barleycorn am lawer blwyddyn. oedd gallu y brawd hwn i gael "glasied" yn ymylu ar fod yn athrylith. Mor ddoniol y byddai yn desgrifio y "rûmitis" yn ei aelodau! Ac yr oedd yn gryn fardd. Amser a ballai i mi nodi amryw eraill oeddynt yn "ffigiwrs" amlwg ar heolydd Corwen. Maddeued y darllenydd i mi am ei ddenu at y pwnc, ond dichon mai hwn fydd yr unig gofiant a ysgrifenir am rai a feddent lawer o hynodion mewn cyfeiriadau neillduol. Yn awr, y mae yn bryd i ni ddisgyn. . . . Wel, dyma ni wedi cyrhaedd y gwaelod. Cyn i'r nos ein dal bwriadaf ymneillduo i'r fynwent. Ië, dyma y llanerch lle gorwedd fy mam. Llawer tòn sydd wedi golchi trosof er pan welais hi ddiweddaf; ond y mae hi yn dedwydd huno "lle gorphwys y rhai lluddedig." Ni chafodd lawer o gysuron bywyd; dioddefodd boenau llym, ac yr oedd priddellau y dyffryn yn felus iddi. Carai fi yn fawr; gofalai am danaf fel canwyll ei llygad. ei llais yn disgyn ar fy nghlyw yn awr, o'r cyfnod hyfryd hwnw pan oeddwn yn hogyn direidus yn mhentref Ty'nycefn. "Mor anwyl, mor anwyl yw nam!" Ond ychydig o honom sydd yn sylweddoli hyny nes ei cholli yn nos y bedd. Mor falch fuasai ganddi fy ngweled! Ond, efallai ei bod yn edrych arnaf y funud hon. Modd bynag, bydd mynwent Corwen yn gysegr- edig yn fy nheimlad ar gyfrif y ffaith mai yno y gorphwys llwch yr un fu yn gofalu ac yn pryderu cymaint droswyf yn mlynyddau cyntaf fy oes. Ffarwel! Boed heddwch i anwyl weddillion fy mam.

III.

Y MAE yn foreu teg, a chyn i'r haul gyfodi yn ei wres, yr wyf am wahodd y darllenydd gyda mi i ardal neillawn rhagom yn ddiymdroi i gyfeiriad Brynbrith. O'n cwmpas y mae amaethwyr y gymydogaeth ar eu llawn egni gyda'r cynhauaf gwair. Lled syn genyf hefyd yw pasio Brynbrith. Lle enwog am garedigrwydd ydoedd yn yr amser fu-llety fforddolion mewn gwirionedd. Coffa da am "Sian," y ferlen ffyddlawn fu yn cludo cynifer o "genhadon hedd" i'r oedfa ddau o'r gloch yn Ucheldref. A phan yn "fachgen ysgol," un o'r rhai mwyaf poblogaidd yn ein mysg oedd " John Brynbrith"; ond machludodd ei haul tra yr ydoedd eto yn ddydd. Siomwyd gobeithion goreu ei berth- ynasau a'i gydnabod yn ei farwolaeth annisgwyliadwy; ac y mae ei rieni caredig wedi cefnu. Arall sydd yn y fangre yn awr. "Un genedlaeth a ä heibio, ac un arall a ddaw." Ond rhaid i ni brysuro rhagom ar hyd y ffordd gul sydd yn arwain heibio Penycoed; ac y mae arogl gwair yn llwytho yr awel. Dyma y Gate Goch, ond p'le y mae yr hen deulu? Nid yw y lle ond murddyn. A ydyw "Dafydd" ar dir y rhai byw? Yr ydym yn nesau at yr Ucheldref—hen adail ardderchog fu yn balas yn y dyddiau gynt. Yn un o'r ystafelloedd y pregethid ar nawn Sabboth; ac yr wyf yn cofio yn dda am yr hen bwlpud candryll. Ystafell drymaidd ydoedd, a chafodd aml i gymydog gyntun melus yma. tra y byddai y pregethwr yn ymboeni" yn y Gair a'r athrawiaeth." Wedi galw am enyd yn Moel Aden, yr ydym yn troi ar y dde, heibio Parc Uchaf, ac yna yn dechreu disgyn i waered i'r Bettws. Ie, dacw fe! mae oddeutu pymtheng mlynedd er pan fuom yn sefyll yn y fan hon o'r blaen, ac ni raid i mi ddweyd fod teimladau rhyfedd yn fy meddianu. Teimlwn rhyw berlewyg yn cerdded droswyf! ond rhag digwydd beth a fyddai gwaeth, daeth Dr. heibio ar geffyl, ac wedi tipyn o siarad (ni ddylid cadw Doctor yn hir), adfeddianais fy hun, a dechreuais edrych o gwmpas.

Ymddengys y Bettws ei hun yn lle llwydaidd, eto y mae yr ardal yn hynod o brydferth. Ond y mae arnom eisieu talu ymweliad â lleoedd neillduol. Wyddost ti lle mae Ty'nygraig, machgen i?" meddwn wrth hogyn ar y ffordd. Safodd yn syn am foment, ac ebai, "Does yno yr un ty 'rwan; neb yn byw er 'stalwm." Rhyfedd iawn! Aethum ar draws y cae, a chefais fod stori y bachgen yn wirionedd. Nid oedd yno ond y muriau moelion; ond y mae adgof yn fy nghynorthwyo i ddelweddu y fan fel yr ydoedd pan y galwn ef yn "gartref." Dyma yr hen aelwyd; acw y safai y cloc; yna yr oedd y ffenestr fechan lle tywynai haul y boreu i'r siamber ddiaddurn. Mae y graig eto y tu cefn i'r ty, a'r goedwig lle y cwynfana awel y nos yn aros fel cynt. Ond prudd-bleser ydyw aros yn mysg yr adfeilion hyn. Awn tua'r pentref. Pwy ydyw y gwr prysur, bywiog, acw? Tybed mai fy hen ysgolfeistr? Ond y mae ei gyfarchiad yn ddigon i wasgar pob amheuaeth ar y pwnc. Athraw da oedd——. Y mae wedi cyfnewid y swydd hono er's tro. Y mae yn awr yn ymwneyd â sylwedd meddalach nac ymenyddiau plant y Bettws. Y mae y pentref bron fel yr oedd ugain mlynedd yn ol, ond fod y tai yn llawer mwy adfeiliedig. Yn y preswylwyr y mae y cyfnewidiad mawr. Y mae yr efail yn ddistaw, a'r gofaint wedi diflanu. Ar y chwith y mae heol gul lle y byddai "Jane Jones" yn arfer gwerthu bara gwyn. Y mae hithau wedi myn'd a'r ty yn furddyn. John Jones, y White Horse, nid yw mwy. Aethum i fyny i gyfeiriad "ty'r person," er mwyn talu ymweliad â bwthyn Tycoch, lle y bum yn byw am ysbaid. Yno cefais fod pethau bron fel y gadewais hwynt. Yn y lle hwn y mae genyf y cof cyntaf am "bapyr newydd." Yr oedd rhyw ryfel yn bod ar y pryd, a byddai y papyr yn dod i'n ty ni ar ei daith drwy yr ardal. Yr oedd un papyr yn gwasanaethu i bentref cyfan y pryd hyny! Wrth ddychwelyd, rhedai fy meddwl at y diweddar Mr. Hughes, offeiriad y plwyf. Gwr a'i lond o natur dda ydoedd. Ni adawai i blentyn ei basio ar y ffordd heb ryw air caredig. Dychmygaf ei weled yn awr gyda'i fochau gwridog, a i het silk wedi cochi gan oedran. Ond odid na ofynai i mi ryw gwestiwn yn nglyn â hanesiaeth y Beibl, a mawr fyddai ei foddhad os gallwn ei ateb. Drwg iawn genyf ddeall nad oes carreg ar ei fedd. Yn sicr, y mae ei goffadwriaeth yn haeddu gwneuthur hyn iddo. Yr oedd yn wladwr da, yn wr o ysbryd eang a charedig, yn ymwelydd rhagorol â'r profedigaethus, ac yn dilyn. heddwch â phawb. Bu farw yn 1877, wedi bod yn offeiriad y plwyf am 25 o flynyddoedd.

IV.

LLE yr ydym, dywedwch? Mewn rhyw swn tebyg i swn corddi odditanom yn rhywle. O, yn Amaethdy Blaenddol, onide? Yno yr aethum i'r gwely neithiwr, beth bynag. Y mae yn fore hafaidd, ac yn y buarth gwelaf y bechgyn cyhyrog oedd gyda mi y noson gynt yn dadlwytho y gwair. Ar ol boreufwyd, ac wedi canu yn iach, yr ydym yn cychwyn ar hyd y ffordd gysgodol sydd yn arwain at Bont Melin Rug. Difyr ydyw syllu ar y cloddiau lle y tyf y mefus, clychau y gog, y gwyddfid, a'r rhosyn gwyllt. Mae rhywbeth yn anwyl yn y blodeuyn mwyaf diaddurn y ffordd hon. Dyma loeyn byw yn ysgafn hedeg heibio. Sawl gwaith y bum yn erlyn ei frodyr yn y dyddiau gynt! Ond cei lonydd yn awr, greadur tlws. Y mae edrych arnat yn ddigon o fwynhad. Wedi bwrw golwg ar Rydyfen, ac ysgol ddyddiol Moel Adda, yr ydym yn troi am ychydig i Efail Gruffydd Dafis, gerllaw y Bont. Son am Eisteddfod Corwen! Dyma y llywydd anrhydeddus mewn cae yn ymyl y ffordd yn trin gwair gyda'i holl egni. Y mae Cefn Rûg wedi ei adnewyddu er dyddiau yr hen Williams. Darn prydferth o ffordd ydyw hon; y mae yn anhawdd peidio aros i sylwi ar y coed noble sydd yn sefyll fel gwylwyr o amgylch. Ceir yma ambell i dderwen sydd bron yn berffaith mewn cymesuredd. Yr wyf yn sylwi fod y llwybr at y pysgodlyn wedi ei gau i fyny. A dyma y "tair celynen,"— mangre adnabyddus i breswylwyr yr holl ardaloedd. Nid ydynt mor drwchus ag y byddent yn y blynyddau gynt. Wedi cerdded ychydig yn mhellach, deuwn at yr Elusendai, lle y cafodd aml i hen bererin gysgod yn hwyr ei oes. Y mae yn gofus genyf am Jenny Roberts. Yn ei thy hi y cynelid cyfarfod plant Capel Rûg. A dyna Tudur a Citi Hughes,—pâr hynod yn eu dydd; Edward Thomas a Jenny Dafis—yr oll yn meddu ryw oddities personol. Nid yw Ty'nycefn yn ymddangos yn lle hynod i ddyn dyeithr, ond i hen drigianydd y mae yn llecyn gwir ddyddorol. Awn heibio yr ychydig dai sydd yma, ond ofer disgwyl gweled yr hen wynebau. Y mae Dafydd Roberts y Saer, un o oreuon y ddaear, wedi noswylio er's blynyddau. Gwag yw gweithdy John Hughes y Crydd. Distaw iawn, mewn cymhariaeth, ydyw yr Efail. Da genyf gael ymgom gydag Eryr Alwen. Cawsom lawer o flas yn adgofio troion y daith; yr adeg y byddem yn dyfod i'r Efail i fyned dros yr "adroddiad" neu y "ddadl" erbyn y Penny Readings neu y Band of Hope yn Nghorwen. Ni fynem anghofio dydd y pethau bychain. A'r pryd hyny byddai yr Eryr ei hun yn adrodd " Cywydd y Daran," a'r Gof," gan Gwilym Hiraethog, ac yn canu "Morfa Rhuddlan " gyda llawer o arddeliad. Cyn dychwelyd i Gorwen rhaid i ni gael gweled Capel Rûg, ac esgyn yr hyn a elwid genym yn "Dop Ceryg Gravel! " mae y llyn wedi ei sychu i fyny. Llawer codwm gafwyd yma ar y rhew. Yr ydym yn canfod fod mynwent Capel Rûg wedi ei chyfyngu am ryw reswm neu gilydd. Golwg hardd sydd ar y coed yw o'i chwmpas. Y mae yr hyn a dybiem oedd yn fedd-faen i ryw geffyl enwog yn aros fel cynt. Awn i'r capel,— adeilad hynod ar lawer cyfrif. Y mae y cerfiadau yn dangos ôl llafur a medr arbenig. Edrycha yr oll fel darn o'r cynfyd; a phrin y mae yr organ sydd yno yn awr yn cyd-daraw a'r adeilad. Esgynwn i'r oriel, ac yn y distawrwydd ceisiwn lanw y lle â'r gynulleidfa fyddai yn arfer dod yma flynyddau yn ol. Teulu y Wagstaffs oedd yn Rûg yr adeg hono, ac yr oeddynt yn hynod egniol gyda'r Ysgol Sabbothol, ac amcanion da eraill. Wedi myned drwy y fynwent, yr ydys yn cerdded gravel walk i gyfeiriad y Rûg. Ar gŵr uchaf y cae y mae derwen gangenfawr, ac o'i chwmpas er's talm yr oedd sedd syml a adwaenid fel "Sedd Lady Vaughan." Yr oedd yn lle campus i gael golwg gyflawn ar y wlad o amgylch. Ond fel llawer o bethau da eraill, y mae wedi ei symud. Cawn sefyll yma enyd i syllu ar yr hen lanerchau. Fel panorama o flaen ein llygaid y mae Glan Alwen, Dolglesyn, y rails gwynion (y maent yn ddigon llwydaidd yn awr), Pont Corwen, Penybont, Glandwr, Bryntirion, Tyucha'r llyn, &c.; ac fel background i'r olygfa y mae y Berwyn urddasol, a'r glaswellt a'r grug wedi eu cyfrodeddu fel mantell am dano. Ar ei gopa y saif Tynewydd Rûg (yr enw sydd yn newydd,—y mae yr adeilad yn dechreu myned yn hen), a dacw y ffordd sydd yn arwain igam-ogam tuag ato. Os mai Lady Vaughan a orchymynodd wneyd y sedd oedd yn y llecyn hwn, rhaid cydnabod ei bod yn meddu llygaid i weled anian. Anaml y ceir golygfa fwy amrywiol a chyfoethog. Ond yn nghanol yr holl degwch, nis gallaf beidio edrych yn hir ar Dy'nycefn. Y mae yn un o'r llanerchau mwyaf cysegredig yn fy nheimlad.

A bydded a fyddo drwy helynt fy oes,
Chwythed yr awel yn deg neu yn groes,
Boed afon fy mywyd yn arw neu lefn,
Mi gofiaf, anwylaf yr hen D'ynycefn!


V.

AR fin nos tawelfwyn, y noson olaf i mi fod yn Nghorwen, —aethum yn nghymdeithas Rhuddfryn i ben Moel y Gaer. Pan oeddwn yn hogyn, nid oeddwn yn meddwl fod dim yn rhyfedd yn y cylch ceryg sydd ar gopa y mynydd. Ond wedi gweled llawer o gyfeiriadau at y fan mewn llyfrau tebyg i Pennant's Tours in Wales, yr oeddwn yn fyw o gywreinrwydd i dalu ymweliad personol â'r adfeilion. Bum yn dra ffodus yn fy nghwmni. Bardd yw y guide goreu i le fel hyn; gall ei ddychymyg ef wisgo esgyrn hen draddodiadau â gïau ac â chroen. Yr ydym yn dringo yn araf a phwyllog, fel y gweddai i feirdd. Gall dyeithriaid Seisnig wibio dros ein mynyddau, ond braint meibion Ceridwen ydyw myned yn hamddenol i fwynhau golygfeydd natur! Mor dawel yw pobpeth o'n cwmpas! Y mae awelon yr hwyr yn falmaidd, a ninau yn tramwy trwy gnwd tew o redyn gleision. Nid oedd yn rhyfedd i awen fy nghyfaill fyned bron yn aflywodraethus! Yr oedd pob sylw yn mynu dod allan yn ngwisg y gynghanedd. Gallesid meddwl ar y pryd fod barddoni mor hawdd ag anadlu, a dichon ei fod dan ddylanwad ysbrydoledig golygfeydd fel hyn. Nid wyf yn cofio degwm y llinellau difyfyr a gyfansoddwyd. Dyma un specimen,—

I Foel y Gaer-nefol goryn—hybia
Anthropos a Rhuddfryn;
I wel'd Awst yn arlwyo dyn
Hefo'i wledd yn ngnhwd y flwyddyn.

Ond dyma y Gaer ei hun wedi ei chyrhaedd. Cerddwn yn araf o'i chwmpas. Y mae gweddillion y mur allanol, yr hwn a weithreda fel gwrthglawdd, oddeutu haner milldir o amgylchedd. Ar y cwr uchaf ceir adfeilion amlwg hen ystafelloedd, lle bu dewrion gynt yn ymbarotoi gogyfer â dydd y frwydr. Fel hyn y dywed Pennant am y lle:—

"Nid oedd gorsaf neu amddiffynfa Caer Drewyn ond un o'r gadwyn a ddechreuai yn Dyserth, ac a barheid hyd fryniau Clwyd, mynyddoedd Iâl. . . . . . . Dyma oedd encilfanau y preswylwyr yn amser rhyfel; yma y gosodent eu gwragedd, eu plant, eu hanifeiliaid, o dan warchodaeth gref, neu efallai tylwyth neu genedl gyfan ynddynt, nes yr enciliai y gelyn; oblegid ni allai byth fyw mewn gwlad lle y byddai pob math o ymborth wedi eu diogelu fel hyn."

Y mae yr un hanesydd yn desgrifio y fan fel y canlyn:

"Perthyna i'r amddiffynfa hon ddwy fynedfa. Yn agos i'r ochr ogledd-ddwyreiniol y mae ysgwar hirgul, yn ychwanegol at y prif weithiau; ac yn gymaint a bod y tir yn y fan hono yn lled fflat, cadarnheir ef à ffos fawr a mur. Oddifewn y mae olion hen adeiladau; y n mae un o honynt yn gylchyrog, ac yn amryw latheni o drawsfesur. . . . . Tybir fod Owain Gwynedd wedi meddiannu yr orsaf hon tra yr oedd Harri II. yn gwersyllu ar fryniau y Berwyn, ar yr ochr arall i'r dyffryn. A dywedir fod Owain Glyndwr hefyd wedi defnyddio y lle fel encilfa achlysurol."

Balch fuasem o wybod pa fath olwg oedd ar Gorwen a'r amgylchoedd pan oedd y Gaer hon yn nyddiau ei gogoniant. Ond y mae niwl yr oesau yn gorchuddio yr Bu Rhuddfryn a minau yn eistedd yn y tawelwch gerllaw olion yr hen ystafelloedd, ac yn ceisio dwyn. y gorphenol i'n gwyddfod: Y mae catrawd o filwyr Owain Glyndwr yn y lle yn mwynhau ychydig seibiant. Gosodir y bwa a'r waewffon o'r neilldu. Wedi trefnu y gwylwyr ar y muriau allanol, y mae y corn metheglin yn cael ei basio o'r naill law i'r llall oddimewn, a thra y mae y telynorion yn goglais y tànau, cyfyd y swyddog hynaf i gynyg iechyd da "Glyndwr ac Annibyniaeth Cymru." Ond wele, breuddwyd oedd! Nid oes yma ond y ceryg, y rhedyn, yr awel, a dau fardd wedi yfed braidd yn uchel o gwpan gwladgarwch yr hen ddewrion anwyl! Y mae y cof am eu gwrhydri yn peri i'r galon guro yn gyflymach. Gresyn fod eu hanes gymaint dan orchudd! Ymladdwyd rhai o frwydrau Rhyddid yn yr ardaloedd hyn; a phan yn cerdded yn ddidaro ar hyd y llanerchau yma, y mae yn eithaf posibl ein bod yn sangu ar lwch rhyw arwr a gwym podd yn aberth i ormes y Sais. Gwir a ddywedodd Ceiriog:-

Mewn anghof ni chânt fod
Wŷr y cledd, hir eu clod,
Tra'r awel dros eu beddau chwyth.
O! mae yn Nghymru fyrdd
O feddau ar y ffyrdd
Sy'n brif-ffordd hyd ba un y rhodia
Rhyddid byth!

Wedi treulio awr ddedwydd yn nghanol yr adfeilion. llwyd, yr ydym yn gadael Moel y Gaer i fwynhau y tawelwch sydd yn teyrnasu o'i deutu er's llawer oes. Yn annibynol ar ei thraddodiadau, y mae yr olygfa oddiar ei choryn yn fendigedig. Rhaid myned yn bur bell i weled coedwig mor urddasol a "Choed y Fron." Yn min hwyr edrycha yn debyg i gatrawd o filwyr; y coed derw sydd o'r blaen fel out-posts yn gwylio y gelyn, a'r goedwig ei hun fel square Brydeinig, yn aros y marching orders! Gellir desgrifio yr holl ardal yn ngeiriau prydferth Dewi Havhesp,—

Ei dolydd gwastad, heulog—ar hyd fin
Dyfrdwy fawr, drofaog;
Ei llwyni gwyngyll enwog,
Pàu dan gamp-Eden y gôg!

Os dymuna rhyw feirniad draethu ei lên ar dref Corwen a'r amgylchoedd, cynghorwn ef i esgyn Moel y Gaer cyn cyhoeddi ei ddedfryd. Diolch i Rhuddfryn am ei gymdeithas adeiladol.

VI.

LLEFARWN y waith hon yn unig. Wedi canu yn iach. â chyfeilllon mynwesol yn Nghorwen, yr ydym yn cychwyn ar daith i Gerrig-y-druidion. Rhaid oedd aros ychydig ar bont Corwen i fwrw y last fond look ar yr olygfa. A pha le y ceir ei thlysach?

Yr afon yn llithro yn mlaen mewn tawelwch heibio y glenydd, wedi eu gorchuddio â choed deiliog. Lle y mae y bâd hwnw a welid yn yr amser gynt yn dyfod yn araf i lawr yr afon? Tybiwn pan yn fachgen y buasai cael bod yn hwnw ar hir-ddydd haf yn berffeithrwydd mwynhad. Mewn tlysni a swyn y mae yn anhawdd meddwl am fangre sydd yn rhagori ar hon. Ond rhaid ei gadael. Yr ydym wedi bod gyda'r darllenydd hyd ranau o'r ffordd yma yn flaenorol; gan hyny, ni a gerddwn rhagom mewn distawrwydd nes dyfod at y "Cymro." Yma y mae yr olygfa yn gyfryw fel y rhaid i ni gael "rhoddi gair i mewn." Nid yw cylch yr olygwedd ond bychan, eto y mae yn llawn o swyn. Ceir yma ddarlun o natur in miniature. Mor brydferth yw yr eglwys sydd ar ein haswy! Credwn ei fod yn lle i'r dim i fardd-offeiriad. Yn nghanol y coed yna y mae, Maes-mor, a'r afon Ceirw yn llifo yn llonydd, ddistaw, heibio y palas. Yr ydym yn nghysgodion y goedwig hon yn teimlo ein hunain yn mhell o "swn y boen sy' yn y byd." Aroswn i ddadluddedu ychydig yn y siop sydd ar fin y ffordd. Wedi bwrw trem frysiog ar Gapel Dinmael a Chysulog, dyma ni yn ymyl Pont-y-glyn. Yma y mae y ffordd fawr yn curvio fel penelin ffidler. Odditanom, ar yr aswy, ceir y ceunant dwfn, erchyll. Ar hyn o bryd y mae dail y coed yn darnguddio ysgythredd y creigiau. O le arswydlawn yn nyfnder y nos! Ychydig yn mlaen y mae y bont, a chaiff y neb a roddo gipdrem i'r gwaelodion oddiar ei chanllaw olwg wir syfrdanol. Mae y llifogydd gauafol wedi llyfnhau a chafnio y creigiau wrth ruthro drwy yr adwy gyfyng o dan y bont. Gorchwyl celfydd oedd taflu y bwa hwn dros y ceunant. Os yw y darllenydd yn awyddus am esboniad ar y gair aruthredd, safed am enyd ar y llecyn hwn. Ond awn rhagom tua Thynant. Yma y mae capel newydd hardd gan y brodyr Wesleyaidd. Gwelwn fod yr hen gapel wedi ei droi yn siop saer. Yn y caeau o'n cwmpas gwelir y ffermwyr yn brysur gyda'r gwair. Cymerwn ychydig seibiant ar bont Llangwm. Y mae y pentref ar yr aswy, ond yn guddiedig o'r lle hwn. Yno y bu y prif-fardd Elis Wyn o Wyrfai. Dacw gapel yr Annibynwyr ar lethr y cwm. Yn nes atom y mae addoldy y Methodistiaid, er nad yw ei ffurf yn awgrymu hyny. Mae yr haul yn gogwyddo at fachlud, a'r olygfa o'r lle hwn yn hynod o dlos. Mor wahanol yw gwedd y Ceirw yn y dolydd hyn i'r hyn ydoedd pan yn diaspedain rhwng creigiau y Glyn! Ond nid oes i ni yma ddinas barhaus, rhaid brasgamu tua'r Cerrig. Bore dranoeth yr ydym yn cychwyn yn ngherbyd y Parch ——, —— i Fettws-y-coed. Y mae y brawd anwyl hwn yn gydymaith dyddanus, ac nid anghofiaf "Tommy" y merlyn chwaith. Ar brydiau safai ar ganol y ffordd, ac nid oedd un gallu a'i symudai nes yr ewyllysiai ei hun. Doniol oedd gwrando Mr. W. yn dweyd stori, ac yn anerch Tommy rhwng cromfachau. Soniai am ei bregeth fel "tamed plaen." Adroddai am dano ei hun yn dweyd yn rhywle, gan gyfeirio at ei bregeth: Fydda i yn sylwi fod pobl pan yn dwad i'r wlad am iechyd yn leicio tamed plaen (Tommy), a rhyw damed plaen sydd gen ine i'w osod ger eich bron (Tommy). Ond hwyrach pe bae ni yn troi i holi ar ambell bregeth blaen (Tommy) y byddai yn fwy anhawdd ateb nac y buasech chi'n meddwl 'rwan (Tommy), &c." Fel yna wrth ymddiddan, ac annog Tommy cyrhaeddwyd i Bettws-y-coed,—pen y daith yn y cerbyd hwnw. Ac yr wyf finau wedi cyrhaedd pen y daith gyda'r adgofion hyn. Bydded gwenau nef a daear yn tywynu yn ddidor ar yr "hen gymydogaeth."

PONT CWMANOG.

FRO Geirionydd! cartref swyn,
Pa le mor fwyn i brydydd?
Llwyni deiliog, bryniau derch,
A llawer llanerch lonydd;
O flwydd i flwydd, mae'r wynfa dlos
Yn aros byth yn newydd.

Melus dianc enyd bach,
O'r ddinas afiach, drystiog,
Melus crwydro'r dedwydd dir,
Ar ddiwrnod clir, awelog,
A melus gorphwys, dan lâs nen
Ger hen bont bren Cwmanog.

Llithro mae y tawel li
O dani tua'r eigion,
Ac yna, yn y graian mân
Mae'n canu mwyn acenion;
A llawer pren canghenog, ir,
Ddelweddir yn ei ddwyfron

Siarad am y dyddiau fu,
Mae su y dŵr grisialog,
Dyddiau IEUAN gu ei gân,
Pan grwydrai'r glanau gwelltog,—
Cyn clywed rhu'r "Iorddonen ddofn "
Ac ofn ei dyfroedd tonog.

Ieuan fardd! dy gân, dy gŵyn,
Sy'n meddu swyn yr hafddydd,
Sibrwd sain dy enw di
Mae gloew li Geirionydd,
A chyd-ymdeithio oesau i ddod,
Wna'r ffrwd a chlod ei phrydydd


O dawel, gysegredig fan,
Wyt anwyl i'r awenydd,
Ac er i amser dynu'r llen
Dros gân ac enw'r prydydd,
Fe'th gedwir di, a'r hen bont bren,
Ar leni yr arlunydd.

Anwyl Gymru! cartref cain
Y mirain a'r mawreddog,
Hyfryd ydyw crwydro'n rhydd
Ar hyd dy froydd goludog;
A melus gorphwys dan lâs nen,
Ger hen bont bren Cwmanog.



HAF-DAITH YN LLEYN

DICHON y dywedir nad ydyw Lleyn yn meddu unrhyw hudoliaeth na swyn er ad-dynu ymofynwyr pleser a difyrwch. Y mae hyny yn eithaf posibl. Nid yw y trigolion hyd yma wedi dechreu coginio pleserau celfyddydol ar gyfer y sawl a ymwelant a'r fro. Maent yn hynod garedig; ni chaniatant i neb, o'u gwirfodd, newynu yn eu plith. Ond fe addefwn yn rhwydd fod y mwynhad ellir gael ynglyn â haf-daith yn Lleyn yn dibynu i gryn fesur ar feddwl a thueddiadau blaenorol y teithwyr. Nis gall y mwyaf dwl lai na synied ei fod mewn gwlad iach ei hawelon, ac amrywiol ei golygfeydd. Ond i'r neb a ŵyr ychydig am hanes y wlad a hanes ei henwogion, y mae haf-daith drwy ranau o honi yn wir adfywiad i gorph a meddwl. A chan gadw hyn mewn golwg, bydded y darllenydd mor garedig a rhoddi "het Ffortunatus" am ei ben, ac yna ni bydd unrhyw anhawsder i ni gyd-gyfarfod yn ngorsaf Afonwen, ar linell y Cambrian, a chymerwn y tren i dref flodeuog Pwllheli. Yma yr ydym yn newid yr oruchwyliaeth. Rhaid i ni ganu'n iach i'r gerbydres: nid yw Lleyn yn ei chydnabod hi o gwbl. Y mae yno gyflawnder o feirch, o bob lliw a gradd; ond nid ydyw y "march tân" yn un o honynt. Na, yr ydym yn cefnu ar ddyfeisiau yr haner canrif ddiweddaf, ac yn wynebu ar oruchwyliaeth y cerbydau—yr old coaching days,— o ddoniol goffadwriaeth. Y mae dwy o'r coaches yn ein hymyl, ac wedi ymholi fe ddywedir wrthym fod un o honynt yn myned i Edeyrn, a'r llall i'r Tociau"-un o faes-drefi Aberdaron. Yn awr, y cwestiwn yw,—pa un a ddewiswn? Yr un yw y pris gyda'r naill a'r lall, gyda hyn o eithriad; disgwylir i ni dalu chwe cheiniog yn ychwaneg am fynd yn llythyrenol i ben draw'r byd, hyny ydyw, i Aberdaron. Pur resymol, onide? Dyma gyfle, os mynir, i fyned i eithaf y ddaear, yn ol syniad didwyll ein teidiau ar y mater, a hyny am y swm o swllt a chwe cheiniog! Y mae y fath haelfrydedd yn haeddu cefnogaeth.

Gan ein bod yn cychwyn o ymyl yr orsaf y mae genym obaith da i sicrhau y lle goreu ar dywydd braf, nid amgen, y sedd flaenaf, yn ymyl y gyreidydd. Eisoes y mae y cerbyd yn weddol lawn i'n tyb ni, ond cawn ddysgu peth amgenach yn y man.

Yr ydym yn myned yn urddasol drwy ran o dref Pwllheli—tref aml ei heolydd—ac yn sefyll ar gyfer un o'r gwestai. Yma, mewn gwirionedd, y mae y goach yn cael ei llwytho yn briodol. Cludir iddi bob math o nwyddau a pharseli; coffrau morwyr, ac offer amaethu; amryw o honynt yn perthyn i'r teithwyr, ond y mwyafrif yn cael eu rhoddi dan ofal y gyriedydd i'w gadael mewn lleoedd penodol ar y daith. Y mae yr oll braidd yn cael ei wneyd ar lafar; anfynych y gwelir label ar ddim, ond y mae cof y gyriedydd, meddir, yn ddiarhebol. Peth arall yr ydym yn sylwi arno ydyw ei allu rhyfedd i wneyd lle i bawb. Pan yr ydym yn meddwl hyd sicrwydd fod pob modfedd wedi ei lanw, y mae y gwr da yn rhwym o ddarganfod rhyw gongl o'r newydd. Dywedir fod y rhif ellir gymeryd gyda'r goach hon yn ddyrysbwnc nad oes un dewin fedr ei esbonio i berffeithrwydd. Ac eto prin y clywir neb yn cwyno, fel y gwneir yn y tren,-fod y cerbyd yn rhy lawn. Natur dda sydd yn rheoli yma, a phe byddai i rywun fradychu presenoldeb natur ddrwg, byddai mewn perygl o gael esboniad ymarferol ar athrawiaeth y Cwymp.

Bellach, yr ydym yn cychwyn; yn cychwyn mewn gwirionedd. Wedi enyd o deithio drwy heolydd culion a thrystiog Pwllheli, wele ni ar y brif-ffordd, yn dechreu teimlo ysbrydoliaeth y wlad. Ar y dde y mae planhigfa dan driniaeth ofalus; gardd ydyw hon sydd yn cyflenwi gerddi eraill â choed ffrwythlawn, a llysiau at wasanaeth dyn. Yn y man, deuwn at y Tollborth, neu yn fwy cywir, yr hyn a fu yn dollborth yn y dyddiau gynt. Yma yr ydym yn troi ar y dde, ac yn cyfeirio am bentref yr Efailnewydd. Mae golwg iraidd a thirf ar bob peth. Nid ydyw y gwres wedi deifio wyneb y maes; nid yw y llwch wedi hacru gwynder blodau'r drain. Yn y cyfwng hwn, cymerwn hamdden i fwrw trem ar ein cyd-deithwyr. Yn ein hymyl y mae y gyriedydd: gwr cyhyrog, tawel, a charedig. Ar yr ochr arall, y mae gwr ieuanc trwsiadus. Y mae efe yn darllen yn ddyfal. Llyfr mewn amlen bapyr sydd ganddo, a'i deitl ydyw Dark Days. Nid oes gyfrif i'w roddi am chwaeth. Mwy dewisol gan y cyfaill hwn. ydyw Dark Days ffug-chwedlaeth, na dalen o lyfr Natur ar un o ddyddiau disglaer mis Mai. Ond yn ffodus, y mae yma frawd arall yn eistedd gerllaw, un ag yr ydym yn ddyledus iddo am lawer o gyfarwyddyd a diddanwch. Ysgolfeistr ydyw wrth ei alwedigaeth, a chanddo ef y mae yr ysgol fwyaf amlwg yn Lleyn. Saif ar ben mynydd y Rhiw, fel rhagflaenydd addysg "uwchraddol" yn Nghymru! O'r tu cefn, y mae nifer,—ni wyddom pa faint-o wŷr dawnus yn trafod helyntion môr a thir; a rhyfedd fel y mae llongau a lloi, freights a ffeiriau, yn cael eu cyd-gymysgu yn eu hymddiddanion. Ond beth bynag a fo y pwnc, y mae pawb yn siriol (ond gwr y Dark Days), a phawb yn teimlo fod taith ar ben y goach, ar ddiwrnod o haf, yn rhywbeth gwynfydedig.

Y mae yn bryd i ni, bellach, ddilyn cwrs y daith. Wedi pasio palas a pharc coediog Bodegroes ar y chwith, yr ydym yn dod i bentref yr Efailnewydd. Dyma yr "orsaf" gyntaf. Yma ceir blaenbrawf o ddawn y gyriedydd gyda'r parseli. Gesyd ei law yng nghanol y pentwr, ac estyna sypynau Ty'nygraig, neu y Weirglodd Lâs, mor ddidrafferth a phe buasai wedi bod yn y siop yn eu prynu. Nid oes dim yn hynod yn yr Efailnewydd, heblaw mai dyma yr ongl lle y mae dwy brif-ffordd Lleyn yn cydgyfarfod. Pe yn teithio i Edeyrn neu Nefyn, elem ar y dde, drwy goedwig hirfaith Bodfean; ond heddyw yr ydym yn cyfeirio ar y chwith drwy Rydyclafdy. O'n blaen, y mae amryw elltydd serth, ond cyn eu cyrraedd yr ydym yn croesi afon fechan. Y mae melin ar y dde, a gweirglodd ar yr aswy, a'r afon yn dolenu drwyddi. Onid difyr fuasai eistedd ar y bont acw i freuddwydio uwchben yr olygfa? Y mae yn grynhodeb o swyn. Ond am y waith gyntaf i ni sylwi, y mae y gyriedydd yn cymhwyso goruchwyliaeth y chwip at y meirch, ac yr ydym yn esgyn gallt fer ond serth. Wedi cyrraedd i'w chopa, gwelwn un arall feithach, a mwy serth. Tybed y gall y meirch ddringo hon? Ond y mae y cwestiwn yn cael ei setlo yn bur ddiseremoni. Gwelir y llu teithwyr yn diflanu oddiar y goach fel adar oddiar goeden, ac yn ymroi i gerdded. Dilynwn eu hesiampl. Y fath lu sydd o honom! Ond y mae yr olygfa a geir oddiar lechweddau yr allt hon yn ddigon o ad-daliad am y cyfnewidiad sydyn yn ein sefyllfa. Ar y gorwel draw, gwelir mynyddau Arfon a Meirion, yn rhes ar ol rhes, a haul y prydnawn yn pelydru arnynt. Yr ydym yn dechreu disgyn yr ochr arall i'r allt, i ardal Rhydyclafdy. Y peth cyntaf a dyna ein sylw ydyw yr addoldy ar y gwastadedd. Braidd nad ydym yn synu gweled adeilad mor brydferth mewn lle mor wledig. Y mae yn anrhydedd i'r ardalwyr. Ond cyn mynd ato yr ydym yn cyrhaedd yr ail "orsaf" ar y daith, nid amgen, hen westy Ty'n Llan. Nid oes a fynom â'r gwesty, ond sylwn ar y "gareg farch" sydd yn agos i'r drws. Ar y gareg yna, medd traddodiad, y bu traed Howell Harris yn sangu pan y traddodai ei genadwri danllyd ar ei ymweliad cyntaf a gwlad Lleyn. [1]


Ond y mae yr amser i fyny; gadawn bentref cysglyd y Rhyd, oblegid y mae cryn siwrnai o'n blaen cyn cyrhaedd yr orsaf nesaf. Hanes y ffordd am encyd yn awr ydyw-gallt a goriwared bob yn ail. Cyn hir yr ydym yn dod i odreu mynydd. Ar y chwith, yn lled uchel i fyny, yn nghanol ffriddoedd moelion, fe welir adeilad. Nid oes ty na thwlc yn agos ato. Dyna Eglwys henafol Llanfihangel. Druan o honi! Y mae wedi ei gadael megis "hwylbren ar ben mynydd," a

Drych o dristwch yw edrych drosti.

Ond y mae'r olygfa yn newid. Yr ydym yn dod i hafn gul; mynydd serth un ochr, a choed lawer yr ochr arall, ac felly am tua thair milldir. O'r diwedd, wele ni eto mewn eangder. Ar y dde, y mae melin; llyn gloew o'r tu uchaf iddi, a thu hwnt i hyny y mae doldir bras, a nifer o'r gwartheg harddaf ellir weled yn pori arno. Od oes ar neb eisieu syniad cywir am olygfa wledig, yn ei cheinder a'i thawelwch, dyma hi! Y mae yn un o'r llanerchau hyny sydd yn byw yn y cof. Yr ydym eto yn dod i ganol coed tewfrig, ac y mae yr olwg ar y muriau, ac yn enwedig crawciad di-daw y brain yn awgrymu ein bod yn nesau at ryw balas. Gyda llaw, onid bodau aristocrataidd iawn yw y brain? Nythant gerllaw y palasau. Y mae rhyw reddf yn eu harwain at fawrion y tir. Ond y mae y palas yr ydym yn myned heibio ei furiau wedi ymguddio yn y coed, heb ewyllysio bod yn amlwg i fwthynod gwerinaidd y wlad. Wedi dod allan o'r llwyn, cawn olwg fendigaid ar dir a môr. O'n blaen ar y chwith y mae yr eigion gwyrdd. Dacw Ynysoedd St. Tudwal's bryniau Cilan, a mynydd y Rhiw. Rhyngddynt y mae rhes o greigiau rhwth. Mae eu henw yn arswydus—Safn Uffern. Ond heddyw y mae nifer o gychod pysgota yn cyniwair yn ddifyr o amgylch y fan. Wedi bwrw trem ar ysgol Bottwnog ar y dde, a chael ymgom am ei hanes, yr ydym yn nesau at le nad yw yn ffrostio dim yn ei enw, beth bynag- Rhyd bach. Yma cawn olygfa sydd yn ein hadgofio am y "Village Blacksmith" gan Longfellow. Dacw efail y gof yn cael ei chysgodi gan goeden ganghenfawr. Gerllaw, hefyd, y mae ysgol y pentref. Diau y gellir dyweyd am blant yr ysgol hon:-

They love to see the flaming forge, And hear the bellows roar, And catch the burning sparks that fly, Like chaff from a threshing floor.

Ond yn nyddiau hafaidd Mai, y goeden henafol sydd yn cael ffafr yn eu golwg. Mor ddifyr y maent yn chwareu yn eu brigau! Mor galonog yw eu lleisiau! Mor iach yw eu chwerthiniad! Dyma ddedwyddwch diniweidrwydd. Yr ydym yn colli hwnyna; ymedy fel cwmwl y boreu. A oes gobaith iddo ddychwelyd? Nac oes. Y mae'r amgylchiadau yn newid yn hollol. Ond os. llwyddir i gadw calon plentyn: calon bur, ddiblygion boreu oes yn y fynwes, fe ddaw yr ymdrech i wneyd yr hyn sydd iawn, ac i hyrwyddo buddianau dynoliaeth,. yn ffynhonell dedwyddwch dyfnach a chadarnach ei sail na dedwyddwch diniweidrwydd. Cyfnod euraidd ydyw mebyd, ond y mae rhinwedd wedi ei brofi yn ffwrneisiau tanllyd bywyd, yn "werthfawrocach nag aur, ïe, nag aur coeth lawer."

Yr ydym yn ymysgwyd o'r dydd-freuddwyd hwn yn y Sarn—Sarn Meillteyrn. Saif y pentref mewn pantle lled goediog; y mae golwg glyd arno; y tai yn ymyl eu gilydd, a phob peth yn argoeli cysur a chymydogaeth dda. Ar y dde, ychydig o'r neilldu, y mae Eglwys y Plwyf,. ond y mae mwy o ddyddordeb i ni yn y garreg farch sydd y tu allan i borth y fynwent. Yn y llecyn yna,. meddir, y bu Daniel Rowland, Llangeitho, yn cynyg yr Efengyl i wladwyr Lleyn. Cafodd drws yr eglwys ei gau yn ei erbyn (gwel Drych yr Amseroedd, tud. 49). Brodor o'r ardal hon ydoedd Henry Rowland, D.D., Esgob Bangor (1551-1616). Yn awr, tra y mae y meirch yn cael eu cyfnerthu gogyfer â'r gweddill o'r daith, araf-ddringwn y rhiw sydd yr ochr bellaf i'r

BRO Y LLYNNAU.

Y llynnau gwyrddion llonydd,—a gysgant
Mewn gwasgawd o fynydd;
A thynn heulwen ysblenydd
Ar lenn y dŵr lûn y dydd."
——COWLYD.

pentref. Wedi cyrhaedd ei gopa yr ydym wyneb yn wyneb à golygfa newydd; math o wastatir unffurf yn ymestyn yn mlaen am filldiroedd. Yr ydym wedi cefnu ar y coedwigoedd; y mae Natur yma wedi diosg ei haddurniadau, ond y mae ei symledd hi yn brydferth, yn arbenig pan y coronir hi gan law yr Haf yn "Frenhines Mai."

Ar ein haswy y mae ffermdy golygus; ei enw ydyw Bodnithoedd. Dyna hen drigfod Owain Lleyn—bardd a llenor tra chymeradwy. Bu efe yn yr ardaloedd hyn. yn debyg fel yr oedd bardd Cefnymeusydd yn Eifionydd,—yn achleswr i lenyddiaeth Gymreig. Yr oedd ei gymeriad personol, hefyd, yn ddiargyhoedd. Hynod oedd Bodnithoedd yn y dyddiau hyny fel canolbwynt lletygarwch a charedigrwydd. Ebai un o'r beirdd:—

Penyffordd i bob ymdeithydd,
Cartref clyd i weision Duw
Oedd Bodnithoedd; hen gyfeiriad,
Teimlai pawb rhyw serch-atyniad,
Lle'r oedd Owain Lleyn yn byw.

Bu farw yn 1867, yn 81 mlwydd oed, a gorwedd ei weddillion yn mynwent Bottwnog. Y lle nesaf y deuwn ato ydyw Capel Bryncroes. Dyma un o'r addoldai Ymneillduol hynaf yn y wlad. Golwg eithaf diaddurn sydd arno, ond y mae yn un o'r lleoedd hynny sydd yn "garedigion oblegid y tadau." Gerllaw y capel y mae mynwent, ac yn ei daear hi y mae amryw o gedyrn Cymru Fu yn mwynhau melus hûn y gweithiwr. Yma y gorffwys Ieuan Lleyn, bardd poblogaidd yn ei ddydd (1770-1832). Y mae amryw o'i ganiadau yn aros ar lafar gwlad. Cyfansoddai, fel rheol, yn ol yr hen arddull gynganheddol, a dywedir fod y rhan fwyaf o bobl Lleyn, flynyddau yn ol, yn medru ei gân i "Ofyn Ffon." Dywedir ei bod yn grynhoad o anhebgorion ffon olygus a gwasanaethgar. Fel hyn:—

Ffon gron, o lin onnen, wedd iraidd, neu dderwen,
Dâ'i hasbri, dewisbren, neu gollen deg wiw,
A baglen lân luniaidd; rhisg claerwych, disglaeraidd,
Neu gywraint ragoraidd, bur loewaidd, bêr liw,
Heb arni groes naddiad, na brathiad, na briw;

Ffon odiaeth ffynedig, fo gadarn o'r goedwig,
Nid gŵyden blygedig, ddolenig, ddeil im;
Ond bydded ei moddau yn drwyadl ddi-droiau,
Heb geinciau, holltiadau, neu dolciau, na dim
Gwrthuni, na chroesni, na chamni—ffon chwim.

Ond nid desgrifio ffyn yn unig y byddai Ieuan Lleyn. Canodd yn helaeth ar destynau moesol a chrefyddol. Un o'i ddarnau goreu, debygem, ydoedd Marwnad i Mr. Charles o'r Bala. Wele bennill neu ddau o honi:—

Duw a hauodd yn ei galon,
Wiwdeg gryfion hadau gras,
Gwreiddiasant ar lan afon groew,
Dawel, hoew, loew las;
Eginasant a thyfasant,
Blodeuasant drwy blaid Ior,
A dygasant ffrwythau addfed,
Ei ymwared oedd y môr.

I chwi y rhai sydd yn llafurio,
Ac yn gwylio yn y gwaith,
Y cyhoeddodd ef Euriadur
Yn iach, yn eglur, yn eich iaith;
Hyfforddi'r ieuanc yw ei ddiben,
I gedyrn hen mae'n gadarnhad;
Y nesa i'r Beibl, mae'n rhagori
Ar un goleuni yn ein gwlad.


Hefyd, yr oedd Ieuan yn Emynwr nid anenwog. Efe ydyw awdwr yr emyn,

Rwy'n gweled bod dydd, &c.

Ac y mae ei gofiantydd-Myrddin Fardd-o'r farn mail efe, hefyd, a biau yr hawl i'r emyn,

Tosturi Dwyfol fawr
At lwch y llawr sy'n bod

Un arall o'r hen bererinion sydd yn huno ym mynwent Bryncroes ydyw Charles Marc, un o gynghorwyr" y Methodistiaid. Efe ydyw awdwr-

Teg wawriodd arnom ddydd,

a

Dysg fi i dewi, megis Aaron.

Brodor o ardal Bryncroes ydoedd Morus Gruffydd, arlunydd Thomas Pennant. Ceir amryw ddarluniau o'i eiddo yn yr argraffiadau cyntaf o'r Tours in Wales.

Gwr arall o'r un fro ydoedd William Rowland, awdwr hyglod Llyfryddiaeth y Cymry (1802-1865).

Ond rhaid ymatal. Yr ydym, weithian, yn ngorsaf Penygroeslon, yn mherfeddion y wlad. Gadawn y cerbyd, a thrown ar draws y meusydd sydd ar y dde. Mae y cloddiau wedi eu goreuro gan flodau yr eithin, a chlywir llais y gôg o gyfeiriad Rhos hir waen.

Y mae yr haul ar ei ogwydd, a'r glasfor yn ddrych o hedd. Hwyrnos Sadwrn ydyw; pen tymor-calan Mai! Gwelir llanciau bochgoch yn cyfeirio yn brysur tua'u cartrefi am ychydig seibiant cyn dechreu yn y "lle newydd." Golcha llanw bywyd i bob traeth: daw heibio i bob gradd. Mae newid "lle" yn ffaith bwysig yn nghyrfa "hogyn gyru'r wedd." Braidd na ddarllenwn gymysg deimlad yn wynebpryd ambell un o honynt, wrth iddo basio, a'i becyn dan ei gesail, tua rhyw fwthyn yn nghanol y wlad.
***** Y mae yr ehedyddion yn distewi; a pheidiodd cân y fwyalch yn y twmpathau. Teyrnasa rhyw dawelwch rhyfedd ar bob llaw,

Yna'r hwyr gain a rydd
Fàr o aur ar fôr y Werydd.

Neillduwn ninau, ddarllenydd, i'r ffermdy gerllaw, lle y cawn luniaeth iach, a hanesion difyr y dyddiau gynt.

YN MRO GORONWY.

[Ymddangosodd yr ysgrif ganlynol yn "Mwrdd y Llenor; " adargrefir hi ar gais yr hen ddarllenwyr.]

YMDDENGYS fod yr hysbysiad a wnaed am fwriad aelodau y Bwrdd i ymweled âg ardal genedigaeth a maboed Goronwy Owain wedi cael ffafr yn ngolwg lluaws o garedigion llenyddiaeth. Un prawf o hyny ydoedd y ffaith i amryw o honynt anfon at yr ysgrifenydd i ddeisyf am gael uno â'r pererinion. Yr oedd y trefniadau wedi cael eu hymddiried i Asiedydd, oblegid ein cychwynfa oedd Llangefni. Cyrhaeddasom yno yn brydlon, a chawsom y pleser o weled amryw lenorion, tra yr oedd Asiedydd yn parotoi y cerbyd oedd i gludo y "Bwrdd" i Lanfair. Ond dyma hysbysiad yn ein cyr- haedd fod y cerbyd yn barod. Gwnaethom bob ymgais 1 fyned drwy Langefni mor ddistaw ag yr oedd modd, ond mynai lluaws ein hanrhydeddu drwy sefyll yn y drysau i edrych arnom. Buom yn hynod ffodus yn ein gyriedydd. Prin yr oeddym wedi myned allan o'r pentref, a throi ar y chwith, nag y dechreuodd y cyfaill hwn gyfeirio ein sylw at leoedd dyddorol, gweddillion hynafiaethol, &c. Yn sicr ddigon, bachgen clyfar ydyw R. T. Gallem feddwl ei fod yn yriedydd wrth natur. Drivers oedd ei dadau. Yr oedd ei daid a'i hen daid yn yriedyddion o ddylanwad yn yr old coaching days. Ac y mae yntau wedi etifeddu eu hathrylith. Y mae ei ddoniau yn helaeth, a'i ffraethder yn hollol naturicl. Buasech wrth eich bodd yn gwrando arno yn adrodd am dano ei hun yn drivio rhyw foneddwr a boneddiges (wrth gwrs!) drwy Nant Gwynant, ar ddiwrnod o wlaw taranau. "Nid smalio bwrw y mae hi ffor hono," ebai. Yr oeddwn i yn lýb at y nghroen er's meityn, a chawn i ddim gyru.—Take your time,' medde nhw o hyd. Welis i ddim pobl yr un fath erioed: mwynhau yn braf yn nghanol y glaw i gyd. Wedi i ni gyredd yr hotel, welwch chi, yr oedd yn rhaid, ie, yr oedd yn rhaid i mi gymryd croper o frandy! Ond son yr oeddym am wybodaeth hanesyddol ein gyriedydd.

Yr oedd yn rhyfeddol mewn gwirionedd. Nid oedd dim braidd na wyddai rhywbeth am dano. Un peth sydd yn cyfrif am hyn ydyw ei fod wedi bod yn drivio llawer iawn o foneddigion fyddent yn cymeryd dyddordeb mewn henafiaethau, ar hyd a lled y wlad, ac wedi rhoddi swm helaeth o'r hyn glywodd ar adegau o'r fath yn ei gof. Soniai, hefyd, am ryw "lyfr" oedd ganddo yn rhoddi hanes yr ardaloedd yr oeddym yn myned drwyddynt, a phen ar bob dadl oedd fod y peth a'r peth yn y "llyfr." Nid oedd yn amheu dim. Yr oedd ei ffydd yn mhob traddodiad yn ddisigl. Ac wrth wrando arno yn dyweyd yn sobr am "Lyn yr wyth Eidion," y "Tair Naid Stond," a'r darlun ffyddlawn sydd o'r Apostol Pedr yn Eglwys Llanbedrgoch, nis gallem lai na derbyn y cyfan fel gwirionedd.

Yr oeddym yn gadael Rhosymeirch ar y chwith, ac yn myned trwy y Talwrn. Yma gelwid ein sylw at dy ar ochr y ffordd—cartref bardd ieuanc tra addawol o'r enw Chwilfryn Mon. Dipyn yn mlaen, ar y chwith, yr oeddym yn pasio y Marian,—lle prydferth, a chartref Marian Mon, y llenor adnabyddus. Bellach yr oeddym yn dyfod i olwg ardaloedd prydferth mewn gwirionedd. Ar y dde, yr oedd Penmynydd enwog, mynydd y Llwydiarth, ac o'n blaen yr oedd coedwigoedd y Plas Gwyn, y Traeth Coch, y Castell Mawr, &c. Ac O! mor fendigedig oedd gwedd pob gwrthddrych, bach a mawr. Delw yr haf ar y cyfan. Nid oedd cysgod gwywdra na dadfeiliad ar ddim. Yn wir gallesid meddwl oddiwrth y cyflawnder o fywyd ar bob llaw fod gauaf wedi ei alltudio yn oes oesoedd. Yr oeddym yn cydweled yn hollol â sylw ein driver pan yn bwrw golwg hamddenol ar y wlad:—"Y gwir ydi, y mae visitors yn aros yn rhy hir cyn dod i lefydd. fel hyn. Dyma yr adeg oreu ar y flwyddyn, cyn i'r gwres fyn'd yn eithafol, a chyn i'r dail a'r blodau ddechreu gwywo." Chwi sydd a'ch bryd ar weled y wlad yn ei gogoniant, cymerwch yr awgrym. Ond dyma ni wedi cyrhaedd yn ddiogel i Bentraeth. Lle bychan gwir brydferth, tawel, ac iachusol ydyw hwn. Yr oedd ei enw yn hysbys i ni er's llawer dydd, ond ni feddyliodd ein calon ei fod yn llanerch mor farddonol. Wedi sylwi ar y masnachdy ar yr aswy—cartref y Thesbiad," aethom, yn nghwmni y gyriedydd, i weled olion rhyw hen gawr yn neidio ar dir y Plasgwyn—palas yr Arglwyddes Vivian. Pwy oedd y cawr? phaham y llamodd yn y fan hon mwy na rhyw lecyn arall? Modd bynag, y mae y cerig sydd yn dangos ôl yr orchest yn cael eu gadael yma yn ofalus. Dychwelasom wedi hyny tua'r fynwent. Y peth cyntaf a wnaethom oedd chwilio am fedd y Thesbiad. Cawsom ef yn rhwydd ar ochr ogleddol yr eglwys, yn lled agos i dŵr y gloch. Careg orweddol, o ithfaen Mon, sydd ar y bedd, a railings isel o'i gwmpas. Y mae bellach lawer haf-ddydd hir wedi myned heibio er pan ddistawodd y llais o'r ogof. Cawsom fyned i mewn i'r eglwys. Y mae yn adail hynod o brydferth. Teimlir fod yn y lle gyfarfyddiad o ddwysder a thawelwch. Ar y muriau ceir tablets heirdd yn coffhau am deuluoedd enwog yn y gymydogaeth. Ar un ohonynt canfyddir enw Paul Panton, o'r Plasgwyn—cymwynaswr llenyddiaeth Gymreig. Gresyn fod y trysorau a gasglodd yn awr dan gudd. Yn agos ato, gwelir enw Councillor Williams, boneddwr a fu yn gymwynaswr i lenyddiaeth Gymreig yn nyddiau William Pritchard, o Blasybrain. Carasem aros yn hwy yn Pentraeth, ond yr oedd brodyr yn ein disgwyl yn mhellach yn mlaen. Aethom i'r cerbyd drachefn; cyn hir yr oeddym yn pasio capel Glasinfryn, yr hynaf yn y sir. Yn mlaen, ar yr aswy, y mae Plas Goronwy, ond nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y lle hwn a Goronwy Owain. Onid oedd Goronwy Ddu o'i flaen ef? Dywed W. P. mai un o'r croesgadwyr a adeiladodd Blas Goronwy. Yn awr, dyma ni yn ngolwg Brynteg—lle y bu farw yr hyawdl John Phillips (Bangor), a chartref y diweddar Barch. John Richard Hughes. Ond, atolwg, pwy yw y gwyr sydd yn cerdded yn bwyllog o'n blaenau? Ceir ffon gref gan un, umbrella gan y llall, ac y mae cyfrol drwchus dan gesail y trydydd. Pererinion ydynt, a'r un yw eu neges a'r eiddom ninau, sef ymweled a chartref Goronwy. Cymeraf fy nghenad i'w cyflwyno i'r darllenydd. Mae y cyntaf yn wr lled fyr, corphol, ysgwyddau llydain, ysgwar—golwg urddasol a chadarn, medda wyneb da—trwyn Rhufeinig, dau lygad byw, chwareus, a'i holl wyneb yn llefaru tirionedd a natur dda. Efe yw yr olaf o bawb y buasech yn ei gyfrif yn euog o "gydfradwriaeth," ac eto felly y mae! Y mae yn gydymaith o'r fath a garem ar daith fel hon. Teimla y dyddordeb mwyaf yn hanes Goronwy, a medda rai pethau anghyhoeddedig am dano. Efe yw ein llywydd heddyw, a theimlir yn hollol ddiogel dan ei nawdd. Mae y nesaf o bryd goleu, gwr lled ieuanc, ac adnabyddus fel bardd. Yr ydych yn sylwi fod cyfrol o waith "Goronwy" dan ei fraich. Yn yr un fintai yr oedd gwr cymdeithasgar, yn gwisgo spectol; a'r dilledydd enwog o Bentraeth. Y mae efe yn edmygydd o Goronwy, ac y mae rhyw sail i dybied fod rhai o'i henafiaid wedi bod yn "mesur" y bardd am gôb ddu!

Wel, dyna'r lle oeddym yn fintai fechan, yn symud yn bwyllog a hamddenol, a'n gwynebau tua chartref gwreiddiol prif fardd Mon. Pa bryd y gwelwyd pererindod gyffelyb o'r blaen? Nid oedd gwobr nac enw yn y cwestiwn. Nid oedd cadair na bathodyn yn aros neb ohonom. Ein hamcan syml oedd talu gwarogaeth syml i goffadwriaeth Goronwy fawr ei athrylith, a mawr ei helbulon, a cheisio yfed ysprydiaeth newydd i astudio ei weithiau. Teimlad rhyfedd a feddianai amryw ohonom pan yn syllu am y waith gyntaf ar fro mebyd Goronwy; ymwthiai llinellau o'i farddoniaeth a darnau o'i lythyrau i'n cof.

II.

"Mountain, bay, and sand-bank were bathed in sunshine; the water was perfectly calm; nothing was moving upon it, nor upon the shore, and I thought I had never beheld a more beautiful and tranquil scene."

"Prosperity to Llanfair! and may many a pilgrimage be made to it of the same character as my own."
—GEORGE BORROW.

Y mae weithian dros ddeugain mlynedd er pan fu awdwr y llyfr hynod a elwir "Wild Wales" ar ymweliad â Bro Goronwy. Ar ddiwedd ei ddesgrifiad o Lanfair, dymuna am i lawer pererindod gyffelyb i'r eiddo ef gael ei gwneyd i'r fan. Nis gwyddom i ba raddau y cafodd ei ddeisyfiad ei sylweddoli o hyny hyd yn awr; ond gwyddom am un bererindaith a gafodd ei gwneyd i'r lle, a hyny i'r un amcan. Y mae George Borrow wedi darfod â theithio'r ddaear, ond yn ein byw nis gallem beidio meddwl am dano tra yn ardal dawel Llanfair. Yr oedd y diwrnod a gawsom ninau yno mor dêg a hafaidd a'r un a ddesgrifir gan Borrow:—mynydd, bâu, a thraeth megis wedi eu trochi mewn heulwen, yr olygfa yn ddigymhar mewn tlysni a hedd. Onid meddwl am y fangre ar ddiwrnod cyffelyb i hwn a gynhyrfodd awen Goronwy i ddyweyd mewn geiriau anfarwol:—

Henffych well, Fôn, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir;
Goludog, ac ail Eden,
Dy sut, neu Baradwys hen;
Gwiw-ddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Ner, a dyn wyd


Ond tra yr oedd Borrow yn teithio wrtho ei hunan, yr oedd cwmni niferus ohonom ni, ac ystyriwn hyny yn welliant ar y drefn oedd ganddo ef. Dyweder a fyner am olygfeydd Natur, y mae cymdeithas meddwl sympathetic wrth eu mwynhau yn chwanegu at eu dyddordeb.

Deallwn erbyn hyn fod tipyn o gywreinrwydd yn meddianu rhai o breswylwyr Llanfair a'r cyffiniau mewn perthynas i amcan ein hymweliad, ond ni chlywsom i ni gael ein camgymeryd, fel y cafodd Borrow, am nifer o borthmyn! Ac os oedd drwgdybiaeth yn meddianu ambell un wrth edrych arnom yn y pellder, yr oedd canfod W. P. ar flaen yr orymdaith yn ddigon i argyhoeddi y mwyaf ofnus fod amcan y daith yn un teilwng ac anrhydeddus. Ond y mae yn bryd i mi symud yn mlaen gyda hanes y daith.

Yr oedd awydd ynom i weled dau le yn neillduol, sef cartref Goronwy, ac eglwys a mynwent Llanfair. Enw y fangre lle y gwelodd prif-fardd Mon oleuni dydd, yn y flwyddyn 1722 (?), ydyw y Dafarn Goch.

Wedi pasio Brynteg, yr ydym yn troi ar y chwith ar hyd ffordd gul, garegog,—ffordd, meddai W. P., y byddai Goronwy yn ei cherdded pan yn blentyn. Ar ol cerdded fel hyn am yspaid yr ydym yn dyfod at ddau neu dri o fwthynod bychain yn llechu dan gysgod coed deiliog. Ond y mae ein sylw ar y bwthyn hirgul, diaddurn, ond hynod o lanwedd sydd ar y dde. Mae gardd fechan dwt o flaen y drws. Edrychem ar y cyfan gyda dyddordeb ac edmygedd. Dyna'r fan am yr hwn y dywedai Goronwy:—

Y lle bu'm yn gware gynt
Mae dynion na'm hadwaenynt;
Cyfaill neu ddau a'm cofiant—
Prin ddau lle 'roedd gynau gant.

Ac y mae yr olaf un oedd yn adwaen ac yn cofio Goronwy yn fachgen bywiog, llygadlon, crychwalltog, yn y gymydogaeth hon, yn y fan lle nad oes na "gwaith na dychymyg" er's llawer dydd!

Arhosasom wrth y llidiart tra yr elai W. P. at ddrws y bwthyn i ofyn am ganiatad i nifer o Gymry oedd wedi dod yno "er

er mwyn Goronwy" i gerdded ychydig o gwmpas y lle. Daeth gwraig lled wanaidd yr olwg arni i'n cyfarfod, a hysbysodd ni yn hynod o foesgar fod croesaw calon i ni edrych pob twll a chornel yn y fan. Aethom i'r ardd, a gofynodd W. P. i Mrs. ——— pa le yr oedd y cerfiad y tybid iddo gael ei wneyd gan Goronwy. Dangosodd hithau gareg arw yn y mur, yn lled agos i ddrws y ty, ac wedi craffu gwelem fod arni, yn gerfiedig, y llythyrenau a ganlyn:—

Beth y maent yn ei arwyddo? Onid Goronwy Owain yw ystyr y ddwy isaf? Ac onid oedd ganddo frawd o'r enw Owain Owain? Bydd genym air yn ei gylch ef yn nglyn âg Eglwys Llanfair. Hysbysid ni gan y wraig fod y pen hwnw o'r bwthyn lle y ganwyd Goronwy wedi myned yn adfail, a bod y ty presenol wedi ei godi ychydig latheni yn îs i lawr. Yn unol â'i thystiolaeth, yr oeddym yn gallu canfod darnau o fur y bwthyn cyntefig. Ond er fod y ty wedi cyfnewid ychydig, yr oeddym yn hollol sicr ein bod yn sefyll yn y llanerch lle y ganwyd Goronwy Owain, a'r lle fu yn gartref iddo yn mlynyddau cyntaf ei oes. Ar ol craffu ar y fan, cawsom rydd-ymddiddan yn nghysgod clawdd yn yr ardd. Coffawyd lluaws o linellau barddonol o eiddo Goronwy. Ceisiwyd rhoddi esboniad ar rai ymadroddion anhawdd a geir yn ei weithiau. Cyfeiriwyd at yr amcan-dyb—fod golygfeydd Natur yn gosod eu hargraff ar feddwl ac athrylith gwahanol awdwyr. Beth yw nodweddion mwyaf amlwg athrylith Goronwy?

A ydynt yn cyfateb i'r eiddo anian fel y gwelir hi o'r bwthyn hwn? Cadernid, rhamantedd, a mawredd y môr, sydd yn fwyaf amlwg yn y llecyn hwn. Nid oes yma ddyffryn brâs neu afon ddolenog, ond y mae ym. wir arddunedd. A ydyw hynyna yn briodoledd amlwg yn athrylith Goronwy? Credwn ei bod. Wedi boddloni ein hunain drwy syllu ar gerig llwydion a thwmpathau oedranus oddeutu anedd Goronwy, cawsom ychydig eiriau gyda "gwraig y ty." Y mae hi, fe ymddengys, yn un o ddisgynyddion Goronwy. Y mae yn chwaer i'r lodes fach (y pryd hyny) a ysgrifenodd â'i llaw ei hun yn note-book George Borrow y geiriau a ganlyn:—

"Ellen Jones, yn perthyn o bell i Goronwy Owen."

Gofidiem fod ei hiechyd mor wanaidd, ond y mae ei meddwl yn fywiog a chraffus. Ac er mai mewn bwthyn digon cyffredin y mae yn byw, yr oedd ei hymddygiad ar y dydd a nodwyd mor foesgar a boneddigaidd ag unrhyw lady yn y tir. Wedi ymddiddan gyda hi, nid oeddym yn rhyfeddu dim ei bod yn perthyn i Goronwy, er "o bell." Y mae dyfodiad athrylith i deulu yn dylanwadu yn mhell. Yr ydym yn awr yn dychwelyd ar hyd yr un ffordd, yn pasio Brynteg, a'r Wellington Inn (y ty oedd yn cael ei adeiladu pan oedd Borrow yn yr ardal). Synwyd y teithydd fod y perchen yn gallu siarad Yspaenaeg, a bu ymgom ddoniol rhwng y ddau. Yma yr oeddym yn troi ar y chwith at Lanfair. Tra yn siarad am ymgom Borrow gyda gwr y Wellington, gofynem i W. P.:—

"P'le mae y felin lle y cafodd George Borrow de a siwgwr gwyn?"

Dyma hi," ebai yntau: "melin wynt ydyw, fel yr eiddo Mon yn gyffredinol."

"A oes rhai o'r teulu oedd yno ar y pryd ar gael yn bresenol?"

"Oes; a synwn ni ddim nad yw y wraig yn y ty yn awr. Gadewch i ni droi i mewn.

Felly y bu. Cawsom y pleser o weled, ysgwyd llaw, ac ymddiddan gyda Mrs. Jones,[2] y wraig dda a ganmolir gan Borrow yn ei ddesgrifiad o Lanfair. Y mae yn cofio am ei ymweliad fel doe. Boneddwr o bryd goleu ydoedd, heb fod yn dal iawn: canol oed y pryd hyny, ac yn siarad Cymraeg yn lled chwithig. (Meddyliai ef ei fod yn berffeithrwydd pob tegwch fel Cymro!). Yr oedd yn cofio am dano ei hun yn estyn y "siwgr gwyn"—nwydd lled brin yr adeg hono, ac mor siriol a dirodres yr oedd yr ymwelydd yn ymddiddan gyda hwynt. Dywedai iddo wrth fyned ymaith roddi "pisyn deuswllt" yn ei llaw—y darn cyntaf o'r fath iddi weled yn ei hoes! Dyma eiriau Borrow ei hun pan yn ysgrifenu am y cyfarfyddiad:—

My eyes filled with tears; for in the whole course of my life I had never experienced such genuine hospitality. Honour to the Miller of Mona and his wife! and honour to the kind hospitable Celts in general."

Y mae "Miller of Mona"—y caredig John Jones, yn tawel huno er's blynyddau "lle y gorphwys y rhai lluddedig." Mab iddo ydyw y Parch. J. Mills Jones, Tabernacl, Mon.

Ar ol dymuno iddi hir oes ac iechyd, aethom yn mlaen eilwaith, a chyn hir daethom i olwg Eglwys Llanfair, yr eglwys y byddai Goronwy yn myned iddi pan yn blentyn; yr eglwys y bu yn gurad ynddi am "dair wythnos," pan y gorfyddwyd ef i wneyd lle i Mr. John Ellis, Caernarfon, ffafryn yr esgob, ac ni chafodd ddychwelyd i'w anwylaf Fon byth mwy! Yn awdl "Y Gofuned," ei ddymuniad ydyw:—

Dychwel i'r wlad lle bu fy nhadau,
Bwrw yno enwog oes, heb ry nac eisieu; .
Yn Mon araul, a man oreu—yw hon
Llawen ei dynion, a llawn doniau.


Ond ni chafodd hyny ei sylweddoli. Ond am y llinellau eraill a geir yn ei gywydd i Fon, y maent wedi eu gwirio yn llawn:—

Poed yt' hedd pan orfeddwyf
Yn mron llawr estron lle'r wyf.
Gwae fi na allwn enwi' nod,
Ardd wen, i orwedd ynod!

III.

The church stands low down the descent, not far distant from the sea. A little brook, called in the language of the country, a ffrwd, washes its yard-wall on the south. It is a small edifice with no spire. . . . It seemed to be about 250 years old, and to be kept in tolerable repair. Simple as the edifice was, I looked with great emotion upon it.

——"Wild Wales."

Y mae yr hyn a ddywedir gan George Borrow am eglwys Llanfair yn gywir—mewn rhan. Saif yr eglwys heddyw fel cynt, ar lethr brydferth yn ngolwg y môr. Y mae y ffrwd yn para i redeg heibio'r fynwent. Ond nid yr un adeilad ydyw a phan oedd efe yn ymwelydd. Deallwn fod yr eglwys hon yn yr un llecyn, ac wedi ei gwneyd yn lled debyg i'r hen Lan y tybiai Borrow ei fod yn 250 mlwydd oed. Dywedir mai cynllunydd yr eglwys bresenol oedd y diweddar Talhaiarn. Syml yw yr adail, ond y mae pobpeth ynddo ac o'i gwmpas yn drefnus, dymunol, a glân. Nid mewn tolerable repair y cedwir ef: yn yr ystyr yna, nid oes dim o'i gwmpas i friwio teimlad y penaf o edmygwyr Goronwy. Gadewch i ni roddi tro drwy y fynwent. Mor dawel yw y cyfan! Dyweder a fyner, y mae rhywbeth cysegredig mewn hen lanau llonydd fel hyn, lle y cwsg y Cymry fu. Yma,

Each in his narrow cell for ever laid
The rude forefathers of the hamlet sleep.


YN MRO GORONWY.

Na, nid for ever chwaith! Daw y dydd

Pan ganer trwmp Ion gwiwnef
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Mon a'i thirionwch
O wres fflam yn eirias fflwch.

A'r pryd hyny, hefyd,

Cyfyd fal yd o fol âr
Gnwd tew eginhad daear,
A'r môr a yrr o'r meirwon
Fel myrdd uwch ddyfnffordd y dôn.
Try allan ddynion trillu
Y sydd, y fydd, ac a fu.

Wrth fwrw trem ar y beddfeini yn Llanfair, yr hyn oedd yn ein taraw yn bur rymus ydoedd—mor drwyadl Gymreig ydyw y brawddegau sydd wedi eu cerfio ar y cerig, yn enwedig y rhai hynaf o honynt. Mae yr iaith gref, gynwysfawr, gaboledig, yn deilwng o Goronwy. Gerllaw y fynedfa i'r eglwys gwelsom gareg ac arni y geiriau canlynol:—

"HUNFA

William ab Robert, a hunodd Ebrill 30, 1769."

Ie, "hunfa;" dyna i chwi air tlws am y ty rhagderfynedig i bob dyn byw. Ar faen arall ceir yr englyn a ganlyn:—

Ar ryw fynud terfynai—ei dymhor
Mewn damwain diweddai,
Yn ei nerth diflanu wnai,
Ar fin yr araf Fenai.

Am y beddfeini diweddar, y mae yn ddrwg genym ddyweyd fod y Gymraeg yn llawer mwy carpiog a dirywiedig. Gallasem nodi esiamplau, ond y maent yno i'r hwn a ewyllysio eu gweled. Pa le bynag y goddefir i'r iaith Gymraeg gael ei llurginio, y mae pob rheswm yn dyweyd na ddylid caniatau hyny yn Llanfair!

Ond yr hyn y meddyliem am dano wrth blygu uwchben y naill feddfaen ar ol y llall ydoedd—Tybed a oes yma goffadwriaeth am rywrai o berthynasau lluosog Goronwy? Yr oedd yr un peth yn cyniwair drwy feddwl George Borrow pan yn y llanerch. Y mae efe wedi dethol y beddargraph a ganlyn:—

"Er cof am Jane Owen,
Gwraig Edward Owen.
Monachlog, Llanfair Mathafarn Eithaf,
A fu farw Chwefror 28, 1842,
Yn 51 oed."

Ond tystia W. P. nad oes unrhyw berthynas rhwng teulu y Fonachlog â theulu Goronwy, er mai Owen ydyw y cyfenw. Ond gwelsom feddfaen arall, a buom yn syllu cryn lawer arno. Y mae mewn cadwraeth led dda, ac yn sefyll rhwng y fynedfa allanol a thalcen yr eglwys. Dyma yr argraph sydd arno:—

"ER COF
am
Owain ab Owain, Swyddog y glo, yn y Traeth Coch. Bu farw Mai 9,
1793. Ei oed 88."

Gwelir fod yr Owain uchod wedi ei eni yn 1705, tua 17 mlynedd o flaen Goronwy; ac y mae W. P. yn gryf o'r farn mai efe ydyw yr

O x O

sydd wedi ei gysylltu âg enw Goronwy ar fur y Dafarn Goch. Os felly, yr oedd Owain ab Owain yn frawd i awdwr "Cywydd y Farn." Cyn gadael Llanfair, mynegodd amryw o'r brodyr mai buddiol fyddai cael cyfarfod eto yn yr un llanerch, a hyny i ddau amcan,—yn gyntaf, casglu cymaint ag a ellir o weddillion anghyhoeddedig am Goronwy; yn ail, cynorthwyo ein gilydd i astudio ei hanes a'i weithiau. Wedi trefnu rhaglen ar gyfer y "seiat gyffredinol," yr oeddym dan orfod i ymwahanu—pawb i'w ffordd ei hun. Anhawdd oedd ymado: eilwaith a thrachefn safem i edrych ar y ceinder oedd o'n cwmpas, ac i wrando ar ddeunod clir y gôg o'r glasfryn gerllaw. Gwyddem fod ei thymhor canu bron ar ben. Tybed ei bod wedi dod i offrwm ei chân ddiweddaf uwchben bro Goronwy, cyn myned, fel yntau, i wlad estronol!

Ni faethodd gwlad glodadwy
Na daear Mon awdwr mwy:
Yno coffeir ei annedd,
Ow! 'mha fan y mae ei fedd?

Wedi ysgwyd llaw â chyfeillion Pentraeth esgynasom i'r cerbyd, a dychwelasom tua Llangefni ar hyd ffordd arall. Ar y daith cawsom ymddiddan difyr iawn am hen bobl a hen bethau, nid amgen, John Bodvel, Rhys. Ddu o'r Ddreiniog, Robert Morgan, person Llanddyfnan, Llech Talmon, &c. Disgynasom ar gyfer Rhosymeirch, ac aethom i weled bedd William Pritchard, Clwchdyrnog, yr Ymneillduwr cyntaf yn Mon. Bu y gwron farw yn 1773, ac yn mhen can' mlynedd dodwyd colofn ardderchog ar "fan fechan ei fedd." Hanes hynod sydd i'r gwr hwn. Dilynodd egwyddor drwy barch ac anmharch, ac y mae ei lwch yn gysegredig. Ond y mae cysgodau yr hwyr yn dechreu disgyn ar ein llwybr. Cychwynasom eilwaith tua Llangefni. Llawn oedd y gwrychoedd o flodau'r drain, a hyfryd yn wir oedd eu perarogl. Syllem ar y niwl gwyn yn ymgasglu ar grib yr Eryri, a dwysder yr hwyr yn meddianu yr holl wlad.

HAF-DDYDD YN ERYRI.

O mae Mehefin a'i ddyddiau hir
Ei wybren lâs a'i awyr glir,
Yn ddarn o'r nef i'r meddwl pur.

AR un o'r cyfryw ddyddiau yn "hafaidd fis Fehefin," cychwynais o hen dref Gaernarfon i gyfeiriad y Waen—fawr, gyda'r bwriad o dreulio Sabboth yn Nant Gwynant, ger Beddgelert. Yr oedd y diwrnod yn bobpeth a ellid ei ddymuno—

"One of those heavenly days that cannot die."

Ond tra yn ymdroi yma ac acw i edrych ar deleidion Natur, fe'm goddiweddwyd gan ymdeithydd oedd yn teimlo yn bur gymdeithasgar, gallwn dybied. Yn ystod yr ymgom a ddilynodd, deallais ei fod yn disgwyl arian o'r Chancery. Nid oedd y tywydd braf yn effeithio ond ychydig arno; yr hyn a fuasai yn wir braf ganddo ef a fuasai gweled y ffrwd aur yn dechreu llifo tuag ato. Crybwyllai am ryw ŵr oedd wedi retirio, fel y dywedir, ond wedi gorfod ymaflyd yn ei alwedigaeth drachefn; nid er mwyn elw, ond er mwyn cael rhyw gysur yn y byd sydd yr awrhon. Mae gwneyd arian yn meddu swyn mawr i ddynion; ond pa le y mae y dyn all fyw ar ei arian? Y mae lluaws o'r cyfryw wedi crebachu eu meddyliau yn yr ymdrech i enill cyfoeth; ac wedi myned i neillduaeth, nid oes ganddynt adnoddau cyfaddas i dynu. cysur o honynt. Na, nid drwy arian chwaith y "bydd byw dyn." Hwyrach fod fy nghydymaith yn fwy hapus yn disgwyl yr arian o'r Chancery nag a fyddai ar ol eu cael. Yn y Waen ffarweliais âg ef. Cyn hir cyrhaeddais Bettws Garmon; a bum yn eistedd i ddisgwyl

HAF-DDYDD YN ERYRI.

y gerbydres ar y bont y sonia George Borrow am dani yn ei Wild Wales. Fel hyn y llefara:—"I entered a most beautiful sunny valley, and presently came to a bridge over a pleasant stream running in the direction of the south. As I stood upon that bridge, I almost fancied. myself in paradise." Felly yn union yr ymddangosai y prydnawn hwn—yr afon mor loew ag arian. O fangre dawel! Ond yn y man daeth y tren i dori ar y distawrwydd. Cryn gyfnewidiad oedd myned o ganol yr awelon balmaidd i'r cerbyd twymn a llawn. Yno yr oedd rhyw Sais haner meddw yn brygawtha yn groch; aeth i lawr yn yr orsaf nesaf, a gwelwn ef yn hudo rhyw Gymro gwledig i'r dafarn oedd gerllaw.

Wedi cael lift mewn cerbyd i'r "Bedd," cychwynais drachefn ar draed i gyfeiriad Nant Gwynant. Yn y man daethum i olwg Llyn y Ddinas—dinas Emrys, hen gartref Llewelyn. Erbyn hyn yr oedd yr haul yn gogwyddo i'r gorllewin, ag awel min nos yn crychu wyneb y dwfr. Goddiweddais bysgotwr oedd yn mwynhau" mygyn" cyn dechre ar ei orchwyl. Aed i son am y llynoedd a'r afonydd oedd yn y gymydogaeth. Gwelais ei fod yn "hen law"—gwyddai am bob llan—erch lle yr oedd brithyll neu ëog yn llechu. Wedi peth siarad, dangosodd i. mi ei ystoc o blu, y rhai a gadwai yn ofalus mewn llyfrau lledr yn ei logell,—un yn dda yn y nos, un arall yn gampus wedi gwlaw, a'r nesaf—llun glöyn byw yn anffaeledig ar ddiwrnod tesog a chlir. Ac yr oedd i bob pluen ei hanes; yr oedd edrych arni yn adgofio yr ymdrech gyda rhyw bysgodyn nwyfus yn yr amser a aeth heibio. "A gwnaf chwi yn bysgotwyr dynion," ebai y Meistr. Gofynwn i mi fy hun, A ydwyf yn teimlo cymaint o ddyddordeb yn y gwaith a'r pysgotwr syml hwn? A ydwyf mor gyfarwydd âg adnodau y Beibl ag y mae ef â'i blu a'i fachau? Gyda'r holiad hwn yn fy meddwl, dymunais ei lwydd, a phrysurais tua'r capel sydd ar ochr y ffordd, wedi ei gysgodi o'r bron gan goed, a'r afon Gwvnant vn llithro -heibio iddo gan furmur dros y graian glân. Cyn myned i orphwys, cefais gipolwg ar y Wyddfa, a'r niwl gwyn fel gwddf—dorch am dani. O ardal ramantus!

Dranoeth yr oedd yn Sabboth—Sabboth mewn gwirionedd. Teimlwn fy mod yn nghysegr Anian. Aethum i gwr y coed yr ochr draw i'r afon, a daeth geiriau Wordsworth i fy meddwl:—

"There is a spirit in the woods.
* * * * * *
In this moment there is life and food
For future years."

Os teimlais gyffyrddiad y tragywyddol unrhyw awr ar fy oes, credaf i mi wneyd hyny yn y munydau y bum yn eistedd ar y maen mwsoglyd hwnw yn edrych, yn gwrando, ac yn ceisio yfed ysbrydoliaeth yr olygfa. Ger fy mron ymgodai y Wyddfa i'r uchelion, a niwl—fantell deneu ysgafn yn gorphwys ar ei hysgwydd. O'i chylch ymddyrchafai bryniau cadarnwedd a serth, fel i dalu gwarogaeth i'w mawrhydi. Ar y gwaelod ceid y gwair toreithiog yn ymdoni o flaen yr awelon. Teimlwn y gallaswn dreulio y dydd, a'r dyddiau, i freuddwydio ar ogoniant y fro. Dyma fan ddymunol i adgyweirio tanau y galon, ac i gynyrchu y "dymheredd fendigaid " y sonia y bardd am dano:—

"That blessed mood
In which the burden of the mystery,
In which the heavy and the weary weight
Of all this intelligible world
Is lightened: that serene and blessed mood
In which the affections gently lead us on—
Until, the breath of this corporeal frame,
And even the motion of our human blood
Almost suspended, we are laid asleep
In body, and become a living soul.
While with an eye made quiet by the power
Of harmony, and the deep power of joy,
We see into the life of things."


Ie, yn mhresenoldeb y fath olygfeydd yr ydym yn gweled i mewn i fywyd, i hanfod pethau. A dyma olygfa i lonyddu y llygad drwy rym cynghanedd a gallu dwfn llawenydd. Ceir yma y mawr a'r tyner, y tlws a'r arddunol, yn ymdoddi i'w gilydd. Acw y mae cadernid tragwyddol y mynyddoedd; yma ceir dail a blodau yn gwenu drwy ddagrau gwlith. Druan o'r dyn a all eistedd yn nghanol gogoniant yr haf, heb deimlo ei ysbryd yn cyffwrdd âg ymyl gwisg y Dwyfoldeb fu yn creu pob mynydd, ac yn paentio pob rhosyn! Ond daeth yr awr weddi; aethum o gysegr Natur i gysegr gras, gan deimlo fod y naill fel y llall yn "dŷ i Dduw, ac yn borth y nefoedd." A thra yr oedd haul y boreu yn arllwys dylif o wawl drwy ffenestri yr addoldy, canem hen emyn Williams:—

"Ar ardaloedd maith o d'wyllwch
T'wynu wnelo'r heulwen lân,
Ac ymlidied i'r gorllewin
Y nos o'r dwyrain draw o'i blaen;
Iachawdwriaeth!
Ti yn unig gario'r dydd."

Yn ystod y dydd cafwyd cwmni W——H——hwn sydd bellach fel Mnason, yn "hen ddisgybl". Y mae ychydig gloffni yn ei aelodau, ond nid oes arwydd cloffni na phall ar ei feddwl. Mae yn cofio "John Roberts, Llangwm," yn pregethu mewn amaethdy yn yr ardal dros driugain mlynedd yn ol. Yr oedd y gweinidog ar y pryd yn foel; a sylwai y plentyn wedi myned adref fod pen y pregethwr yn wyneb i gyd! Mae yr hen bererin yn methu deall yn glir paham na byddai mwy o "wyr y teitlau" yn talu ymweliad â chapel y Nant. Dichon mai un o'i oddities ydyw y sylw a ddyry i'r dyrysbwnc hwn. Yr un pryd, os goddefir i ddyn cyffredin draethu barn, credaf yn onest y buasai ymweled â'r ystafell ardderchog hon yn "ngholeg anian," yn adnewyddiad ysbryd i'r gwŷr dysgedig sydd wedi treulio blynyddau rhwng muriau y prif-athrofeydd. Ceir yma bob mantais i enill graddau—y radd o M.A. (Myfyriwr Anian), a'r radd uchel o D.D. (Dyn Dedwydd).

Boreu dranoeth cychwynais tua Pen-y-gwr-rhyd, ar hyd y ffordd sydd wedi ei chysegru yn nheimlad miloedd o deithwyr. Daethum ar fyrder i olwg Llyn Gwynant, yr hwn y mae ei glodydd, fel yr eiddo darlithwyr Cymreig, yn "fyd-enwog." Y mae ysgrifell y llenor a phwyntel yr arlunydd wedi bod yn cydymgais i delweddu ei swynion; ond "eto mae lle." Pwy, wedi cerdded y ffordd hon ar hir-ddydd haf, a anghofia yr olwg ar y palasau bychain a lechant yn y coed—y dwfr gloew-las, y mynydd llwyd, a'r defaid "gwastadgnaif" yn pori ar ei lethrau. Nid lle i fyned drwyddo gyda'r express ydyw hwn; yn araf y mae natur yn dadguddio ei chyfrinion. Wrth ddringo yr allt y mae edrych yn ol yn demtasiwn barhaus—bob yn fodfedd y carasem fyned ymlaen. Dyma ddarlun perffaith o haf: y gwartheg yn sefyll yn llonydd yn y llyn-y-bronydd yn llawn gwyrddlesni, a "swn anos yn y cymau." Y mae pob synwyr yn cael ei foddhau: y llygad gan y golygfeydd, y glust gan y seiniau, a'r arogliad gan y persawrau a gludir gyda'r awel. Wedi cerdded milldir neu ddwy yn ngwres tanbaid yr haul, daethum i gongl gysgodol; cangau y coed fel sun-shade uwch ben, ac o'r tu cefn iddynt clywir swn aber fyw yn treiglo dros y graig. Nid ydyw i'w gweled, ond O mor adfywiol ydyw ei chân! Mae gwrando arni yn adnewyddiad i'n natur. Dechreu esgyn drachefn, a'r olygfa yn eangu, ac yn myned yn fwy gogoneddus; mynydd ar ol mynydd yn ymwthio i'r golwg, a llyn Gwynant yn edrych yn dlysach ar bob tro. "Distance lends enchantment to the view." Am olygfeydd Anian fel yr eiddo gras, gellir dywedyd, yn y fan hon o leiaf,

"Pan bwy'n rhyfeddu unpeth
Peth arall ddaw i'm mryd."


Yr ydym yn cael perffaith dawelwch; nid oes neb i'w weled yn myned nac yn dyfod. Mae pobpeth megis wedi ei adael—to nature and to me. Cyn cyrhaedd pen yr allt, fodd bynag, daethum at "dorwr cerig" ar ochr y ffordd. Safem ar gyfer y Wyddfa. Gofynais iddo enw y gornant arianaidd a lifai i lawr ei hystlys. Nid oedd yn sicr, ond dywedai fod yr olwg arni wedi ymchwyddo gan lifogydd gauafol yn dra gwahanol i'r hyn ydoedd y bore hwn; ei bod y pryd hyny yn wir arswydus! Galwai fy sylw at fynydd cribog ar y dde, a dywedai, "Nid oes ond llathen rhwng hwnacw a bod yr un faint â'r Wyddfa." Ond y mae y llathen yna wedi gwneyd gwahaniaeth dirfawr yn ei gyhoeddusrwydd! Y mae mil yn gwybod am y Wyddfa am bob un a ŵyr am y Crib Coch. Onid felly y mae yn mysg dynion? Y llathen" yna sydd yn gwneyd yr holl wahaniaeth. Wedi cyrhaedd man cyfarfod y ddwy ffordd ar Ben-y-gwr-rhyd, gwelwn fugail yn eistedd yn hapus gyda'i gi; a chyda theimlad diolchus eisteddais yn ei ymyl, gan deimlo fod gorphwysdra yn felus. Gofynai fy nghydymaith beth a feddyliwn o'r olygfa. Cyffesais, ac ni wadais, ei bod y fwyaf gogoneddus y bu fy llygaid yn edrych arni. Bum yn edrych ar y Wyddfa lawer gwaith, ond ni welais hi hyd heddyw. "Yr oedd Eben Fardd," ebai y bugail, "yn dweyd mai o Nant Peris yr ymddangosai y Wyddfa yn fwyaf mawreddog. (Erbyn edrych, yno yr oedd y cyfaill yn byw!) Gofynai drachefn, "A fyddwch chwi yn meddwl y bydd yr anffyddwyr—y scepticals, fel y bydd ein gweinidog yn eu galw—yn talu ambell ymweliad â'r manau hyn?" "Nis gwn," atebwn; ond y mae enwau rhai o brif enwogion y ganrif wedi eu hysgrifenu yn y visitors' book yn y gwesty yna. Beth a barodd i chwi ofyn y cwestiwn?" Hyn," ebai yntau—"a ydyw yn bosibl i ddyn edrych ar y golygfeydd hyn, ac eto wadu y ffaith fod Creawdwr a Chynhaliwr? "Ie," meddwn, "ond cofiwch fod gan ddyn allu rhyfedd i gau ei lygaid yn erbyn goleuni Natur, yr un fath â goleuni dadguddiad. Y gwir yw, ddyfod goleuni i'r byd, ond gwir arall ydyw, fod dynion yn mhob oes yn caru y tywyllwch yn fwy na'r goleuni." Ond i bob meddwl agored diragfarn, y mae edrych ar y fath olygfa a hon, ar y fath ddiwrnod, yn enyn ystyriaethau addolgar tuagat yr Hwn sydd "ryfedd yn ei weithred, ac ardderchog yn ei waith." Mae yn werth dringo i'r uchelfanau hyn. "Da yw i ni fod yma" yn mhob ystyr. Y byd, yn ei ddwndwr a'i helyntion, sydd yn swnio yn ein clustiau o hyd. Mewn cymdeithas yr ydym yn byw, symud, a bod.

The world is too much with us; late and soon,
Getting and spending, we lay waste our powers
 Little we see in Nature that is ours:
We have given our hearts away, a sordid boon!
*****
For this, for everything we are out of tune,
It moves us not.

Hynod o wir! Yr ydym yn ymwthio gormod i gymdeithas y byd, a rhy fychan o lawer i gymdeithas Natur. Os yw y darllenydd yn teimlo ei hun "allan o dune" o ran ei ysbryd, nis gallaf ddymuno gwell meddyginiaeth iddo na phererindod hen ffasiwn yn mro Eryri.


MELIN Y GLYN.

CANAF gân y Gwanwyn,
Mae'r ddaear ar ei hynt,
Ac ysbryd bywyd newydd
Yn crwydro' mraich y gwynt;
Mae olwyn ddwr y felin
Yn dwndwr ar ei thro,
A daeth y wenol gyntaf
I nythu dan y to.

Canaf gan yr haf-ddydd,
Distaw yw y cwm,
Mae olwyn ddwr y felin
Yn cysgu cysgu'n drwm;
Cawn eiste'n min y gornant
Yn nghysgod dail y llwyn,
Breuddwydio y mae pobpeth
Yn nhês yr haf-ddydd mwyn

Canafgân yr Hydref,
Mae'r byd yn myn'd yn ol,
Fe gaed y llwyth diweddaf
O wenith gwyn y ddôl;
Mae olwyn ddwr y felin
Yn dwndwr drwy y glyn,
A dail y coed yn disgyn
I dawel fron y llyn.

Canaf gân y Gauaf,
Sefyll wnaeth y byd,
Oer yw min yr awel,
Cwsg y blodau i gyd;
Mae olwyn ddwr y felin
Yn ddistaw ac yn syn,
Ac anian yn gorphwyso
O dan yr eira gwyn.


LLYTHYR AT ARLUNYDD.

Camfa'r Cae.

ANWYL GYMRAWD:—

Disgwyliais dy gwrdd yn yr hen lanerchau cyn hyn. Cerddais finion y Seiont, holais yn yr hen felin, ac edrychais o gwmpas y bont bren—ond yn ofer. Disgwyliwn weled yr umbrella gwyn enfawr hwnw, fel pabell Arabiad, a'r colofnau mwg glasliw yn curlio yn yr awelon. Pa le yr ydwyt? Nid oeddwn yn meddwl ysgrifenu sill heddyw—dim ond yfed yr awel, a syllu ar ddadblygiad cyflym dail a blodau. Ond wedi eistedd am enyd ar y gamfa hon, lle mae dolydd a llanerchau coediog yn ymestyn o'm blaen nes ymgolli yn y pellder y mae yn demtasiwn i mi anfon gair i ddweyd wrthyt, fel cenad o ladmerydd, fod Anian yn rhoddi arddanghosiad arbenig, y dyddiau diweddaf, o water colours a landscapes, a'i bod yn chwanegu atynt bob bore o'r newydd. Yn ngeiriau prydferth Elfed:—

Mae'r Gwanwyn yn y berllan
Mae'r Gwanwyn ar y ddol;
A swn ei delyn arian
Yn galw'r blodau'n ol.

Dan fys y Gwanwyn tirion
Fe egyr dorau'r dail;
Ac o ffenestri gwyrddion
Mae'r blodau'n holi am haul.

Ac nid ydynt yn holi yn ofer. Y mae'r haul yn gwenu yn serchog drwy ffenestri y blodau, ac yn eu swyno allan yn llu mawr iawn. Y mae pob gwrych a choedlan fel pe yn cystadlu, pwy fydd fwyaf, pwy fydd harddaf i roesawu mis Mai. Yn mysg y coed, dichon mai yr helyg sydd yn gwneyd mwyaf o show. Gwelaf dorlan draw lle y mae y "cywion gwyddau bach" yn dawnsio, fel daffodils Wordsworth, uwchben y gloew li. y sycamor a'r castanwydd yn bwrw eu dail mawrion, glydiog, a dyna lle mae y gwenyn gwylltion—fel torf o flaen chwareudy—yn disgwyl am i'r drysau agor, er mwyn iddynt gael lle da yn neuadd y ddeilen. Dechreu dihuno y mae y bedw a'r ysgaw, ond y mae y wernen wedi ymwisgo yn barod, a pha ryfedd? Onid yw ei phreswylfod wrth y dyfroedd? Lled gynar ydyw yn hanes y ddraenen, ond y mae y blagur wedi agor drws ei dŷ, a bydd mantell y blodau gwynion wedi ei gwau a'i gwisgo cyn bo hir. Yr wyf wedi bod yn sylwi ar goeden arall—y copper beach. Mae ei dail yn lled fychain, yn hynod refined, ac o liw copr. Ond yn wahanol i'r coed eraill, nid ydyw yn ymado â'i dail yn yr hydref, er eu bod yn newid eu lliw. Ceidw hwynt ar ei changau hyd y gwanwyn, ac yna daw y ddeilen newydd, a rhaid i'r "hen ddwylo" glirio i ffwrdd. Dyna drefn Natur. Wedi i unrhyw beth, boed ddeilen neu ddyn—orphen ei waith, gwneyd ei neges, dod i ben draw ei ddefnyddioldeb—rhaid myn'd wedyn. Dichon fod ambell un, fel deilen y copper beach, yn cael ei wneyd yn super-numerary hyd y gwanwyn. Ond peth diflas ydyw teimlo awdurdod y ddalen newydd yn bwrw yr hen dros y trothwy. O'r ddau gwell fuasai genyf gilio yn yr hydref nag aros hyd y delo rhyw ysbrigyn gwyrdd i ddweyd,—"Rhaid i ti ymddiswyddo, y fi sydd i deyrnasu yn dy le."

Ond dweyd yr oeddwn fod pethau yn dod allan, yn mhob twll a chongl,—pobpeth sydd a bywyd ynddo yn ymysgwyd, ac yn datguddio ei hun. Ond, atolwg, pa le yr wyt ti? Chwith oedd genyf fethu dy weled bore heddyw, er i mi ymweled ag amryw o'r hen rodfeydd. Yr oedd cawod flith wedi disgyn,—gair Edmwnd Prys, onide?

"A'i rhoi yn mwyd mewn cawod flith
I'w chnwd rhoi fendith deilwng."


Yr oedd y blodau yn chwerthin ar yr haul, a dagrau melus yn eu llygaid; y nen yn ddwfn—las, a rhyw naws nefol ar ddyffryn a dol. Parai i mi feddwl am emyn Tennyson—y gwir Tennyson. Mae ambell frawd uchelgeisiol yn ystyried y gall gorphori Tennyson a Gough, os nad ereill, yn ei ddynsawd ei hun. Ond gwagedd yw'r cwbl. Un Gough a fu, ac a fydd: un Tennyson. Dyma ei benill i'r Gwanwyn,—

Opens a door in heaven
From skies of glass,
A Jacob's ladder falls
On greening grass;
And o'er the mountain walls
Young angels pass."

Ie—gair clws ydyw "greening grass." Y mae rhai o honom yn ddyledus i Ruskin am agoriad llygad i weled gogoniant pethau cyffredin, ac yn eu mysg y mae y glaswelltyn. Ynddo ei hun nid yw ond aelod dinod o gymdeithas fawr Bywyd: nid ydyw Natur wedi gwastraffu ei doniau ar ei lun a'i liw. Yr hwn sydd heddyw yn y maes, ac yfory a fwrir i'r ffwrn—byr-hoedlog a diflanedig ydyw. Ond pan wedi ei wneyd gan law anweledig y gwanwyn yn garped y weirglodd,—beth mor swynol, mor esmwyth—ddymunol i'r llygad? Y dolydd glaswelltog! Beth ellid ei roddi yn gyfnewid am danynt? Y mae yr iraidd, a'r tawel; gorphwysdra ac adnewyddiad yn d'od i ni drwy genhadaeth ddi-ymhongar y glaswelltyn.

Rhyw feddyliau fel hyn sydd yn ymdoni heibio—fel awel dros y blodau tra yr wyf yn eistedd mewn neillduaeth ar gamfa y cae. Y mae cymysg seiniau yn disgyn ar y glust. Dyna chwiban felodaidd, gyfoethog y deryn du, ac efe yn ben—cerdd. O gyfeiriad arall daw nodau uchel, dawnsiol y fronfraith—y bencerddes. Ar lwyn o ddrain gerllaw y mae aderyn bychan, pert, yn canu â'i holl galon. Ychydig o nodau sydd yn ei gerdd,—un o'r brodyr lleiaf ydyw, ond y mae yn gwneyd y goreu o'i ddawn, a phwy a ewyllysiai ei wahardd? Nid ydyw Anian yn cyfyngu ar ddoniau bychain:—

"Y dryw gerllaw yn llawen
Heb och, a'r brongoch ar bren,
Ag eofndra ysgafndroed
Yn chwarau rhwng cangau'r coed."

Nid wyf hyd yma wedi gweled y wenol—"fel arf dur yn gwanu'r gwynt." Dyna bortread Emrys o honi. Hyd yma, ychwaith, nid wyf wedi clywed y gog, ond deallaf ei bod wedi dychwel dros y tonau, a chyn pen ychydig ddyddiau bydd hen ac ieuanc yn llawenychu yn ei deunod newydd-hen. Y dydd o'r blaen dywedodd cyfaill wrthyf iddo weled un o'r birds of passage newydd ddechreu ar ei foreu-bryd yn ymyl y ty. Aderyn gwrol, a phig hir, gref—a adwaenir wrth yr enw "cyffylog "—neu geiliog y coed. Yr oedd twrpath o forgrug yn ei ymyl, a dyna lle yr oedd y visitor yn planu ei big i'r pentwr, ac yn bwyta torf o honynt ar bob ergyd. Ni welodd y fath fwyta rheibus yn ei ddydd! Yr oedd yn ei adgofio am y modd y bydd plant ysgol yn arfer eu dawn mewn te parti! Wel, fe ddywed diareb, mai "nid wrth ei big y mae prynu cyffylog," a dichon fod y fordaith wedi rhoddi awch ar gylla yr ymwelydd.

Ond rhaid ymatal. Amcan y llith gwledig hwn ydyw dy wahodd o'r studio i'r maesydd. Gwelais dy ddarlun diweddaf ar wyneb-ddalen y Llenor—"Yn Sir Gaernarfon," a phe buaswn mor feirniadol ag adolygwyr y Manchester Examiner, buaswn yn rhwym o gydnabod fod hwnw yn deilwng o Nant y Bettws, a hyny ar air a chydwybod. Ond y mae llanerchau eraill yn disgwyl am danat. Mae glenydd y Seiont a'r Gwyrfai; y mae gwlad Eben Fardd a Dafydd Ddu, a llawer golygfa gysgodol ar lenydd y Fenai, yn dywedyd—Tyred! Y mae cân yr ehedydd yn y ffurfafen, a glesni dihalog y dolydd, yn dywedyd, Tyred!

"Mae rhosyn yr haf yn dechreu blaen-darddu
A mantell y maes yn newydd yn awr,
Mae egin yr yd yn edrych i fyny,
A'r haul yn ei wres yn edrych i lawr."

Na foed i ti, na neb arall, sydd yn caru Anian, droi yn glust-fyddar i'w gwahoddiad, na bod yn anufudd i'r weledigaeth nefol.

TAIR GOLYGFA.

I. PARC Y PENDEFIG.

AR un o wresog ddyddiau yr haf cefais i a nifer o gyfeillion eraill y ffafr o dalu ymweliad â pharc un o bendefigion Gwynedd. Amgylchir ef á muriau uchel am filldiroedd, ac ni cha y teithwyr ar hyd y brifffordd gymaint ag un olwg ar ei swynion. Pa hyd y pery hyn? Un gŵr yn cael yr hawl i gau y golygfeydd prydferthaf oddiwrth ei gyd-ddynion. Ond ar y dydd a nodwyd cawsom y pleser o weled ardderchogrwydd y parc ei hun.

Y peth cyntaf i dynu ein sylw oedd y coed henafol, preiffion, tewfrig, ar bob llaw. Wedi cerdded drwy y gwres, mor ddymunol oedd cael ymgolli yn nghanol cysgodion dwfn y goedwig! Disgleiriai yr haul drwy frig ambell frenhin-bren, ond yn y gwaelodion yr oeddym yn eithaf diogel rhag ei belydrau tanbaid. Byth nid anghofiwn y mwynhad a gawsom mewn un llecyn neillduol. Ymagorai avenue fawreddog o'n blaen; yn nghanol y rhedyn a'r gwyrddlesni fe lifai "afonig fywiog, fad," ac yr oedd adsain ei disgyniadau dros y meini yn fiwsig byw. Nid oeddym ymhell o'r ffordd lychlyd, boeth, lle yr hanner—losgid ni gan wres yr haul; ond O! y fath gyfnewidiad. Yma, dan gysgod "brenhinoedd y fforest," ac yn swn y ffrwd, yr ydym fel pe buasem wedi myned i fyd newydd—bro ddedwydd dydd-freuddwydion. Braidd na ofynem, A fu Paradwys yn rhagori ar hyn? Gresyn fod cynifer yn gorfod myned drwy y byd heb wybod fod llanerchau mor fendigedig ar ei wyneb.

Ni chawn fanylu ar y pethau a welsom yn mharc y pendefig. Ond gallwn nodi dau beth o fysg llawer: yn gyntaf, yr olygfa yn ac o'r Tŵr—tŵr yr arfau yn nghanol y parc. Oddifewn iddo ceir casgliad helaeth o gâd-offer gwahanol wledydd, a chywreinion wedi eu dwyn yno o feusydd rhyfel, megis Waterloo a'r Crimea. Yma gellir gweled aml i

"hen gleddyf glas,
Luniai lawer galanas,"

yn cysgu yn ei wain. Yma hefyd ceir hen fwsgedi (muskets) trymion yn gorphwys ar y mur, ond y mae yn bosibl fod y milwyr fu yn eu handlo wedi troi yn llwch ar ryw gadfaes pell. Huned y dryll a'r cledd hyd yr adeg y bydd eu heisieu yn sychau ac yn bladuriau! Ar ben y Tŵr, drachefn, ceir ffrwyth dyfais wyddonol, sef offer i fesur grym y gwynt, ac un arall i fesur y gwlaw. Gyda y rhai'n gellir dyweyd unrhyw adeg pa faint yn yr awr y mae y gwynt yn ei deithio, a pha faint o wlaw fyddo wedi disgyn yn y gymydogaeth mewn diwrnod. Cedwir cyfrif manwl o'r pethau hyn mewn llyfr, ac y mae ynddo lawer o ddyddordeb.

Y mae yr olwg oddiar nen y Tŵr yn berffeithrwydd pob tegwch." Gwelir oddiyma fynyddoedd, dyffrynoedd, afonydd, tref a gwlad, a rhan helaeth o For y Werydd. Gallesid meddwl nad oes ragorach golygfeydd yn y Deyrnas Gyfunol, ac eto y mae yr arweinydd yn ein hysbysu mai ychydig o amser y mae y "byddigions" yn ei dreulio gartref. Beth y mae hyn yn ei brofi? Y mae y lle eang hwn wedi ei gau i mewn er mwyn y teulu sydd yn ddigon ffodus i feddianu yr etifeddiaeth; ac, yn rhyfedd iawn, nid ydynt hwythau yn aros yma ond am dymor byr mewn blwyddyn. canlyniad yw, fod manau o'r fath heb ateb un pwrpas ymarferol. Ni wna y sawl sydd yn eu meddianu drwy ddeddf eu defnyddio, ac ni chaiff y cyhoedd eu sangu dan boen dirwy a chosb. Y mae y cwestiwn yn codi drachefn, Pa hyd y pery hyn?

Ond y peth arall a dynodd ein sylw oedd tai a chladdfa y cŵn. Oes, y mae gan "gŵn" y pendefig dai gwych—digon o le, a digon o awyr. Porthir hwy yn dda ac yn gyson. Ni wyddant beth ydyw prinder. Pan änt yn wael, y mae yma feddyg o bwrpas i ofalu am danynt. Ac wedi iddynt dynu yr anadl olaf, y mae yma gladdfa bwrpasol i gadw eu gweddillion. Ie, dodir meini ar eu beddau, ac ystyrir y llanerch yn un tra chysegredig. Pe cawsai aml i ddyn tlawd sydd yn gorfod byw mewn tŷ gwael, oer, a llaith,—boddloni lawer diwrnod ar grystyn sych, heb odid lygad i dosturio wrtho, pe cawsai weled y pethau hyn, yr wyf yn credu mai y deisyfiad hwn a ddeuai dros ei wefus,—"O na fuaswn yn gi i bendefig yn lle bod yn ddyn!

Y mae genym bob cydymdeimlad â chreaduriaid direswm; ni ddylid arfer creulondeb at gŵn, ond y mae i bobpeth ei derfynau priodol. Gresyn na fuasai cyfran o'r arian, y gofal, y caredigrwydd a'r parch a wastreffir yma yn cael ei ddangos at greaduriaid rhesymol ond anffodus; plant amddifaid, gwŷr a gwragedd anghenus, y rhai sydd i'w cael mewn cyflawnder oddiallan i furiau parc y pendefig. Ysywaeth, y mae drama Deifas a Lazarus yn cael ei chwareu yn mhob oes. Y mae y cŵn yn well allan, am ysbaid, na'r cardotyn. Ond y mae yr olygfa i newid yn y man: y pryd hyny, "oddiallan y bydd y cŵn." Beth am eu meistriaid?

Nid ydym, ddarllenydd, yn coledd unrhyw eiddigedd at bendefigion. Y mae yn wir eu bod yn meddu miloedd o aceri o'r tir brasaf yn Nghymru, ac nid oes genym ninau gymaint a "thair acer a buwch" i ymffrostio ynddynt! Ond beth am hyny? Yr ydym yn gadael y Parc eang ac ardderchog hwn gyda'r ymsyniad ein bod wedi ei wir "etifeddu" am dymor byr. Llonwyd ein hysbryd gan ei geinion. Erys yr adgof am dano yn ddarlun teg ar leni ein cof ar ol i'r grand entrance gau arnom, ac wedi i ni gael ein hunian, megis cynt, yn cerdded y ffordd lychlyd sydd wedi ei hordeinio i'r dosbarth cyffredin drwy y byd anwastad hwn i gyfandir llydan Cydraddoldeb!

II. Y LLAN ANGHYFANEDD.

YR wyf yn mwynhau ychydig seibiant yn y wlad. Croesawir fi gan deulu caredig mewn ffermdy tawel. Heddyw, bum drwy y boreu ar ben clawdd yn darllen gan Thoreau. Erbyn hyn, y mae arnaf awydd newid yr olygfa. I ba le yr af? A oes yma rywbeth nad wyf eisoes wedi ei weled? Beth ydyw yr adeilad acw a welir yn y pellder, a choed yn gylch am dano, fel pe yn ei amddiffyn? Ai eglwys ydyw, William? "Ie," oedd yr ateb,—"o'r hyn lleiaf, y mae wedi bod yn eglwys rywbryd." O'r goreu, af i roddi tro tuag ati. Wedi myned drwy weirglodd, croesi y bont bren, ac ymdroi ychydig i edrych ar y pysgod yn ymlafnio at y gwybed, a myned dros un neu ddau o feusydd llydain, dyma fi wrth borth y fynwent. Deued y darllenydd, os myn, gyda mi am enyd i ddistawrwydd y Llan Anghyfanedd.

Haner adfail ydyw yr eglwys: y mae y tô yn rhwyllog, a'r pestl wedi cwympo yn ddarnau ar fwrdd yr allor! Ceir tyllau mawrion yn y ffenestri, trwy ba rai y mae yr adar yn gwibio ol a blaen, oblegid y mae iddynt nythod o'r tu fewn. Yma, yn llythyrenol,—Aderyn y tô a gafodd dŷ, a'r wenol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion." Gan fod bolltau rhydlyd yn diogelu y ddôr, efelychwn y teulu asgellog am dro—awn i mewn drwy y ffenestr! Dyna ni yn daclus ar y llawr pridd. Onid yw yn ddistaw ryfeddol, ac eithrio "twi-twi" y wenol ar ei hediad chwim,—

"Fel arf dur yn gwanu 'r gwynt?"

Y mae arnaf awydd dychwelyd heb oedi o'r cysgodion pruddaidd hyn i fwynhau gwên haul ac awel haf. Ond ymbwyllwn. Ie, wele y meinciau syml yn eu lle, ond fod haenau o lwch yn eu gorchuddio. Dyma y fedydd-fan gareg yn y gongl, ond, atolwg, pa bryd y bu dwfr ynddi? Dacw hithau, hen elor y plwyf, yn gorwedd yn y gongl draw. Hongian yn segur y mae rhaff y gloch, a rhyw aderyn beiddgar wedi nythu yn ei bôn. Nid oes yma ond un "sêt," yn ystyr gyffredin y gair—"Sêt y Sgweier," mae'n debyg. Cul iawn yw y pulpud; nid oedd llenwi hwn yn waith anhawdd, mewn un ystyr; yn wir, rhaid oedd i'r person, beth bynag am ei fywioliaeth, fod yn fain! Y mae dau blât pres ar y pared uwchben yr allor, a cherllaw iddi y mae dwy gareg bedd. Yn anffodus, y mae ôl traed cenedlaethau wedi gwisgo ymaith y llythyrenau bron yn llwyr. Meddyliwn am "Old Mortality" gyda'i gŷn a'i forthwyl. Ond yr oedd ganddo yntau ei "bobol;" ni thalai sylw i ddim ond beddau yr hen Gyfamodwyr. Pwy sydd yn gorwedd dan y cerig hyn, tybed?

Bellach, awn allan. Diolch am awyr iach! Nid ydyw y fynwent ond bechan, ac er fod ynddi amryw feddau, ni welir yma ond un "gareg arw," ac nid oes hyd yn nod "ddwy lythyren" ar hono! Yn gwarchod y Llan y mae gwrych tew o ddrain, coed cyll, a thwmpathau o bren bocs o gwmpas y fynedfa. Tra yr wyf yn araf gerdded o amgylch, gwelaf lu o lygaid yn syllu yn ddifrif-ddwys drwy y perthi. Perthyn i'r frawdoliaeth gorniog y maent, hwyrach eu bod yn eiddigeddu am na fuasent o'r tu fewn yn gwledda ar y borfa. Dyweder a fyner, mae rhywbeth yn brudd-ddyddorol mewn hen adeilad llwyd fel hyn, âg ôl danedd Amser ar ei dô a'i furiau. Eisteddais ar dwmpath glaswelltog ar gyfer y porth, gan daflu y ffrwyn ar wâr fy myfyrdodau. . . . Tybiwn glywed y gloch yn galw i'r Gosper ar Sabboth tawel—fwyn yn yr haf. Gwelwn nifer o wladwyr iach, dysyml, yn cerdded yn arafaidd i'r gwasanaeth. Dyna y Sgweier a'i deulu yn dyfod drwy y porth, ac yn myned yn urddasol i'r "sêt" arbenig yn ymyl yr allor. Clywn yr offeiriad yn arwain y gwasanaeth prydnawnol, yn esgyn i'r pulpud main, a'r "anwyl gariadus frodyr," dan ddylanwad y tês, yn llithro o un i un i freichiau cwsg! Ond wele breuddwyd oedd. Y mae yr eglwys wledig erbyn heddyw yn anghyfanedd. Unig ydyw heb neb yn ei cheisio. Ei gogoniant a ymadawodd. Hyderwn iddi wneyd gwasanaeth yn ei dydd, ond y mae hwnw drosodd. Cysur yw meddwl, fodd bynag, os ydyw yr adeilad hybarch hwn wedi "heneiddio, ac yn agos i ddiflanu"—y mae yr Efengyl yn aros y mae Crefydd yn fyw!

Wrth adael y Llan Anghyfanedd, tybiwn glywed y gareg yn llefain o'r mur, a'r trawst yn eilio o'r gwaith coed: Trugarhewch wrthyf, Gymry glân! Peidiwch a'm gadael i ddihoeni fel hyn. Er mwyn yr hyn a fum, tynwch fi i lawr—yn barchus—oblegid nid dibris yn ngolwg yr ystyriol ydyw ceryg y cysegr.' Os na ellwch ddyweyd am danaf yn ngeiriau cyntaf y penill—geiriau a ganwyd lawer pryd rhwng fy muriau—

"Can's hoff iawn gan dy weision di,
Ei meini a'i magwyrau;'

Ai gormod gofyn i chwi roddi prawf ymarferol eich bod yn teimlo grym y ddwy linell olaf,—

"Maent yn tosturio wrth ei llwch,
Ei thristwch a'i thrallodau!'"'

III. YN MIS GORPHENAF.

Nos Sadwrn ydyw, minau yn eistedd ar foncyff o bren yn nghanol y wlad. Rhyfedd mor dawel yw y fangre! Y mae dyn yn cadw noswyl, ac anian yn cymhwyso ei hun i dderbyn y Sabboth. Mewn lle fel hyn y mae nos Sadwrn yn borth allanol i deml y sanctaidd ddydd. Ac y mae ar natur ysbrydol dyn eisieu tawelwch. Melus i'r enaid yw tangnefedd. Dichon na pherffeithir bywyd heb ystormydd gauafol, ond ar gyfer y cyfryw, rhodder i ni hefyd gael yfed o dangnefedd hir-ddydd haf. Ceir hyn mewn gwirionedd yn y lle neillduedig hwn. Dymunol odiaeth ydyw yr aroglau gludir ar edyn yr awel; pêrsawr y gwair addfed, a gwylltion flodau y maes. Mor urddasol ydyw gwedd y maes gwenith gerllaw!

Tra y mae yr amaethwr yn llawenychu wrth weled argoelion am "gnwd da," caf finau, fel ymdeithydd, fwynhau yr olwg ar y grawn melyn yn moesgrymu i'r awelon. Y mae edrych ar faes gwenith yn mis Gorphenaf yn wledd i'r meddwl, a cheir ynddo, yr un pryd, ernes o ddigonolrwydd ar gyfer anghenion tymhorol. Yn y maes gwenith, ebai un bardd, y mae Natur yn

Arlwyo oriel ar wïail arian."

A dyna ryw si tyner, sidanaidd, yn cerdded drwyddo. Beth sydd yn bod? Hyn:—

"Awel o'i fysg rydd lef fan,—Gwel law Iôr
Yn helaeth gofio'r ddynoliaeth gyfan!"

Hyfryd i'r glust hefyd yw gwrando bref yr ychain, a chân ambell i aderyn sydd fel yn methu tewi, er fod adeg gorphwys wedi dyfod. Y fath gyfoeth o liwiau sydd yn addurno y ffurfafen! Môr tawdd yw y gorllewin, a godidog ragorol ydyw machludiad haul. Ac fel y mae y priodfab yn ymgilio, y mae y briodferch, hithau, mewn gwisg arian" yn dringo y nen i chwilio am dano!

Mae cysuron bywyd syml, gwledig, yn aml a sylweddol. Os bydd llygad a chalon i'w mwynhau, ni ddywed neb fod teyrnas Natur yn brin mewn swynion a rhyfeddodau bythol—newydd. Meddylier hefyd am yr awyr iach a phur sydd i'w hanadlu yma. Gwelais yn rhywle fod rhanau helaeth o ddinas Llundain (a diau fod dinasoedd eraill yn debyg) heb awyr bur ynddynt drwy gydol y flwyddyn. Beth na roddasai llawer un o breswylwyr afiach, gwyneb-lwyd y selerydd a'r garrets hyny am gael treulio darn diwrnod hafaidd ar y boncyff hwn! Diau fod aml un yn slums Llundain heno yn chwenychu am y pethau yr ydwyf fi a thrigolion yr ardal hon yn eu mwynhau—yn breuddwydio am awyr las, meusydd gwyrddion, gwenau haul, ond nid ydynt yn eu cael. Nid ydym yn haner digon diolchgar am ein cysuron. Da genyf feddwl am ymdrechion clodwiw Dyngarwch i wella sefyllfa y miloedd sydd yn treulio eu bywyd dan amgylchiadau mor anfanteisiol. Ac ni raid myned i Lundain i chwilio am danynt; y mae yn Nghymru ddigonedd o waith yn y cyfeiriad hwn. Pob llwydd i'r gwŷr da sydd, yn y tymor yma, yn trefnu pleser-deithiau i blant tlodion y trefydd i fyned am ddiwrnod i ganol y wlad neu i lan y môr. Bendith arnynt! Yn wir, y mae gweled y pethau bychain yn mwynhau eu hunain yn ddigon o ad-daliad am y drafferth a'r draul i gyd. A da fydd cofio yn amlach am yr hen bobl; y maent hwythau yn caru bod yn blant yn awr ac eilwaith. Yr ydym yn gweled hanes yn y newyddiaduron yn lled aml am Wasanaeth Blodau (Flower Service), pan y cludir pwysïau o bob lliw a llun i'r addoldy. Ond y flower service goreu y gwn am dano ydyw myned âg ambell flodeuglwm i wasgar ei berarog! yn ystafell y claf a'r cystuddiedig, ac un arall i loni ysbryd yr hen wraig dlawd sydd heb weled cae er's blynyddoedd! O mor ddiolchgar ydyw aml un o'r dosbarth hwn am swp o flodau gwylltion! Mae eu gweled a'u harogli yn adgyfodi dyddiau mebyd ger eu bron. Gallai deiliaid yr Ysgol Sul weini llawer o gysur mewn ffordd syml ac esmwyth fel hyn.

Ond er mor ddymunol ydyw y llanerch hon, ni fynwn dra-dyrchafu y wlad ar draul darostwng y dref. Y mae ar fywyd dyn eisieu bywiogrwydd yn gystal a thawelwch—yni y ddinas a hedd y wlad. Yn y cyfuniad o'r ddau y ceir bywyd ar ei oreu. Mae tawelwch didor yn magu syrthni, diofalwch, a chysgadrwydd; ac y mae prysurdeb diorphwys, o'r tu arall, yn rhoddi bod i anesmwythder eithafol a pheryglus. Gellir rhydu yn y naill, a llosgi allan yn y llall. Nid yw bywyd i'w dreulio mewn "càr llusg," ac nis gall aros yn hir yn yr express train. Sonia dynion ieuanc nwyfus am fyned i'r dinasoedd i weled life: gwelwyd llawer un yn dyfod yn ol gyda gruddiau llwydion i geisio life i'r corff a'r meddwl yn nhawelwch y wlad. Yn hyn, o bosibl, y mae y naill wedi ei fwriadu ar gyfer y llall.

Gelwir y nefoedd yn "wlad well," ac yn "ddinas Duw." A oes yma ryw awgrym fod pobpeth goreu tref a gwlad i gyfarfod yn mywyd perffeithiedig dyn dros byth? Os felly, gall un sant ddyweyd gyda'r bardd Ieuan Glan Geirionydd:—

"Mae arnaf hiraeth am y wlad
Lle mae torfeydd diri';

ac un arall, yr un mor briodol, gyda Charles, Caerfyrddin—

"Caersalem, ti ddinas fy Arglwydd,
Pa bryd i'th cynteddau caf dd'od?"



GWLAD EBEN FARDD.

Ardderchog Glynnog lonydd,—achronfawr
Feithrinfa'r brif grefydd;
Allor Duw er's llawer dydd,
Côr di-baid Cred a Bedydd.

—EBEN FARDD.
CLYNNOG yn Mai! a Mai yn ei ogoniant. I'r sawl a ŵyr am y fangre y mae cyfrol o fwynhad yn gorwedd mewn gair syml fel hyn—Clynnog yn Mai. Ond y mae'n rhaid myn'd yno i sylweddoli'r drychfeddwl. Cawsom y fraint, ac y mae teimlad diolchgar, y "diolch brau " y sonia Edmwnd Prys am dano yn peri i ni eistedd ar lethr bryn uwchben y glasfor i geisio llinellu ychydig—rhyw gwr mantell o ogoniant yr olygfa. Cymerwn ein cenad, ar y dechreu, i ddyweyd gair am y daith. Gadawsom G—— ar nawn Sadwrn, mewn cerbyd cysurus. Daethom yn ebrwydd hyd at bentref tawel Bontnewydd. Canai y fwyalch yn y glaslwyn oddeutu Plas y Bryn, a chwarddai blodau ar ymylon tir Bronant. Rhoddwyd ebran i'r anifail yn Llanwnda, ac yna aethom rhagom i gyfeiriad Coed y Glyn. Gwelem balasdy y Gwylfa, a phreswylfod y seryddwr ar y dde, ac odditanodd ymgodai clochdy pinaclog Llandwrog. Yr oedd teml y goedwig yn degwch bro, yn gyforiog o gân a llawenydd. Yr oedd gwyrddlesni îr ar y dail, a'r castanwydd (chestnut) dan eu coron. Mewn ambell lecyn, gwelid blodau'r drain, botasau y gôg, a haul prydnawn yn llewyrchu arnynt drwy gangau tewfrig. Ar y fynedfa i balas y Glyn, safai y ddau eryr ewinog, bygythiol, ac er mwyn yr adar o bob lliw, diolchem

Gwlad Eben Fardd

mai eryrod celfyddydol oeddynt, onite buasai yr alanas yn fawr. Y mae y ffordd yn llydan, braf, yn y fangre hon, ac yn cael ei hymylu à bordor werdd, lle y gwelir llawer blodyn gwyllt yn codi ei ben. Wedi d'od allan o'r cysgodion yr ydym yn cael golwg glir ar yr Eifl a'u chwiorydd yn y pellder. Nid oedd niwl na chwmwl yn agos atynt, ac yr oedd rhyw arliw glasgoch, tyner, yn gorphwys ar eu llethrau. Daethom at breswyl y diweddar Glan Llyfnwy. Saif ar yr aswy, ychydig bellder o'r ffordd, ac y mae avenue o goed yn arwain at y ty. Bu y bardd tawel-ddwys yn ymddifyru, lawer awr, ar y meusydd cyfagos, a bron na feddyliem fod rhai o'i gynghaneddion yn crwydro o'n hamgylch gydag awel y dydd. Yna daw pentref Pontllyfni, gyda'r llythyrdy bychan, swil, ar fin y ffordd; ond y mae y genadwri a ollyngir, wrth fynd heibio, i'r blwch diaddurn hwn, mor sicr o gyraedd pen ei yrfa, a phe cawsai ei fwrw yn mysg y pentwr anferth yn St. Martin's le Grand, Llundain. Yma, y mae y Lyfnwy droellog yn gwneyd taith fer, ond uniongyrch, i fynwes y môr. Yn uwch i fyny, yn nghyfeiriad Pont y Cim, gwelem amryw yn genweirio ar ei glan, ac olwyn ddŵr yn dwndwr yn hamddenol yn nghysgod y coed. Wedi hyn yr ydym yn neshau at Glynnog Fawr. Dacw glochdy cadarn, llwydwedd, eglwys Beuno yn y golwg. Cwrddasom â dau efrydydd yn pwyllog gerdded i gyfeiriad Penygroes, gan adael y tasgau sychion hyd foreu Llun. Meddyliem am linellau Glan Alun i fyfyrwyr y Bala er's llawer dydd,—

"Mor hyfryd ar y Sadwrn fydd
I'r bechgyn gael ei traed yn rhydd;
A'u gwel'd yn cychwyn oddi draw
Gan ymwasgaru ar bob llaw;
A neges fawr pob un fydd dwyn
Hen eiriau yr efengyl fwyn

I glyw trigolion yr holl wlad,
Gan lwyr ddymuno eu lleshad.

*****

Mor wych eu gweled ar ddydd Llun,
A bochau cochion gan bob un,
Yn d'od yn ol yn llawn o rym,
Am wythnos eto o lafur llym."

Y mae anedd Hywel Tudur—Bryn Eisteddfod,—ar y chwith, ac wedi cael cipolwg ar y "coleg" a'r capel, daethom i ben y daith. Saif y cerbyd gyferbyn a Bodgybi, cartref syml y diweddar Eben Fardd; ac ar yr ochr arall, drwy goed y fynwent, gwelir ei gofadail yn ymyl ffenestr ddwyreiniol eglwys henafol Beuno.

Ni welais Eben Fardd erioed, ni chefais y fraint o adnabod Dewi Arfon. Ond ni byddaf yn sangu ar heol Clynnog heb deimlo awydd i dynu fy het, o barch i'w coffadwriaeth. Sonia y llenorydd Seisnig am classic ground. Onid yw hwn, hefyd, yn llecyn clasurol? mae myfyrdodau Eben Fardd wedi creu rhyw awyrgylch buredig oddeutu'r fro, ac y mae mawredd y meddyliwr distaw, diymffrost, yn cael ei argraffu ar ysbryd y sawl a ddaw yma ar ei hynt. Tawel iawn oedd y pentref y nawnddydd hwn, ac nid rhyfedd hyny. Yr oedd areithyddiaeth yr ardaloedd wedi cyd-grynhoi mewn ystafell gyhoeddus ar y bryniau i ddadleu pwnc addysg. Cwestiwn y dydd ydoedd,—A ddylid cael Bwrdd Ysgol i blwy' Clynnog? Ymddengys fod arwr llawer maes heblaw y Maes Glas wedi bod yn gloewi eu harfau i'r ymgyrch. Bu agos i mi gael fy nhemtio i fyn'd i faes y gâd fel "gohebydd neillduol," ond yr oedd cân y fwyalch yn fy ngwahodd i dreulio awr yn Llwyn-y-ne, llanerch neillduedig, a gwir deilwng o'r enw. Hysbys i'r darllenydd ydyw y traddodiad am y mynach hwnw o gor Beuno a aeth ar ymdaith yn blygeiniol ryw foreu o haf, lawer blwyddyn yn ol. Crwydrodd i'r llwyn, a chlywodd aderyn yn canu yr alaw bereiddiaf erioed. Daeth rhyw ber-lewyg drosto wrth wrando nodau y gerdd. Anghofiodd ei foreufwyd; anghofiodd ddyledswyddau y fonachlog. Tywynai yr haul drwy ddail y coed; canai yr aderyn ganiad newydd. Yno y bu y mynach, fel y tybiai, drwy gydol y dydd, yn gwrando, ac yn mwynhau. Ond pan ddaeth yn ol at borth y fynachlog, nid oedd yno neb yn ei adwaen. oedd can mlynedd wedi diflanu er pan aethai i ffwrdd. Gelwir y llanerch am hyny yn Llwyn-y-ne. Dywedir fod Eben yn dra hoff o'r fan. Treuliodd lawer diwrnod yn y llecyn, a bu yr awen—yr aderyn cyfareddol—yn sibrwd llawer melodi i ddiddanu ei enaid. Pa le hyfrytach i dreulio awr ar nos Sadwrn yn Mai? Nid oes ond ychydig o'r Llwyn yn aros, ond y mae'r adar yn canu'n fendigedig. Y mae yma gymanfa gerddorol, yn ngwir ystyr y gair; yr oll yn bencerddiaid. Y fwyaf aflonydd a symudol ydyw y gog. Weithiau yma, weithiau acw; ar ben carreg fwsoglyd un foment, ar ei haden y funud nesaf, ond yn canu'n ddibaid. Rhyw lais crwydrol—"wandering voice," chwedl Wordsworth, ydyw hi yn mhob man,—

"While I am lying on the grass,
Thy two-fold shout I hear,
From hill to hill it seems to pass
At once far off and near.

"To seek thee did I often rove
Through woods and on the green;
And still thou wer't a hope, a love,
Still hoped for, never seen."

Ond ni raid i mi fyn'd at fardd yr ucheldiroedd am ddarlun o'r gwanwyn. Y mae Eben Fardd wedi ei roddi er's llawer dydd, a hyny oddiar lechweddau Clynnog,—

"Mae ein hadar yn mwyn nodi
Miwsig y nef, yn ein mysg ni,"

****

Mor wyrdd, lân, mor hardd eleni
Mae tir a môr i'm trem i.

"Mae'r eigion yn ymrywiogi—mae'r don
Mor deneu'n ymlenwi,
Moddion tyner! meddant ini,—
Mae yn y nef Un mwy na ni.'"'

Ond rhag i ni syrthio i'r un brofedigaeth a'r mynach gynt, gwell ydyw dychwel gyda min y ffrwd i lawr i'r pentref. Gwelir aml i loyn byw yn methu penderfynu ar lety dros nos. Y mae y gwenyn yn mwmian yn nghangau trwchus y masarn. Onid oes rhyw swyn yn y beroriaeth undonol hon? Ni byddai haf yn haf heb suo—ganiad breuddwydiol y gwenyn yn y dail. Y mae y 'deryn du wedi esgyn i frigyn uchaf yr onen, ac yn arllwys ei hwyrgan uwchben y dorf sydd yn tawel huno yn mynwent Beuno Sant. Mae'r haul yn gwyro i'r gorwel, yn rhuddgoch, fel pelen o dân. Teiff ei adlewyrchiad ar donnau'r môr,—

"Yna'r hwyr gain a rydd
Far o aur ar for y Werydd."

Melus odiaeth ydyw "Nos da" Anian mis Mai.

****

Daeth boreu Sabboth. Y mae swn cloch Eglwys Beuno yn disgyn yn esmwyth a pheraidd ar fy nghlyw. Tywyna'r haul drwy y ffenestr fechan, ac y mae blodau y laburnum, sydd o flaen y ty, wedi eu goreuro gan ei belydrau. Ymestyna'r eigion glas i'r pellderoedd, ac y mae awel adfywiol yn anadlu ar y cae gwair. Dios fod Anian yn cadw Sabboth yn y frodir heddychol hon.. Nid ydyw chwibaniad tren, twrf cerbydau, na chlychau ansyber llaeth—fasnachwyr yn blino y galon. Y mae oriel Anian ar ddihun. Od oes gan y côr asgellog ganiadau mwy detholedig na'u gilydd, yr ydym bron a meddwl eu bod yn eu cysegru ar gyfer boreu Sabboth yn Mai. Ac onid ydyw gwrando arnynt yn meithrin addoliad a defosiwn mewn dyn? Yr oedd Pantycelyn. yn hoffi eu clywed; carai wrando ar dannau telyn Anian yng nghynteddau'r sanctaidd ddydd,—

"Am hynny, pob creadur, wel, rhoddwch allan gân,
O'r mwyaf eu maintioli, hyd at y lleiaf mân;
Cyhoeddwch, gyda'ch gilydd, yn llawen, nid yn drist,
Am glod didrai, diderfyn, daioni Iesu Grist.

Chwi adar ar yr aden, sy'n chwareu ar y pren,
Rhowch eich telynau'n barod i foli Brenin Nen.

Anadled yr awelon, murmured pob rhyw nant,
Ryw swn soniarus hyfryd, fel bysedd byw ar dant;
I'r Hwn ei hun sydd ffynnon o ddwfr y Bywyd pur,
Ac yn anadlu o'i Yspryd, gysuron gloew, clir."

Lle dedwydd iawn ydyw capel Clynnog ar Sabboth heulog, nawsaidd, yn Mai. Yr ydych yn gwel'd y môr drwy ddrws yr addoldy,—yn gweled y don, fel pererin, yn penlinio ar y lan. Ac yn gymhleth â lleisiau hoenus y dyrfa, yr ydych yn clywed acenion y fronfraith yn y mangoed gerllaw. Y mae pobl Clynnog yn credu yn yr arfer dda o dd'od i'r addoliad ar foreu Sabboth, ac nid ydyw hun nac hepian yn bechod parod i'w hamgylchu.

Nid ydyw henaint a llesgedd yn ymweled â'r fro hon, ond yn hynod achlysurol. Yma y mae y blaenor Methodistaidd hynaf yn y wlad, onide? Ond pwy fuasai yn meddwl hyny wrth edrych arno yn y sêt fawr, ac yn arbenig wrth ei wrando yn canu? Nid yw mab pedwar ugain ond glaslanc yn y broydd hyn, ac y mae afiechydon diweddar, megis yr influenza, y sciatica, heb ddarganfod y llanerch o gwbl! Y mae ambell un o'r hen bererinion yn marw, ond gwna hyny, nid yn gymaint oherwydd llesgedd, eithr am ei fod wedi ei feddianu gan rhyw hiraeth diorphwys,—

"am y wlad
Lle mae torfeydd di—ri
Yn canu'r anthem ddyddiau'u hoes,
Am angeu Calfari."

Un o'r cymeriadau nodedig hyn oedd H. J—— Bron yr Erw. Pwy o honoch chwi, efengylwyr, fyddai yn arfer ymweled â'r Capel Uchaf, na wyddech am dano? Yr ydych yn cofio y dyn bach, cefngrwm, oedd yn eistedd dan y pulpud. Nid oedd ganddo lawer o gorph ar y goreu, ond ymwasgai, rywfodd, nes gwneyd yr ychydig hwnw yn llai—yn sypyn disylw. Ond pan welid cil ei lygad, ar ddamwain, yr oeddid yn deall yn union fod yna feddwl byw, treiddgar, yn tremio drwyddynt. Yr oedd H. J——yn athrylith, ac yn sant. Ychydig cyn ymado â'r byd, rhoddodd orchymyn neu ddau am dano ei hun. Yn mysg pethau eraill, ewyllysiai gael careg fechan uwchben ei fedd, a rhyw ychydig o eiriau plaen wedi eu tori arni.

"Mi fydd cyfarfod pregethu yn yr hen gapel," meddai, "yn mis Hydref. Bydd y pregethwyr yn myn'd i'r fynwent, i fysg y beddau, ac yn deyd wrth eu gilydd, ' Dyma lle y gorwedd yr hen Fron yr Erw.'" Digon gwir, gyfaill dirodres. Daw llawer un gafodd gyngor a gair caredig oddiar dy wefus, i ymweled â'th orweddfa,—

"Tannau euraidd tynerwch,
Gyffry wrth y llety llwch,"

Ond yr ydym wedi crwydro o Glynnog i'r Capel Ucha, pryd mai ein bwriad oedd myn'd i gyfeiriad Capel Seion, neu fel y gelwir ef ar bob dydd—capel y Gyrn Goch, oddiwrth y mynydd serth sydd gerllaw. Cawsom gwmni un neu ddau o efrydwyr oeddynt yn gwybod rhywbeth am Natur yn ogystal ac am Euclid. Buasai yn rhyfedd iddynt beidio a charu Anian yn y fath lanerch. Y mae amryw o honynt yn lletya yn y lleoedd mwyaf barddonol, yn ymyl gogoniant môr a mynydd. Enw un llety adnabyddus ydyw "Camfa'r Bwth, arall yw Plas Beuno, ac nid ydym yn deall fod efrydwyr y "Bwth" yn cenfigenu wrth efrydwyr y "Plas." Y mae ffynon Beuno, yn cadw Sabboth, ar ymyl y ffordd. Gwelir y Gromlech, wedi ei hamddiffyn gan railings haiarn, yn ngwaelod doldir y Fachwen. Yr ydym yn pasio palasdy mewn llecyn gwir hyfryd, lle y mae un o athrawon Rhydychen yn treulio ei wyliau haf. Yna daw Ty Hen a'i draddodiadau caredig. Y mae coedwig ar yr aswy, a ffrwd risialog yn murmur rhwng y cerig. Daethom at yr addoldy. Y mae yno gynulleidfa dda, ond y mae "oedfa dau o'r gloch" wedi dyweyd cryn lawer ar eu bywiogrwydd cynhenid. Ond ni raid ymadroddi yn hir, ac y mae yr olwg ddiolchgar sydd ar aml wyneb pan ddaw adeg gollyngdod, yn peri i ni gydymdeimlo â'r natur ddynol dan y fath amgylchiadau. Ceir gorphwysfan hapus yn y Mur Mawr; y mae dau ddarlun o Eben Fardd ar y pared, a'r olygfa o'r ardd yn ad—daliad llawn am wres y dydd.

Ceir golwg newydd a gwahanol ar Glynnog wrth ddychwelyd. Y mae gosgedd urddasol y coed deiliog yn rhoddi mawredd ar y fynedfa i'r pentref, ac y mae Eglwys Beuno yn peri i ni feddwl am y canoloesoedd, wrth syllu arni dan dywyniadau haul y prydnawn,—

"Allor Duw er's llawer dydd,
Cor di-baid Cred a Bedydd."

Nid rhyfedd fod gan draddodiadau Eglwys Beuuo gymaint o swyn i Eben Fardd. Yr oedd ei ddychymyg yn ei gludo'n ol i'r oesau gynt, ac yn portreadu y golygfeydd pan ydoedd Cor Beuno yn ei ogoniant, a'r adeilad eang, cysegredig, yn cael ei lanw gan fonachod a phererinion. Anhawdd ydyw edrych ar yr adeilad mawreddog, yn nghanol distawrwydd dwys hwyrddydd haf, heb i lawer gweledigaeth ymrithio o flaen y meddwl. Yr ydym yn anghofio y presenol, yn crwydro i ryw gyfnod breuddwydiol, ac yn clywed rhyw gerddoriaeth nad ydyw yn bod yn awr. Mor ogoneddus ydyw adlewyrchiad yr haulwen ar y ffenestr fawr, ddwyreiniol, ac mor ysgafn ydyw yr awel sydd yn siglo y glas—wellt uwch y bedd? Yn nhawelwch y fath olygfa, a chyn cau ein llygaid ar Glynnog, nos Sabboth, yn Mai, nis gallwn lai nac ail-adrodd gweddi Islwyn,—

"Finnau, yn llesgedd f' henaint,
Hoffwn, cyfrifwn yn fraint
Gael treulio yno mewn hedd
O dawel ymneillduedd,
Eiddilion flwyddi olaf
Fy ngyrfa, yn noddfa Naf.
Byw arno, byw iddo Ef,
Mwy'n ddiddig, mewn hedd haddef,
A dal cymundeb â'r don,
Byd ail, o wydd bydolion,
Heb dyrfau byd, heb derbyn
Ond y gwyrdd for gefnfor gwyn."

Ond gan nad beth am hyny, yr wyf yn dymuno i Glynnog bob daioni. Llwydded y rhai a'th hoffant, a heddwch fyddo i ti.


Y RHODFA DRWY YR YD.

MAE'R haul yn araf suddo draw,—
Distawodd Anian gu,
O tyr'd, fy meinir, moes dy law,
Fel yn y dyddiau fu;
A thros ysgwyddau blwyddi maith
Cawn syllu ar y pryd
Pan fyddem gynt ar ddifyr hynt,
Yn rhodio drwy yr yd.

Mae su yr awel yn y dail,
A'r blodau llon eu llun,—
Mae cân yr adar, fachlud haul,
Yn aros eto'r un;
Mae swyn nefolaidd Anian dlos
Yn para fel y pryd
Y gwelais Rywun, gyda'r nos,
Yn rhodio drwy yr yd.

Dy gofio'r wyf, gydymaith fwyn,
Yn lodes wridog, hardd,
A minau, dan dy ddenol swyn,
Ryfygwn fod yn fardd!
Ac er i'r oriau euraidd hyn
Ddiflanu ffwrdd i gyd,
Eu dwyn yn ol mewn adgof gwyn
Wna rhodio drwy yr yd.

Am hyn, fy meinir, law yn llaw,
Awn allan fin y nos;
Tra'r haul yn araf suddo draw,
Tra huna Anian dlos;
Mae'r hwyr—gysgodau yn neshau;
Ond melus cofio'r pryd
Pan fyddem gynt, ar ddifyr hynt,
Yn rhodio drwy yr yd!


RHWNG Y MYNYDD A'R MOR.

"Boddlonaf ar fwthyn yn ymyl y bryn,
Ond i mi gael gweled y rhaiadr gwyn;
Tylodi a phrinder sydd well gyda Chymru
Na llawnder y byd a'i ogoniant oll hebddi."

—ISLWYN.

I.

Nos Sadwrn ydoedd,—yr olaf yn Mehefin. Yr oedd y prydnawn wedi bod yn fwll, yn enwedig yn y tren. Er agor y ffenestri led y pen, nid oedd awel d'od o unman. Yr oedd wynebau y merched oedd yn dychwelyd i Eifionydd yn ymddangos mor doddedig a'r ymenyn a gludasid ganddynt i farchnad Caernarfon. Safwyd, fel arfer, yn ngorsaf Bryncir i ddiodi'r peiriant. Ar achlysur tebyg y dywedodd Griffith Jones, Tregarth, wrth y wraig hono, oedd a photel yn ei basged, ac yn gofyn,—"Pam y mae yr engine yn sefyll cyn myn'd i'r stesion?" "O," meddai y ffraethebydd, "cael llymad mae hi, welwch chi; dydi hi ddim yn arfer cario potel."

Yn y maesydd ar dde ac aswy gwelem lanciau a lodesi bochgoch yn trin y gwair. Beth sydd wedi dod o hen orsaf—feistr Llangybi? Yr oedd yn dreat ei glywed yn gwaeddi enw y lle,—"Làn-jib-ei!" ar dop ei lais. Gorsaf fechan, wledig ydyw, ond byddai yr hen frawd—brodor o'r Ynys Werdd, onide?—yn gwneyd iawn am ddinodedd y fangre drwy floeddio yr enw gyda'r fath awdurdod a phe buasai ar blatform Euston. Ond pregethwr arall, mwy distaw, sydd yno yn awr. Wedi dangos y tocynau yn Chwilog, daethom i orsaf adnabyddus Afon Wen. Yno cawsom y fraint o aros hyd nes gwelai awdurdodau y "Cambrian" yn dda ein cludo ymaith. Ond yr oedd y nawn yn deg a'r cwmni yn llawen. Arwr yr ymgom ydoedd Mr. R. Parry, yr arwerthwr poblogaidd a chymdeithasgar. Y mae awr o'i gwmni yn un o'r pethau goreu i wrthweithio dylanwad y prudd-glwyf. Adroddai stori dda am flaenor Methodus yn myn'd at ryw sgweiar yn Lleyn i ofyn am brydles ar gapel newydd.

"Ydi trigain mlynedd yn ddigon gen ti?" ebai y sgweiar.

"Yr ydech chi yn garedig iawn, syr," ebai'r blaenor, "ond capel Methodus ydi o, cofiwch."

"Wneiff cant o blynyddoedd y tro?" ebai y tir-feddianydd.

"Diolch yn fawr," meddai'r gwladwr, "ond yr yden ni yn meddwl codi capel da iawn, syr,—siort ore rwan."

"Wel, ti cael mil o blynyddoedd, ynte "—

"Rhagorol, syr, yr ydech chi'n ffeind wrtho ni, ond"—

"Ond be?" ebai'r sgweiar, "ydi mil o blynyddoedd ddim yn ddigon? Ti deyd dy amser dy hun yntê."

"Wel, syr, gan ych bod chi mor ffeind, be ddyliech chi, tae'n ni yn ei gael o tan fore yr adgyfodiad?

"All right, John Jones," ebai'r sgweiar, "chi cael o tan y p'nawn hwnnw!"

Dyna, mae'n debyg, y brydles hwyaf ar gapel Methodus a roddwyd erioed.

Ar y llwyfan yr oedd amryw o borthmyn yn cyrchu tua ffair Pwllheli. Yr oedd golwg well-fed arnynt, ac yn bur aml aent i'r ystafelloedd hyny sydd yn cynwys darpariaeth ar gyfer mynych wendid, a deuent allan drachefn, a'u gwynebau mor goched a chrib ceiliog. Heblaw pobl y ffair, yr oedd yno, hefyd, amryw o genhadon hedd. Yn eu plith yr ydoedd yr hynaws ŵr, J. Rogers, B.A. Dywedai ei fod yn mynd i rywle yn Ffestiniog, ac yr oeddwn yn pryderu am ddiogelwch y "tren bach" wrth glywed am yr anturiaeth.

"Pam y mae y tren yma mor hir, deudwch?" ebai rhywun oedd wedi myn'd drwy ei dipyn stoc o amynedd. "O!" meddai gŵr bychan, llygadlym, "ond y Prince of Wales yna sy wedi drysu y trens i gyd. 'Does yna ddim trefn arnyn nhw er pan aeth o i Aberystwyth." Tybed fod ei Uchelder Brenhinol yn ymwybodol o'r agwedd yma ar ei ddylanwad cyhoeddus?

Pan ddaeth y tren o gyfeiriad Porthmadog gwelem fod rhywbeth yn y gosodiad wedi'r cwbl. Disgynodd amryw wŷr pwysig ar y platform. Yn eu mysg yr oedd professors Bangor, yn nghyda theilwng faer, beth bynag am gorfforaeth, Caernarfon. Wedi i'r uchelwyr hyn fyn'd i'w ffordd, cawsom ninau fyn'd rhagom tua Phwllheli. Ysgafnwyd y llwyth yn y 'Berch drwy i Mr. Parry fyn'd i lawr, ac yna daethom yn chwap i ddinas Dafydd a Solomon. Yn y stesion yr oedd cynrychiolaeth dda o gerbydau Lleyn, a'r gyriedyddion yn llygadu am lwyth. Gwelais un o weinidogion Criccieth yn esgyn i gerbyd taclus oedd yn galw yn ngorsafoedd Morfa Nefyn, Edeyrn, &c., a chan fod y gŵr yn awdurdod ar lawer o bethau, dilynais ei esiampl. Dywedid fod y cerbyd hwn ar y "lôn bost" yn cyfateb i'r hyn ydyw yr Irish Mail ar y rheilffordd. Sylwais fod y perchenog yn byw mewn lle ac iddo enw arwyddocaol,—"Tir Gwenith." Pa ryfedd fod ei feirch mor sionc? Aethom drwy heolydd y dref gyda rhwysg, ac yna i ganol y wlad. Erbyn hyn yr oedd gwres yr haul wedi lliniaru, a'r awel yn llwythog o beraroglau y weirglodd. Daethom yn ebrwydd i'r Efail Newydd, a gwelais yno un peth newydd,—nid amgen oedd hyny nac "eglwys," heb fynwent na chlochdy yn perthyn iddi o gwbl. Nid ydyw ond ty anedd hollol gyffredin. Y mae y cyferbyniad rhwng eglwys a chapel yn y pentref bychan hwn yn ffafr yr olaf ar hyn o bryd, ond nid doeth ydyw diystyru dydd. y pethau bychain. Yn fuan ar ol gadael yr Efail, daethom i goedwig ardderchog Bodûan. Y mae y brifffordd yn dirwyn drwy avenue o goed,—un o'r llanerchau mwyaf cysgodol a phrydferth yn yr holl wlad. Cawsom gipolwg ar y palasdy rhwng cangau deiliog, ac yn nes atom yr oedd yr adeilad harddwych a adwaenir wrth yr enw eglwys Bodûan. Carasem glywed y clychau melus yn adsain drwy y goedwig. Y mae gwrando arnynt, mewn llanerch fel hyn, yn myn'd a dyn o ran ei feddwl i gyfnod rhamantus y mynachlogydd yn Nghymru.

Ar ben yr allt y mae ty a gardd wedi eu hurdd—wisgo â blodau mwyaf hudolus; ac, heb fod yn nepell o'r fan, gwelais un o'm cyd-ysgolorion yn y dyddiau a fu, Robert Davies y Ddwyryd, ger Corwen,—yr hwn sydd yn llanw y swydd o bailif yn Bodûan.

Y mae R. D. yn fardd gwych, ond ofnaf fod ei delyn ar yr helyg. Paham? Parodd yr olwg arno, a'r ychydig eiriau a basiodd rhyngom i mi syrthio,—nid oddiar y cerbyd, ond i fath o ddydd—freuddwyd am adeg ddedwydd ar lanau y Ddyfrdwy. Ni ddeffroais yn iawn nes i'r gyriedydd alw fy sylw at aneddle lonydd oedd i fod yn llety i mi y noswaith hono. Ffarweliais â'm cyd—deithwyr diddan, a diflanodd y cerbyd yn y pellder, mewn gwir ddiogel obaith na ddaw relwê i Borthdinllaen tra byddo buan—feirch y "Tir Gwenith " yn carlamu dros y fro.

II.

Ael-y-bryn—dyna le braf,—yno
Daw'r gwanwyn gynaraf;
A dyna'r fan daw huan haf
Eilwaith, a'i wên olaf,

WEDI mwynhau gwydriad o'r llefrith puraf, ac ateb yr holiadau arferol, aethum i'r ardd, ac yno, yn nghanol dail a blodau y mwynheais rai o'r oriau hapusaf,—oriau euraidd, mewn gwirionedd. O un cyfeiriad, yr oedd mynyddoedd yr Eifl, yn glir a thawel, ac ambell gwmwl gwyn yn gorphwyso enyd ar eu hysgwyddau, tra yn croesi drostynt. I'r gorllewin, yr oedd y môr murmurol, a phelydrau yr haul yn dawnsio ar ei donau. Mewn perth gauadfrig yn ymyl, yr oedd aderyn pereiddfwyn, yn canu ei emyn hwyrol; ac O! y gyfaredd oedd yn ei gerdd. Yr oedd yn gwefreiddio fy nghalon, ac yn creu rhyw dangnefedd heddychol yr un pryd. Nos Sadwrn aderyn: mor ddymunol ydyw? Sut na fedrai dyn etifeddu yr unrhyw dangnef? Ni ddymunwn ddim amgen ar nos Sadwrn na'r olygfa hon,—gardd, aderyn, awel fwyn, hirddydd haf. Dyna'r pethau sydd yn troi y byd yn Baradwys, a phe buasai dyn wedi cadw yn nes at y math yma o bleserau, ni fuasai Paradise Lost yn ei hanes. Ond yn yr oriau dedwydd hyny, rhwng y mynydd a'r môr, teimlais mai nid breuddwyd bardd yn unig ydoedd "Adfeddianiad Gwynfa." Teimlais fod twymyn anesmwyth Bywyd yn cael ei leddfu am enyd; teimlais rin y goleuni hwnw na thywynodd ei hafal ar fôr na thir. "Dy lygaid a welant y tir pell "—tir y pellder. Gwelais balasdai swyn—hudol yn mro machlud haul; gwelais gymylau y gorwel yn cyfnewid o ogoniant. i ogoniant dan hudlath y Swynwr. Yna daeth y nos mor dawel, a'i mantell wedi ei hymylu ag aur coeth, fel mai o'r braidd y gellid dweyd mai nos ydoedd. Ac hyd yn oed wedi iddi ymledu dros fynydd a gwaen, yr oedd pelydrau porfforaidd yn aros yn y gorllewin, fel llysgenhadon gorsedd brenin y dydd.

Ond rhaid gado y cyfan, a thalu gwarogaeth i ddeddf fawr natur. Y mae dydd arall yn dynesu, yn nghyda'i bryder—ond ni chaiff yr ysbryd aflonydd hwnw ddod i mewn cyn ei amser. A phan y daw fel gŵr arfog, y mae genyf ystafell fechan i droi iddi,—ei henw ydyw Adgof. Yno yr af. gan gloi y drws yn ddistaw, ac eisteddaf enyd o flaen darlun aniflanol a wnaed gan artist perffaith yn ngoleuni yr hwyrddydd. Gardd, aderyn, hedd y mynyddau, murmur yr eigion, lliwiau digymar machlud haul—dyna rai o'r studies sydd yn y darlun. Os dymunai y darllenydd feddianu ei debyg, credaf y gellir ei gael, dros ychydig amser eto, ar yr un telerau—rhwng y mynydd a'r môr.

Eglwys Llanrhyddlad

BEDD Y BARDD.

Bro deg o burdeb ar daen,
Bro ddedwydd—beirdd a'i hadwaen.
—ISLWYN.

I.

AR foreu tyner, ond cawodog, yn Medi, aethum ar bererindod i Lanrhyddlad yn Mon, i ymweled â man beddrod Nicander. Cychwynais o Glwchdernog, cartref yr hynod William Pritchard, Ymneillduwr cyntaf Mon, gŵr a yrwyd gan erlidiau o'i breswylfod yn y Lasfryn Fawr, yn Eifionydd, ac a ymlidiwyd o le i le yn Ynys Mon, nes o'r diwedd y cafodd ffafr yn ngolwg ysgweiar y Brynddu, a llonyddwch i dreulio hwyrddydd ei oes, ac i wasanaethu yr efengyl, yn y Clwchdernog. Y mae yn demtasiwn i aros gyda hanes yr amaethdy adnabyddus hwnw, ac yn enwedig y Clwch Hen, lle y bu John Wesley, ac amryw o'r Tadau Methodistaidd yn pregethu efengyl y deyrnas. Nid oes yno ond carnedd yn aros erbyn heddyw, ond y mae yr adfeilion yn gysegredig, a'r ddaear yn sanctaidd.

Ond ar y boreu a nodwyd troais fy nghamrau tua. Llanrhyddlad. Nid oes dim yn hynod yn yr olygfa am encyd o ffordd, ond wedi dringo y gelltydd yn nghyfeiriad mynydd y Garn, y mae y dyddordeb yn cynyddu bob cam. Gorwedda pentref gwledig Llanddeusant ar y gwaelodion o'r tu cefn; ar yr aswy y mae Llanfaethlu, gyda'i adgofion am Ioan Maethlu a Glasynys. Saif pentref Llanrhyddlad mewn lle amlwg ar ysgwydd y bryn, ac y mae yr olygfa o ymyl yr ysgoldy, ar y groesffordd gerllaw, yn wir ardderchog. Ar ddiwrnod clir, digymylau, gellir canfod mynyddau Arfon, o'r Penmaenmawr i gopa yr Eifl, a gellir gweled rhandir Lleyn, ac Ynys Enlli yn ymgodi o fynwes y môr. Anaml y gellir sefyll ar lecyn mor fanteisiol i weled arddunedd anian,—y tir pell. Camsyniad dybryd ydyw meddwl mai gwastadedd unffurf, dôf, fel "ceiniog fawr" ydyw gwlad Mon. O honi hi, mewn gwirionedd, y gwelir mawredd y Wyddfa, a'i chwiorydd, yn eu gogoniant. Hawdd genyf gredu ddarfod i Nicander sefyll ar y groesffordd hon lawer pryd ar ei ymdaith, i syllu ar gyrau yr hen wlad, ei anwyl Eifionydd.

Y mae eglwys y plwyf a phentref Llanrhyddlad yn sefyll mewn pellder lled fawr oddiwrth eu gilydd. Yn yr ystyr hwn, y mae mesur o "ddadgysylltiad" wedi cymeryd lle rhyngddynt. Yr oll ellir weled o'r eglwys o ymyl y pentref ydyw darn o'r clochdy pigfain ar gwr ystlys mynydd y Garn. Awn ar hyd ffordd gul, droellog, i gyfeiriad y môr. Yr ydym yn pasio amryw fwthynod a mân ffermdai. Ar y chwith y mae melin wynt—un o neillduolion Mon—a phentref Rhydwyn. Lle neillduedig iawn ydyw hwn, wedi troi ei gefn ar y byd, ond dywedir fod dosbarth arbenig o "deithwyr yn gwybod yn dda am dano, ac yn dod iddo gyda chysondeb os bydd y "gyllideb " yn caniatau. Wedi gado gefail ar ochr y ffordd, yr ydym yn d'od i ymyl y mynydd. Y mae blodau'r grug yn porffori ei lethrau, ac y mae y rhedyn, hwythau, yn dechreu newid eu lliw. Ar lethr craig gwelais ddau lafurwr yn bwyta eu cinio, ac nid oedd argoel diffyg treuliad ar eu galluoedd.

Toc, dyma ni wrth y fynedfa i'r persondy; ar yr ochr gyferbyn y mae yr eglwys a'r fynwent, mewn congl enciliedig, wrth odre y bryn, ac yn ngolwg y môr. Y mae golwg gadarn, lanwedd, ar yr adeilad, ac nid oes brydferthach clochdy yn Ynys Mon. Ac ar fin y fynedfa i'r eglwys, ar y llaw dde, y mae yr hyn y daethom yn un pwrpas i'w weled—bedd Nicander.

Yma y gorwedd ei lwch, o "swn y boen sy yn y byd." Llecyn tawel, distaw; a phell yw y dydd, gallem farnu, pan y daw trybestod rheilffyrdd neu law-weithfeydd i dori ar heddwch y fro. Ac yma, yn ymyl y glasfor byth-newidiol, a chan ddilyn ymdaith y llongau, mawr a bychain, yn colli o'r golwg y tu hwnt i fau Caergybi, cefais fy hun yn synfyfyrio am yrfa daearol y bardd a brofodd y llanerch hon yn "borthladd tawel, clyd, o swn y storm a'i chlyw." Ehedodd fy myfyr—dodau i Eifionydd,—

"Brodir iach, lle bu hir drig
Ein hen dadau nodedig;
Dillynaf gwmwd llonydd,
Fu'n Athen yr awen rydd.

I'm gŵydd deuai afonydd gloewon ac encilion prydferth y wlad sydd wedi ei chysegru gan adgofion am feirdd gorchestol y dyddiau a fu. Dyna Dewi Wyn,—

"A'i ddawn ddihysbydd, enwyllt,
Hydrawg oedd fel rhaiadr gwyllt,
Neu daran ffroch, a'i chroch ru
Yn enfawr ymgynhyrfu."

Athrylith ffrwydrol, ryfedd, ac ofnadwy; nid oedd rheolau a mesurau, sydd yn gymaint blinder i gyfansoddwyr cyffredin, ond pethau hawdd plentynaidd o hawdd—i awen Dewi Wyn. Gwnai efe dawdd—lestr o'r gynghanedd gaethaf, a thywalltai iddi feddylddrych anfarwol. Yr oedd ei allu mor aruthrol fel y rhodiai'n rhydd yn llyffetheiriau pobl eraill. Nid honiad ffol oedd ei ddywediad na welodd efe odid linell gynghaneddol nas gallai ei gwella a'i chryfhau. Ond heblaw nerth yr oedd yn perthyn i awen Y Gwyn dynerwch a theimlad dwfn. Nid oes angen profi hyn i unrhyw berchen calon sydd wedi ymgydnabyddu âg Awdl Elusengarwch. Pwy a roddodd y fath fynegiad i adfyd a chyni y llafurwr tlawd?—

"Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
Rhoi angen un rhwng y naw!"


Pwy, mewn oes wasaidd, fammon—addolgar a ddygodd ein cenedl i synied mai

"Brodyr o'r un bru ydym
Un cnawd ac anadl, ac un Duw genym,"

Gresyn o'r mwyaf ydoedd i athrylith Dewi gael ei thywyllu yn nghanolddydd ei grym. Ond er hyn oll, gadawodd argraff anileadwy ar lenyddiaeth Cymru,—

"Oeswr a phen seraff oedd,—pencampwr,
Ac ymherawdwr beirdd Cymru ydoedd."

Yn ei ymyl yr oedd Robert ap Gwilym—Y Bardd Du. Amaethwr oedd yntau, a'i breswyl am flynyddau lawer yn y Bettws Fawr. Gwahanol iawn oedd teithi awen y Gwyn a'r Du Yr oedd bardd y Gaerwen fel y rhaiadr mawreddog,—

Uchelgadr raiadr, dŵr ewyn
Yn synu, pensyfrdanu dyn."

Ond am fardd y Bettws,—

"Ei ddawn ydoedd ddeniadol
Fel afon dirion, mewn dôl,
Yn eirian lithro'n araf,
O dan heirdd gysgodion haf;
Dolenai, a delw anian,
Yn glŵs, ar ei gwyneb glân."

Cyfansoddodd y Bardd Du lawer o farddoniaeth nad a byth i dir angof. Gellir dweyd am dani, yn ngeiriau Ioan Madog,—

"A deil hon tra byddo'n bod,
Iaith Eifion ar ei thafod."

Cafodd Robert ap Gwilym oes faith, a bu yn gyfaill a noddwr i lu mawr o feirdd a llenorion. Yr oedd y Bettws Fawr yn goleg da i gyfansoddwyr ieuainc. Ar nawngwaith o haf, neu yn min nos gauaf, gellid gwel'd llawer pererin llengar yn ymlwybro tua'r amaethdy hynafol. Ymddengys fod y Bardd Du yn agored i un gwendid "ddibechod,"—yr oedd yn lled hoff o ganmoliaeth. Gwnaeth rhai pobl gyfrwys, gnafaidd, ddefnydd anheilwng o'r gwendid hwn, mewn trefn i gael mwynhau moethau materol y Bettws, ond yr oedd ei wir ddisgyblion yn myn'd yno gydag amcan llawer purach. Wrth feddwl am yr ymweliadau dyddorol hyn y mae dynsawd ambell ddisgybl yn ymrithio ger fy mron.

Dacw ŵr ieuanc bochgoch, heinyf, llygadlon, llawn asbri a gwladgarwch, yn cyrchu at y ty. Craffwn arno; daw yn adnabyddus ar lwyfan yr Eisteddfod, daw yn ŵr eglwysig, yn fardd a llenor mirain. Dyna Morus——

Ond yr wyf wedi rhagflaenu yr amseroedd a'r prydiau yn hanes y bardd. Un o wir blant Eifionydd ydoedd Nicander, neu, a defnyddio ei enw bedydd—Morus William. Ganwyd ef ddechreu y ganrif hon, mewn bwthyn o'r enw y Coety, ar dir y Gaerwen—etifeddiaeth Dewi Wyn. Gallesid disgwyl iddo ddod yn brydydd. Gofynwyd i ryw ddyn a ydoedd yn medru German? Atebodd y dylasai wybod rhywbeth am y pwnc,—fod ganddo gefnder oedd yn arfer chwareu y German flute. Wel, yr oedd mam Nicander wedi bod yn forwyn gyda'r Bardd Du, a'i dad yn was gyda'r Bardd Gwyn, ac oni ddylasai y plentyn fod yn brydydd? Adwaenid ef gan gyfoedion ei febyd fel "Morus bach y Coety." Cafodd ychydig ysgol ddyddiol o'r fath ag ydoedd mewn gwlad yn y dyddiau hyny. Caled oedd ei fyd. Elai i'r ysgol yn y boreu gyda ychydig fara sych, a phiser gwag. Efe oedd i lanw y piser trwy gardota llaeth ar ei ffordd at ei wersi. Dyna lwybr athrylith ar hyd yr oesau, llwybr garw, cul, noethlwm, ond "ffordd unionaf er mor arw, i ddinas gyfaneddol yw." Profodd y llaeth enwyn a'r bara sych yn dra chydnaws â chylla Morus y Coety. Daeth yn fachgen byr-gorff, cydnerth; ac ni chiliodd y gwrid oddiar ei foch hyd ei fedd. Pan yn lled ieuanc, cafodd ei brentisio yn llifiwr yn ardal ei febyd. Ymddengys iddo ragori yn y grefft, os gwir ydyw yr englyn a wnaed am dano yn y cyfnod hwn,—

"Ni chafwyd bachgen amgenach—na llaw,
I drin llif yn hoewach;
Nid oes un llifiwr siwrach,
Yn y byd, na Morus bach."

Ond nid yn y pwll llif yr ydoedd i dreulio ei fywyd. Aeth am dymor i'r ysgol i Gaer. Wedi bod yno am tua dwy flynedd, cafodd fynediad i Goleg yr Iesu, Rhydychen. Yr oedd Ab Ithel yno yr un adeg. Ar ol gorphen ei efrydiaeth, penodwyd ef i guradiaeth Treffynon, fel olynydd i'r mwynber Alun. Oddiyno, efe a symudodd i Bentir, Arfon.

Erbyn hyn yr ydoedd yn prysur wneyd ei farc fel bardd. Pan yn Mhentir yr anrhegwyd ef â'r englyn canlynol gan Dewi Wyn,—

"Morus sy'n Forus anfarwol,—Morus
Sy'n un mawr ryfeddol;
Ni fu ei enw ef yn ol,
Ond Morus anghydmarol."

Aeth o Bentir i Lanllechid, ac oddiyno i Amlwch, lle y bu yn gurad am bedair blynedd ar ddeg. Yn y blynyddau hyn yr ydoedd yn ymddyrchafu fel bardd ac awdwr, ond yn araf iawn y cafodd ei gydnabod drwy ddyrchafiad eglwysig. Daeth hyny o'r diwedd. Cafodd ei benodi i fywoliaeth Llanrhyddlad, lle y bu am y pymtheng mlynedd olaf o'i oes.

Daeth yn adnabyddus wrth yr enw "Nicander" yn y flwyddyn 1849, ynglŷn âg Eisteddfod fyth-gofiadwy y 'Berffro, pan y cafodd ei awdl i'r "Greadigaeth" ei dyfarnu yn oreu. Bu yn dra llwyddiannus fel ymgeisydd Eisteddfodol. Efe a enillodd y gamp ar y bryddest i "Brennus" yn Llangollen; "Yr Eneiniog" yn Ninbych; a "Moses" yn Nghaernarfon. Cyfansoddodd lyfr gwerthfawr ar "Y Dwyfol Oraclau; "Y Flwyddyn Eglwysig; "[3] ysgrifenodd gannoedd o erthyglau ac englynion i Gronicl Cymru; troes ddamhegion Esop ar gan; ac y mae ei ohebiaethau at Eben Fardd, ac eraill, yn mysg y pethau mwyaf doniol yn yr iaith.

Nid oedd yn bregethwr mawr, nac yn ym—adroddwr hyawdl, ond yr oedd, yn ei ddydd, yn un o ysgrifenwyr goreu y Gymraeg. Da fyddai genym weled rhywun yn rhoi adgyfodiad i rai o ysgrifau Nicander, yn enwedig ei ohebiaethau llenyddol i Gronicl diddan y dyddiau gynt.

II.

DEFFROWYD fi o'm dydd—freuddwyd. Clywais lais rhyw—un o borth y fynwent yn gofyn,—

Oes arnoch chi isio gwel'd yr eglwys? Mi fedra i gael y 'goriad rhag blaen.

"Na, diolch i chi, mae yr hyn y daethum i'w weled heddyw yn y fynwent,—beddrod Nicander. A ydych yn ei gofio ef?"

"Mi glywas am dano, ond 'doeddwn i ddim yn byw ffordd yma pan oedd o yn berson y plwy "—a diflanodd o'm golwg.

Aethum i rodio yn mysg y beddau. Ychydig, mewn cymhariaeth, ydyw nifer y beddfeini a'r colofnau yn y fynwent hon. Y mae yma lawer "twmpath gwyrddlas," heb ddim cofnod i ddweyd hanes y marw. Chwiliais am englynion o eiddo Nicander, ond un yn unig a welais, ar fedd genethig ddeuddeg oed, yr hon fu farw yn 1864, ddeng mlynedd o flaen y bardd. Dyma fe:—

"Dros dro, mae'n huno mewn hedd,—yn dawel
Yn y duoer geufedd;
Daw drwy wyrth o byrth y bedd,
I felus fro gorfoledd."

Yn ymyl mur y fynwent, ar yr ochr sy'n gwynebu y môr, mae beddrod tri o forwyr, y rhai a foddwyd yn mis Tachwedd, 1811. Gerllaw iddynt y mae beddrod cadben llong—yr Osprey, o Lerpwl. Bu yntau foddi ar y noson gyntaf o Ebrill, 1853, tra yn ceisio glanio mewn bad yn y Borthwen. Yr oedd y llong wedi ei rhedeg i lawr yn oriau'r nos gan yr ysgwner Anne & Mary, o Aberteifi, ac y mae y geiriau a ganlyn wedi eu cerfio ar y gareg fedd,—

If the captain of the Anne & Mary had the humanity to lie by the
poor sufferers for a short time, it is thought their lives would be saved."

Ac yna ceir y penill hwn,—

"Dros donau heilltion moriais,
A hwyliais uwch y lli,
Trwy 'stormydd a thymestloedd,
Ar foroedd aethum i;
A thyma'r fan gorweddaf,
Mi gysgaf hun mewn hedd,
Hyd foreu'r adgyfodiad
Yn dawel yn fy medd."

Y mae y fynwent hon yn aneddle lonydd, er ei bod i raddau yn noethlwn a diaddurn. Nid oes yma yr un "ywen ddu ganghenog" yn dyst o oesau a fu; ni welir yma yr un helygen wylofus yn crymu uwchben y bedd, ond y mae cysgod mynydd y Garn yn tori grym ystormydd y gauaf, a swn y tonau yn y gwaelodion fel dyhuddgan hiraeth—fel cwyn coll.

Careg brydferth, seml, sydd yn noddi hunell Nicander, ac y mae tywod a chregin wedi eu dodi ar y bedd. Gorphwysodd y bardd oddiwrth ei lafur yn mis Ionawr, 1874. Gerllaw iddo, y mae croes fechan yn dynodi gorweddfa "Dorothy," merch fechan ei fab, yr hon fu farw yn ddeng mlwydd oed. Tyf y fil-ddail, y feillionen goch, a llygad y dydd oddeutu'r llanerch, a sua'r awel yn y glaswellt îr. Felly y mae oreu. Ceinion natur, yn hytrach nac addurn celfyddyd, ddylai gael prydferthu gorweddfa'r bardd. Gwena'r grug ar ymylon y fynwent. Gwelir bwthyn clyd, gwyngalchog, ar y llechwedd, a chlywir lleisiau iach y plant ar eu hynt i hel mwyar duon ar y twmpathau. Tywyna heulwen Medi ar fynydd y Tŵr yn y pellder, symuda cysgodion y cymylau Llwyd-wyn ar donau'r môr. Ac yma y gorphwys yr hyn oedd farwol o Nicander, " hyd oni wawrio y dydd, a chilio o'r cysgodau."

Tra yn sefyll ar y llecyn cysegredig, meddyliwn am linellau Islwyn, y rhai a gyfansoddwyd yn mhen ychydig ddyddiau ar ol clywed am farw'r bardd,—

"A gaf fi mwyach gu ofwyo Mon,
Gaiff cwmwl f'hiraeth oeri uwch dy fedd?
Gar fi goffhau dy felus awdlau,—son
Am d'oes o ddysg, ac am dy oes o hedd?
Gyferbyn gwelaf rosyn gloew ei fri,
A phlanaf ef ar fedd dy dangnef di.

"O Fynwy mynaf ofwy at dy fedd,
Caiff blodau Mynwy wylo gwlithion Mon
Bob boreu ar dy lwch, tra angel hedd
Yn cwyno gyda'r sêr, ar dyner dôn:
Ffarwel, Nicander hoff! Cawn gwrdd yn nghyd,
Mi wn, o gylch y bwrdd mewn gloewach byd."

Bellach, y mae'r ddau awenydd,—Nicander lawenfryd, ac Islwyn brudd-dyner, wedi cwrdd mewn "gloewach byd." Anwylwn eu coffadwriaeth. Melus fo eu hun,—y naill ar fynydd Islwyn, a'r llall yn y fynwent yn ymyl y môr.

EGLWYS DWYNWEN.

Mi orphwysaf ger adfeilion.
Eglwys Dwynwen, ar fy hynt,
Gan ymwrandaw â sibrydion
Traddodiadau'r dyddiau gynt;
I'r cynteddau maluriedig
Rhodder imi drwydded bardd;
Hwnt i oesau enciliedig
Gwelaf adail gadarn, hardd.

Clywaf adsain cloch y plygain,
Gyda'r awel doriad gwawr,
Haul y boreu wrida'r dwyrain,
Gweddnewidia'r eigion mawr;
Gwelaf y mynachod llwydion
Yn ymffurfio'n weddus gôr,
Gan gymysgu eu halawon
Gyda murmur dwfn y môr.

Lanerch dawel, gysegredig,
Ar y graig gerllaw y lli,
Cafodd seintiau erlidiedig
Hedd a nodded ynot ti;
Yn yr oesau tywyll, creulon,
Buost yn oleuni gwyn;
Mynych gyrchai pererinion,
I'r cynteddau distaw hyn.

Nid oes heddyw ond adfeilion
Teml fu ogoniant gynt,
Maen ar faen ddatodwyd weithion,
Aeth yr hanes gyda'r gwynt;
Chwyn a glaswellt sydd yn tyfu
Dros y gangell oer, dylawd,
Stormydd gaua sy'n chwibanu
Trwy y muriau ar eu rhawd.


Y mae nerthoedd mawrion Amser
Wedi treulio'r adail gre,
Nid oes mwyach "grêd na phader,"
Gair na chyngor, yn y lle;
Ond mae goleu pur gwybodaeth
Wenai yma yn y nos,
Wedi gwasgar dros bob talaeth,
Torodd dydd ar Gymru dlos.

Yn ngoleuni clir yr hafddydd,
Melus gorphwys orig gu,
Ger yr eglwys lwyd a llonydd,—
Cymwynasydd Cymru fu;
Er mwyn cofion oes gyntefig
Na ddoed troed i'r fangre hon,
I halogi'r adfail unig
Ar y graig yn swn y don!


NODIAD.

I'r sawl fu yn darllen ysgrifau dyddorus Mr. Owen Williamson, ar Landdwyn, yn y Cymru, nid oes angen esbonio daearyddiaeth y rhan hono o Ynys Mon. Yr hyn ydyw Penmon i'r naill eithaf i'r ynys, dyna ydyw Llanddwyn i'r eithaf arall. Difyr iawn ydyw mordaith o Gaernarfon i Landdwyn ar hirddydd haf. Y mae yno le dymunol i angori,—cilfach a glan yn nghysgod y creigiau. Yno y mae'r goleudy a'r bywyd-fad, yno y mae Eglwys Dwynwen, a ffynnon y Santes yn bwrlymu ei dwfr oer, grisialaidd, yn ymyl y môr. Yno, bellach, ar graig uchel, y mae croes wen, hardd, wedi ei chodi er cof am Dwynwen, ac am Jiwbili'r Frenhines. Y mae enwau Dwynwen a Buddug wedi eu huno ar y gofadail hon. Ond un o'r pethau mwyaf hynod ar y creigle hwn ydyw gweddillion Eglwys Dwynwen.

Llan Dwynwen

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Syr Lewis Morris
ar Wicipedia





FFYNNON Y TYLWYTH TEG.

[Un o ganeuon Syr Lewis Morris, wedi ei throi i'r Gymraeg.]

RHWNG plygion bryniau Towi
Mae du a dwfn lyn,
Teyrnasu gylch ei lanau
Mae prudd-der oesol, syn.

Ac ar ei wyneb tawel,
Fel seren ar ael nos,
Ei siglo yn nghryd yr awel
A gâ y lili dlos.

Ond yn y fan mae'r llyn yn awr,
Medd traddodiadau'r wlad,
Mewn llecyn cudd, yn is i lawr
'Roedd ffynnon loew, fad.

Bwrlymai'i dyfroedd, nos a dydd,
Dan nawdd y Tylwyth Teg,
Ac yno'r bugail yrai'i braidd,
Ar lawer nawnddydd chweg.

Ond wedi drachtio'r gloew ddwr,
'Roedd pawb o fewn y tir
I ddodi'r "garreg" yn ei hol
Ar enau'r ffynnon glir.

Ar ymdaith at y ffynnon hon
Daeth marchog, oesau gynt,
Ar haf-ddydd brwd, mewn lludded mawr
Ar ol ei hirfaith hynt.


Syr Owen, o Lys Arthur, oedd,
A gwron llawer câd,
Ar ol dryghinoedd rhyfel
Yn dychwel i'w hen wlad.

Llesg a diffygiol ydoedd,
A'i ffyddlon farch yn flin,—
Ill dau—wrth araf ddringo'r bryn
Bron dyddfu gan yr hin.

Pan—ha, fe welai'r ffynnon!
Cyflymai ar ei hynt,
Goleuai 'i wedd, ei chofio'r oedd
Yn nyddiau mebyd gynt.

A'r marchog ddrachtiai'n awchus
O'r dyfroedd pêr eu blas,
Ac yna syrthiai i felus gwsg
Ar y dywarchen las.

Ond yn ei ddirfawr ludded
Anghofio wnaeth y gŵr
Am ddodi'r "garreg" yn ei hol,
Uwchben y gloew ddwr.

Breuddwydiodd; clywai adsain
Llifddyfroedd ar bob llaw,
A chlywai swn rhaiadrau
Yn disgyn oddi draw.

Deffrodd; ple'r aeth y glaswellt
A welsai ar ei daith?
A'r deadelloedd? Nid oedd un
O flaen ei lygaid llaith.

Lle gwenai'r waen rosynog,
Lle porai'r afr a'r myn,
Nid oedd i'w weled ar bob llaw
Ond dyfroedd dwfn y llyn.

Brawychai'r marchog gwrol
Wrth wel'd y difrod wnaeth,
Ac i unigedd ogof gudd—
O olwg byd—yr aeth..

Ac yno yn mro breuddwydion,
Mae'n disgwyl am yr awr
Pan elwir ef drachefn i'r gad
Gan udgorn Arthur Fawr.

Y llef a dreiddia i'r ogof gudd,
Daw Arthur yn ei ol,
A chilia'r llyn a chwyd y pant,
Daw blodau ar y ddôl.


****
Draddodiad mwyn! ein dysgu'r wyt
Am gadarn fraich a llais,
Sydd eto i adferu'n gwlad
O rwymau tynion trais.

Tyr'd! Bresenoldeb dedwydd,
Gwisg dy oleuni mad,
Mae Cymru'n disgwyl; tyr'd yn awr
I godi'n hanwyl wlad!



GWELED ANIAN.

Mae gweled Bywyd—Bywyd iach a phur,
Yn ysbrydoliaeth i eneidiau llesg.
****
Gwynfyded eraill ar orchestion dyn—
Ar gestyll, pontydd, a pheiriannau chwim;
Gwell genyf fi yw treulio awr o saib
I wylied Bywyd—Bywyd cwbl ddi-dwyll.

—IOLO CARNARVON.

I.

YN mhlith y galluoedd y dylem roddi pob mantais iddynt i ddadblygu y mae y gallu i sylwi; y ddawn i ganfod defnyddiau addysg a mwynhad yn y gwrth- rychau cyffredin yr ydym yn d'od i gyffyrddiad â hwy.

Y mae sylwi i bwrpas yn allu, ac yn allu gwerthfawr. Yr oedd. rhywun yn canmol gŵr neillduol yn mhresenoldeb Dr. Johnson, gan ddweyd, "He is a man of general information." Ebai y doctor wrtho, "Is he a man of general observation?" Yr oedd Dr. Johnson, un o ddynion callaf ei ddydd, yn gosod y gallu i sylwi yn uwch na'r wybodaeth hono a gesglir drwy gyfryngau ail llaw. Ac eto, ychydig mewn cymhariaeth sydd yn ei feithrin yn ddyladwy. Gellid dweyd am dyrfa fawr o blant dynion,-"Llygaid sydd iddynt, ond ni welant." Yr ydym, ar brydiau, wedi cyfarfod â phobl gawsant y fantais o deithio gwledydd, a gweled rhyfeddodau Natur a chelf; ond wedi d'od yn ol heb sylwi ar ddim gyda'r dwysder hwnw sydd yn troi gwrthrychau allanol yn ddefnyddiau myfyrdod a mwynhad.

O'r tu arall, adwaenom rai nad ydynt wedi cael mantais i "deithio," yn ystyr ddiweddar y gair; ond, drwy gyfrwng sylwadaeth feddylgar yn eu bro eu hunain, y mae ganddynt etifeddiaeth deg o wybodaeth ymarferol. Pell ydwyf o ddweyd dim yn ddifrïol am deithio na theithwyr. Goreu po fwyaf o'r byd a welir, os rhoddir chwareu teg i'r gallu sydd yn sylwi ac yn. canfod ystyr mewn pethau. Yn niffyg hyny, nid yw yr holl deithio ond cyffroad arwynebol a darfodedig. Geilw y Saeson y dosbarth yma yn globe-trotters. Y maent yn trotian yn ddibaid, ond heb aros digon yn unman i dderbyn argraff y weledigaeth. Ond, fel y dywedwyd y mae yn bosibl treulio oes led gartrefol heb grwydro rhyw lawer yma a thraw, ac eto, drwy sylwadaeth bersonol ddod yn feddianol ar lawer o wybodaeth ddyddorol i'w pherchen, a buddiol i eraill. Dichon mai y ffordd oreu i ddangos hyn fyddai crybwyll am rai o'r gwŷr hyny a roddasant achles i'r ddawn hon, ac a ddaethant, mewn canlyniad, i gael eu cyfrif yn mysg cymwynaswyr eu rhyw.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Mona Antiqua Restaurata
ar Wicipedia

Un o'r gwŷr hyn ydoedd Henry Rowland, offeiriad Llanidan, ar finion y Fenai, yn Ynys Mon. Dywedir na fu y gŵr da hwn ond ychydig oddicartref yn ystod ei oes. Conwy oedd y fan bellaf, meddir. Ond gwnaeth iawn am y peth drwy sylwi yn fanylach ar yr hyn oedd o gwmpas ei gartref; ac yn enwedig traddodiadau ac olion henafiaethol. Gwnaeth nodiadau manwl o'r hyn a welai, a chyhoeddwyd ffrwyth ei sylwadau yn llyfr, ac y mae Mona Antiqua,[4] bellach, yn un o drysorau ein llenyddiaeth.

Perthyn i'r un dosbarth, ac i'r un cyfnod, yr oedd Gilbert White o Selborne, yn neheudir Lloegr. Offeiriad oedd yntau; gŵr tawel a syml, ond yr oedd yn sylwedydd cywir. Craffai ar bobpeth a welai yn ei rodfaon dyddiol. Nid oedd un creadur yn rhy ddi-sylw ganddo. Elai efe nid yn unig at y morgrugyn ond at holl breswylwyr y llwch, a throes yn fywgraffydd iddynt heb dâl na gwobr. Prin yr oedd dim rhyfedd yn digwydd yn myd yr adar neu y trychfilod mân yn y plwyf hwnw, heb fod y gyfrinach yn wybyddus i Gilbert White. Ysgrifenai lythyrau at un neu ddau o gyfeillion oedd yn cymeryd dyddordeb yn yr un pethau. A llythyrau hynod ydynt! Nid oes ynddynt un gair of son am ddigwyddiadau cymdeithasol. Yn yr ystyr hwn, y maent yn debyg i lythyrau Goronwy Owen. Dau beth neillduol a geir yn y rheiny—holi am ryw hen lyfr Cymraeg, neu am ryw hen offeiriad plwyf y disgwylid iddo fyn'd i wlad well. Ond am lythyrau Gilbert White, y maent yn llawn o gyfeiriadau at natur a'i phlant. Nid oedd ynddo un uchelgais i wneyd enw fel awdwr; ond, heb geisio, megis, ar bwys ei ddawn i sylwi, fe ddaeth yn un o'r awduron mwyaf dyddorol. Casglwyd ei ysgrifau yn nghyd, a chafwyd ei fod, wrth roddi hanes un plwyf, wedi croniclo pethau sydd yn meddu gwerth cyffredinol. Gwnaed y llythyrau yn llyfr, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1789—dros gan mlynedd yn ol. Y fath nifer o lyfrau a argraffwyd yr adeg hono, ac ar ol hyny, sydd wedi eu hebargofi yn llwyr! Ond y mae y Natural History of Selborne, gan Gilbert White, wedi myn'd drwy lu o argraffiadau, ac yn aros hyd y dydd hwn yn un o'r llyfrau mwyaf dewisol fel arweinydd i gyfrinion Anian. Ac y mae y byd yn ddyledus am dano i'r ffaith fod yr awdwr yn sylwedydd, wedi cymhwyso ei hun i "weled y peth fel y mae.

Gellid nodi dynion cyhoeddus, heb fod yn awdwyr, a enillasant enw ac enwogrwydd yn ngrym y gallu arbenig hwn,—llygad i weled Anian. Yn eu plith yr oedd Richard Humphreys, Dyffryn, a Joseph Thomas, Carno. Nodwedd amlwg yn y naill a'r llall ydoedd y ddawn i sylwi. Yn nglŷn âg Humphreys o'r Dyffryn, yr oedd dylanwad y ddawn hon ar ei feddwl ef yn cymeryd y ffurf o foes—wersi a dywediadau byrion, cofiadwy, wedi eu seilio ar ffeithiau ac ar brofiad bywyd cyffredin. Yn ei pherthynas â Joseph Thomas, yr oedd yr un ddawn yn ymffurfio yn hanesynau a chydmariaethau tarawiadol sydd, bellach, wedi suddo i gof a chalon gwlad.

II.

DRACHEFN, y mae llygad i weled Anian yn allu sydd yn dedwyddoli ei berchen, a hyny mewn amgylchiadau a gyfrifid gan lawer yn amddifad o elfenau cysur a mwynhad. Dyna—unigedd. Byddai aros mewn neillduaeth, yn nghanol gwlad, yn gosb drom ar lawer yn y dyddiau hyn. Un rheswm am y peth ydyw —fod y gallu i sylwi heb ei amaethu yn briodol; maent yn tynu eu holl gysur trwy gyfrwng dysgu, ac yn gadael sylwi heb ei feithrin o gwbl. Ond pan y mae hwn yn cael chwareu teg, nid oes yr un lanerch yn gwbl annyddorol. Ceir fod distawrwydd y dyffryn, a chilfachau y mynyddoedd. yn llawn o wrthrychau addas i ddedwyddoli y meddwl, ac i'w dywys at yr Hwn sydd "ryfedd yn ei weithred, ac ardderchog yn ei waith." Ac y mae hyn yn wirionedd, nid yn unig am olygfeydd rhwysgfawr ac arddunol, ond hefyd am bethau syml a chyffredin. mae y dosbarth cyntaf fel meistriaid y gynulleidfa yn hawlio sylw ac edmygedd. Anhawdd meddwl am ddyn yn sefyll ar lan y cefnfor, neu yn ymyl y rhaiadr crychwyn, heb deimlo rhywbeth oddiwrth fawredd neu wylltedd yr olygfa. Gellir rhestru y rhain, y môr a'r . mynydd, y rhaiadr a'r afon, yn mysg pregethwyr mawr—"pregethwyr cymanfa "—Natur. Gŵyr pawb i ryw fesur am danynt. Ond y mae myrdd o wrthddrychau eraill sydd yn orlawn o ddefnyddiau mwynhad.

Y mae Ruskin, pan yn darlunio ystlysau'r Alpau, yn dweyd fod y golygfeydd mor eang, mor ddiderfyn, fel y mae y llygad yn diffygio wrth edrych arnynt. A'r feddyginiaeth ar gyfer hyny, ebai ef, ydyw crynhoi y sylw ar ryw un peth yn eich ymyl—tusw o fwswg, neu flodyn yn nghesail y graig. Ond mewn trefn i wneyd hyn, rhaid fod y gallu i sylwi, i ganfod tegwch yr hyn a ystyrir gan y lluaws yn ddistadl,-rhaid fod hwnw wedi ei feithrin yn flaenorol. Ac yn y cysylltiad hwn, gallwn nodi esiampl neu ddwy er dangos-pe y buasai hyny yn angenrheidiol-fod y gallu y soniaf am dano yn allu pleserus, yn ffynhonell mwynhad. Mewn hen rifyn o Longman's Magazine, fe geir ysgrif dan y penawd, "A Mountain Tulip." Y mae yr awdwr yn desgrifio ei hun yn dringo llechweddau Moel——— un o chwiorydd tal-gryf y Wyddfa. Unffurf a dof, meddai, ydyw yr olygfa ynddi ei hun; ond y mae y dringwr hwn wedi meithrin y gallu i sylwi mewn un cyfeiriad neillduol. A chyn hir, gwobrwyir ef am ei ymdrech. Wrth odreu un o'r meini mawrion sydd ar lethrau y Foel, y mae ei lygad yn disgyn ar lysieuyn bychan, yswil, a'i flodyn yn wyn fel yr eira. Dyna diwlip y mynydd! Nid oes hanes am dano yn Nghymru na Lloegr ond ar y llech weddau hyn. Plentyn yr eira ydyw; un o weddillion y cyfnod pell pan oedd yr iâ-fryniau yn gorchuddio yr Eryri. Y mae tylwyth y mountain tulip wedi myn'd yn hynod fychan erbyn hyn, ac fe ddywed y gŵr a'i gwelodd, iddo ei adael yno i wenu wrtho ei hun, rhag ofn mai efe oedd yr olaf o'r teulu oll. Y mae Wordsworth wedi darlunio dau gymeriad,— un heb agor ei lygad i brydferthwch Natur, a'r llall yn troi ei sylwadaeth yn ymborth i'w feddwl erbyn y dyfodol. Am y naill,—

"A primrose by the river's brim,
A yellow primrose was to him,
And it was nothing more."

Yr oedd yn edrych ar friallen felen fel yr oedd y fuwch neu y march yn arfer gwneyd; nid oedd cenad y gwanwyn yn cyflwyno un ystyriaeth foesol i'w feddwl, Ond am y llall, y mae yn myn'd at lan yr afon, ac yn gweled torf o'r blodau euraidd hyny—y daffodils—yn dawnsio yn yr awel, ac y mae ei galon yntau yn dawnsio i'w canlyn. Y mae'r olygfa yn suddo i'w feddwl, ac yn d'od yn ddefnydd cysur wedi llawer o ddyddiau,—

And oft when on my couch I lie
In vacant or in pensive mood,
They flash upon that inward eye
Which is the bliss of solitude;
And then my heart with rapture fills,
And dances with the daffodils!"

Dro yn ol, yr oeddwn yn cerdded gyda chyfaill ar hyd ffordd lled anyddorol; dim coed, nac afon, na thai, ond digonedd o gerrig a meini ar bob llaw. Yn y man, cymerasom seibiant. Tynodd y cyfaill forthwyl o'i logell, a dechreuodd fanylu ar ansawdd y meini,—eu neillduolion, eu tylwyth, a'u hanes. Dywedais fod y ffordd yn un anyddorol. Yr wyf yn galw y gair yn ol. Yn nghymdeithas sylwedydd, daeth yn un o'r llanerchau mwyaf difyr, a melus yw yr adgof am dani.

III.

Y MAE y gallu hwn, hefyd, yn un tra manteisiol, ac yn un y gellir ei arfer yn ddi—dor. Y mae yn datguddio rhywbeth yn barhaus. Synia rhai fod yn rhaid iddynt fyn'd yn mhell oddicartref mewn trefn i weled pobpeth o bwys. Ond y gwirionedd yw, os felly y mae, fod y gallu i sylwi ynddynt hwy mewn stâd amherffaith. Diwyllier y gallu hwn, a daw pob llanerch yn gyfrwng gwybodaeth ac addysg. Gyda'r allwedd yma yn ei feddiant, gall dyn anturio i'r cwm mwyaf mynyddig mewn llawn hyder y daw ar draws rhywbeth gwerth ei wybod. Y mae yn y ffriddoedd, y mawnogydd, a'r corsleoedd, lawer o wybodaeth guddiedig. Clywais ffermwr yn adrodd ei fod efe, un adeg, yn codi mawn yn nghwmwd Eifionydd. Yr oedd wedi tori yn lled isel i lawr, a daeth o hyd i ryw sylwedd caled, du fel y gloyn, ac ni wyddai yn iawn pa un ai pren ai carreg ydoedd. Taflodd ef o'r neilldu, heb feddwl mwy am dano. Un o'r dyddiau dilynol, daeth gŵr dieithr heibio y llanerch, canfu y telpyn du, a gofynodd i'r ffermwr beth a gymerai am dano. Dywedodd yntau, yn ddiniwaid, nad oedd yn werth dim ond i gyneu tân, a bod croesaw i'r gŵr dieithr wneyd a fynai âg ef. Ac felly y bu. Ond yn mhen rhai misoedd, derbyniodd y ffermwr bapur yn cynwys hanes darlith gerbron Cymdeithas Wyddonol yn Llundain, a'r testyn ydoedd, yr hen foncyff a godwyd o'r gors. Dengys hyn fod y gallu i sylwi yn dwyn pob llanerch dan warogaeth iddo ei hun; fel hudlath y swynwr, y mae yn gwneyd yr hagr yn brydferth, a'r distadl yn ogoneddus.

Nid pawb ohonom sydd yn cael treulio ein dyddiau. O fewn cyrhaedd Amgueddfa, neu arddangosfa o gywreinion. Ond, er hyny, na thristawn fel rhai heb obaith. Y mae amgueddfa fawr Anian o fewn ein cyrhaedd, a'i phyrth yn agored ddydd a nos. Y mae ei hystafelloedd yn ddirif, a'i gwrthrychau yn fyrdd myrddiwn, ac yn ymestyn o'r atom i'r bydoedd gloewon sydd yn tramwy y gwagle gwyrdd. Os gofynir beth yw y telerau a beth sydd yn amod aelodaeth, gellid ateb mewn un gair,—llygad agored a meddwl byw, y gallu i sylwi ar ei gwrthrychau. Pa le bynag y byddo hwn, gall ei berchen ddweyd fel y Salmydd," Arlwyi ford ger fy mron; fy phiol sydd lawn." Iddo ef, y mae llais ymhob awel, a gwersi yn y gronynau llwch. Y mae y fforest yn llyfrgell; y cae yd yn gyfrol o athroniaeth. Y mae hanesiaeth yn y graig, ac y mae yr afon a red heibio yn bryddest fyw. Gan hyny, gellir dweyd wrth bob un yr agorwyd ei lygaid,—Dos, rhodia'n rhydd, a deui o hyd i wersi, prydferthwch, a doethineb yn mhob man, ac yn mhob peth,—

"Tongues in trees,
Books in the running brooks,
Sermons in stones,
And good in everything."


YN MRIG YR HWYR.

["AR y ffordd adref yr oeddwn yn pasio mynwent Llandwrog, ac yno ar gofgolofn wenlliw Ioan Arfon yr oedd bronfraith yn canu yn felus odiaeth. Nid oedd un aderyn arall i'w glywed; yr oedd yn llwyd—dywyll, ond canai y fronfraith â'i holl egni ar fedd y bardd. Safais i wrando. Yr oedd yr olygfa a'r melodi yn fy nghyffwrdd yn y tawelwch a'r unigedd,—y fronfraith, fin nos, mewn mynwent, yn canu ei hwyrgan ar fedd y bardd."]

I.

Huan dydd, aeth dan gudd, llonydd yw'r llwyni,
Cathlau swyn, adar mwyn, 'nawr sy'n distewi.
Nifwl gwyn doa'r bryn, huna y blodau,
Daeth y nos, hafaidd dlos, gyda'i chysgodau.
Tyner "Ust!" ar fy nghlust, sibrwd freuddwydion;
Ysgafn chwa ddwed "Nos Da," yn yr encilion.

II.

Ond mae un, cerddor cun, a'i emyn buredig,
Uwch y bedd, mangre hedd, yn arllwys ei fiwsig;
Cana'n ber, yn ngoleu ser, uwch yr oer annedd,
Hunfa werdd, un o feib cerdd a chynghanedd:
Gantor llon, yn fy mron deffry adgofion,
Cofiaf gân, awen lân, y mwyn Ioan Arfon.



BARDD Y GWANWYN.

DYWEDIR fod adeg priodol i ddarllen pob gwir fardd. Y mae ganddynt eu tymhorau, a dylid adnabod yr awr sydd yn gydnaws ag ysbrydoliaeth yr awen. Mae rhai fel yr eos, yn feirdd yr hwyr, pan fo yr awel yn falmaidd, â'r lloer yn llawn. Eraill, fel Islwyn, yn fwy cydnaws a'r hydref, pan fo swn y gwynt yn cyffroi tanau hiraeth yn y fynwes. Y mae dosbarth arall y gellir eu galw yn feirdd y gwanwyn. Y mae arogl blodau ar eu meddyliau, a swn gobaith yn eu halawon. Perthyn i'r cwmni yna y mae Elfed. "Carol Blodau'r Gwanwyn ydyw testyn un o'r caneuon, ac y mae yn ddangoseg o'r llyfr— o'r awdwr. Bu'm yn ei ddarllen am oriau yn nghesail bryn, lle yr oedd adar yn canu, coed yn deilio, afon yn trydar yn y gwaelodion, a'r briallu yn haner ymguddio dan y perthi. Agorais y llyfr, a chyn pen nemawr dyna fi yn canfod portread ffyddlon o'r olygfa:—

Gwelais lif y loew nant
Yn prysuro drwy y pant;
Gwelais wyneb blodyn bach
Ar ei glan yn fyw ac iach;
Rhedeg, rhedeg, mae'r afonydd,
Gwell gan flodau fywyd llonydd.

*****
Y mae pobpeth yn ei le
Pan yn dilyn goleu'r ne';
Aros di, a bydd yn fawr,
Brysia dithau, ddydd ac awr;
Llifo at Dduw y mae'r afonydd,
Tyfu at Dduw mae'r blodau llonydd."

Yn mha le y gorwedd arbenigrwydd Elfed fel bardd? Yr wyf yn petruso i gynyg ateb y fath ymholion, ond y mae y pethau a ganlyn wedi fy nharo tra yn nghyfeillach y "Caniadau" hyn.

1. Gwaith glan. Y mae gan awen Elfed wardrobe gyfoethog, gwisgoedd sidan a phorphor, a gŵyr y bardd pa fodd, a pha bryd i'w defnyddio. Dygwch allan y wisg oreu" ydyw ei arwyddair. Chwiliodd am eiriau detholedig, ac y mae y rhan fwyaf o'i frawddegau wedi eu caboli fel mynor yr Eidal. William Watson a ddywed yn un o'i ddarnau byrion:—

"Often ornateness
Goes with greatness;
Oftener felicity
Comes with simplicity;
Life is rough,
Sing smoothly, O Bard."

Dealla Elfed y gyfrinach ddedwydd hon. Y mae ei ganiadau yn ornate, ac yn syml yr un pryd. Beth yn fwy syml na'r llinellau i'r "Llanw" tawel:—

Mae'r llanw yn dod i fyny'r afon
Ac anadl y don yn lleithio'r awelon.
'Mae'n dod, mae'n dod—a blodau'r ewyn
Megis briallu y môr yn ei ddilyn.
Mae'n llifo ar led o geulan i geulan
A'i wynion fanerau yw edyn y wylan.
Mae'r llanw'n dod; a swn y Werydd
Yn murmur heibio'r pentrefi llonydd."

Da fyddai i'n beirdd ieuainc gofio cynghor Watson, ac astudio caneuon Elfed,—

"Life is rough,
Sing smoothly, O Bard."

Pa le y ceir y llyfnder a'r melodi os nad mewn cân?

2. Gallu i bortreadu. Dywed rhywun mai ystyr y gair "darfelydd" ydyw—y ddawn i weled y fel, y tebyg, a'i ddarlunio. Yr oedd y gallu hwn yn gryf yn Longfellow. Desgrifia adlewyrchiad y lleuad lawn ar lanw y môr,—

"Like a golden goblet falling
And sinking into the sea."

Ac y mae caniadau Elfed wedi eu britho â'r un peth. Y mae ei ddarfelydd yn fywiog a ffyddlon i Natur. Dyma rai llinellau a geir yn y bryddest benigamp "Gorsedd Gras:"—

"Fel y don yn troi yn flodau arian yn ngoleuni'r lloer.
Fel mae cusan gwyn y wawr yn agor llygaid blodau'r byd.
Fel y mellt yn troi yn wlith yn nghlir dawelwch hafaidd nos,
Felly pob ddrychfeddwl ieuanc dry'n y nef yn emyn dlos. "

3. Craffder gwelediad. Y mae y bardd yn medru gweled drychfeddwl mewn lleoedd annisgwyliadwy. Daw awgrymiadau iddo o agos a phell. A defnyddio syniad Watson unwaith yn rhagor; dywed efe mai un gwahaniaeth cydrhwng y cerflunydd a'r bardd ydyw hyn—Y mae y cerflunydd yn cyfarch yr angel yn y mynor diffurf, ac yn dyweyd—"Yn awr, mi a'th ollyngaf yn rhydd." Ond am y bardd, y mae yntau yn canfod angel o ddrychfeddwl yn crwydro drwy y gwagle, ac yn dyweyd wrtho—" Tyred i mewn a gorphwys. Gwnaf i ti gartref, a chei weini cysur i bererinion.

Llwyddodd Elfed i letya angylion yn y caniadau hyn. Gwelodd un o honynt yn ngeiriau olaf Golyddan—"Peidiwch holi heddyw," un arall mewn mabinogi henafol, ac un wed'yn yn ymguddio yn mhlygion breuddwyd Bunyan,—"Yr awr euraidd." Ond un o'r engyl tlysaf oedd hwnw a ymrithiodd iddo mewn angladd ddiwrnod cynauaf"—un o'r caniadau mwyaf tyner yn y llyfr:—

"Yn y glas y mae'r ehedydd
A'i flodeuog gerdd,
Ar ei ffordd i'r nef, fel salmydd
Daear werdd.

Nes na ni at fyd angylion
Yw'r caniedydd bach;
Nes at fyd y pethau gwynion—
Y byd iach!

Caned yn yr angladd, caned—
Cariad uwch y bedd!
Yn y gwenith heddyw sued
Awel hedd!"

4. Diwylliant eang. Anhawdd darllen tudalen o'r brydyddiaeth hon heb deimlo fod yr awdwr yn gyfarwydd iawn â llenyddiaeth—mewn gair, fod cylch ei efrydiaeth a'i ddiwylliad yn dra eang. Y mae amrywiaeth ei fesurau, cyfoeth ei gymhariaethau, a chyffyrddiadau ysgafn, gorphenol, ei waith, yn profi mai nid gŵr wedi byw mewn un heol ydyw, ond cosmopolitan— rhydd—ddinesydd y byd llenyddol. Ceir profion eglur o hyn yn y bryddest ar "Orsedd Gras," ac yn enwedig y rhiangerdd felusber, Llyn y Morwynion." Y mae cynghor Elfed i'r Cymro ieuanc, yn y cyfnod hwn, wedi ei wirio eisoes yn ei hanes ef ei hun:—

"Mae dy wyneb weithion
At y llydan fyd;
Cadw wres dy galon.
Yr un pryd.

"Dante—dos i'w ddilyn;
Shakespeare—tro i'w fyd;
Cofia Bantycelyn
Yr un pryd."

Ie, dyna sydd eisiau ar feirdd ieuainc ein cyrddau llenyddol—cydnabyddiaeth eangach â llenyddiaeth fawr yr oesau, a chariad at bethau goreu Cymru—"yr un pryd."

Ond gofod a balla i mi fanylu ar y caneuon gloewon hyn. Hawdd fuasai dyfynu llinellau rhagorol o "Adnodau'r Mor," "Olion Hanes," a'r gân nodedig hono—"Rhagor fraint y Gweithiwr." Dylai hon gael ei darllen neu ei hadrodd yn nghyrddau mawr Undeb y Gweithwyr. Byddai cystal a "Salm Bywyd" Longfellow ar ddechreu y gwasanaeth. Dylai pob gweithiwr Cymreig yfed beunydd o ysbrydoliaeth y gan hon. Y mae yn iachus, ac yn gogoneddu pob gwaith gonest, lle bynag y bo—yn y chwarel, yn y pwll glo, ar y meusydd wrth y ffwrn dân,—

"Rhoddwch i'r gweithiwr ei le,
Ni cheisia ond lle i weithio;
Mae hyny ar lyfrau y ne
Yn hawl ddigyfnewid iddo."

Ac y mae hyn yn wir am y meddyliwr, am draethawd y llenor ac am gân y bardd :—

"Cana dy gân, fy mrawd;
Cana—a doed a ddelo;
Bu Milton unwaith yn dlawd
A "Pharadwys" dan ei ddwylo!"



S. Maurice JonesYN NYFFRYN CONWY.

"MIS MAI."

I.

FWYNAF Fai! fel banon hawddgar
A arweinia Haf i'w sedd,
Ysgafn droedia dros y meusydd
Yn ei gwerddlas glôg ysblenydd,
Delw yw o swyn a hedd:
Ninau godwn i'w chroesawu,
Eiliwn gân i'r dduwies wen,
Casglwn dalaith frith o flodau,
Plethwn hon gylch ei harleisiau,
Dawnsiwn dan y deiliog bren!

II

.

Mis Dedwyddyd, mis y blodau,
Mis i felus ymfwynhau,
Mwyn gerddoriaeth, swn llawenydd
Glywir yn yr awel beunydd,—
Mis y misoedd ydyw Mai!
Bywyd geir yn prysur dreiddio
Drwy oblygion natur lawn;
Yn y llwyni, ar y bryniau,
Chwardda dail, a gwena blodau,
Bywyd yn teyrnasu gawn.

III.


Croesaw, croesaw, Fai ordawel!
Daw a bendith yn ei gol,
Llona'r henwr wrth ei weled,
Gyda'r ffon mae'n araf gerdded
Tua'r gamfa 'nghwr y ddol;
Saif i wrando ar y gwcw
Yn parablu'i deunod pruad,
Swn ei chanig yn ei ddwyfron,
Ddeffry dyrfa o adgofion;—
Treigla'r deigryn dros ei rudd.


IV.


'N ôl alltudio'r teyrn gauafol,
Ymsiriola Anian glaf;
Hen garchardy y gorthrymwr
Droir gan Fai yn burlan barlwr
I groesawu'r melyn Haf.
Gwisga'r ddol rosynaidd fantell,
Y feillionen gwyd ei phen,
Lleda'r coed eu gwyrddion gangau
'N addurnedig â breichledau,
Lifrai dlos gâ'r ddraenen wen.

V.


Pan fo'r haul yn hwylio'i godi,
Hithau'r wawr yn dweyd y ffaith,
Cyn i'w wresog aur belydrau
Sychu'r gwlith sy'n loewon ddagrau
Ar deg ruddiau'r blodau llaith;
Difyr ydyw crwydro orig
Ar hyd llethrau'r frithliw fron,
Heb un twrf i'n haflonyddu,
Dim ond bref yr wynos gwisgi.
A pher gân y llaethferch lon.

VI.


Dyner Fai! dy dywydd distaw,
A'th awelon meddfol sydd,
Yn dwyn pawb i'th gynes garu;
Gado ei ystafell wely,
Wna'r cystuddiol, llwyd ei rudd:
Estyn iddo gwpan iechyd,
Dan dy wenau ymgryfhâ,—
Ei holl lesgedd yrri ymaith;
Gwasgar hadau meddyginiaeth
Yw dy orchwyl—blentyn Ha!


VII.


Llithra'r afon yn hamddenol
Heibio godreu'r bryniau cun,
Ymlonydda yn ei gwely,
Fel pe byddai bron a chysgu,—
Cysgu'n sŵn ei chân ei hun!
Dan belydrau'r tanbaid huan
Troir ei dŵr yn arian byw,
Uwch ei phen yr helyg blygant,
A'r lilïon tyner roddant
Gusan ar ei gwefus wiw.

VIII.


Llawn o fiwsig yw y goedwig
Pan ddel Mai a'i wenau mwyn; A
sgell gorau, hwyr a boreu,
A ddyhidlant nefol odlau,
Môr o gân yw'r deiliog lwyn.
Doriad gwawr, y llon uchedydd
Seinia fawl ar riniog Nef,
Hithau'r fronfraith ar y fedwen,
Eilw ar y bêr fwyalchen
I arwain yn yr anthem gref.

IX.


Mai a ddena'r chwim wenoliaid.
I ddychwelyd ar eu tro,
Gyda'u twi—twi, gwibiant beunydd
Yn ddiorphwys drwy eu gilydd,
I'w clyd nythod dan y tô.
Diog hedfan uwch y doldir
Wna y glöyn mewn gemwisg dlos,
Y wenynen, euraidd aden,
Grwydra'r meusydd yn ei helfen,
Sugna fêl o'r mill a'r rhos.

X


Mai ddynesa fel arlunydd
Uwch adfeilion Gauaf du,
Gyda'i bwyntel tyna ddarlun
Haf, ar fynwes dol a dyffryn,
Adnewyddir Anian gu;—

Dan ei law, y fron a'r faenol
Wisgir mewn mantelli cain;
Aml—liwiog yw y dolydd,—
Gwrida'r grug ar gopa'r mynydd;
Tardda blodeu ar y drain.

XI.


Gwên nefolaidd a ymdaena
Gylch gwefusau Anian dderch,
Syllu arni wna yr huan,
Erys yn y wybren lydan!
Fel cariad—fab claf o serch!
Drwy'r ffurfafen, cymyl gwlanog
Deithiant yn osgorddlu gref;
Pan â'r haul o dan ei gaerau,
Gwelir hwy fel myrdd o dònnau,—
Tonnau aur ar draeth y Nef!

XII.


Ysgafn rodio rhwng y blodau
Wna y chwâ ar flaen ei throed,
Yn yr hwyrddydd, balmaidd, tawel,
Bron na thybiem mai bys angel
Sydd yn ysgwyd dail y coed!
Croesaw, croesaw, Fai siriolwedd,
Eiliwn gerdd i'r dduwies wen!
Casglwn dalaith frith o flodau,
Plethwn hon gylch eu harleisiau,—
Dawnsiwn dan y deiliog bren!



BRASLUN O'R CYNWYSIAD.

Y GWAHODDIAD
Y HEN GYMDOGAETH
PONT CWMANOG
HAF-DAITH YN LLEYN
YN MRO GORONWY
HAF-DDYDD YN ERYRI
MELIN Y GLYN
LLYTHYR AT ARLUNYDD
TAIR GOLYGFA
GWLAD EBEN FARDD
Y RHODFA DRWY YR YD
RHWNG Y MYNYDD A'R MOR
BEDD Y BARDD
EGLWYS DWYNWEN
FFYNNON Y TYLWYTH TEG
GWELED ANIAN
YN MRIG YR HWYR
BARDD Y GWANWYN
"MIS MAI"


DARLUNIAU.


————:O:————


YN NYFFRYN GWYNANT (Y Wyneb-ddalen)
PONT CWMANNOG
BRO Y LLYNNAU.
YN MRO GORONWY
HAF-DDYDD YN ERYRI.
GWLAD EBEN FARDD
EGLWYS LLANRHYDDLAD
LLAN DWYNWEN
YN NYFFRYN CONWY.


————:O:————



[Dymunaf ddiolch yn gynhes i Mr. O. M. Edwards, M.A., golygydd
Cymru, &c., am ei fwynder yn caniatau i mi wneyd defnydd o'i oriel
darluniadol. "Rhyw un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo."
mae mwyafrif y darluniau yn waith fy nghyfaill profedig S. M. J.]




♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣

CAERNARFON:

ARGRAPHWYD GAN GWMNIR WASG GENEDLAETHOL GYMREIG, CYF.

♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣♣

Nodiadau[golygu]

  1. Gwel Drych yr Amseroedd, tud. 44.
  2. Erbyn hyn y mae Mrs. Jones wedi gorphwys oddiwrth ei llafur.
  3. Ymddanghosodd adolygiad pur lym ar "Y Flwyddyn Eglwysig " yn y Traethodydd am 1846. Dywed yr adolygydd:—"Tuagat yr awdwr ei hun nid oes genym ond teimladau o garedigrwydd ac ewyllys da, eto yn gymysgedig â thosturi wrth weled un o'i dalentau ef, oddiwrth yr hwn y disgwyliem bethau gwell, wedi ei lithio mor bell gan y surdoes Puseyaidd." Ac ymhellach,—"Yn mlith meib yr awen, ystyrir yr awdwr yn fardd o gryn enwogrwydd, ac yn deilwng o efelychiad." Ond y mae yn condemnio ei emynau'n ddiarbed, ac yn enwedig ei emyn dan y penawd," Boreu Sul."—

    "Rhedodd fy wythnos bron i gyd
    Yn ngwaith y byd a'i gynwr';
    Breuddwydiais, hefyd, drwy y nos,
    Am waith yr wythnos, neithiwr.

    "Ond heddyw torodd gwawr y Sul,
    Trwy ffenestr gul f'ystafell;
    O nef fy Nuw y daeth yn rhodd,
    A'm bwth a drodd yn gangell."

    Am y llinell sydd yn darlunio y "ffenestr gul," dywed yr adolygydd,—"Os yw tywyllwch sydd i'w ganfod yn amryw ranau o'r llyfr yn brawf digonol, gellid meddwl fod ffenestr ystafell ein bardd yn gul iawn, rywbeth yn debyg i ffenestri hen dai gynt, pan oedd heidiau o williaid yn llenwi y wlad, neu rwyll yn ystlys cell meudwy, ac nad oes ond ychydig iawn o oleuni yn dyfod ato. Er hyny, mae yn canu yn dra darluniadol." Ond ni ddigiodd wrth ei feirniaid, nac wrth y Traethodydd ychwaith. Yn y cyhoeddiad clodfawr hwnw yr ymddangosodd ei gyfaddasiad barddonol penigamp o ddamhegion Esop.

  4. Mona Antiqua Restaurata ar Wiki Book Reader

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.