Prif Feirdd Eifionydd/Mi âf ymlaen o nerth i nerth

Oddi ar Wicidestun
Cysegrwn flaenffrwyth ddyddiau'n hoes Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Er nad wyf fi ond plentyn

"Yr Afael Sicraf."

Mi âf ymlaen o nerth i nerth
Er maint y rhwystrau sy;
Crist yw Preswylydd mawr y berth-
Mae'r afael sicraf fry!

Rhagluniaeth fawr y nef, o'm plaid.
Ei holl olwynion try;
Agorai'r môr pe byddai raid-
Mae'r afael sicraf fry!

Angylion i'm gwasanaethu caf,
I'm cymorth dônt yn llu;
Mewn cyfyngderau canu wnaf-
Mae'r afael sicraf fry!

Yr wy'n ffieiddio pechod cas,
Wrth garu 'Mhrynwr cu;
Ond ni hyderaf ar fy ngrâs-
Mae'r afael sicraf fry!

Fy Nhad a'm harwain, er pob drwg,
I mewn i'w nefol dŷ;
O law fy Mhriod pwy a'm dwg?
Mae'r afael sicraf fry!

—PEDR FARDD.


Nodiadau[golygu]