Rhagluniaeth fawr y nef

Oddi ar Wicidestun
Duw! er mor eang yw dy waith Rhagluniaeth fawr y nef

gan David Charles (1762-1834)

Pam 'r ofna f'enaid gwan
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

59[1] Ffyrdd Rhagluniaeth.
64. 64. 66. 64.

1.RHAGLUNIAETH fawr y nef,
Mor rhyfedd yw
Esboniad helaeth hon
O arfaeth Duw:

Mae'n gwylio llwch y llawr,
Mae'n trefnu lluoedd nef,
Cyflawna'r cwbwl oll
O'i gyngor Ef.

2.Llywodraeth faith y byd
Sydd yn ei llaw;
Mae'n tynnu yma i lawr,
Yn codi draw:
Trwy bob helyntoedd blin,
Terfysgoedd o bob rhyw,
Dyrchafu'n gyson mae
Deyrnas ein Duw.

3.Ei thwllwch dudew sydd
Yn olau gwir;
Ei dryswch mwyaf, mae
Yn drefen glir:
Hi ddaw â'i throeon maith
Yn fuan oll i ben,
Bydd synnu wrth gofio'r rhain
Tu draw i'r llen.


David Charles (1762-1834)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 59, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930