Neidio i'r cynnwys

Seren Tan Gwmwl/America a Ffrainc

Oddi ar Wicidestun
Esgobion ac Offeiriaid Seren Tan Gwmwl

gan John Jones (Jac Glan y Gors)

Trethi

America a Ffrainc

Ni ddarfu'r gynulleidfa a wnaeth reolau a chyfreithiau llywodraeth America, ddim gwneuthur cyfraith i godi degymau i gadw offeiriadau i ddarllen ac i bregethu crefydd wedi ei gwneud gan y Rhufeiniaid neu'r tyrciaid, neu ryw wag ladron eraill, a oedd ac y sydd yn ysbeilio y werin, a hynny yn enw rhyw ragrith o grefydd. Ond y mae'r America yn rhydd i bob dyn addoli fel ag y mynno, a thalu at y grefydd a fynno, neu beidio a thalu at grefydd yn y byd, os bydd ef yn gweled hynny'n orau. Mae porthladdoedd yr America mor agored, ac mor barod i dderbyn pobl a fo am fyw yn rhyddion, ac a fedro ddiengyd o ewinedd gorthrymwyr, ag ydyw pyrth y nef i dderbyn pechaduriaid o grafangau satan. A oes ryfedd gan hynny fod pobl onest, sydd yn chwennych cael llonyddwch a chyfiawnder, yn myned yno; ac er iddynt ddioddef caledfyd ar y cychwyn, mi fydd eu plant hwy yn cael eu dwyn i fyny mewn gwlad rydd! Mae pob dyn yno yn byw wrth ei feddwl ei hun; ac ni raid iddo ymostwng i neb ond i gyfraith y tir, ac nid oes yno yr un dyn mor rhyfygus â galw pobl America-fy mhobl i.

Pan gyhoeddodd pobl America eu hunain yn rhyddion oddi wrth bob llywodraeth arall, yr oedd hynny megis seren fore rhyddid; ac er i frenin Lloegr ddanfon milwyr megis yn gwmwl i orchuddio'r seren, ymddangos a wnaeth hi; a phan ddaeth gwynt cyfiawnder i chwythu yn dymhestlyd o'r gorllewin, mi chwalodd y cymylau tua'r dwyrain; felly ar doriad y dydd ymddangosodd y seren yn ei phelydr ger bron y byd. Y bobl a gymrodd fwyaf o sylw o'r seren uchod oedd pobl Ffrainc. Yr un fath â dyn wedi bod yn y tywyllwch yn rhyfeddu, ac yn llawenu weled llewyrch oleuni; felly yr oedd pobl Ffrainc wedi cael eu cadw dros lawer o oesoedd mewn tywyllni tan orthrymder anoddefadwy, ond pan gawsant unwaith olwg ar seren rhyddid, ni ddarfuant byth orffwyso'n esmwyth nes y cawsant chwalu'r cymylau a'r caddug a oedd yn ceisio gorchuddio golau rhyddid. Er i haid waedlyd o frenhinoedd a thywysogion, a'r pab yn ben arnynt, godi byddinoedd ac arfau i geisio cadw pobl Ffrainc mewn tywyllwch a gorthrymder, eto mae'r Ffrancod, ar ôl ymladd llawer brwydr galed yn erbyn pennau coronog Ewrop wedi ennill y maes ymhob talaith, ac yn debyg o fynnu byw tan lywodraeth wledig yn bobl ryddion, heb waethaf holl frenhinoedd y byd.

Nid o ran cadw pobl Ffrainc tan orthrymder brenin, oedd yr unig achos i'r brenhinoedd godi yn eu herbyn, ond rhag ofn i'w deiliaid eu hunain gael golwg ar seren rhyddid oedd yr achos iddynt fod mor filain yn erbyn y Ffrancod; canys pan oedd brenin yn Ffrainc, mi fyddai brenin Lloegr ac yntau yn methu cytuno, ac oherwydd hynny yn rhyfela a'i gilydd, ac yn gyrru'r Saeson a'r Ffrancod yn benben i ladd ac i ysbeilio ei gilydd, a hwythau gartref ar glysdogau, un yn Paris a'r llall yn Llundain, yn darllen y newyddion, heb na pherygl na chynnwrf yn agos atynt. Os clywai brenin un deyrnas fod naw mil o'i wŷr ef wedi eu lladd wrth ladd deng mil o'r lleill, dyna fuddugoliaeth hynod, a newydd da iawn, ac achos goleuo ffenestri, a bloeddio a chanu clychau, a saethu am dridiau, a'r holl orfoledd yma oherwydd bod pedair mil ar bymtheg o'n cyd-greaduriaid gwedi lladd a darnio ei gilydd mewn gwaed oer; a hynny i foddio rhyw ychydig nifer o bobl ffroenuchel, feilchion, er mwyn iddynt hwy gael cadw mewn llefydd ac awdurdod; a'r esgobion a'r offeiriaid yn cymryd arnynt weddio am lwyddiant a rhwydeb i'r naill deyrnas dorri cyrn gyddfau, a lladd, a llosgi pobl y deyrnas arall. Dyna asgell o rith crefydd, yn ddigon di-reswm, i wneud i waed dyn a rhyw ychydig o deimlad ynddo, redeg yn oer yn ei wythiennau.