Sgwrs:Y Rhugl Groen

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicidestun

Fal yr oeddwn, fawl rwyddaf, y rhyw ddiwrnod o’r haf dan wŷdd rhwng mynydd a maes yn gorllwyn fy nyn geirllaes, dyfod a wnaeth, nid gwaeth gwad, lle’r eddewis, lloer ddiwad. Cydeistedd, cywiw destun, amau o beth, mi a bun; cyd-draethu, cyn henu hawl, geiriau â bun ragorawl. A ni felly, anhy oedd, yn deall serch ein deuoedd, yn celu murn, yn cael medd, dyfod a wnaeth, noethfaeth nych, dan gri, rhyw feistri fystrych, salw ferw fach sain gwtsach sail o begor yn rhith bugail; a chanto’r oedd, cyhoedd cas, rugl groen flin gerngrin gorngras. Canodd, felengest westfach, Y rhugl; och I’r hegl grach! Ac yno cyn digoni gwiw fun a wylltiodd; gwae fi! Pan glybu hon, fron fraenglwy, Nithio’r main, ni thariai mwy. Dan Grist ni bu dôn o Gred can oer ben ffon yn sonio, cloch sain o grynfain a gro. Crwth cerrig Seisnig yn sôn crynedig mewn croen eidion. Cawell teirmil o chwilod, callor dygfor, du god. Ceidwades gwam, cydoes gwellt, Groenddu, feichiog o grynddellt. Cas ei hacen gan heniwrch, cloch ddiawl, a phawl yn ei ffwrch; greithgrest garegddwyn grothgro, yn gareiau byclau y bo. Oerfel I’r carl gwasgarlun, Amen, a wylltiodd fy mun.