Telyn Dyfi/Cwymp y Dail

Oddi ar Wicidestun
Gwaith y Cread Telyn Dyfi

gan Daniel Silvan Evans

Y Ceisiedydd Trysor


XXXI.
CWYMP Y DAIL.

'Un naws â dail einioes dyn.'—Gronwy Owain.

O FARWOL ddyn! y ddeilen wyw
Lefara'n brysur wrthyt ti,
'Ber yw dy oes, a'th ddyddiau i fyw
Sy ddiddym fel yr eiddom ni.

'Pan elo gwanwyn einioes ffwrdd,
Per haf dy fywyd lona'th wedd,
Y deifiol hydref ddaw i'th gwrdd,
A gauaf henaint dyr it' fedd.'

Pan ddychwel gwanwyn, blodau lu
A wisgant y werdd goedwig lwys;
Ond am y dyn, y fan y bu
Yn unig saif yn arwydd dwys.

Ond mewn rhagorach gyflwr, dir
Mae'r rhai a hunant ynddo Ef;
A chodant mewn dedwyddwch gwir,
A'u haf a bery tra bo nef.


Nodiadau[golygu]