Ti, Iesu, ydwyt, oll dy Hun

Oddi ar Wicidestun
Wel dyma'r Ceidwad mawr Ti, Iesu, ydwyt, oll dy Hun

gan John Thomas (1730-1803)

Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
Pantycelyn

101[1] Pob peth yng Nghrist.
M. C.

1.TI, Iesu, ydwyt, oll dy Hun
Fy meddiant ar y llawr;
A Thi dy Hunan fydd fy oll
O fewn i'r nefoedd fawr.

2.Mae 'nymuniadau maith eu hyd
Yn pwyntio oll yn un,
Dros bob gwrthrychau is y sêr,
Ac atat Ti dy Hun.

3.O! ffynnon trugareddau maith,
Diderfyn yw dy ras,
I roi trysorau penna'r nef
I'r tlotaf un i maes.

4.Fy unig gysur dan bob gwae
Dy fod Di imi'n Dduw;
Ac yn dy gysgod mi af trwy
Gystuddiau o bob rhyw.

5.Anghyfnewidiol gair y nef,
Ond cyfnewidiol fi;
Am hyn mi safaf, doed a ddêl,
Mae'r afael sicraf fry.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 101, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930