Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris

Oddi ar Wicidestun
Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris

gan Griffith Jones (Glan Menai)

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Griffith Jones (Glan Menai)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Lewis Morris
ar Wicipedia






TRAETHAWD

BYWGRAFFYDDOL A BEIRNIADOL

Ar Fywyd ac Athrylith

LEWIS MORRIS

(LLYWELYN DDU O FON).

Yn fuddugol yn Eisteddfod Pont Menai, Awst, 1873.

GAN "COFNODYDD."

sef Glan Menai




PRIS CHWECHEINIOG.


TRAETHAWD

BYWGRAFFYDDOL A BEIRNIADOL

Ar Fywyd ac Athrylith

LEWIS MORRIS

(LLYWELYN DDU O FON).

Yn fuddugol yn Eisteddfod Pont Menai, Awst, 1873.

GAN "COFNODYDD."

CYDNABYDDIR yn gyffredinol gan bawb sydd yn hyddysg yn hanes lenyddol ein gwlad fod gwrthddrych ein cofiant, sef Lewis Morris, neu fel yr adnabyddid ef ym mysg y beirdd, "Llywelyn Ddu o Fon," yn un o gymmwynaswyr penaf ei genedl, ac yn un o garwyr mwyaf gwresog ei wlad, a'r oll a berthynai iddi. Er na chyfoethogodd efe nemawr ar ei llenyddiaeth yn uniongyrchol ei hunan, eto gwnaeth wasanaeth pwysig i'w wlad yn ei waith yn noddi a chefnogi llenorion tlawd ac angenus yr oes hòno, ac yn enwedig trwy ei weithred haelfrydig a gwladgarol yn gosod i fyny yr argraffwasg, sef y gyntaf yng Ngwynedd, fel y cawn achos i sylwi eto ym mhellach ym mlaen. Yr oedd ei wladgarwch yn un o'r nodweddion mwyaf dysglaer yn ei gymmeriad, ac megys ffynnonell ddofn, ddyhyspydd, yn ymlenwi ac yn ymdori allan yn barhäus mewn ffrydiau dirif o haelfrydedd a chymmwynasau i achos llenyddiaeth a dyrchafiad ei wlad enedigol. Fel mae yn hysbys, efe fu yn foddion i ddwyn allan i'r amlwg dalent ac athrylith yr anfarwol Goronwy Owen, yng nghyd ag eiddo Ieuan Brydydd Hir, ac ereill; a'i law haelionus ef a estynodd iddynt lawer cynnorthwy amserol yn ystod eu hymdaith flinderus trwy fyd llawn o siomedigaethau a phrofedigaethau chwerwon. Ond ar yr un pryd, er cymmaint teyrnged o ddiolchgarwch sydd haeddiannol i'w goffadwriaeth oddi ar law ei gydwladwyr, mae yn rhaid addef mai prin iawn y gwnaeth hanesyddiaeth ein gwlad hyd yn hyn gyfiawnder ag ef; ac i gorff mawr y genedl, mae lle i ofni fod hyd yn oed ei enw yn anadnabyddus. Ond o ran hyny ymddengys fod esgeulusdra o'i henwogion a'i chymmwynaswyr penaf yn un o neillduolion mwyaf amlwg y genedl Gymreig, a'u bod yn penderfynu ymlynu yn gyndyn i weithredu yn unol ag ysbryd yr hen wireb, "O myni glod, bydd farw." Yr ydym, modd bynag, yn ymddwyn at goffadwriaeth Lewis Morris, yn fwy anniolchgar byth, o blegid er ei farw a'i gladdu er ys dros gan mlynedd bellach nid ydym eto wedi gwneyd dim er dangos ein hedmygedd o hono a'n rhwymedigaeth iddo fel cenedl, nac hyd yn oed prin yn gwybod am "fan fechan ei fedd" yn Eglwys Llanbadarn Fawr, gan nad oes gymmaint a chareg wedi ei chodi i nodi allan y llecyn y gorwedda. Diffyg cofnodion credadwy yn ddiammheu ydyw un o'r rhesymau dros fod enwau a gweithredoedd cynnifer o'n gwŷr enwog mor anadnabyddus i'w holafiaid.

Ysgrifenwyd dau fyr gofiant o Lewis Morris y naill yn y Cambrian Register am 1796, a'r llall gan Dafydd Ddu o Eryri, yn y Dyddanwch Teuluaidd, a gyhoeddwyd yn 1817. Mae y cofiantau diweddarach o angenrheidrwydd yn sylfaenedig ar y rhai hyn, ond yn gymmaint a bod y naill yn gwahaniaethu cryn lawer oddi wrth y llall gyda golwg ar amryw ffeithiau pwysig yng nglŷn â'i hanes, nid gorchwyl hawdd iawn ydyw penderfynu pa un o'r ddau sydd gywiraf. Cytunant, fodd bynag, mai mab ydoedd i Morys ab Risiart Morys, o Fargaret, ei wraig, yr hon oedd ferch Morys Owen, o Fodafen y Glyn, ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r Beirdd. Bu iddynt dri o feibion, sef Lewis, Risiart, a William Morris, a dwy ferch. Ymddengys mai gwneuthurwr llestri coed (cooper) ydoedd Morys Prisiart ar y cyntaf, ond iddo wedi hyny droi yn yd fasnachwr. Yn ol y Cambrian Register, Lewis oedd yr ieuengaf o'r plant, a dywed iddo gael ei eni ar y dydd cyntaf o Fawrth, 1702; ond D. Ddu a ddywed mai efe oedd yr henaf, a'i eni ar y 12fed o Fawrth, 1700, a hyny fel yr ymddengys ar awdurdod coflyfr Eglwys Llanfihangel Tre'r Beirdd. Haws genym gymmeryd ein harwain gan D. Ddu yn y mater hwn, yn gymmaint ag iddo ymgymmeryd ag edrych llyfrau yr Eglwys y bedyddiwyd ef, ac felly fyned i'r unig ffynnonell gyrhaeddadwy am y cyfryw wybodaeth. Gwyddys hefyd ddarfod iddo dreulio rhyw ysbaid o'i amser yn Amlwch, heb fod yn neppell o'r gymmydogaeth hono, ac felly iddo fwynhau amryw gyfleusderau i ddyfod o hyd i'r gwir; ac mae yn hysbys iddo gymmeryd llawer iawn o drafferth i chwilio i mewn i hanes lleoedd a phersonau yn Ynys Mon. Ond mae genym awdurdod L. Morris ei hunan gyda golwg ar ddyddiad ei enedigaeth, yr hyn a gytuna ag eiddo D. Ddu; ac mae yn debyg y dylem gymmeryd y cyfryw fel yn derfynol ar y pwnc. Yr awdurdod y cyfeiriwn ati ydyw ysgrif o'i eiddo yn cynnwys ei achyddiaeth, yr hon a geir yn y British Museum, o'r hwn y ceir cyfysgrif yn niwedd y traethawd hwn.

Lle ei enedigaeth sydd bwnc arall o ddadl rhwng ysgrifenwyr; y Cambrian Register a ddywed ei eni ym mhentref Eirianell, plwyf Penrhos Llugwy; ond ni chyfeiria D. Ddu at y lle hwnw o gwbl, a dywed mai yn y Tyddyn Melus, plwyf Llanfihangel Tre'r Beirdd, y cymmerodd hyny le. Nid yw Goronwy Owen, o'r tu arall, yn gwneyd un crybwylliad am y lle hwnw, tra y mynych gyfeiria at bentref Eirianell. Yn ei lythyr o Dorrington, at Mr. W. Morris, dyddiedig Mai 30, 1752, dywed, "Rhoddwch fy ngharedig anerch at eich tad a'ch mam, a dywedwch wrth eich mam fy mod hyd y dydd heddyw yn cofio ac yn diolch iddi am y frechdan fêl a gefais ganddi; ac odid na chofia hithau ddywedyd o honof y pryd hyny, Pe bai genyf gynffon mi a'i hysgydwn.'" Dylid sylwi yma mai nid pentref ond tyddyn yw Pentref Eirianell, yn y plwyf rhag grybwylledig. Y cwestiwn gan hyny ydyw, ym mha un o'r ddau le uchod y ganwyd gwrthddrych y cofiant. Yn anffodus nid yw L. Morris ei hun yn estyn i ni yr un cynnorthwy i'w ateb. Ar ol pwyso y rhesymau o blaid y naill olygiad a'r llall tueddir ni i roddi y flaenoriaeth i Tyddyn Melus fel lle ei enedigaeth; a rhoddir cyfrif am y ffaith nad yw Goronwy yn gwneyd un cyfeiriad at y lle hwnw o gwbl trwy ddweyd ddarfod i'r teulu ymadael oddi yno i Bentref Eirianell cyn ei eni ef, neu o'r hyn lleiaf cyn iddo ffurfio cydnabyddiaeth â hwy, o blegid yr oedd L. Morris, fel y sylwir, yn henach o 22 mlynedd nag ef. Y mae L. Morris, modd bynag, yn cyfeirio at ei dad ar adeg ei briodas fel " Morris Pritchard o Bentref Eirianell," yr hyn a awgryma ei fod yn byw yno ar yr adeg hon, ac mae hyn drachefn yn taflu ammheuaeth ar y golygiad a gymmerwn. Yr unig ffordd, gan hyny, i gyssoni y gwahanol olygiadau ydyw, mai Pentref Eirianell ydoedd cartref dechreuol Mr. Pritchard, iddo ymadael am dymmor i Tyddyn Melus, a dychwelyd drachefn i'w hen gartref.

Yn y lle olaf hwn troes y tad yn yd fasnachydd, a rhoddes Lewis yntau i fyny y gelfyddyd o gylchwr, yn yr hon y dygesid ef i fyny, o blegid, fel y sylwa yn un o'i lythyrau, mai " coed masarn ac onen oedd fy athrawon gan mwyaf, neu fath o feistri pren ar y goreu." Nid ymddengys fod amgylchiadau y tad yn gyfryw ag a'i galluogai i roddi nemawr trech manteision addysg i'w feibion na'r cyffredin o'i gymmydogion; er hyny daethant oll yn enwog mewn dysgeidiaeth, gwybodaeth, defnyddioldeb, a chymmeradwyaeth—y "tri mab o ddoniau tra-mawr," fel y geilw Goronwy hwy. Risiart Morris a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes megys pen-ysgrifenydd cyfrifol yn y Swyddfa Forawl (Navy Office). Gwnaeth yntau, fel ei frawd, lawer o wasanaeth i achos llenyddiaeth; a bu yn llywydd Cymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain; golygodd ddau argraffiad o'r Beibl Cymreig, os nad ychwaneg; a bu yn gymmwynaswr haelionus i Ieuan Brydydd Hir a Goronwy Owen, fel y prawf ei lythyrau. Bu yn dra ewyllysgar hefyd i estyn cymhorth i'r Parchedig Peter Williams yn y gorchwyl llafurus a bendithiol o ddwyn allan ei Feibl Cymreig, gyda nodiadau a sylwadau ar bob pennod. Bu farw yn Llundain yn 1779, a chladdwyd ef ym mynwent St. George in the East. William Morris a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes fel cynnullwr y doll ar yr halen ym mhorthladd Caergybi. Casglodd yng nghyd ac adysgrifodd trwy ddirfawr lafur lawer iawn o waith yr hen feirdd, a meddai wybodaeth helaeth iawn mewn llysieuaeth ac anianyddiaeth yn gyffredinol. Ysgrifenai y Parch. Evan Evans o flaen marwnad iddo fel y canlyn:—"Llysieuydd godidog, a rhagoraf ei wybodaeth yn amryw geinciau philosophyddiaeth anianol, celfydd yn iaith yr hen Frytaniaid a'r Beirdd, hynod am amryw gampau gorchestol a rhinweddau da ereill nad ydynt yn aml yng Nghymry y to yma." Bu farw yn 1766, a chladdwyd ef, fel y tybir, ym mynwent Cybi.

Yr oedd y brodyr hyn, fel y gwelir, yn meddu ar dalentau mawrion, ac yn tra rhagori ar y cyffredin o'u, cydoeswyr. Dywedir y medrai Lewis wneyd telyn a'i chwareu, gwneyd llong a'i hwylio, gwneyd cywydd a'i ddadgan gan dant. Ar ol bod yn dilyn galwedigaeth ei dad, fel y crybwyllwyd am ryw gymmaint o amser, rhoddes hi i fyny a throes yn dirfesurydd. Mae yn debyg mae ei fedrusrwydd arferol, a chyflymder naturiol ei gynneddfau, yn hytrach nag unrhyw fanteision dysgeidiaeth a fwynhaodd, a barodd dysgu o hono y cyfryw alwedigaeth. Bu ei fedr gyda'r gwaith yma, yn gystal a'i wybodaeth gyffredinol o wahanol gangenau dysgeidiaeth, yn foddion cyn hir i'w ddwyn i sylw a ffafr boneddigion ei wlad enedigol, yr hyn a arweiniodd o'r diwedd i'w ddyrchafiad i swyddogaeth berthynol i'r Dollfa yng Nghaergybi—i gasglu cyllid a threth yr halen. Nid oes sicrwydd pa bryd y cymmerodd y cyfryw benodiad le; ond mae yn debyg mai rhyw bryd cyn ei briodas, yr hon a gymmerodd le Mawrth 29, 1729. Ei wraig ydoedd Elizabeth Griffith, merch ac etifeddes Ty Fridyn, neu Ty Wrdyn, ger llaw Caergybi. Yr oedd ef y pryd hyny yn 29 oed, a hithau tua 15 oed, a bu iddynt un mab, yr hwn a fu farw yn ieuanc, a dwy ferch o'r briodas hon. Ym mhen rhyw ysbaid o amser symmudwyd ef oddi yno i ddilyn cyffelyb alwedigaeth ym mhorthladd Aberdyfi, ger Machynlleth. Cyn ei symmudiad o Gaergybi, modd bynag, cyflawnasai un weithred o gymmwynasgarwch a haelioni tuag at ei gydwladwyr ag sydd yn adlewyrchu arno y clod mwyaf, ac yn hawlio iddo le anrhydeddus ym mysg enwogion a gwladgarwyr y Dywysogaeth. Yn cael ei gynhyrfu, gan awydd angerddol i ychwanegu at fanteision gwybodaeth ei gydoeswyr, y rhai oeddynt yn hynod brinion, ymgymmerodd yn y flwyddyn 1735 â gorchwyl ag nas gall lai na pheri i'w goffadwriaeth fod yn anwyl gan garwyr Cymru, Cymro, a Chymreig, hyd ddiwedd amser, sef prynu a gosod i fyny argraffwasg ar ei draul ei hun gyda'r amcan clodwiw o gyhoeddi llyfrau buddiol yn iaith ei gydwladwyr. Y mae y cyfryw weithred, a hon yn werth ei chofnodi mewn llythyrenau o aur, modd y gwypo oesau a ddêl pwy fu gwir gymmwynaswr ei wlad, yn enwedig pan yr ystyriom ei fod weithian yn wr priod er ys chwe mlynedd, a chanddo amryw blant ieuainc i ofalu am danynt a darparu ar eu cyfer, yng nghyd â lluaws o orchwylion pwysig ereill a gymmerai i fyny ei amser. Hon, mae yn debyg, oedd y wasg gyntaf a osodwyd i fyny yng Ngwynedd.[1] Yr oedd un eisoes yn y Deheudir, ac yno yng nghyd ag yn Llundain, yr Amwythig, a Bryste yr argreffid yr ychydig lyfrau Cymreig a gyhoeddid o bryd i bryd. Mae peth ansicrwydd gyda golwg ar y lle y gosodwyd y wasg hon i fyny.

Dywed D. Ddu, ac ereill ar ei ol, mai Bodedeyrn oedd y fan a anrhydeddwyd felly, tra dadleua y Greal o blaid Caergybi; a haws genym yn y mater hwn gymmeryd ein harwain gan yr olaf, a hyny am y rhesymau canlynol:— Yn y lle cyntaf, nid ymddengys yn debygol y dewisasai L. M. bentref fel Bodedeyrn, ryw chwech neu saith milltir oddi wrth ei gartref, at y gorchwyl o argraffu yr hyn o angenrheidrwydd a gymmerai i fyny lawer iawn o'i amser gydag arolygu ei cynnyrchion, &c. Cadarnheir y dybiaeth mai yng Nghaergybi yr oedd y wasg, yn yr ail le, gan amgylchiad a grybwyllir yn Nheithlyfrau y Parchedig John Wesley. Dywedir fod Mr. Wesley yno yn y flwyddyn 1748, ar ei daith i'r Iwerddon, ac iddo gael ei gadw yno am ryw gymmaint gan wynt croes rhag myned drosodd. Yn y cyfamser pregethai yn y dref a lleoedd amgylchynol, ac ar gais Mr. E., gweinidog Caergybi, efe a ysgrifenodd lyfryn bychan o dan y teitl, A Word to a Methodist, yr hwn a gyfieithwyd gan y gwr hwnw ac a argraffwyd yn ebrwydd. Gan hyny, y tebygolrwydd ydyw fod gwasg yng Nghaergybi ar yr adeg hono. Ymddengys mai gwasg wahanol ydoedd yr un a osodwyd i fyny ym Modedeyrn, sef eiddo un o'r enw John Rowland. Dywedir mai dau lyfryn yn unig a argraffwyd yn ystod yr amser y bu'r wasg hon yng Nghaergybi, sef yr Ymarfer o Lonyddwch, a llyfr arall o'r enw Tlysau yr Hen Oesoedd, yr hwn y bwriedid ei ddwyn allan yn rhanau, ond a roddwyd i fyny ar gyhoeddiad y rhan gyntaf. Argreffid yno hefyd fath o Almanac am rai blynyddau, yr hwn a gynnwysai gerddi a chaneuon byrion ereill. Gwerthwyd yr argraffwasg hon i Dafydd Jones o Drefriw, casglwr a chyhoeddwr cyntefig Blodeugerdd Cymru, a thaid yr argraffydd tra adnabyddus a'r bardd, y diweddar John Jones (Pyll); Llanrwst.

Gan fod anerch Lewis Morris i drigolion Gwynedd, yr hwn a welir yng Ngreal Llundain am 1805, yn egluro yr achosion a'i cynhyrfodd i ymgymmeryd â'r gorchwyl clodfawr hwn, a chan fod y cyfryw gyhoeddiad erbyn hyn mor brin, esgusodir ni am ei ddifynu. Dymunem hefyd ar yr un pryd alw sylw ein hysgrifenwyr ieuainc at arddull yr awdwr yn ysgrifenu y Gymraeg. Dealler mai gwaith golygwyr y Greal ydyw yr arweiniad. "Annogaeth i argraffu llyfrau Cymreig. Rhodded yr argraffwasg ar waith yng Nghaer Gybi, B.A. 1735, gan Llewelyn Ddu o Fon, er amcanu gosod Tlysau yr Hen Oesoedd ger bron ei gyfoedion; eithr, o wall ymgeledd, gorchwyl fethiannus fu hòno, fel llawer un arall o'r fath yng Nghymru, a gwael y dynged na buasai amgen, meddwn ni; ond barned y darllenydd ai nad oedd pwys yn chwedl y gwr a roddes ei law yn y gwaith, yr hwn sydd yn rhagymadrodd fel hyn:—

"At Drigolion Gwynedd,—Pwy bynag na fedro roddi gair da i hyn o orchwyl, harddach iddo na ddywedo ddim, canys pwy yn ei gof darawsai'r llaw a fai yn cynnyg cymhorth, er gwaeled fyddai? ac nid ydyw yn chwareu teg enllibo gwr dyeithr yn ei gefn. Beth a wyddech chwi na fedr ateb drosto ei hun pe bai yn y fan? Os ffol a fûm am fyned i gost fawr er mwyn lles i'm gwlad (tygaswn i), y peth lleiaf a allech yw esgusodi gwr gwirion. Pwy ŵyr flas peth nes ei brofi? Wele, gan hyny, yn dyfod atoch i ofyn eich nodded, forwyndod yr argraffwasg cyntaf erioed yng Ngwynedd. Os da fydd y peth yn eich golwg, chwi a rowch fywyd iddo, os amgen, dychweled i'r llwch o'r lle y daeth. Llawenychasai'ch hen deidiau pe gwelsent y cyfryw beth; nid oes ammheu nad digio a wna rhai o honoch chwi; dylaswn fyned i wlad arall i ddechreu prophwydo."

Er mwyn denu y Cymry Seisnigaidd i ddarllen Cymraeg, ac i graffu ar beth na chlywsant erioed braidd son am dano (sef bod dysg a gwybodaeth yng Nghymru ), rhoddais y cynnwysiadau yn Seisoneg. Na ddigiwch gan hyny wrth y cymmysg; bernwch pan wypoch y cwbl. Da iawn y gwn i mai gwir a ddywed yr Hen Wŷr, "A fo gwas cyffredin byd, hwyr y caiff ei dâl;" canys dyled ar bawb nid yw ddyled ar neb. Eto chwi welwch, er gwybod hyn, i mi dori trwy reol callineb i'ch gweini chwi.

"Pe'r edrychem ar fyrdra oes dyn, ac ar ei gwagedd, nid oes neb mor gibddall na welai mai ffolineb yw bydol ddoethineb; a byddem fwy caredig i'r genedl sy'n dyfod ar ein hol. Anifeilaidd yw'r dyn a adawai blant y byd mewn tywyllwch, lle y gallai â chanwyll ffyrling eu goleuo " Gwell gwae fi na gwae ni.” Yr argraffwasg, medd y doethion, yw canwyll y byd a rhyddid plant Prydain. Pam i ninnau ( a fuom wŷr glewion gynt, os oes coel arnom) na cheisiwn beth o'r goleuni? Swllt o bwrs pob un o honoch, tuag at y papyr a'r gwaith, a lanwai'r wlad o lyfrau da, ac a llawer o fwynder a dyddanwch, ac a gadwai eich enwau i dragwyddoldeb, fel cenedloedd ereill. Oni wnewch hyn, gwnewch a fynoch; Duw gyda chwi, yw dymuniad eich ufudd wasanaethwr,

"L. Morris."

Gweler oddi wrth y dyfyniad uchod fel y medrai Llywelyn Ddu gordeddu brawddegau Cymreig. Mor drwyadl Gymreig, ac mor bur ei ieithwedd. Ni pherthyna iddi ddim llygriad estronol, na dim o'r chwyddiaith bombastaidd ag sydd, ysywaeth, yn nodweddu rhai o ysgrifenwyr yr oes gonsetlyd hon. Mae y Gymraeg i'w gweled yma yn ei gwisg gynhenid ei hun, heb ddim ffug addurnwaith estronol; ac fel awyr iach mynydd-dir Cymru ei hun mae yn iechyd ac adfywiad cael anadlu ennyd o honi. Beth all fod yn fyrach, yn fwy syml, pwrpasol, a dirodres na'r brawddegau uchod? A lle y ceir y fath gywreinrwydd ymadrodd yn gymhlethedig ag eglurdeb a byrdra ar yr un pryd? Yn wir, wrth ddarllen yr anerchiad uchod, mae yn anhawdd gwybod pa un sydd i'w edmygu fwyaf gwladgarwch a haelioni y dyn, ai ynte tlysni a phurdeb arddull yr ysgrifenydd; a gwyn ei fyd nad ellid darbwyllo llenorion yr oes bresennol i efelychu nid yn unig ei wladgarwch ond hefyd ei arddull Gymroaidd Dywedai un awdwr, os dymunai dyn' gyrhaedd adnabyddiaeth drylwyr o'r iaith Seisonig ei bod yn angenrheidiol iddo roddi ei ddyddiau a'i nosweithiau i ddarllen y Spectator. Gallwn ninnau ddywedyd yr un peth wrth ysgrifenwyr Cymreig o barth gwaith Lewis Morris, hyny ydyw, can belled ag y cyrhaedda y cyfryw. Ond yr anffawd fawr ydyw mai ychydig a phrinion iawn ydyw yr ysgrifau a adawodd efe ar ei ol; ond mae yr hyn a ddiogelwyd yn werth eu meddu, ac yn gyfryw nas gallant lai na pheri i ni fawr awyddu na buasent yn ychwaneg.

Nid ymddengys iddo yn ystod ei arosiad yng Nghaergybi ymwneyd nemawr a llenyddiaeth a barddoniaeth, o'r hyn lleiaf ni ddiogelwyd braidd ddim o ffrwyth ei lafur am yr ysbaid hwnw. Yr ydoedd wedi cyfansoddi amryw ddarnau barddonol yn ei ieuenctyd ar destynau hynod ddichwaeth a llygredig, am y rhai ni raid i ni ofidio fyned o honynt i ebargofiant; ac yn wir gellid gyda mantais i foesoldeb hebgor amryw o'r cyfansoddiadau hyny o'i eiddo a gyhoeddwyd yn y Dyddanwch Teuluaidd. Dichon fod gofalon teuluol a Iluosogrwydd ei orchwylion ereill yn cymmeryd i fyny bron y cyfan o'i amser, fel nad oedd ganddo nemawr yn weddill at lenyddu a barddoni. Ond o dan y cyfryw amgylchiadau mae yn syndod iddo wneuthur cymmaint pan yr ystyriom amrywiaeth mawr ei efrydiau; o blegid yn ychwanegol at ei waith yn casglu ac adysgrifio hen ysgriflyfrau, yr hyn a gymmerai i fyny gymmaint o'i amser, yr ydoedd hefyd yn meddu gwybodaeth helaeth o lysieuaeth a physigwriaeth, a mynych y profodd ei hun yn feddyg rhagorol i'r tlodion clwyfus a gyrchent ato am gynghor neu feddyginiaeth. Ond dichon nas gallwn roddi gwell crynodeb o natur ac amrywiaeth ei orchwylion na'r hyn a rydd efe ei hun yn y llythyr canlynol a ddanfonodd at Mr. Pegge, i'r Drewen, dyddiedig Chwefror 11, 1761:—

"Am yr ychydig wybodaeth a gyrhaeddais i, bu raid i mi ei hennill megys trwy awchnaturiaeth. Nid oedd fy addysg ieithyddol ond afreolaidd; a choed masarn ac onen, neu fath o feistri pren, ar y goreu, oedd fy athrawon gan mwyaf. Y mae'r cynnydd a wnaethym y ffordd hòno wedi adfeilio llawer o eisieu ymarferiad ac ymohebiaeth â gwŷr o ddysg. Cymmerodd helyntion gwladwriaethol, fel swyddog yn y gyllidaeth, y rhan werthfawrocaf o'm hamser, fel y mae yn rhyfedd genyf i mi allu cadw dim mewn cof. Dodwyd fi ar y cyntaf i gasglu cyllid a threth yr halen; yna gosododd y Morlys fi i wneyd mesuriad arolygol o arfordiroedd Cymru, a chyhoeddwyd rhan fechan o'm llafur ar hyny yn 1748. Dodwyd fi wedi hyny at wahanol orchwylion perthynol i'r Trysorlys, yr hyn a gymmerodd fy amser am rai blynyddoedd, fel arolygydd tir-gyllid y brenin, casglydd porth-dollau yn Aberteifi, ac arolygydd mwn-weithiau y brenin yng Nghymru. Y mae'r iaith Seisonig mor estronol i mi ag ydyw'r Ffrancaeg; y mae genym ni blwyfi cyfan ym mharthau mynyddig Cymru lle na siaradir gair o Seisoneg o gwbl. Y mae'r ychydig wybodaeth a fu genyf o ieithoedd ereill wedi myned yn rhydlyd, ac nis tybiaf fod yn wiw i mi bellach geisio eu hadferu, gan fod un troed i mi yn y bedd. Ysbeiliwyd llawer o'm hamser gynt gan gerddoriaeth a phrydyddiaeth, o'r hyn nid oes i mi elw yn y byd. Ond weithiau nid wyf mewn un swydd gyhoedd, oddigerth arolygu mwn-weithiau y brenin, a hyny heb ddim cyflog; ac wedi cweryla â rhai o'm blaenoriaid, mi a ymneillduais i dyddyn bychan o'm heiddo fy hun, ac yno y mae fy ngardd, fy mherllan, fy nhyddyn, ac ychydig o fwn-waith yn cymmeryd rhan fawr o'm hamser. Ond yr hyn sydd wedi cymmeryd mwyaf o'm bryd er ys cryn ysbaid bellach yw gwneyd ychwanegiadau at Eiriadur Cymreig a Lladin y Dr. Davies, a geiriadur arall hefyd o'm gwaith fy hun yn gwbl, ar ddull Mareni. Treuliodd yr amean yma fy oriau hamddenol er ys llawer blwyddyn faith. Yr enw a roddaf arno yw Celtic Remains, neu ddysgrifiad o'r hen ymherodraeth Geltaidd, yn yr iaith Seisonig, yn cynnwys cynnulliad o ddefnyddiau bywgraffyddol, beirniadol, hanesyddol, geiryddol, amseryddol, a daiaryddol, o ddeilliad Celtaidd, er ffurfio hanes Frytanaidd o'r cynoesoedd; yn ddwy ran y cyntaf yn cynnwys hen enwau dynion, lleoedd, gweithredoedd, a'r cyffelyb, yn y Frytanaeg a'r Gaeleg, yn ol trefn yr egwyddor; lle y chwilir i mewn nid yn unig i wir enwau Celtaidd, yn ol yr orgraff hen a diweddar, gan eu profi o awduron Brytanaidd, yng nghyd ag enwau presennol lleoedd, a'r cyffelyb, ond hefyd i'r camgymmeriadau a'r gwallau, pa un bynag ai o ddymuniad ai o ddamwain, a wnaed gan ysgrifenwyr a draethasant ar hen helyntion Prydain mewn unrhyw iaith, gan eu diwygio a'u hegluro. Gorchwyl dirfawr a llafurus yw hwn. Yr ail ran a gynnwys enwau dynion a lleoedd o darddiad Celtaidd, wedi eu Lladineiddio gan ysgrifenwyr Lladinaidd, y rhai a ystumiwyd ac a nyddwyd yn ol eu hiaith hwy; lle yr ymdrechir dangos yr hyn oeddynt yn y dechreuad Celtaidd, gan eu cymharu â hen hanes ac iaith prif gangenau'y bobl hyny y Frytanaeg, y Wyddelaeg, yr Armoraeg,[2] a'r Gernywaeg. Geiryddol ydyw y rhan hon gan mwyaf, lle y caiff mympwy ei rhaff, ond nid heb ei chadw oreu y gellir o fewn terfynau.

"Yng nghylch ugain mlynedd yn ol prydyddiaeth Gymreig oedd yn nofio uwch law fy holl drysorau, er ei bod weithiau yn mawr iselu; a byth er pan wnaethym ryw gampwri yn y ffordd hono, nid oes dim a wna'r tro gan fy nghydwladwyr os na roddaf gymmeradwyaeth i'w cyfansoddiadau cyn eu gyru i'r byd. Ond, och finnau, mor isel yr ydym wedi cwympo oddi wrth enwogrwydd yr hynafiaid. Mi hoffwn o'm calon i ryw un galluog gymmeryd arno'r gorchwyl o wneyd cyfieithad Lladin o rai o'n hen brydyddion Brytanaidd. Yr wyf yn addef i chwi, er mai Cymraeg yw fy mam-iaith, ac er cael o honof fy magu ym Mon, lle y şiaradir hi mewn mawr burdeb, ac yr hoffir hi gan y trigolion, lle hefyd y mae prydyddiaeth a hynafiaethau mewn mawr gymmeradwyaeth; eto, yr wyf yn dysgu rhyw beth yn feunyddiol wrth ddarllen yr hen feirdd, ar ol bod yn gydnabyddus â hwy er ys yn agos i ddeng mlynedd a deugain. Am y cyfieithad o Tyssilio, chwi a welwch wrth y gwaith a dorais allan i mi fy hun, pa fodd yr wyf yn sefyll. Y mae yn debyg na byddaf byw i orphen yr un o'r pethau hyny; ac ofnaf na fydd gan fy mhlant yr un awyddfryd angerddol ag sydd genyf fi at y fath fyfyrdodau, ac ni welaf ond ychydig o rai ereill yn meddu na'r tueddfryd na'r defnyddiau i gyflawnu y cyfryw orchwyl."

Yn y flwyddyn 1737, penodwyd ef gan arglwyddi y Morlys i arolygu, mesur, a darlunio porthladdoedd ac arfordiroedd Cymru. Cyflawnodd y gorchwyl llafurfawr hwn gyda dyfalwch a medrusrwydd anghyffredin, a chyhoeddwyd ffrwyth ei lafur yn y flwyddyn 1748, dan y teitl, "Plans of Harbours, Bars, Bays, and Roads in St. George's Channel." Cynnwysa y llyfr hwn dros ugain o ddarlunleni, yn dangos ansawdd amrywiol aberoedd, porthladdoedd, &c., perthynol i Gymru; ac ennillodd i'w awdwr glod ac anrhydedd parhäus, o blegid ni chyfrifir y dydd heddyw odid un llyfr mwy cywir a buddiol i'r morwr sydd yn arfer mordwyo ar gyfer arfordiroedd Cymru (yn y Môr Udd) nag ydyw'r llyfr a grybwyllwyd o waith Mr. Lewis Morris. Er mwyn rhoddi rhyw feddylddrych i'r darllenydd o natur y gwaith a'r llafur mawr oedd yn angenrheidiol i gasglu yng nghyd y swm dirfawr o ffeithiau a gynnwysa, cymmerwn ryddid i ddyfynu a ganlyn allan o ragymadrodd y llyfr:—"Yr athrist hanesion am longddrylliadau a cholledion yn dygwydd mor fynych ar dueddau Cymru, y rhai yn ddiau a achlysurwyd yn benaf o blegid diffyg gwybodaeth, ac ammherffeithrwydd y darluniadau a roddwyd o'r pethau hyny, a gymhellodd gyfarwyddwyr y Morlys i gymmeryd yr unrhyw dan eu hystyriaeth, ac i benderfynu ar fod i arolygiad mesurol gael ei gymmeryd mewn llaw; ac yn y flwyddyn 1737 rhyngodd bodd iddynt fy mhenodi i at y gorchwyl, a dechreuais arno wrth y Penmawr Mawr, yng Ngwynedd, ger llaw bar Caerlleon. Ar ol cyflwyno gorchwyl blwyddyn, archwyd i mi fyned rhagof; ond gan na ddarparesid y cyfreidiau a'r defnyddiau angenrheidiol i'r perwyl, gohiriwyd y gwaith hyd y Blwyddyn 1742. Y pryd hwnw caniataodd y cyfarwyddwyr i mi lestr wedi ei ddarparu yn gyfrdo; a thrwy y moddion hyn aethym â'r gwaith ym mlaen gyda gofal a manylrwydd mawr, hyd nes cyrhaedd y mynediad i Fôr Hafren; ond yn y flwyddyn 1744, torodd y rhyfel allan rhwng y deyrnas hon a Ffrainc, a llesteiriwyd y gwaith; a minnau a orphenais fy nharlunleni, ac a gyflwynais fy arolygiad i'r Morlys. Y darluniadau o'r porthladdoedd, &c., ag sydd yn awr wedi eu cerfio, ac yn cael eu gosod allan yn y traethawd hwn, a ffurfiwyd yn y dechreu mewn llyfryn bychan a wnaethym i'm gwasaeth fy hun, er mwyn cynnorthwyo fy nghof, pan ddygwyddai tymmestledd neu ryw anffawd ddisymmwth a allai ddygwydd yn ystod y gwaith. Ond dygwyddodd i mi ddangos y gwaith hwn i arglwyddi y Morlys, a rhyngodd bodd iddynt ei gymmeradwyo, gan annog fod iddo gael ei gyhoeddi er budd i forwyr, yng nghyd â rhai crybwylliadau a wnaethym yn mherthynas i'r gwelliantau a ellid ei wneuthur yn y porthladdoedd hyny, gan na thybid yn addas cyhoeddi yr arolygiad o'r holl arfordir nes myned â'r gorchwyl ym mlaen hyd at Bentir Cernyw, sef gorphen hyd yno o Fôr Hafren. Gallaf anturio honi fod un peth anarferol yn y darluniadau hyn nas ceir mewn nemawr, os mewn un o'r lleill; hyny yw, fod enwau y lleoedd wedi eu gosod i lawr yn ol en gwir orgraff, yr hyn, mewn darlunleni ereill o'r arfordiroedd hyn, sydd yn gyffredinol yn cael ei wneuthur yn y fath fodd, fel na chlywodd trigolion y lleoedd hyny erioed son am danynt, ac nad ydynt gan mwyaf amgen na ffug-ddyfeisiau cyfreithwyr anwybodus, a cherfwyr esgeulus; eithr yr oedd fy adnabyddiaeth o iaith a hynafiaeth y Brytaniaid yn rhoddi mantais i mi yn hyn." Cyhoeddwyd ail argraffiad o'r gwaith hwn gan ei fab William Morris, yng nghyd â map o Fon ganddo ei hun, yr hwn oedd ar raddeg ddigon eang i gynnwys pob ty yn yr ynys. Ysgrifenodd L. Morris hefyd ddarluniad hanesyddol o fwnyddiaeth y parthau hyny o'r Dywysogaeth ag oedd dan ei sylw, ond fel Iluaws ereill o'i weithiau ni chyhoeddwyd byth mo'r gwaith hwnw.

Gadawodd ar ei ol, meddir, tua phedwar ugain o ysgriflyfrau; ond y mwyaf gwerthfawr o honynt yn ddiau oedd y Celtic Remains, gwaith ag y treuliasai ran helaeth o ddeugain mlynedd i'w gasglu yng nghyd a'i barotoi. Ond fel pobpeth arall bron o'i eiddo gadawodd y gwaith hwnw yn anorphenedig, o blegid dywedir yn y Cambrian Register ei fod yn nwylaw Gwallter Mechain yn 1796, yr hwn oedd yn ei barotoi i'r wasg gyda lluaws o ychwanegiadau a diwygiadau. Ond fel mae gwaetha'r modd, ni wnaeth eto mo'i ymddangosiad, ac ymddengys yn ol tystiolaeth awdwr llafurfawr Llyfryddiaeth y Cymry mai yn anorphenedig y mae hyd heddyw. (Gwel Llyfryddiaeth y Cymry, tudal. 370.) Pa faint a gyfoethogasai yr ysgriflyfrau uchod ar lenyddiaeth Cymru, y mae yn anhawdd dyweyd; ond mae yn debyg mai adysgrifau oedd lluaws o honynt o Frut y Breninoedd, Brut y Tywysogion, y Trioedd, a'r hen groniclau Cymreig, ac erbyn hyn ond odid nad oes llawer o honynt wedi eu cyhoeddi yn y Myvyrian Archaiology, &c. Rhoddai L. Morris ddirfawr bwys ar yr hen Frutiau Cymreig, gyda'r rhai yr oedd yn dra chyfarwydd, a chredai yn ddiysgog yn eu dilysrwydd. Pa beth a ddaeth o honynt nid yw yn hysbys ragor na'i bod wedi eu gwasgaru i bob cyfeiriad, megys Llyfrgell yr Ysgol Gymreig, Yr Ymgueddfa Brydeinig, &c. Dinystriwyd llawer o honynt hefyd yn y tân mawr yn Wynnstay rai blynyddau yn ol. Dywed D. Ddu fod lluaws o'i lythyrau at y Prydydd Hir (wedi eu hadysgrifenu gan y bardd ei hun) ym meddiant Paul Panton, Ysw., o'r Plas Gwyn ym Mon, yng nghyd â llythyrau o eiddo Edward Richard, Ystrad Meirig, ato yntau. Dywedir fod y trysorau llenyddol gwerthfawr a dyddorol hyn, yn cynnwys hefyd gasgliad godidog y Prydydd Hir, yn braenu ac yn pydru (ar a wyddys) y dydd heddyw yng nghoffrau mab y boneddwr hwnw. Clywsom hynafieithydd parchus a dysgedig yn dyweyd iddo wneyd cais yn ddiweddar am ganiatâd i'w harchwilio, ac i'r boneddwr (?) wrthod ei gais rhesymol yn sarhaus!

Nid oes genym fel hyn ond defnyddiau lled brinion i'n cynnorthwyo i ffurfio barn gywir am ei alluoedd fel hynafieithydd a hanesydd. Fe ddichon mai y pethau goreu o'i eiddo ydyw ei lythyrau Seisonig, y rhai a gyhoeddwyd yn y Cambrian Register, ac a arddangosant wybodaeth helaeth o'r iaith Gymraeg a'i chwaer-ieithoedd. Ymddengys mai meddwl isel iawn a goleddai Iolo Morganwg am dano, o blegid geilw ef yn "eilun crachfeirdd a chrachieithyddion Cymru;" ac mai "fel hanesydd, gwyrdroi pobpeth i gyd- weddu â'i ddychymmygion diymbwyll ei hun yr ydoedd ef yn wastad " (gwel Brython, iii. 54). O'r tu arall, mae ei ohebiaeth helaeth â gwŷr o ddysg ym mysg y Seison, megys Dr. Carte yr hanesydd, Mr. Pegge, ac ereill yn dangos yr ystyrient ef yn awdurdod uchel ar bob pwnc yn dwyn cyssylltiad â Chymru. Mewn llythyr o eiddo y diweddaf at Dr. Phillip, dywed, "Yr wyf yn gweled mai ysgolhaig tra rhagorol yw Mr. Morris, a'i fod yn gwbl feirniad yn iaith a hanesiaeth ei wlad ei hun. Mi a ddymunwn o fy nghalon iddo roddi i mi gyfieithad naill ai yn y Seisoneg ai y Lladin o'i hanesiaeth ddilwgr ef o Brydain Fawr, yn gymharedig fel yr oedd efe yn son, â llawer o ysgrifeniadau ereill, gyda sylw-nodion adchwanegol er cadarnhau ac egluro ei honiadau, a dymchwelyd y gwrthddadleuon a ddygwyd yn ei erbyn gan rai enwogion." Nid oes dadl, fodd bynag, nad oedd yn feddiannol, fel y prawf yr ychydig ysgrifau a adawodd ar ei ol, ar wybodaeth gyffredinol bron ddiderfyn; ac mewn amrywiaeth a chydgyfarfyddiad lluaws o dalentau y mae ei enwogrwydd ef yn gynnwysedig yn hytrach nag mewn rhagoriaeth mewn un gangen neillduol. A barnu oddi wrth a wnaeth, nid ymddengys ei fod yn berchen ar athrylith ddysglaer i gynnyrchu dim mewn rhyddiaith na barddoniaeth gwir wreiddiol, aruchel, a gorchestol fel ei brif ddysgybl Goronwy Owen. Yr oedd ei lafur a'i ddiwydrwydd yn fawr dros ben, ac fel y cyfryw y mae yn haeddiannol o bob parch ac edmygedd. Medrai dori allan a chynllunio mwy na mwy o waith; ond yr oedd ei gymmeriad yn ddiffygiol o'r nodweddion hyny ydynt yn angenrheidiol i ddwyn pobpeth i derfyniad llwyddiannus, sef penderfyniad a diysgogrwydd. Yr ym eisoes wedi cyfeirio ato yn ei gysylltiad â Goronwy fel ei noddwr a'i gymmwynaswr, ac ar lawer adeg gyfyng ar fywyd y bardd anffodus hwnw y profodd efe ei hun yn gyfryw iddo. Ond mae haeru mai ar draul teulu Pentref Eirianell y dygwyd Goronwy i fyny yn Rhydychain, ac y cawsai ei addysg flaenorol, yn anghywir. Yn ei lythyr Lladin at Owen Meyrick, Ysw., o Fodorgan, efe a ddywed, "Gwr ieuanc ydwyf fi, deunaw mlwydd oed, wedi fy ngeni ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, yn sir Fon. Trwy ddiflin ddiwydrwydd fy rhieni, y rhai sy bur dlodion, gellais fyned i ysgol gyhoeddus Bangor, ac aros ynddi o'r flwyddyn 1737 hyd 1741. Wedi cyrhaedd fy mhenawd eithaf yno, a myned trwy yr hyn a ddysgir yn gyffredin yn yr ysgol, dychwelais at fy rhieni. Wedi marw fy mam, priododd fy nhad wraig arall, a gadawyd i minnau ymladd fy ffordd fy hun." Yn y Gronoviana hefyd dywedir, Ymddengys bod Goronwy wedi parhau yn yr ysgol yn benaf trwy ddylanwad ei fam; ac yn ei bymthegfed flwydd, dywedir ei fod yn isathraw yn Ysgol Ramadegol Pwllheli. Trwy haelioni Mr. Ed ward Wynne, o Fodewryd, y galluogwyd ef i fyned i Rydychain, lle y graddiodd o Goleg Iesu." Ar yr un pryd mae yn amlwg ddigon iddo dderbyn llawer o garedigrwydd oddi ar law teulu Pentref Eirianell, Cymmwynasau llenyddol fel yr ym ddengys, yn fwyaf neillduol, a dderbyniodd ef, modd bynag, gan L Morris, ac yn enwedig ei gyfarwyddyd mewn barddoniaeth. Darfu i'r cyfeillgarwch cynhes a fodolai unwaith rhwng yr athraw a'r dysgybl oeri yn fawr, os nad llwyr ddarfod, cyn ymadael o'r diweddaf am yr Amerig yn 1757. Pa beth fu yr achos uniongyrchol o hyn nid yw yn hysbys; ond dichon fod a fynai arferion anghymmedrol Goronwy, druan, ryw faint â hyny, o blegid yr oedd L. Morris yn elyn anghymmodlawn i ddiota ac ysmocio, dau o wendidau penaf y mawr Oronwy. Y mae y llythyr a ysgrifenodd efe i ddynoethi y bardd anffodus yn dra annheilwng o un a broffesai gymmaint o ymlyniad wrtho, ac yn bradychu y fath ddrwg deimlad tuag ato ag nad yw yn hawdd rhoddi cyfrif am dano. Mae yr awdl farwnad ardderchog a ganodd Goronwy ar ei ol, pan glywodd am ei farwolaeth, yn llawn ddigon o'r tu arall o iawn am y trosedd y tybiai L. Morris ef yn euog o hono, ac yn brawf digonol nad yw doeth yn hir mewn llid." Heb law mai L. Morris fu yn offeryn i ddadblygu gyntaf alluoedd dysglaer ac awen uchraddol Goronwy Owen a'r Prydydd Hir, iddo ef hefyd y perthyn yr anrhydedd o roddi y delyn gyntaf yn nwylaw Parry Ddall, a dysgu iddo egwyddorion cerddoriaeth, yn y rhai y cyrhaeddodd wedi hyny y fath enwogrwydd.

Y mae George Borrow yn ei Wild Wales yn talu y warogaeth uchaf i alluoedd meddyliol a gwladgarwch dihafal Llywelyn Ddu, fel y prawf a ganlyn: "Dichon na bu erioed ddyn mwy cyffredinol ei wybodaeth; yr oedd yn beiriannwr o'r fath oreu, yn forwr medrus, yn gerddor gwych o ran deall a dawn, ac yn fardd o ragoroldeb neillduol. Dywedid amdano, a hyny gyda chywirdeb, y medrai adeiladu long a'i hwylio, gwneyd telyn a'i chwareu, a gwneyd cywydd a'i ddadgan dan dant. Eto, nid yw hyn, er mor ganmoliaethol, ond rhy brin i osod allan alluoedd a chyrhaeddiadau mawrion Lewis Morris. Er yn hunanddysgedig, ystyrid ef yr ysgolhaig Cymreig goreu yn ei oes, ac yr oedd yn dra hyddysg yn nhafodieithoedd y Gymraeg, y Gernywaeg, yr Armoraeg, y Gaelaeg, a'r Wyddelaeg. Yr oedd hefyd yn gyfarwydd & Hebraeg, Groeg, a Lladin, wedi efrydu yr Anglo Saxon gyda mawr lwyddiant, ac yn ysgrifenydd Seisonig grymus a medrus. Heb law hyny, yr oedd yn hynafiaethydd cyffredinol gwych, ac o ran ei wybodaeth o hen ddefodau, traddodiadau, ac ofergoelion Cymreig, yr oedd yn ddigymhar. Er hyn i gyd ni ddywedwyd eto yr oll a ellir mewn ffordd o ganmoliaeth iddo; meddai ar briodoleddau meddyliol a hawlient iddo fwy o barch nag unrhyw gyrhaeddiadau meddyliol neu gelfyddgar. Ym mysg y rhai hyn yr oedd ei haelioni a'u hunanymwadiad er lles ereill. Cyssegrai wythnosau a misoedd er arolygu helyntion y weddw a'r amddifaid: un o'i brif bleserau oedd cynnorthwyo teilyngdod, i'w ddwyn o flaen y byd, a chael o hono briodol gydnabyddiaeth efe oedd y cyntaf i ddarganfod athrylith gerddorol Parry Ddall; efe roddes y delyn gyntaf yn ei law, efe roes addysg gerddorol iddo, ac efe a'i calonogodd ac a'i cynnorthwyodd ag arian: Efe a ddysgodd yr hyglod Evan Evans yn hen iaith ei wlad, gan alluogi y dyn talentog ond hynod hwnw i ddarllen tudalenau y Llyfr Coch o Hergest mor rhwydd a'r Beibl Cymraeg; efe a ddiwygiai ei linellau â medr diail, gan eu coethi a'u haddurno nes eu gwneyd yn deilwngi o ddarlleniad gan oesau dilynol; efe roddes iddo gyfarwyddyd, yr hwn pe ei dilynasai a barasai i'r Prydydd Hir gael ei restru ym mysg yr enwocaf o Gymry y ganrif ddiweddaf; ac efe oedd y cyntaf i ddyweyd wrth ei gydwladwyr fod gwr ieuanc ym Mon, athrylith yr hwn ond ei chefnogi yn briodol a allai mewn amser ymgystadlu ag eiddo Milton ei hun: un o'r llythyrau mwyaf hyawdl a ysgrifenwyd erioed ydyw yr eiddo ef, yn yr hwn yr ymdrinia ar dlysni rhai caniadau o eiddo Goronwy Owen, talent foreuol yr hwn a dynasai ei sylw, a'r hwn a ddilladodd, a ddysgodd, ac a gynnorthwyodd hyd yr adeg yr ordeiniwyd ef yn weinidog yn yr Eglwys, a'r hwn a achubodd efe o gyflwr bron yn ymylu ar newyn yn Llundain, ac a gafodd iddo swydd anrhydeddus yn y Byd Newydd." Y mae y cyfryw ganmoliaeth gan estron i'n cenedl (er nad yw yn gywir fel y gwelir gyda golwg ar rai pethau) yn anrhydedd i ben a chalon yr awdwr, ac yn gerydd haeddiannol i'r corachod anwladgar hyny na fedrant ganfod teilyngdod heb fyned tu hwnt i Glawdd Offa.

Fel yr awgrymwyd eisoes treuliodd L. Morris y rhan olaf o'i fywyd yng Ngheredigion, yng Ngalltfadog, ac wedi hyny ym Mhen y Bryn, i'r hwn le y symmudodd ar ei briodas. Ei ail wraig oedd Ann Lloyd, etifeddes y le hwnw, â'r hon yr unwyd ef mewn glân briodas Hydref 20fed, 1749. Bu iddynt naw o blant-pum mab a phedair merch, o'r rhai y bu amryw feirw yn ieuainc, a bu farw eu mam Mawrth 30fed, 1786. Yn ei flynyddau olaf, cystuddiwyd ef yn drwm gan wahanol anhwylderau, a bu farw Ebrill 11fed, 1765, yn 65 oed. Claddwyd ef yn Eglwys Llanbadarn Fawr, lle y dangosir ei fedd, ond er gwarth oesol i ni fel cenedl nid oes eto gymmaint a cherfiad na chareg i ddynodi y fan y gorphwys gweddillion un o feibion mwyaf gwladgarol Gwyllt Walia!

Bellach rhaid i ni draethu ychydig am Lewis Morris fel bardd. Yr ydym eisoes wedi talu gwarogaeth wirioneddol iddo fel gwladgarwr a llenor, ac fel athraw a noddwr haelionus awenyddion, ac wedi gosod iddo le anrhydeddus ym mysg enw ogion a chymmwynaswyr ei wlad, ond credwn nad ydyw cyfiawnder a gonestrwydd yn hawlio iddo ond lle israddol yn nheml Awen a chân. Fod ganddo ryw fath o athrylith farddonol a dawn i gynghaneddu yn gywir a chywrain sydd ddiammheuol; ond o'r tu arall, cam â'i goffadwriaeth fyddai ei restru ym mysg beirdd o'r un dosbarth a'r gorenwog Goronwy Owen. Yr oedd y dysgybl yn annhraethol well bardd na'i athraw, a cheir yn ei 150 llinellau, "Cywydd y Farm Fawr," fwy o wir farddoniaeth nag a geir yn holl linellau Ll. Ddu gyda'u gilydd. Ond os ydym i gymmeryd tystiolaeth Goronwy ei hun ar y pwnc hwn, "Llywelyn Ddu ydyw pen bardd Cymru oll, ac ni weddai y teitl neu yr enw hwnw i neb arall sydd fyw heddyw." Mewn llythyr at Risiart Morris, dyddiedig Awst 15, 1752, ceir yr un sylwadau canmoliaethol. Tra yn cyfeirio at ei "Gywydd y Farn Fawr," dywed, "Ni'm dawr i pa farn a roir arno, o blegid gael o hono farn hynaws a mawr glod gan y bardd godidocaf sydd yn fyw heddyw, ac o ddamwain a fu byw erioed yng Nghymru, nid amgen Llywelyn Ddu o Geredigion, yr hwn yr ydwyf yn ei gyfrif yn fwy na myrdd o'r mân glytwyr dyriau naw ugain yn y cant sydd hyd Gymru yn gwybeta, ac yn gwerthu neu yn gwneuthur ambell resynus garol, neu ddyri fol clawdd." Ceir hefyd yr un syniadau gorganmoliaethol ganddo yn ei awdl farwnad odidog iddo, fel y prawf y dyfyniadau canlynol:-

"Mawredd gwlad Wynedd, glod union—ceinwalch
Cynnor presennolion;
A byw urddas y beirddion,
A'u blaenawr oedd Llew mawr Mon.


"Ef oedd Ofydd,
A dywenydd,
Hylwybr ieithydd
Hil y Brython.
Gan wau gwynwaith,
Tlysan tloswaith,
Oran araith,
. . .aur wron


"A thra bo urddawl athro beirddion,
A mwyn dysg wiwles mewn dwys galon,
Gwiwdeb ar iaith a gwaed y Brython,
Ac awen Gwyndud ac ewyn gwendon,
Ef a gaiff hoewaf wiw goffeion,
Daiar a nef a dwr yn afon."


Nid oes le i ammheu am fynyd nad oedd Goronwy yn berffaith onest a chydwybodol tra yn rhoddi y fath ganmoliaeth eithafol a hyn i gynnyrch ei awen, o blegid fel y tystiai yn un o'i lythyrau, "nis gallai wenieitho." Yr unig ffordd, gan hyny, y gallwn roddi cyfrif boddhaol am hyn ydyw, fod Goronwy, druan, wedi cael ei arwain i goleddu y fath syniadau uchel am ei athraw a'i noddwr oddi ar deimlad o'i fawr rwymedigaeth am ei luaws cymmwynasau iddo o bryd i bryd, ac felly fod diffuantrwydd ei ddiolchgarwch wedi peri rhoi o hono i'r bardd yr hyn yn briodol a berthynai i'r gwladgarwr trylen, ac i'r cyfaill caredig a haelionus.

Wedi darllen yn ofalus yr oll o'i gyfansoddiadau barddonol, ac nid gorchwyl hawdd iawn na dymunol chwaith ydyw hyny, y cwbl bron allwn ddyweyd yn ei ffafr ydyw y dangosant gryn lawer o allu celfyddydol eu hawdwr, a'i fod yn dra hyddysg yn neddfau mesur a chynghanedd, ac nad oedd hualau cynghanedd yn un rhwystr na thrafferth iddo i gyfansoddi ynddynt; ond yn ofer yr edrychwn ynddynt am ddim o'r beiddgarwch awenyddol hwnw a nodweddai gyfansoddiadau yr anfarwol Oronwy. Ar yr un pryd rhaid cyfaddef na wnaeth efe erioed chwareu teg ag ef ei hunan gyda golwg ar ddewisiad ei destynau. Ammhosibl i'r awen gryfaf ei haden gynnyrchu dim gwir fawr a goruchel tra na chynnygir iddi ond gwrthddrychau distadl ac annheilwng i ganu arnynt. Diammheu y gallasai yntau ragori ac ennill anfarwoldeb yn nheml Awen a chân per na chamgyfeiriasai ei awenydd fel y gwnaeth. Ceir yn rhai o'i gywyddau, ac yn enwedig y rhai i'r "Geiniog" a'r "Rhew," modd bynag, rai tarawiadau hapus dros ben, ond prin y maent yn ddigon i wneyd iawn am y diffyg chwaeth, heb son dim am y dôn anfoesol a nodwedda luaws o'i gerddi. Yn y blaenaf o'r ddau uchod dywed,

"Codog arglwyddi cedyrn
Am geiniog ynt chwannog chwyrn,
Cyfreithwyr, denwyr dynion,
Blingant Ddiawl er hawl ar hon:
Ceiniog o gyflog i'r gwr,
I'w ddelw fe a'n addolwr."


Ac yn ei gywydd i'r "Rhew a'r Eira," ceir y llinellau tlysion a ganlyn:—

"Eira gwyn yn oeri gwedd,
A'r llwch yn cuddio'r llechwedd;
Pob lle'n oer, pob llwyn yn wyn,
A diffrwd fydd y dyffryn;
Clo ar ddwfr nid clasar fydd,
A durew hyd ddaiarydd,
A bwyd adar byd, ydoedd
Dan glo Duw yn galed oedd;
Aed a'r agoriad adref
Yn iawn i'w gadw yn y nef."


Ei ganeuon rhyddion, os nid y goreu o'i eiddo, ydynt ar yr un pryd y mwyaf adnabyddus a phoblogaidd, ac ym mysg ereill gellir enwi y rhai canlynol:—"Cân y panwr," "Lladron Crigyll," "Gallt y Gofal," a "Chaniad y Gog i Feirionydd." Yr olaf o'r rhai hyn, a'r hon a adnabyddir hefyd wrth yr enw, "Morwynion Glan Meirionydd," ydyw bron yr unig un o'i eiddo sydd wedi trosglwyddo ei enw i lawr fel bardd adnabyddus i'r lluaws yn yr oes hon. Dichon na chyfansoddwyd yr un dernyn erioed ag y mae cymmaint canu arno, yn enwedig gyda'r tannau, a'r gân fer hon. Yn wir, cym maint yw ei phoblogrwydd fel mae wedi dyfod yn rhyw fath o household song, yn gân genedlaethol, ac yn fath o gymmyarodd werthfawr yng ngolwg ei gydwladwyr. Pell ydym ar yr un pryd o roddi iddi y fath ganmoliaeth ag a rydd rhai, sef "nad oes goethach a rhagorach awenyddiaeth delynegol yn yr iaith na'r pennillion melusber hyny." Y mae yna yn wir ryw wythien gyfoethog o wladgarwch diledryw yn rhedeg trwyddi, a rhyw swyn anorchfygol yn odlau y llinell anfarwol, "Morwynion Glan Meirionydd," ag sydd yn debyg o sicrhau iddi boblogrwydd tra y ceir awen a chân yn fyw yn ein gwlad, a thra y clywir odlau melusber y delyn yn adsain rhwng bryniau gwyrddion a dyffrynoedd swynol "Cymru lân, gwlad y gân."

Nid ydyw gwaith Llywelyn Ddu mwy na lluaws ereill o'r hen feirdd yn rhydd oddi wrth feiau ieithyddol, er cystal Cymreigydd ydoedd, a brithir ef gan fastarddeiriau fel y rhai canlynol:—safio, siawns, riwlio, ordor, mendio, &c., y rhai ydynt yn mawr anurddo ei linellau. Ond hwyrach nad ydoedd ef yn hyn o beth yn fwy troseddwr na'r cyffredin o'r hen feirdd.

Yr ydym eisoes wedi awgrymu fod ei ganeuon o nodwedd isel ac anfoesol, a drwg genym ailadrodd mai hyn ydyw eu nodwedd yn gyffredinol. Yn wir, y mae llawer o honynt ar destynau na oddef deddfau chwaeth hyd yn oed eu henwi. Trueni yn wir ddarfod i un a allasai yn ddiammheu ragori a gwneyd gwasanaeth i achos crefydd a moesoldeb yn yr oes dywell hono (ond cyfeirio ei awen yn briodol) i ymostwng i byllau isaf llygredigaeth, a throseddu deddfau mwyaf cyssegredig chwaeth a moesoldeb. Priodol iawn yn wir y gofyna efe ei hun yn un o'i gywyddau,

"Rhodd Duw o'i law yw'r Awen,
A'r pwyll a roes yn y pen;
A pham i ti, gwedi'r gwaith,
Ei fwrw ar gam oferwaith?"


Ar yr un pryd y mae "barn cariad " yn ein tueddu i gredu mai ffrwyth awen wyllt a nwyfus ei ieuenctyd ydoedd llawer o'r caniadau mwyaf llygredig hyn, a dichon pe y cawsai eu hawdwr lais yn y mater na welsent byth oleu ddydd. Er hyn i gyd ni ddymunem mewn un modd ei esgusodi, a llawer llai ei gyfiawnhau, eto ni ddylid ef allai ei farnu yn gwbl fanwl wrth reolau a safonau caeth yr oes gyfnewidiol a mympwyol hon. Er fod deddfau gwirionedd a moesoldeb fel eu Hawdwr mawr yn anghyfnewidiol ac ansigledig, y mae chwaeth o'r tu arall yn dra chyfnewidiol ac anwadal, ac felly nid teg cymmeryd un oes yn safon i farnu un arall wrthi. Os trown i weithiau cydoeswyr Llywelyn Ddu, er enghraifft, Elis Wynn, Goronwy, a'r Prydydd Hir, cawn eu bod, er yn offeiriaid, ysywaeth, yn tori deddfau chwaeth yn barhäus; hyny ydyw, yn ol ein syniadau ni ar hyn o bryd o barth i'r hyn a gyfansodda chwaeth. Ni ddylem ni, gan hyny, yn yr oes oleuedig a diwylliedig (?) hon roddi barn condemmiad a sel ein hanghymmeradwyaeth yn rhy frysiog ar arferion ac ymddygiadau ein hynafiaid mewn oes lai ei gwybodaeth a'i breintiau. Os oeddynt hwy weithiau yn troseddu trwy ddefnyddio iaith rhy bendant a diamwys, dichon y gallwn ninnau trwy ymgais at ormod coethder, a thrwy beidio galw pethau wrth eu henwau priodol, fod felly yn llawn mor agored i gerydd, ac ymddangos fel yn cymmeradwyo yr hyn fyddo dramgwyddus a drwg: mae y fath beth a false modesty, ac mae hwnw yn beth i'w fawr osgoi bob amser. Ni ddylid chwaith anghofio y ffaith fod Lewis Morris yn byw mewn oes hynod am ei thywyllwch a'i hanwybodaeth. Ganwyd ef mewn cyfnod ar hanes Cymru at yr hwn y gellir gyda phriodoldeb gymhwyso geiriau yr ysgrifenydd ysbrydoledig, "Tywyllwch a orchuddiai y ddaiar a'r fagddu y bobloedd." Y pryd hyny, ac am flynyddau wedi hynny ni fu traed yr un efengylydd ymneillduol yn troedio tir Mon, ac am fugeiliaid y llanau, ychydig iawn o honynt geid yn effro, ac yn teimlo dwfn gyfrifoldeb eu swydd oruchel. Ac nid oes genym le i feddwl fod awyrgylch foesol y teulu y dygwyd L. Morris i fyny ynddo ronyn yn burach a mwy manteisiol i feithriniad ffrwythau moesoldeb a chrefydd nag eiddo y cyffredin o'n cymmydogion. Yr oedd awenyddiaeth Cymru yr adeg hono bron yn gwbl gyfyngedig i destynau masweddol a halogedig, a chyfeddach y dafarn a chwmni llygredig fyddent yr achlysuron penaf i alw allan eu doniau, o blegid nid oedd na chyfarfod llenyddol o un math nac eisteddfod i roddi iddi unrhyw symbyliad na chyfeiriad. Nid rhyfedd, gan hyny, ynte, i awen nwyfus dyn ieuanc o'r fath fywiogrwydd a L. Morris, wedi unwaith gael y ffrwyn ar ei gwar, yn lle esgyn i fyny i'w bro gynhenid ei hun, gan ymbleseru ar uchelfanau gwyrddion bryniau anfarwoldeb, ac ymdrin ar hyd meusydd toreithiog gwir fawredd ym mysg blodau teleidion rhinwedd a moesoldeb, fyned i grwydro i "anialwch gwag erchyll" y byd israddol, ac ymdreiglo ym mhydewau erchyll llygredigaeth. Yr oedd ei gydoeswyr y beirdd Seisonig, o ran hyny, yn llawn mor ddwfn o ran gradd eu trosedd ag yntau; a cheir fod gweithiau y bardd mawr Pope, awdwr y gân anfarwol, "Y Messiah," ym mhell o fod yn lân a difrychau, ac nis gellir darllen llawer llinell o'i eiddo heb wrido a chywilyddio. Ond os edrychwn i waith Byron, yr hwn a oesai gymmaint yn ddiweddarach, ac yn enwedig i'w "Don Juan," cawn ei fod yn drifrith o'r ymadroddion mwyaf halogedig ac isel, yn gystal ag o'r annuwiaeth mwyaf hyf a beiddgar. Mae hyn i'w ddyweyd, modd bynag, am y bardd Cymreig, er cymmaint ei wendidau (a phwy yn wir hebddynt), nad ydyw erioed yn un o'i ganeuon wedi gwneyd yr ymgais leiaf i daflu dirmyg ar ordinhadau yr Efengyl, a phethau cyssegredig y Beibl; ac ni cheir yn un o'i linellau hyd y sylwasom yr un ymgais i ddangos dim yn amgen na'r parch dyfnaf i'r Bod mawr, awdwr a rhoddwr y ddawn awenyddol. Y mae yn hyfryd meddwl hefyd fod buchedd y bardd, beth bynag yn y rhan olaf o hono, yn ol yr hanes geir am dano, yn dra difrycheulyd a gweddus. Yn unig gresynwn am dano am na fuasai wedi dewis testynau mwy teilwng o'i awen, a hyny er mwyn clod iddo ei hun a bendith i'w gydoeswyr yn gystal a chenedlaethau dyfodol.

RHAN O ACHYDDIAETH L. MORRIS.

Hu ab Sion ab Madoc, etifedd Glan yr Afon, Llanallgo, a briododd ferch rhyw un yn byw yn Nant Ffrancon. Ni welsai erioed yd yn tyfu nes myned o honi i Fon! Yr oedd gan Hu ab Sion ab Madoc. ferch, Elisabeth, yr hon a briododd William Lewis, etifedd ab Thomas ab Lewis Sion, a bu iddynt unig ferch ac etifeddes, Ann Lewis, a briododd William Thomas (y gof), etifedd Ty y Ferry, Conwy. William Thomas hwn ydoedd fab Thomas Lewis o'r Creuddyn, o'i wraig Elisabeth ferch Sion. William Thomas a'i wraig Anne a gawsant ferch, Catherine Thomas, a briododd Morris ab Owen ab William ab Dafydd Llwyd, o'r Henblas a Llugwy. Mam Morris ydoedd Elisabeth, ferch Gruffydd ab ——— Llwyd o Lugwy. Preswyliai ei thad yn y Frigan. Bu i Morris Owen a'i wraig Catherine, ferch, Margaret Owen, yr hon a briododd Morris Pritchard, o Bentre Eirianell; a bu iddynt dri o feibion, sef Lewis, a aned Mawrth 12fed, 1700, Richard Morris, a William Morris. Lewis Morris a briododd Elisabeth Griffith o Ty Fridyn, neu Ty Wydrin, ger Caergybi, yn 1729; ac yn ail, Ann Lloyd, o Ben y Bryn, Ceredigion, yn 1749, a bu iddo amryw blant o'r ddiweddaf. Bu i Morris a Catherine Owen hefyd ferch, Ellen Owen, yr hon a briododd Owen Salisbury, etifedd Glanwdden, yn y Creuddyn; a bu iddynt unig fab, John Salisbury, a briododd Marianna Jones, Tan y Dderwen, a buont feirw yn ddiblant. Bu i Owen Salisbury ferch, Catherine, a briododd Robert Davies, Ty Du, ac Elisabeth a briododd Hugh Evans y Ferry (hynafiaid teulu presennol Glanwydden). Fe ddisgynodd eiddo Owen Salisbury i etifeddion benywaidd.

Morris Owen, a elwir Morris Owen o Fodafon y Glyn. Yr oedd ganddo frawd Gwalchmai, ac un arall Hugh, a chwiorydd Jane, Grace, a Catrin. Ond i fyned yn ol at William Thomas y Ferry a'i wraig Ann Lewis (yr hon a briododd efe pan o dan un ar hugain oed); bu iddynt fab Thomas Williams, yr hwn oedd yn etifedd Glanyrafon, Llanallgo, tad Lewis, hefyd Hugh, yr hwn y bu iddo fab, William, a hefyd Pierce, yr hwn a gafodd ferch, Mary; hefyd John, a Margaret, yr hon a briododd ei chefnder John Lewis y Ferry, ac Ellen, yr hon a briododd Edward Pritchard. Yr oedd y rhai hyn yn ddisgynyddion William Thomas a'i wraig Ann Lewis, y rhai hefyd a gawsant ferch, Catherine, wraig Morris Owen. Yng nglŷn â'r achrestr yma ceir cyfysgrifau o wahanol weithredoedd, ewyllysiau, &c. Ceir hefyd gyfysgrif o hen weithred yn dwyn cyssylltiad ag eiddo y "Ferry," a thiroedd yn Llanallgo, yn disgyn i Evan ab Dafydd ab Dafydd, a William ab Grono ab William, trwy hawl Agnette, ferch Howel ab Ithel o Northop. Gadewir y tiroedd i Lewis ab William ab Robert, ei fab a'i etifeddion; ac yn niffyg y cyfryw blant, i Thomas ab William ab Robert. Y dyddiad yw 1581.


W. SPURRELL, Argraffydd, HEOL Y BRENIN, CAERFYRDDIN.

Nodiadau[golygu]

  1. Dywed awdwr llafurfawr "Llyfryddiaeth y Cymry" fod hyn yn gamgymmeriad, canys argraffesid "Holl Ddyledswydd Dyn yng Ngwrecsam er ys 17 flynedd yn flaenorol.
  2. Llydaweg

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.