Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymer ofal, rhag eu dryllio,
Cysegredig y'nt i gyd;
Ysbryd cryf rhyw ddewrfryd Gymro
Hoflan uwch eu pen o hyd."

Eto:

"Mae helynt mawr mewn ambell fan
Am godi capel Saesneg;
Mae mwy na digon yn y Llan
Ac felly rhaid cael 'chwaneg;
A dyma fel y dywedant hwy—
Mae Smith yn haner angel,
A rhag ei fyn'd i lan y plwy'
Cyfodwn iddo gapel."

Mae llawer o ganeuon R. J. Derfel, megys "Yr Alarch," wedi cael eu ymbriodi a cherddoriaeth. "Llys Arthur" sydd gantawd ragorol o waith y diweddar gerddor medrus J. D. Jones, Rhuthyn. Nid llawer a ysgrifenodd R. J. Derfel mewn cystadleuaeth, ond bu yn dra llwyddianus yn yr ychydig wnaeth. Ei gynyg cyntaf oedd pryddest ar "Kossuth"—a bu yn fuddugol. Ar ol hyn ysgrifenodd i Eisteddfod Bethesda ar "Y Cymdeithasau Llenyddol," ac enillodd y wobr. Ceir y traethawd yn mhlith y "Traethodau ac Areithiau" argraffedig. Yn Eisteddfod Ffestiniog, ymgystadleuodd ar "Ddiwylliad y Meddwl," a daeth yn fuddugol, er fod rhai o oreugwyr y genedl yn gydymgeiswyr ag ef. Cyhoeddwyd y traethawd yn llyfryn dan yr enw "Blaenffrwyth Ardudwy" Enillodd hefyd ar "Ieuan Glan Geirionydd" yn Eisteddfod Dinbych. Hon oedd y gystadleuaeth olaf y bu ynddi. Perthyn tipyn o hanes i'r gystadleuaeth hono, ond y mae yn rhy gwmpasog i'w ysgrifenu yma.

Yn 1865, yr oedd Manchester heb yr un siop lyfrau Cymraeg. Felly, ar ol ei ymddiswyddiad oddiwrth y Meistri Roberts, meddyliodd R. J. Derfel, ond agor un, fod digon o Gymry yn y ddinas i wneyd siop Gymraeg yn llwyddianus. Suddodd ei gyfalaf ffrwyth cynildeb blynyddoedd—mewn llyfrau a nwyddau ar gyfer Cymry y ddinas. Ond suddiad andwyol a dinystriol y trodd allan. Ni chafodd y gefnogaeth leiaf gan ei gydgenedl. Fuasi waeth iddo mor llawer daflu ei arian i'r mor. Mewn