Gwirwyd y dudalen hon
gwladol, â nerthoedd barn bersonol wedi ei hysbrydoli gan egwyddorion gwirionedd Duw.
Y DEFFROAD.
Ac i'r amcan hwn ni a gymerwn ein safle am ychydig ar un o fryniau Hanes—yr ucheldir enwog hwnw a adwaenir fel y Diwygiad Protestanaidd. Yr oedd hyny yn
JOHN WICKLIFFE
("Seren foreu" y Diwygiad yn Lloegr).
nechreu yr 16eg ganrif,—un o'r cyfnodau rhyfeddaf yn hanes Europ. Yr adeg hono y deffrodd y meddwl dynol wedi hunllef hir yr Oesau Tywyll. Daeth bywyd ac ynni newydd i gerdded dros y gwledydd. Daeth llenyddiaeth glasurol a'r celfau cain o dir angof. Enynwyd ysbryd