Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae arna i eisio crio ac eisio dawnsio run pryd. Wn i ddim ffordd i ddeyd sut bydda i'n teimlo wrth glywed y delyn, ond mi wn fod sŵn y coed a sŵn yr afon yn gneud yr un peth i mi'n union; mi fedrwn grio a dawnsio run anadl. Rhywbeth fel yna ydi addoli, yntê? Dyn yn teimlo'n rhy sad i fod yn hollol lawen ac yn rhy llawen i fod yn hollol sad— rhywbeth fel yna ydi addoli, yntê?

MR. HARRIS (tyn ei law yn ystyriol dros ei wyneb): Wn inna ddim yn iawn chwaith, ond mi goelia i fod rhyn ddwedsoch chi rwan yn rhyw fath o addoli hefyd.

NEL: Glywsoch chi afon yn siarad a chi? Glywsoch chi'r coed yn deyd rhywbeth rhyw dro?

MR. HARRIS (ynsyn): Naddo'n sicr; glywsoch chi?

NEL: Do, lawer gwaith.

MR. HARRIS: Beth fydd yr afon a'r coed yn ei ddeyd wrthych chi?

NEL: Deyd y bydda nhw weithia mod i'n siwr o farw, ac na fydd dim colled ar f'ol. Dro arall mae nhw'n deyd fod mam yn fyw yn rhywle, er fod i bedd hi yn y Llan.

MR. HARRIS: Fyddanhw'n deyd rhywbeth arall?

NEL: Ar ol i chi fynd adre, hwyrach yr af allan am dro drwy'r ardd, ac mi fydd y nos a'r coed a'r afon yn dwrdio'n enbyd am i mi golli nhempar efo nhad jest cyn i chi ddod i mewn.