Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fasa gen i gymaint o wragedd a'r Shah o Persia— os doeth hefyd i briodi cymaint.

HOPCYN: Rwan, Mr. Harris, waeth heb areithio dim rhagor ac mae hi'n bryd i'n rhoi ni allan o'n pryder; sut mae hi'n sefyll rhyngoch chi a Nel Davis?

Mr. HARRIS: Fe ro ateb plaen i gwestiwn plaen— os yw Nel Davis yn fodlon fy mhriodi, mi priodaf hi.

HOPCYN: Beth bynnag fydd y canlyniadau?

MR. HARRIS: Ie, beth bynnag fydd y canlyniadau.

HOPCYN: Mi priodwch hi hyd yn oed pe dywedem ni wrthych y collwch chi eglwys Seilo am neud hynny?

MR. HARRIS: Gwnaf.

HOPCYN: Hynny ydi—mae Nel Davis yn fwy yn eich golwg na bod yn weinidog yr Efengyl?

MR. HARRIS: Mae gwahaniaeth go fawr rhwng bod yn weinidog yr Efengyl a bod yn weinidog ar Seilo.

HOPCYN: Felly'n wir, dyna newydd i mi. Byddwch gystal ag esbonio'r gwahaniaeth i ni.

MR. HARRIS: Gweinidog yr Efengyl ar bobl Seilo ydw i ac nid gweinidog Seilo ar y Efengyl— mae'r Efengyl yn fwy na Seilo, yn anfeidrol fwy, ond mae perig i ddyn feddwl weithiau fod eglwys Seilo yn fwy ac yn gallach na'r Efengyl.