Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am eich priodi—byth bythoedd! (Daw Doctor a Mr. Blackwell i mewn o'r dde.)

DOCTOR: Dyma Mr. Blackwell y Plâs. Mae wedi dod yma i weld sut mae Richard Davis.

MR. BLACRWELL: Ryw'n gofyn i chi scusio fi'n dod i tŷ chi, Mr. Harris, ond oedd yn ddrwg mawr gen i clywed fod Dic—bod Richard wedi brifo mor dost, ac wrth y cownt ma Doctor yn rhoi, ma fo'n case serious iawn. (A i fyny at Nel.) Merch Richard, yntê? Ca i deyd gair bach yn private â hi, Mr. Harris? Bydda i dim ond chydig munuda.

MR. HARRIS: Wrth gwrs, Mr. Blackwell.(A Marged a Mr. Harris ar Doctor allan i'r chwith.)

MR. BLACKWELL: Nel Davis, ma'n drwg gin i dros ti a tad ti. Oedd o dim yn friends â fi ers blynyddoedd, achos ti'n gwbod bod o'n portsio ar tir fi.

NEL: Peidiwch a deyd gair yn erbyn nhad i heno.

MR. BLACKWELL: O dim gair. Ond dylat ti cofio ma fi daru cadw fo o'r jêl drw'r blynyddoedd. Basa fo yn jêl cant o weithia ond bod fi yn safio fo.

NEL: Wyddwn i mo hynny.

MR. BLACKWELL: Ma fo'n right gwir. Daru o deyd rhw dro bod fi a fo yn perthynas bychain i'n gilydd? Wel mi oedd o yn perthyn pell i fi, a fi yn rhoi job da iddo fo yn y Plas pan oedd o llanc ifanc,