Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anghofio popeth am ei ddillad. Ni sylwai arnynt; ni chai pethau bychain le yn ei feddwl. Byddai'n rhaid gofalu drosto ac amdano, a'u rhoi yn ymyl ei law, ac edrych ei fod wedi cael popeth yn gyfleus.

Cofiaf amgylchiad pan oeddwn oddeutu chwech neu saith oed, pan anwyd fy mrawd Richard. Yr oedd ohonom Ann, John, Fanny, Ellin, Margaret. Pan anwyd Richard fe gafodd fy mam glefyd y llaw (nervous fever). Bu'n agos i angau, a phob doctor yn methu gwneud yr un lles iddi; fe'i gwelwyd gan chwech ohonynt, ond nid oedd dim gobaith gwella. Daeth cyfeillion a pherthnasau i ymweled â'm tad ac i gydymdeimlo ag ef yn ei drallod dwfn. Yr oedd gennym fasnach eang a helaeth, a gweision a morynion; a chan mai fy mam a fyddai'n edrych ar ôl y cwbl ni wyddai fy nhad ddim am y fasnach o gwbl. O! fel y teimlai ei galon yn gwaedu wrth weld gwrthrych ei serch, yr ymhoffai gymaint ynddi, mam ei blant bychain annwyl, a ffon ei gynhaliaeth, yn myned i farw. Daeth modryb i'm mam o Gaernarfon a chymerodd y baban a dwy o'm chwiorydd yn y carriage i Gaernarfon. Ac O! ingoedd meddwl mawr fy Nhad yn edrych arnynt yn myned, a'i wraig fel y tybiai yn marw. Ond yng nghanol y berw i gyd yr oedd yn rhaid cael dyletswydd deuluaidd. Cofiaf un bore ddrws y siop wedi ei gau, a'r cwsmeriaid yn dod at ddrws y gegin wrth gefn setl fawr a oedd yn ymyl y drws. Dyna lle y penlinient weddi ryfedd hon ar amgylchiad ofnadwy o bwysig i'm tad-fy mam yn myned i'n gadael. Ac fe